Angen Help?
Older woman at dental clinic looking at camera. Her dentist is in the background.

Ymateb i Ymgynghoriad – Diwygio gwasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG

i mewn Adnoddau, Ddylanwadu ar polisi ac arferion

Ymateb i Ymgynghoriad – Llywodraeth Cymru:Diwygio gwasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG

NEGESEUON ALLWEDDOL:

  • Mae mynediad at wasanaethau deintyddol yn hen broblem i lawer o bobl hŷn.
  • Bydd y Comisiynydd yn archwilio mynediad pobl hŷn at wasanaethau deintyddol ac iechyd y geg yng Nghymru, gan ddechrau yn yr hydref 2025.
  • Dylai’r trefniadau ar gyfer gwasanaethau deintyddol cyffredinol newydd sicrhau parhad gofal a pherthnasoedd o ymddiriedaeth.
  • Dylent ymgorffori Safon Ansawdd Integredig y GIG ar gyfer Pobl Hŷn a Phobl sy’n Byw gydag Eiddilwch.
  • Mae ymatebion sy’n dweud “na” yn awtomatig wrth bobl hŷn sy’n cael trafferth cael mynediad yn gwbl annerbyniol ac ni ddylid ei ganiatáu.
  • Rhaid i bobl hŷn gael mynediad nad yw’n ddigidol at wasanaethau deintyddol ac i dalu am driniaeth.
  • Rhaid i bobl hŷn fod yn rhan o’r broses o ddatblygu canllawiau cenedlaethol ar arferion da.
  • Rhaid cael goruchwyliaeth gadarn o’r broses weithredu ar lefel practis, er mwyn sicrhau bod pobl hŷn yn derbyn y driniaeth a’r ofal sydd eu hangen arnynt.

Cyflwyniad

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio gwasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG.

Yn ystod ei hymwneud â phobl hŷn ledled Cymru yn ei naw mis cyntaf yn y swydd, mae’r Comisiynydd wedi clywed wrth bobl hŷn ynglŷn â’r problemau maen nhw’n eu hwynebu wrth gael  mynediad at wasanaethau deintyddol. Ceir manylion pellach isod. Mae’r Comisiynydd hefyd wedi clywed wrth Gyfarwyddiaeth Gofal Iechyd Cymru ynglŷn â’u pryderon difrifol am rai practisau deintyddol yng Nghymru.

Cyhoeddodd y Comisiynydd ei strategaeth a’i rhaglen waith ar gyfer 2025-26 ym mis Mai. Roedd y rhaglen waith yn cynnwys ymrwymiad i archwilio mynediad pobl hŷn at wasanaethau deintyddol ac iechyd y geg yng Nghymru.  Cyflwynodd y cyn Gomisiynydd, Heléna Herklots, dystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth ar lafar i ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ar ddeintyddiaeth yn 2022.  Bydd y Comisiynydd presennol, Rhian Bowen-Davies, a’i thîm yn tynnu ar adroddiad y Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru, tystiolaeth Cyfarwyddiaeth Gofal Iechyd Cymru, yr amgylchedd polisi presennol a gwybodaeth wrth bobl hŷn wrth symud ymlaen â’i hymchwiliad.

Cyhoeddodd Heléna Herklots ei hadroddiad, Mynediad i bractisau meddygon teulu; profiadau pobl hŷn, ym mis Mawrth 2024.  Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at egwyddorion pwysig a ddylai fod yn sail i fynediad pobl hŷn at bractisau meddygon teulu, gan gynnwys parhad gofal, datblygu perthnasoedd o ymddiriedaeth a mynd i’r afael â rhwystrau ymarferol i fynediad, fel allgáu digidol a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’n hanfodol bod yr egwyddorion hyn hefyd yn berthnasol i holl wasanaethau sylfaenol a chymunedol y GIG, gan gynnwys deintyddiaeth a gwasanaethau iechyd y geg.

