Ffoniwch neu ysgrifennwch aton ni
Adeiladau Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Tre-biwt
Caerdydd
CF10 5FL
Ffôn:
03442 640 670
E-bost:
gofyn@comisiynyddph.cymru
Oriau agor: Dydd Llun i dydd Gwener, 9am i 5pm
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg //
We welcome calls in Welsh
Cyngor a Chymorth
Gall Tîm Cyngor a Chymorth y Comisiynydd eich helpu i’ch cysylltu â chefnogaeth a gwasanaethau ledled Cymru, a helpu i sicrhau bod eich hawliau’n cael eu cynnal.
Felly os oes gennych chi broblem a ddim yn gwybod ble i droi am help a chefnogaeth, cysylltwch â ni.
Gall y tîm roi cymorth a chefnogaeth os ydych chi:
- Yn 60 oed neu’n hŷn
- Yn byw yng Nghymru
- Wedi bod yn cael problemau gyda gwasanaethau megis iechyd, gofal cymdeithasol, gwasanaethau cymunedol neu dai
- Mae gennych gwestiynau am eich hawliaun
Gallwch hefyd gysylltu ar ran unigolyn hŷn, fel aelod o’r teulu neu ffrind os ydynt yn wynebu problemau neu anawsterau.
Bydd Tîm y Comisiynydd yn cymryd rhai manylion gennych chi er mwyn iddynt allu ymchwilio i’ch pryderon a chanfod y ffordd orau o ddatrys eich problemau. Mewn rhai achosion, gallai hyn olygu eich cyfeirio at sefydliad partner sydd mewn sefyllfa well i helpu.
Gallwch chi gysylltu â Thîm Gwaith Achos y Comisiynydd ar y ffôn, drwy e-bost neu drwy lenwi’r ffurflen isod. Gallwch gysylltu â’r tîm yn Gymraeg neu yn Saesneg.