Angen Help?

Blaenoriaethau’r Comisiynydd

An arrow carved out of mud

Blaenoriaethau’r Comisiynydd

Ers iddi ddechrau’r swydd ddiwedd y llynedd, mae’r Comisiynydd wedi teithio ar hyd a lled Cymru i gwrdd â channoedd o bobl hŷn er mwyn cael clywed o lygad y ffynnon am y materion a’r heriau sy’n effeithio ar eu bywydau, yn ogystal â’r newidiadau a’r gwelliannau yr hoffent eu gweld.

Ar ben hyn, cynhaliodd y Comisiynydd ymgynghoriad ‘Dweud eich Dweud’, a oedd yn gyfle i bobl hŷn o bob rhan o Gymru gysylltu â hi i rannu eu profiadau o heneiddio yn ogystal â’u barn a’u syniadau am beth ddylai’r Comisiynydd eu blaenoriaethu. Roedd yr ymateb i’r ymgynghoriad yn gadarnhaol dros ben – daeth dros 400 o ymatebion i law – a gallwch chi ddysgu rhagor am beth oedd gan bobl hŷn i’w ddweud wrthym yma.

Mae lleisiau pobl hŷn, a’r wybodaeth werthfawr wnaethon nhw ei rhannu, wedi siapio Strategaeth 2025-28 y Comisiynydd yn ogystal â’i Rhaglen Waith ar gyfer 2025-26. Mae’r Strategaeth yn nodi ei hamcanion strategol dros y tair blynedd nesaf, ac mae’r Rhaglen Waith yn nodi’r camau gweithredu penodol y bydd hi’n eu cymryd yn ystod y deuddeg mis nesaf i sicrhau newid cadarnhaol.

Mae Strategaeth a Rhaglen Waith y Comisiynydd yn seiliedig ar bedwar canlyniad cenedlaethol a nodwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Rhaid i’r canlyniadau hyn gael eu gwireddu os ydym ni am sicrhau bod Cymru yn arwain y ffordd i bobl hŷn:

  • Sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt
  • Sicrhau bod pobl hŷn yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi, yn eu cymunedau ac yn eu perthnasoedd
  • Sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu trin yn deg a bod eu cyfraniad yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi
  • Sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed a bod ganddynt ddewis a rheolaeth dros eu bywydau.

Mae’r canlyniadau hyn hefyd yn darparu fframwaith ar gyfer y camau y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus a gwasanaethau yng Nghymru eu cymryd i ymateb i’r amrywiaeth o heriau a rhwystrau sy’n wynebu pobl hŷn, ac i gyflawni’r gwelliannau mae pobl hŷn eu heisiau a’u hangen.

Darllenwch Strategaeth y Comisiynydd 2025-28 Darllenwch Rhaglen Waith y Comisiynydd 2025-26

Archwilio Mwy

A £10 note with four pound coins on a bed of £20 notes

Cynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru

Mae Credyd Pensiwn yn cynnig gobaith i rai o bobl hŷn tlotaf a mwyaf agored i niwed Cymru, ac wrth i ni wynebu’r argyfwng costau byw mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.

Darganfod mwy
Portrait of an older woman talking on the phone

Cyngor a Chymorth

Cysylltwch â thîm Cyngor a Chymorth y Comisiynydd

Cysylltwch
A woman speaking into a megaphone alongside a woman holding a phone at a march

Hawliwch Eich Hawliau

Mae’r Comisiynydd wedi cynhyrchu amrywiaeth o adnoddau i rymuso pobl hŷn.

Dysgwch ragor

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges