Ymgynghoriad ar y Newidiadau Arfaethedig i Ganllawiau Strategaethau Lleol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)
Mae gwella’r ffordd rydym yn ymateb i brofiadau pobl hŷn o gael eu cam-drin yn un o fy mhrif flaenoriaethau. Felly rwy’n croesawu’r cyfle hwn i roi sylwadau ar nifer o’r cynigion a allai effeithio ar bobl hŷn sydd â phrofiad uniongyrchol o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Derbyniwch y llythyr hwn fel fy ymateb i’r ymgynghoriad.
Rwy’n croesawu’r cynnig hwn i gyhoeddi canllawiau ar sail statudol; bydd hyn yn helpu i gryfhau cydymffurfedd cyrff cyhoeddus ac i fynd i’r afael â’r anghysondebau o fewn lefelau ymgysylltu ar hyn o bryd. Mae’r ffaith y bydd y dyletswyddau statudol hyn yn berthnasol i grŵp ehangach o sefydliadau nag o’r blaen, gan gynnwys y sefydliadau y mae pobl hŷn yn aml yn ymgysylltu â nhw, yn helpu i godi ‘proffil’ dioddefwyr hŷn sydd wedi goroesi Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol . Bydd ymgysylltu â chyrff fel gofal cymdeithasol i oedolion, iechyd a thai, yn sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed wrth ddatblygu cynlluniau strategol a darpariaeth gwasanaethau.
Mae cyfuno data gan gyrff cyhoeddus ehangach er mwyn asesu anghenion hefyd â’r potensial i wella gwelededd profiadau pobl hŷn o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a hynny ar lefel strategol. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i lywio prosesau comisiynu ac ymatebion gan wasanaethau sy’n gynhwysol o ran oedran.
Mae pobl hŷn yn aml yn cael eu tangynrychioli mewn data cyfiawnder troseddol a data gan wasanaethau arbenigol, ac felly maen nhw dan anfantais pan fo gwaith cynllunio strategol a chomisiynu yn dibynnu ar ddata o’r fath yn unig. Wrth gwrs, mae’n allweddol bwysig fod pobl hŷn yn cael cyfleoedd i ymgysylltu ac i wneud sylwadau wrth i’r canllawiau gael eu datblygu.
Mae’r canllawiau yn ffordd bwysig o godi ymwybyddiaeth o brofiadau pobl hŷn o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, gan ei gwneud yn glir fod pobl hŷn, yn ogystal â phobl ifanc, mewn perygl o brofi trais ar sail rhywedd. Pan fo trais a cham-drin yn cael eu cyflawni yn erbyn pobl hŷn, mae tuedd weithiau i drin y sefyllfa’n wahanol. Mae pobl hŷn yn aml yn cael eu gweld fel grŵp ‘bregus’, sydd angen eu ‘diogelu’ a’u gwarchod mewn sefyllfaoedd o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae’n bwysig fod ymatebion strategol yn cymryd sylw o ymreolaeth, urddas a phenderfyniadau pobl hŷn.
Dylid croesawu’r pwyslais a roddir ar ganlyniadau gan fod hyn yn rhoi blaenoriaeth i ddeall sut y mae ymyrraeth a gwasanaethau yn effeithio ar bobl sydd â phrofiad o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a hynny o’u safbwynt nhw. Ond, rhaid i’r canlyniadau hyn gael eu dadgyfuno yn ôl oedran, gan gynnwys dadansoddiad o oedran ymysg y boblogaeth hŷn, yn ddelfrydol yn ôl bandiau oedran pum mlynedd. Bydd hyn yn tynnu sylw at wahaniaethau o ran cael gafael ar wasanaethau arbenigol, a bydd yn helpu i benderfynu ar effeithiolrwydd modelau darparu gwasanaethau.
Yn olaf, rwy’n deall bod y canllawiau yn cyfeirio at bolisïau cysylltiedig eraill; sy’n cynnwys ac yn gorgyffwrdd â dyletswyddau sy’n gysylltiedig â gweithredu strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol newydd. Mae’n bwysig bod cyfeiriad penodol yn cael ei wneud at Gynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i Atal Cam-drin Pobl Hŷn. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar y camau gweithredu sydd angen eu cymryd i atal ac i ymateb i brofiadau pobl hŷn o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Os hoffech chi drafod unrhyw un o’r pwyntiau uchod yn fanylach, cysylltwch ag Andrea Cooper ein Harweinydd Diogelu (andrea.cooper@olderpeople.wales)
Yn gywir,