Angen Help?

Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer comisiynyddph.cymru

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://comisiynyddph.cymru/

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae’r Comisiynydd am i gynifer â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:

  • chwyddo’r sgrin hyd at 400% heb i’r testun lifo oddi ar y sgrin
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall, ac rydym yn cynnig llawer o ddogfennau mewn fformat hygyrch.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Mae rhannau o’r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch. Er enghraifft:

  • mae rhai elfennau o’r penawdau nad ydynt mewn trefn
  • mae dulliau osgoi ar goll
  • efallai na fydd rhai ffurflenni yn ‘awto-lenwi’
  • mae priodoleddau a argymhellir ar goll o rai delweddau
  • mae rhai o briodoleddau dalfannau wedi cael eu defnyddio fel labeli

Adborth a gwybodaeth gysylltu

Cysylltwch â ni os oes arnoch angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.

Yn eich neges, cofiwch gynnwys:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich enw a’ch manylion cyswllt
  • y fformat sydd ei angen arnoch – er enghraifft, testun plaen, braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras neu CD sain

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wneud y wefan hon yn fwy hygyrch. Cysylltwch â ni os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n credu nad ydyn ni’n bodloni’r gofynion hygyrchedd.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Nid yw elfennau’r penawdau mewn trefn ddisgynnol

WCAG 2.4.6 Penawdau a Labeli: Mae penawdau sydd mewn trefn briodol nad ydynt yn neidio lefelau yn cyfleu strwythur semantig y dudalen, gan ei gwneud yn haws ei llywio a’i deall wrth ddefnyddio technolegau cynorthwyol.

Dull osgoi ar goll

WCAG 2.4.1 Osgoi Blociau: Nid oes gan y wefan ddull o osgoi blociau o gynnwys, fel dolen “neidio i’r prif gynnwys”.

Priodoleddau ‘awto-lenwi’ ar goll wrth lenwi ffurflenni

WCAG 1.3.5 Nodi Pwrpas y Mewnbynnu: Mae priodoledd awto-lenwi=”…” dilys ar goll o rai meysydd mewn ffurflenni. Gall y rhain helpu i lenwi meysydd yn awtomatig, fel ffurflenni chwilio gyda chynnwys y mae’r defnyddiwr wedi’i gofnodi o’r blaen. Mewn rhai achosion, nid oes angen awto-lenwi, yn yr achosion hyn dylid datgan awto-lenwi o hyd, ond gyda gosodiad ‘diffodd’.

Mae priodoleddau a argymhellir ar goll o rai delweddau SVG

WCAG 1.1.1 Cynnwys nad yw’n destun: mae gan bob delwedd addurniadol briodoledd amgen gwag ()Ers lansio’r safle, mae canllawiau WGAC wedi cael eu diweddaru i argymell y dylai graffeg SVG fod â rôl ddiffiniedig a disgrifiad amgen. Mae rhai delweddau SVG ar y wefan nad ydynt yn cynnwys y rhain.

Enghreifftiau lle mae priodoledd dalfannau wedi’i ddefnyddio fel label

WCAG 2.5.3 Label mewn Enw: Ers lansio’r wefan, mae canllawiau WGAC wedi nodi nad yw’n argymell gwneud hyn. Yn hytrach, dylai fod gan feysydd ffurflen label, hyd yn oed os nad yw ond yn weladwy i ddarllenyddion sgrin.

Dogfennau PDF a dogfennau nad ydynt yn HTML

Mae rhai dogfennau nad ydynt yn hygyrch am sawl rheswm er enghraifft mae cynnwys nad yw’n destun ar goll ac mae strwythur dogfennau ar goll.

Dylai pob PDF a phob dogfen heb fod yn HTML a gyhoeddwyd ar ôl 23 Medi 2018 fod yn hygyrch.

Baich anghymesur

Rydym yn gweithio i wneud llawer o ddogfennau PDF a rhai nad ydynt yn HTML yn fwy hygyrch drwy greu fersiynau HTML o’r rhain. Bwriadwn gwblhau’r gwaith hwn erbyn 31 Gorffennaf 2025.

Fodd bynnag, rydym wedi penderfynu y byddai creu fersiynau HTML o rai dogfennau ac adnoddau (sy’n ymwneud â phrosiectau neu ymgyrchoedd a gynhaliwyd am amser penodol, neu ddogfennau sy’n adlewyrchu polisïau a/neu ddeddfwriaeth sydd wedi newid yn ddiweddarach neu nad ydynt yn berthnasol mwyach) yn faich anghymesur.

Mae hyn yn seiliedig ar asesiad baich anghymesur a oedd yn cynnwys dadansoddiad cost/budd. Cafodd hwn ei wneud ar 25 Ionawr 2023 a’i adolygu ar 18 Chwefror 2025.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn mynnu ein bod yn cywiro dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni’r safonau hygyrchedd.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn gweithio i ddiweddaru’r cynnwys anhygyrch a nodir uchod, a’n nod yw cwblhau’r gwaith hwn erbyn 31 Gorffennaf 2025.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 18 Chwefror 2025. Bydd yn cael ei adolygu’n flynyddol.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 16 a 17 Chwefror 2025. Cynhaliwyd y profion hyn gan ddefnyddio tri offeryn: Lighthouse Google yn Chrome ar gyfer profion sylfaenol, ynghyd â’r ategion porwyr sy’n profi hygyrchedd, ARC a WAVE.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges