Angen Help?
Image of a laptop wrapped in chains

Dim Mynediad: Profiadau pobl hŷn o allgáu digidol yng Nghymru

i mewn Adnoddau, Ymchwil ac Adroddiad

Mae defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol yn rhoi pobl hŷn mewn perygl o gael eu hallgáu’n gymdeithasol, yn ôl y Comisiynydd

Mae nifer cynyddol o bobl hŷn yng Nghymru mewn perygl o gael eu hallgáu’n gymdeithasol ac yn cael eu gadael ar ôl wrth i’r defnydd o dechnoleg ddigidol barhau i chwarae rhan fwy fyth yn ein bywydau bob dydd.

Dyna’r rhybudd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru wrth iddi gyhoeddi adroddiad newydd, ‘Mynediad wedi’i wrthod: Profiadau pobl hŷn o eithrio digidol yng Nghymru’.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn pryderu bod hawliau pobl hŷn i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau, sydd wedi’u hymgorffori mewn amrywiaeth o offerynnau hawliau dynol a deddfwriaeth arall, yn cael eu tanseilio gan ddewisiadau amgen all-lein o ansawdd gwael neu wedi’u diddymu, megis apwyntiadau wyneb yn wyneb, llinellau cymorth ffôn neu gopïau papur o lyfrynnau gwybodaeth.

Mae’r adroddiad, sy’n seiliedig ar brofiadau a rannwyd gyda’r Comisiynydd gan bobl hŷn sy’n byw ledled Cymru, yn amlygu bod llawer o bobl hŷn yn ei chael hi’n fwyfwy anodd, os nad yn amhosibl, i gael mynediad at y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt – gan gynnwys gwasanaethau hanfodol megis apwyntiadau iechyd. Yn y cyfamser maent hefyd yn wynebu rhwystrau sylweddol a all arwain at neu atgyfnerthu allgau digidol, megis cynnal sgiliau digidol, costau a phryderon am ddiogelwch.

Mae hyn yn rhoi iechyd a lles pobl hŷn mewn perygl, yn ogystal â gadael pobl hŷn yn aml yn teimlo’n rhwystredig, yn annigonol ac o’r farn nad yw cymdeithas yn gwerthfawrogi eu bywydau a’u profiadau.

Tynnodd pobl hŷn sylw at amrywiaeth o broblemau oherwydd nad oeddent ar-lein neu fod eu sgiliau digidol yn gyfyng. Roedd y rhain yn cynnwys popeth o deimlo dan bwysau i ddefnyddio bancio ar-lein, i anawsterau wrth drefnu apwyntiadau gofal iechyd, i faterion mwy cyffredin fel methu â pharcio’r car neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol. Roedd pobl hefyd yn dweud bod dod o hyd i’r mathau cywir o gymorth i’w helpu i fynd ar-lein, gan gynnwys hyfforddiant a chymorth ariannol, yn gallu bod yn anodd yn aml.

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:

“Mae’r ffyrdd yr ydym yn cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau a’r ffyrdd yr ydym yn cyfathrebu wedi newid yn sylweddol, yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi cyrraedd pwynt lle mae bod ar-lein nid yn unig yn ymwneud â gwneud rhai gweithgareddau’n haws, ond bellach bron yn hanfodol i’n galluogi i gymryd rhan mewn bywyd bob dydd a gwneud y pethau sydd angen i ni eu gwneud.

“Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a rannodd eu profiadau am fod mor agored, ac am ddarparu cipolwg mor bwerus o sut y gall bywyd o ddydd i ddydd fod i bobl hŷn yng Nghymru sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.

“Mae’n amlwg bod llawer o bobl hŷn yn wynebu rhwystrau digidol sylweddol, sy’n effeithio ar fwy a mwy o agweddau ar fywydau bob dydd pobl ac yn creu straen a phryder wrth ymgymryd â thasgau a oedd yn syml yn flaenorol.

“Mae perygl y bydd hyn yn tanseilio hawliau pobl ac yn gwaethygu’r anghydraddoldebau presennol, gan y gallai’r rhai sy’n debygol o fod angen gwasanaethau fwyaf, sydd hefyd yn fwy tebygol o fod wedi’u hallgáu’n ddigidol, gael eu hatal i bob pwrpas rhag cael mynediad iddynt.

“Mae’n destun pryder hefyd ei bod yn ymddangos bod llawer o bobl hŷn wedi derbyn wynebu allgau cynyddol wrth iddynt fynd yn hŷn oherwydd effaith peidio â bod ar-lein, ac i bob golwg wedi ‘rhoi’r gorau iddi’ o ran ceisio dysgu sgiliau digidol neu wneud rhai pethau’n ddigidol. Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd y mathau cywir o gymorth parhaus i alluogi pobl hŷn i fynd ac aros ar-lein os dymunant.”

Yn ogystal â thynnu sylw at brofiadau pobl hŷn, mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd mewn ymateb i Ganllawiau ffurfiol yn ymwneud ag eithrio digidol a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd yn 2021, ac mae’n nodi cyfres o argymhellion ar gyfer gweithredu pellach i fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan bobl hŷn.

Mae galwadau’r Comisiynydd am weithredu gan gyrff cyhoeddus yn cynnwys sicrhau bod dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (a deddfwriaeth berthnasol arall) yn cael eu cyflawni, ochr yn ochr â darparu cymorth ymarferol i gael pobl ar-lein wrth barhau i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau drwy ddulliau nad ydynt yn ddigidol. Yn ogystal, mae’n galw am i eithrio digidol fod yn ganolog i drafodaethau’n ymwneud â dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus, ac am i leisiau pobl hŷn sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol gael eu clywed a’r ymateb iddynt fod yn fwy effeithiol.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn galw ar gwmnïau preifat i gymryd camau i sicrhau bod cwsmeriaid nad ydynt ar-lein yn cael yr un lefel o wasanaeth â’r rhai sydd, a bod cwsmeriaid sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, neu sy’n canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd bregus, yn cael cynnig cymorth, gan gynnwys cymorth gyda chostau.

Ychwanegodd y Comisiynydd:

“Mae’r gwaith sy’n cael ei gyflawni mewn ymateb i’m Canllawiau ar gyfer 2021 i’w groesawu, ond mae angen gwneud llawer mwy i amddiffyn hawliau pobl hŷn sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol a sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y wybodaeth a’r gwasanaethau y gall fod eu hangen arnynt.

“Heb y camau yr wyf yn galw amdanynt, bydd mwy o bobl hŷn yn cael eu gwthio i’r cyrion ymhellach wrth i fwy o feysydd bywyd ‘fynd ar-lein’, ac efallai y bydd pobl yn canfod eu hunain yn methu â chymryd rhan, cael llais a dweud eu dweud am eu dyfodol, rhywbeth a fydd yn ein gadael ni’n dlotach fel cenedl mewn cymaint o ffyrdd.

“Ond drwy gymryd camau i fynd i’r afael ag eithrio digidol mae cyfleoedd i helpu i sicrhau bod Cymru’n wlad iach a chynhwysol sy’n ein cefnogi i heneiddio’n dda.”

DIWEDD

Darllen adroddiad 'Dim Mynediad' y Comisiynydd

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges