Strategaeth ddrafft dementia Cymru 2026 i 2036: ymateb i’r ymgynghoriad
Roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle i gwrdd â Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, ar 2 Mawrth 2026, i drafod Strategaeth ddrafft Dementia Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru cyn iddi adael ar absenoldeb mamolaeth. Ysgrifennaf atoch yn dilyn ein trafodaeth gydag ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad.
Rwy’n cefnogi’n fras y cynigion a nodir yn y ddogfen ymgynghori. Fodd bynnag, hoffwn gynnig sylwadau a nodi materion ychwanegol i’w cynnwys yn y strategaeth yn y dyfodol. Rwyf hefyd yn bryderus y bydd y bwlch presennol rhwng polisi ac ymarfer yn parhau heb lywodraethu ac atebolrwydd effeithiol.
Lleihau ac atal risg dementia
Rwy’n cefnogi’r nod o edrych ar iechyd y boblogaeth drwy lens dementia a datblygu dull iechyd y cyhoedd sy’n mynd i’r afael ag iechyd yr ymennydd ar draws pob sector.
O ystyried cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y bydd Cymru yn dod yn genedl Marmot, hoffwn i’r strategaeth nodi sut gall awdurdodau lleol ddefnyddio penderfynyddion ehangach iechyd i leihau risg ac atal dementia. Byddai’n ddefnyddiol edrych ar sut y gall awdurdodau lleol sydd ar flaen agenda Marmot yng Nghymru, megis Cyngor Torfaen a Chyngor Blaenau Gwent, gyfrannu er mwyn lleihau ac atal risg ym maes dementia.
Ar y llaw arall, rwyf hefyd yn poeni na ddylai’r 51,226 o bobl sy’n byw gyda dementia yng Nghymru, eu gofalwyr nac aelodau o’u teulu gael eu stigmateiddio gan negeseuon ynghylch risg ac atal. Mae perygl y gallai pobl sydd eisoes â dementia deimlo eu bod yn cael eu beio am beidio â gofalu amdanynt eu hunain yn ddigon da i atal dementia. Mae hyn yn rhywbeth y bydd angen rhoi sylw gofalus iddo a darparu negeseuon priodol yn ei gylch.
Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia
Roeddwn yn falch o glywed yn ein cyfarfod bod Llywodraeth Cymru yn deall y bydd angen gwneud y strategaeth yn real ac yn berthnasol i unigolion, ac y bydd angen i unrhyw gyfathrebu a negeseuon gyrraedd pobl yn eu cartrefi a’u cymunedau, a bod swyddogion yn ystyried sut i gyflawni hyn.
Bydd yn hanfodol bod y strategaeth yn defnyddio iaith sy’n ddealladwy i bobl gyffredin, ei bod yn seiliedig ar hawliau ac, yn benodol, ei bod yn diogelu hawl pawb i gael gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Dylai copïau o’r strategaeth fod ar gael yn rhwydd i unrhyw un sy’n dymuno eu cael. Fel rwyf wedi pwysleisio’n flaenorol, mae’n hanfodol bod pobl hŷn a phobl eraill nad ydynt ar-lein yn gallu cymryd rhan lawn mewn ymgynghoriadau a chael gafael ar yr holl wybodaeth berthnasol mewn fformatau nad ydynt yn ddigidol
Gwella diagnosis, triniaeth, gofal a chymorth dementia
Diagnosis
Rwy’n ymwybodol bod mynediad anghyfartal at gapasiti diagnostig yng Nghymru ac amseroedd aros hir ar gyfer diagnosteg eilaidd ar hyn o bryd. Rwy’n cytuno bod yn rhaid i’r strategaeth sicrhau mynediad cyfartal.
Rwy’n poeni am y diffyg seilwaith digidol i ddarparu diagnosis, triniaeth a gofal yn effeithlon, gyda llawer o systemau’r GIG yn dal i fod ar bapur i raddau helaeth.
Rwy’n credu y dylai’r strategaeth sicrhau bod gan y GIG y capasiti digidol priodol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, i nodi angen o gofnodion gofal iechyd a chofnodion eraill, a chynnig profion diagnostig, triniaeth, gofal a chymorth yn rhagweithiol.
Mae datblygiad technoleg ddigidol yn darparu cyfleoedd gwych ond mae hefyd yn dod â risg fawr y bydd pobl hŷn yn cael eu hallgáu o ddyluniad systemau data drwy oedraniaeth ddigidol. Dylai’r strategaeth sicrhau bod dyluniad seilwaith digidol yn defnyddio gwaith Canolfan Gydweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Tegwch Iechyd Digidol yn ogystal â Safon Gwasanaeth Digidol Cymru y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
Gofal a chymorth
Roeddwn yn siomedig o weld cyn lleied o sylw yn y strategaeth ddrafft i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gwasanaethau gofal cymdeithasol a grwpiau cymorth lleol sy’n galluogi pobl i fyw’n dda gyda dementia yn eu cartrefi a’u cymunedau o’u cymharu â gweithwyr proffesiynol eraill yn y GIG a’r sector statudol. Rwyf hefyd yn bryderus, fel y mae pethau ar hyn o bryd, efallai na fydd cymorth yn y gymuned ar gael i bawb y mae ei angen arnynt. Yn fy marn i, dylai’r strategaeth gynnwys cymhellion i awdurdodau lleol symud adnoddau i gymorth cyfannol yn y gymuned a gofal cyfannol dan arweiniad y gymuned sy’n cadw pobl allan o wasanaethau statudol cyhyd ag y bo modd. Byddai hyn yn cyd-fynd â’r dull Marmot sydd eisoes wedi’i fabwysiadu yn Nhorfaen a Blaenau Gwent.
Mae’r drafft hefyd yn cynnwys ychydig iawn am ofal ysbyty i bobl sy’n byw gyda dementia. Rwy’n ymwybodol bod Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia Cymru wedi cael ei chyhoeddi yn 2022 o dan y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia. Fodd bynnag, yn ôl profiad pobl hŷn, mae cryn waith i’w wneud eto o ran ei gweithredu’n gyson ledled Cymru. Byddwn yn disgwyl i’r gwaith o’i gweithredu a rheoli perfformiad gael ei gwblhau dan y strategaeth newydd.
Cartrefi gofal
Nid yw’r strategaeth ddrafft yn cynnwys unrhyw gynigion ar gyfer sicrhau bod pob cartref gofal yn deall ac yn cefnogi hawliau pobl i lais, dewis a rheolaeth. Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod profiad llawer o bobl hŷn yn cael ei ddylanwadu gan weithredoedd pobl eraill. Dylai’r strategaeth newydd ystyried gwaith fel prosiect Diwylliannau Cadarnhaol Gofal Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru a mynnu ac atgyfnerthu arferion sy’n rhoi llais, dewis a rheolaeth i bobl hŷn mewn cartrefi gofal.
Cartrefi nyrsio
Mae’r prinder lle mewn cartrefi nyrsio ar gyfer pobl â dementia datblygedig yn destun pryder mawr ac mae sefydliadau pobl hŷn wedi codi hyn gyda mi drwy gydol fy nghyfnod fel Comisiynydd. Rwyf hefyd wedi trafod hyn gyda’r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol a’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth. Clywais yn ddiweddar am berson hŷn o Ogledd Cymru y bu’n rhaid darparu llety iddo ym Mryste, oherwydd y prinder lle ger ei gartref. Mae hyn yn annerbyniol. Nid yw’r strategaeth ddrafft yn mynd i’r afael â phroblemau yn y farchnad o ran darparu gwasanaethau a’r agenda Ailgydbwyso Gofal a Chymorth. Mae hyn yn ddifrifol a dylai’r strategaeth newydd ei gywiro.
Gofal Iechyd Parhaus y GIG
Rwyf hefyd wedi clywed drwy fy ngwasanaeth Cyngor a Chymorth ac yn ystod fy ymweliadau ymgysylltu bod pobl hŷn a’u teuluoedd, llawer ohonynt yn byw gyda dementia datblygedig, yn cael trafferth fawr gyda’r broses asesu ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG ac wedyn gyda’r hyn sy’n ymddangos yn ofynion ar gyfer ffioedd atodol.
Bwriedir i Ofal Iechyd Parhaus sicrhau pecyn gofal cyflawn a ariennir gan y GIG ar gyfer pobl y mae eu prif angen yn ymwneud ag iechyd, waeth beth fo’u lleoliad. Yn ymarferol, rhwystrau systemig i asesu, defnydd anghyson o’r Adnodd Cefnogi Penderfyniadau, oedi, a risg graffu annibynnol gyfyngedig: codi tâl yn anghyfreithlon neu’n amhriodol am ofal a ddylai gael ei ariannu gan y GIG; annhegwch rhwng byrddau iechyd a rhwng Cymru a Lloegr; annhegwch o ran gweithdrefnau i unigolion heb alluedd a’u teuluoedd, a chostau uwchgyfeirio cwynion ac anghydfodau, yn ogystal â chynnwys yr Ombwdsmon ac ymgyfreitha posibl lle gellir osgoi gwneud hynny.
Rwy’n deall bod y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r materion hyn. Dylai’r strategaeth hefyd gwmpasu a chefnogi’r gwaith hwn, a fydd, gobeithio, yn arwain at welliant sylweddol ym mhrofiadau a chanlyniadau rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed.
Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
Rwy’n llwyr gefnogi’r nod o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn gofal dementia i sicrhau bod pob unigolyn, beth bynnag fo’i gefndir neu ei amgylchiadau, yn cael mynediad cyfartal at gymorth amserol, cywir a thosturiol.
Fodd bynnag, er bod y strategaeth ddrafft yn cyfeirio at ethnigrwydd a diwylliant, roeddwn yn siomedig nad yw’n rhoi ystyriaeth fanylach i bobl hŷn sydd â nodweddion gwarchodedig eraill, fel cyfeiriadedd rhywiol, sy’n gallu arwain at oblygiadau mawr i’w hanghenion gofal a’u llesiant.
Gall hefyd fod yn ddefnyddiol os yw’r strategaeth newydd yn cyfeirio’n uniongyrchol at y berthynas rhwng dementia a niwrowahaniaeth. Er nad oes un cysylltiad uniongyrchol wedi’i brofi rhwng bod yn niwrowahanol a datblygu dementia, gall rhai nodweddion niwrowahanol – fel methu cofio, gwahaniaethau cyfathrebu, neu orlwytho synhwyraidd – ymddangos mewn ffordd debyg i ddementia cynnar. Mae tanddiagnosis sylweddol hefyd o bobl hŷn niwrowahanol, sy’n golygu y gellir camddehongli nodweddion gydol oes fel arwyddion o ddirywiad gwybyddol.
Hoffwn hefyd weld y strategaeth newydd yn mynd i’r afael yn fanylach â’r cysylltiad ag anghydraddoldebau cymdeithasol uchel, gan fod pobl mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is yn wynebu risg uwch o ddatblygu dementia ac yn aml yn cael llai o fynediad at ofal iechyd a chymorth.
Yn olaf, amlygodd fy ymweliad diweddar â CEF y Parc yr heriau penodol o ran rhoi diagnosis, triniaeth, gofal a chymorth priodol i ddiwallu anghenion pobl hŷn yn y carchar. Dylid ystyried hyn hefyd yn y strategaeth newydd, nad yw’n rhoi digon o sylw i leoliadau carchar, er gwaethaf y ffaith yr amcangyfrifir bod dementia yn fwy cyffredin yn y carchar nag yn y gymuned ar gyfer grwpiau oedran tebyg (Ymddiriedolaeth Nuffield, 2023). Ar ben hynny, yn aml nid yw dementia’n cael ei gydnabod ac mae’n cael ei gamddehongli fel problemau ymddygiad. Mae hyn yn arwain at drallod ac anghenion ddim yn cael eu diwallu. Mae staff carchardai wedi nodi diffyg hyder o ran adnabod a rheoli dementia sy’n cael ei waethygu gan ddiffyg hyfforddiant (Heathcote et al 2024, Ymddiriedolaeth Nuffield 2023b, Purewal 2020) sy’n faes penodol y mae angen mynd i’r afael ag ef. Mae cefnogi pobl hŷn sydd â dementia yn y carchar nid yn unig yn angenrheidiol o ran gofal iechyd ond mae hefyd yn fater o hawliau dynol.
Yr Iaith Gymraeg
Rwy’n llwyr gefnogi’r gydnabyddiaeth yn y strategaeth ddrafft fod angen i ni wneud mwy o gynnydd o ran darparu gwasanaethau iechyd a gofal Cymraeg i bobl sy’n byw gyda dementia a datblygu’r mesurau arfaethedig ar gyfer gwneud hynny.
Mae sicrhau darpariaeth Gymraeg o ansawdd uchel ar bob cam o’r llwybr dementia yn hanfodol er mwyn darparu gofal cyfartal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yng Nghymru. Fel mae’r ddogfen ymgynghori yn cydnabod, i lawer o unigolion—yn enwedig pobl hŷn a’r rheini sy’n byw gyda dementia—mae’r Gymraeg yn fwy na dewis, mae’n rhan greiddiol o’u hunaniaeth, eu cyfathrebu a’u hymdeimlad o ddiogelwch. Gall dementia arwain at bobl yn dychwelyd i’w hiaith gyntaf, yn colli hyder mewn ail iaith, neu’n methu mynegi eu hunain yn llawn oni bai eu bod yn cael cymorth i wneud hynny’n Gymraeg.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i asesiadau, diagnosis, cymorth ar ôl diagnosis, a gofal parhaus i gyd gael eu llunio a’u darparu ar sail “y Cynnig Rhagweithiol”, gan sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg ar gael heb i unigolion na theuluoedd orfod gofyn amdanynt. Mae darpariaeth Gymraeg gyson a rhagweithiol yn gwella cywirdeb diagnostig a chanlyniadau therapiwtig ac mae hefyd yn cynnal hawliau, urddas a llesiant pobl drwy gydol eu taith dementia.
Cefnogi gofalwyr di-dâl pobl sy’n byw gyda dementia
Mae’n hanfodol bod y Strategaeth Dementia newydd ar gyfer Cymru yn cyd-fynd â’r Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl. Mae fy nhystiolaeth ysgrifenedig i ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i wella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl yn berthnasol yn gyffredinol ac mae’n rhoi sawl darlun o’r problemau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl pobl sy’n byw gyda dementia. Rwy’n disgwyl adroddiad yr ymchwiliad gyda diddordeb.
Mae fy adroddiad ar Heneiddio heb Blant (cyhoeddwyd ym mis Mehefin 2025) hefyd yn berthnasol i’r Strategaeth. Er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar fanteision yn ogystal â heriau heneiddio heb blant neu deulu, mae angen herio’r dybiaeth bod gan bawb gefnogaeth teulu i ddarparu gofal anffurfiol. Dylai’r strategaeth adlewyrchu’r argymhellion perthnasol yn fy adroddiad i sicrhau bod anghenion ac amgylchiadau’r rheini sy’n heneiddio heb blant yn cael eu hadlewyrchu.
Cefnogi’r gweithlu
O ystyried rhychwant deng mlynedd y strategaeth, roeddwn wedi fy synnu nad oedd yn cyfeirio llawer at oblygiadau gweithlu sy’n heneiddio nac at gyfleoedd a risgiau technoleg sy’n datblygu’n gyflym, yn enwedig deallusrwydd artiffisial.
Prin yw’r dystiolaeth o unrhyw ymgais ystyrlon i ddeall sut bydd deallusrwydd artiffisial a newid demograffig yn effeithio ar y gweithlu dros y deng mlynedd nesaf.
Cefnogi ymchwil ac arloesi ym maes dementia
Ym mis Medi 2025, cyhoeddais fy Mlaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru, gan alw am amrywiaeth o gamau gweithredu mewn meysydd allweddol. Un maes hanfodol yw ymgysylltu’n ystyrlon â phobl hŷn ym mhob maes ymchwil, gan gynnwys ymchwil fiolegol, ymddygiadol, cymdeithasol ac amgylcheddol, o ymchwil sylfaenol i ail-ddylunio polisïau a gwasanaethau ar draws y sbectrwm atal cyfan.
Ar hyn o bryd, mae pobl hŷn yn cael eu tangynrychioli mewn ymchwil. Yn aml iawn, cyfran fechan o’r boblogaeth sy’n cael ei chynrychioli gan y bobl sy’n cymryd rhan mewn ymchwil. Er mwyn siapio dulliau atal, diagnosis, gofal a chymorth effeithiol, mae angen i ni gynnwys pobl hŷn o bob cymuned, gan gynnwys pobl sy’n byw gyda dementia a’u hanwyliaid, a dyfnhau ein dealltwriaeth o sut mae gofal iechyd, cyllid, perthnasoedd, tai, cyflogaeth, tlodi ac amgylcheddau cymunedol yn rhyngweithio wrth i ni heneiddio ac, yn achos y strategaeth, sut mae dementia yn effeithio arnynt.
Trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd addas i sicrhau bod y strategaeth yn cael ei chyflawni
Roeddwn yn falch o dderbyn gwahoddiad Llywodraeth Cymru i fod yn aelod sefydlog o’r Bwrdd Gweinidogol Cenedlaethol ar gyfer Dementia. Mae trefniadau llywodraethu cadarn yn hanfodol er mwyn goruchwylio a chraffu ar gamau gweithredu. Bydd fy amcanion fel Comisiynydd Pobl Hŷn ac aelod o’r Bwrdd yn cynnwys eirioli dros y canlynol:
- Cynnwys pobl hŷn sydd â phrofiad uniongyrchol o ddementia o bob rhan o gymdeithas ar bob lefel o lywodraethiant
- Adeiladu ar y dull cyd-gynhyrchu sydd wedi bod yn gadarnhaol hyd yma
- Sicrhau bod gweithredu’r strategaeth newydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl y mae dementia yn effeithio arnynt a dileu unrhyw ddatgysylltiad rhwng bwriadau polisi a phrofiadau
- Metrigau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ochr yn ochr â metrigau system, i sicrhau bod adroddiadau’n adlewyrchu profiad byw.
Casgliad
Gobeithio y bydd yr ymateb hwn o gymorth i chi wrth ddatblygu’r strategaeth newydd ymhellach. Mae fy swyddfa yn fwy na pharod i drafod y sylwadau hyn ymhellach.
Yn gywir,
Rhian Bowen-Davies
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru