Yn aml, mae pobl hŷn yn cael eu tangynrychioli mewn llawer o ffynonellau data, sy’n achosi anawsterau wrth geisio nodi’r problemau a’r rhwystrau a allai ein hatal rhag byw a heneiddio’n dda.
Dyna pam mae’r Comisiynydd wedi creu’r adnodd defnyddiol hwn sy’n dwyn ynghyd ystadegau allweddol, tystiolaeth ac ymchwil i roi trosolwg o brofiadau pobl o heneiddio yng Nghymru.
Bydd y wybodaeth hon yn galluogi llunwyr polisi a phenderfyniadau i ddeall yn well yr heriau y gallai pobl hŷn fod yn eu hwynebu, a’r camau gweithredu a’r polisïau sydd eu hangen i sicrhau bod Cymru’n arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda.
Darllenwch Bapur Ystadegau Allweddol y Comisiynydd