Parhad gofal a pherthnasoedd o ymddiriedaeth

Mae tudalen 9 o’r ymgynghoriad yn gwneud cymhariaeth rhwng gwasanaethau deintyddol a rhannau eraill o system gofal iechyd y GIG (“Nid oes unrhyw ran arall o system gofal iechyd y GIG yn blaenoriaethu cleifion iach dros y rhai â chlefyd gweithredol.”). Mae’r rhagdybiaeth sylfaenol, y dylai fod cysondeb o ran egwyddorion sylfaenol ar draws y GIG cyfan, yn un pwysig.

Dangosodd yr adroddiad Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu y gwerth y mae pobl hŷn yn ei roi ar barhad gofal a pherthnasoedd o ymddiriedaeth a’u pwysigrwydd ar gyfer canlyniadau da, yn enwedig ymhlith pobl hŷn, eiddil ac agored i niwed. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Feddygol Prydain wedi cytuno i weithio tuag at fesurau parhad gofal yng nghontract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol.

Mae pobl hŷn wedi dweud wrth y Comisiynydd eu bod yn rhoi gwerth uchel tebyg ar barhad gofal a pherthnasoedd o ymddiriedaeth mewn gwasanaethau deintyddol. Mae’r Comisiynydd yn deall, yn nhermau cyfreithiol, nad yw pobl wedi’u cofrestru gyda phractis deintyddol yn yr un ffordd â phractis meddyg teulu. Serch hynny, yn ymarferol, nid yw’r rhan fwyaf o bobl hŷn yn profi gwasanaethau deintyddol fel hyn, gan ddychwelyd i’r un practis, a hyd yn oed yr un deintydd, i bob apwyntiad dros nifer o flynyddoedd. Gellir dadlau bod yr amgylchedd polisi a deintyddion eu hunain wedi creu disgwyliad dilys o barhad gofal, er enghraifft drwy alw pobl yn ôl i gael archwiliadau a thrwy eu deunydd cyfathrebu eraill – mae’r Comisiynydd wedi gweld deunydd ysgrifenedig wrth bractis deintyddol sydd ei hun yn cyfeirio at gofrestru cleifion yn y practis. Bu cofrestru mewn gwirionedd ar waith am 16 mlynedd rhwng 1990 a 2006 ac mae’n debygol y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn tybio ei fod yn dal i fod fel hyn.

O dan y diwygiadau arfaethedig i wasanaethau deintyddol y GIG, byddai pobl sy’n cael eu hasesu i fod angen cyfnodau galw’n ôl o 18 mis neu fwy yn cael eu dychwelyd i’r rhestr aros gyffredin a gellid eu neilltuo i ddeintydd gwahanol yn eu hapwyntiad nesaf. Byddai hyn yn golygu newid mawr yn eu profiad o ddarparu gwasanaethau i bobl hŷn ac mae’n destun pryder mawr i lawer ohonynt.
O ystyried canlyniad y gwaith ar fynediad i bractisau meddygon teulu, mae’r Comisiynydd yn synnu bod egwyddorion pwysig parhad gofal a pherthnasoedd o ymddiriedaeth yn ymddangos fel pe baent yn cael eu cymhwyso’n anghyson ar draws gwahanol rannau o wasanaethau gofal sylfaenol y GIG. Mae’n poeni am effaith bosib y trefniadau newydd ar ganlyniadau i gleifion.

Er enghraifft: roedd ymateb y Comisiynydd blaenorol i ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn tynnu sylw at achosion lle roedd pobl hŷn a oedd wedi ymrwymo i drefniadau ariannu hybrid ar gyfer dannedd gosod rhannol heb sylweddoli eu bod nhw mewn gwirionedd wedi “mynd yn breifat” drwy wneud hyn, wedi symud yn agosach at deulu wrth iddynt fynd yn hŷn ac yn llai symudol, ac yna’n methu dod o hyd i ddeintydd lleol a oedd yn barod i gynnal a chadw eu dannedd gosod.  Mae’r Comisiynydd yn bryderus iawn ynglŷn â sut byddai pobl yn y sefyllfa hon yn gallu cael mynediad at y gofal deintyddol sydd ei angen arnynt o dan y trefniadau newydd.

Apwyntiadau, pobl hŷn ac eiddilwch

Mae’r Comisiynydd yn bryderus iawn ynglŷn â’r bwriad y bydd methu â mynychu dau apwyntiad yn olynol, neu dri o fewn cynllun triniaeth, yn arwain at rywun yn dychwelyd i waelod y rhestr, heb ystyried y rhwystrau i fynychu y mae nifer o bobl hŷn yn eu hwynebu. Mae’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb sy’n cyd-fynd â’r ddogfen ymgynghori yn cydnabod y gallai “cleifion agored i niwed brofi rhwystrau anghymesur y tu hwnt i’w rheolaeth gan achosi iddyn nhw golli eu hapwyntiad. Gall y rhain gynnwys problemau trafnidiaeth, gwrthdaro o ran gwaith, neu broblemau iechyd. Drwy ganiatáu nifer gyfyngedig o apwyntiadau a fethwyd, rydyn ni’n ystyried bod y dull arfaethedig yn cael ei ystyried yn deg a chymesur.”  Y rhagdybiaeth yw bod y rhwystrau hyn yn episodig a bod goresgyn y rhain ar y trydydd neu’r pedwerydd achlysur o fewn gallu’r claf. Serch hynny, nid yw nifer o’r rhesymau sy’n atal pobl hŷn rhag mynd i apwyntiadau, fel cyflyrau hirdymor, yn episodig ond yn gronig, ac iddyn nhw mae’r rhwystrau hynny’n parhau. Mae rhwystrau cronig i fynediad yn cynnwys cyfrifoldebau gofalu sy’n ei gwneud hi bron yn amhosib gadael y tŷ, dementia (mae’r Comisiynydd yn ymwybodol o bobl sy’n byw gyda dementia yn derbyn llythyrau apwyntiadau’r GIG nad ydyn nhw’n gallu eu deall mwyach) a cholli synhwyrau sy’n gwneud darllen neu wneud galwadau ffôn yn hynod o anodd, ymhlith pethau eraill.

Mae’r Comisiynydd yn ymwybodol fod practisau meddygon teulu yn cadw cofnod o achosion o golli synhwyrau a’r dulliau cyfathrebu sy’n cael eu ffafrio ar gofnodion cleifion. Hyd yn oed wedyn, mae’r Comisiynydd a’i thîm yn aml yn clywed am bobl y mae eu dewisiadau’n cael eu hanwybyddu yn neunydd cyfathrebu’r GIG.  Nid oes unrhyw wybodaeth yn y ddogfen ymgynghori ynglŷn â sut byddai angen i wasanaethau deintyddol y GIG deilwra’r broses apwyntiadau i anghenion cyfathrebu pobl hŷn, i’w helpu i fynychu apwyntiadau. Fel y soniodd un ymholwr wrth swyddfa’r Comisiynydd, mae’r ddogfen ymgynghori wedi’i fframio fel ymgynghoriad â’r proffesiwn am gontract ar gyfer gwasanaethau. Nid yw wedi’i fframio fel ymgynghoriad â’r cyhoedd ynglŷn â newid mawr yn y ffordd y darperir gwasanaethau ac felly nid yw’n mynd i’r afael â’r newidiadau arfaethedig o safbwynt ehangach y claf. Mae hyn yn siomedig ac nid yw’n ddefnyddiol.

Mae’r Comisiynydd yn arbennig o bryderus ynglŷn ag ymateb digydymdeimlad ac anhyblyg presennol rhai practisau deintyddol tuag at bobl hŷn sy’n cael trafferth gyda mynediad. Er enghraifft, yn achos cwpwl yn eu hwythdegau, roedd y gŵr yn ceisio datrys sefyllfa anodd mewn ffordd adeiladol drwy gynnig ei apwyntiad ei hun i’w wraig. Dywedwyd wrtho fod ildio ei apwyntiad ei hun yn wirfoddol yn golygu y byddai’n tynnu ei hun oddi ar y rhestr aros.

Nid yw tynnu gwasanaethau yn ôl wrth bobl hŷn ac eiddil sy’n cael trafferth gyda rhwystrau i fynediad yn dderbyniol ac yn groes i’r Safon Ansawdd Integredig y GIG ar gyfer Pobl Hŷn a Phobl sy’n Byw gydag Eiddilwch. Pwrpas y Safon Ansawdd yw sicrhau cymorth a gwasanaethau ataliol cofleidiol i bobl hŷn agored i niwed a phobl sy’n eiddil. Mae’n cynnwys ymrwymiad i “roi ystyriaeth i’r ‘hyn sy’n bwysig’ i bobl hŷn yn ein penderfyniadau wrth wella gofal”. Rhaid i ddiwygio gwasanaethau deintyddol y GIG sicrhau bod y system yn ei ymgorffori a bod practisau deintyddol yn cydymffurfio â hi. Mae ymatebion sy’n dweud “na” yn awtomatig wrth bobl hŷn sy’n cael trafferth cael mynediad yn gwbl annerbyniol ac ni ddylid ei ganiatáu.

Mae tudalen 16 o’r ddogfen ymgynghori yn nodi “Mae angen diffinio ymarfer da o ran lleihau cyfradd y cleifion sy’n methu â mynychu apwyntiadau, ac fel y nodwyd yn gynharach, mae gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu canllawiau cenedlaethol yn y maes hwn.”  Mae’r methiant yn y ddogfen ymgynghori i ymdrin â’r cynigion o bersbectif cyhoeddus ehangach yn hepgoriad mawr. Mae’n hanfodol bod datblygu canllawiau cenedlaethol ar arferion da ar leihau’r gyfradd methu â mynychu yn cael eu cynhyrchu ar y cyd â’r cyhoedd a phobl hŷn yn benodol, os nad yw eisiau atgyfnerthu dulliau anhyblyg a niweidiol y presennol gan bractisau unigol.

Ffioedd am driniaeth

Er ei fod yn darparu rhai enghreifftiau o gynnydd a gostyngiad yng nghost rhai triniaethau, nid yw’r ddogfen ymgynghori yn cynnwys asesiad cyffredinol o effaith y ffioedd deintyddol newydd ar bobl hŷn. Fel y mae’r ymateb i ymchwiliad 2022 yn ei ddangos, mae iechyd y geg ymhlith pobl hŷn yn newid ac yn dod yn fwyfwy cymhleth. Mae nifer o bobl hŷn bellach angen gwaith cynnal a chadw ac adfer rheolaidd ar eu dannedd naturiol a dannedd gosod rhannol a gynlluniwyd yn unswydd ar eu cyfer, lle byddai cenedlaethau’r gorffennol wedi gorfod cael set lawn o ddannedd gosod i newid eu holl ddannedd.

Mae’r Comisiynydd yn bryderus y gallai’r costau uwch ddisgyn yn anghymesur ar bobl hŷn. Mae ymateb y Comisiynydd i Ymgynghoriad y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau ar Dlodi pensiynwyr – heriau a chamau lliniaru yn rhoi mwy o wybodaeth am dlodi a phobl hŷn yng Nghymru. Nid yw’n ymddangos bod unrhyw asesiad yn y ddogfen ymgynghori o effaith newidiadau i gostau triniaethau ynghyd â mesurau lliniaru posib drwy hawl i Gredyd Pensiwn a Chynllun Incwm Isel y GIG, a allai alluogi’r Comisiynydd i ddatblygu safbwynt mwy gwybodus ar yr effaith ariannol ar bobl hŷn.

Cefnogodd yr ymateb i ymchwiliad 2022 argymhelliad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn 2017 fod angen mwy o ddata ar iechyd y geg ymhlith y boblogaeth hŷn ac ar fynediad pobl hŷn at wasanaethau deintyddol, a bod data ar bobl hŷn yn cael ei ddadgrynhoi ymhellach fesul band oedran yng Nghymru. Byddai hyn yn galluogi i asesiad gael ei wneud o’r effaith ariannol a dylid mynd i’r afael â chasglu data ac ystyried yr effaith ariannol ar bobl hŷn fel mater o frys.

Allgáu digidol

Roedd adroddiad y Comisiynydd blaenorol yn 2024 Dim Mynediad ar allgáu digidol ymhlith pobl hŷn wedi tynnu sylw at ystod o broblemau sy’n wynebu pobl hŷn gan nad ydynt ar-lein neu sydd â sgiliau digidol prin, gan gynnwys anawsterau wrth drefnu apwyntiadau gofal iechyd.

Mae’r Comisiynydd yn cael ar ddeall y bydd y porth deintyddol newydd yn cael ei redeg gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.  Nid oes unrhyw wybodaeth yn y ddogfen ymgynghori ynglŷn â sut y bydd pobl hŷn nad ydynt ar-lein neu nad ydynt yn hyderus yn ddigidol yn cael mynediad at wasanaethau deintyddol os yw’r unig bwynt mynediad drwy borth digidol. Rhaid i bobl nad ydynt ar-lein ac sy’n methu â chael mynediad at y Porth Mynediad Deintyddol beidio â bod dan anfantais o ran mynediad at wasanaethau deintyddol. Mae’r Comisiynydd yn dymuno derbyn gwybodaeth a sicrwydd cynnar ar y mater hwn. Yn bwysicach, dylai Llywodraeth Cymru roi gwybodaeth a sicrwydd cynnar i’r cyhoedd ac i bobl hŷn yn arbennig.

Mae’r ddogfen ymgynghori hefyd yn nodi (tudalen 16) “Rhaid arddangos cyfrifoldebau cleifion a chanlyniadau peidio â mynychu apwyntiad yn glir yn y practis, ar wefannau ac mewn taflenni gwybodaeth i gleifion.”  Nid oes unrhyw wybodaeth am sut bydd claf nad yw ar-lein ac nad yw mewn gwirionedd yn y feddygfa wrth wneud apwyntiad neu ymholiad yn cael mynediad at y wybodaeth hon. Yn ogystal, mae’r Comisiynydd yn ymwybodol bod nifer o bobl hŷn yn ystyried nad yw gwybodaeth gyffredinol i’r cyhoedd ar eu cyfer nhw.  Dymuna’r Comisiynydd gael sicrwydd y bydd yna ymgyrch wybodaeth gynhwysfawr i’r cyhoedd, gan gynnwys gwybodaeth sydd wedi’i hanelu’n arbennig tuag at bobl hŷn, ynglŷn â hyn ac agweddau pwysig eraill ar ddiwygio gwasanaethau deintyddol.

I gloi, mae tudalen 18 yn argymell bod Refeniw Codi Ffi ar Gleifion yn cael ei gasglu drwy “system daliadau ar-lein lle mae cleifion yn derbyn anfoneb drwy neges destun neu e-bost ar ôl triniaeth ac yn gallu talu ar-lein”. Nid oes unrhyw wybodaeth am sut gall pobl hŷn nad ydynt ar-lein neu nad ydynt yn hyderus i fancio’n ddigidol, dalu am wasanaethau deintyddol. Mae’n hanfodol bod pobl hŷn yn gallu gwneud taliadau all-lein os yw’n well ganddynt wneud hynny.

Trafnidiaeth

Nododd adroddiad Mynediad at Bractisau Meddygon Teulu broblemau trafnidiaeth fel rhwystr sylweddol i fynediad ac yn achos cyson o fethu apwyntiadau’r GIG. Mae’r Comisiynydd yn derbyn nifer o ymholiadau a straeon eraill am y trafferthion y mae pobl hŷn, eiddil yn eu hwynebu wrth ddod o hyd i drafnidiaeth ar gyfer apwyntiadau gofal sylfaenol, drwy ei hymweliadau ymgysylltu, drwy ei Thîm Cyngor a Chymorth a thrwy Aelodau’r Senedd ac Aelodau Seneddol pryderus. Mae problemau’n cynnwys gwasanaethau prin (neu mewn rhai achosion, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, dim gwasanaethau), llwybrau a/neu amserlennu, diffyg dibynadwyedd, a cherbydau anhygyrch.

Mae’r ddogfen ymgynghori yn nodi mai bwriad un o’r effeithiau i ddiwygio gwasanaethau deintyddol yw cynyddu atebolrwydd cleifion am iechyd y geg eu hunain.  Ym marn y Comisiynydd, byddai’n annheg rhoi cyfrifoldeb ar bobl hŷn am oresgyn problemau mynediad na allant eu datrys eu hunain, ac yn greulon peidio ag ystyried y problemau hynny wrth ystyried y rhesymau dros fethu apwyntiadau. Mae’r adroddiad Mynediad at Bractisau Meddygon Teulu yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru, cyrff y GIG a Grwpiau Cynllunio Clwstwr Cyfan wella trafnidiaeth gyhoeddus i bractisau meddygon teulu. Mae’r argymhelliad hwn yr un mor berthnasol i drafnidiaeth gyhoeddus i bractisau deintyddol.

Gweithredu a monitro

Mae’r gwaith sy’n deillio o’r adroddiad Mynediad at Bractisau Meddygon Teulu wedi datgelu bod rhwystrau mynediad weithiau’n cael eu creu gan staff practisau unigol sy’n gosod gofynion ar gleifion sy’n groes i Gontract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, fel ei gwneud yn ofynnol i gleifion drefnu apwyntiadau ar-lein. Mae’r Comisiynydd wir yn gwerthfawrogi help Rhaglen Strategol GIG Cymru ar gyfer Gofal Sylfaenol wrth ddatrys y problemau hyn wrth iddynt godi. Mae’r Comisiynydd yn poeni bod trefniadau llywodraethu lleol ar gyfer gwasanaethau deintyddol, sy’n darparu’r sianeli i fynd i’r afael â’r materion hyn, wedi’u datblygu llai nag ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol. Mae’n croesawu’r cynnig i ddatblygu trefniadau clwstwr sy’n seiliedig ar ardaloedd ar gyfer gwasanaethau deintyddol fel ffordd o ledaenu ac ehangu arferion da.

Serch hynny, mae’r Comisiynydd yn poeni am y risg o brofiad gwael i gleifion mewn practis, yn absenoldeb casglu data digonol, y diffyg pwyslais ar y claf yn y ddogfen ymgynghori, a’i phrofiad gyda rhai practisau meddygon teulu. Bydd y Comisiynydd yn rhoi sylw arbennig i hyn yn ei harchwiliad o brofiadau pobl hŷn o wasanaethau deintyddol ac iechyd y geg, ac os bydd angen, yn gwneud argymhellion am welliannau. Yn y cyfamser, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd yn monitro’r broses o weithredu’r trefniadau newydd yn ofalus, am eu heffaith ar iechyd a llesiant pobl hŷn.

Casgliadau

Mae’r Comisiynydd yn ymwybodol bod y mwyafrif llethol o gysylltiadau â chleifion yn digwydd ym maes gofal sylfaenol a chymunedol. Felly mae hi wedi parhau i ddatblygu gwaith ei rhagflaenydd i annog rhanddeiliaid i weithredu’r argymhellion yn yr adroddiad Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu ac o’r farn y gellir eu trosglwyddo i wasanaethau deintyddol ac iechyd y geg.

Tra bod y contract gwasanaethau deintyddol cyffredinol newydd yn cynnig cyfleoedd i wella systemau practisau deintyddol, mae’n hanfodol bod practisau deintyddol yn gweithredu’n unol â’r Safon Ansawdd Integredig ar Bobl Hŷn ac Eiddilwch a bod pobl hŷn yn rhan o’r broses o ddatblygu canllawiau arfer gorau.

Byddai’r Comisiynydd a’i thîm yn falch o ddarparu gwybodaeth bellach pe bai hynny’n ddefnyddiol.

Lawrlwythwch Ymateb y Comisiynydd (PDF)

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges