Angen Help?

Telerau Defnyddio

Telerau Defnyddio

Pwysig

Diolch i chi am gyrchu www.olderpeoplewales.com (y “Wefan”). Darllenwch y telerau a’r amodau hyn (y “Telerau”) cyn ichi ddefnyddio’r Wefan sy’n cael ei gweithredu gan y Comisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru, sef y swyddfa a sefydlwyd yn unol â phenodi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a benodwyd yn unol â Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006  ac sydd wedi’i lleoli yn Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL (“y Comisiynydd Pobl Hŷn”).

Os hoffech gysylltu â’r Comisiynydd Pobl Hŷn ar unrhyw adeg, cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost at gofyn@olderpeoplewales.com. Mae croeso ichi ffonio hefyd ar 08442 64 06 70.

Drwy ddefnyddio’r Wefan, rydych yn dynodi eich bod yn derbyn y Telerau ac yn gyfnewid am hynny mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn cynnig mynediad ichi iddi.  O dro i dro, mae’n bosibl y bydd y Comisiynydd Pobl Hŷn yn diwygio’r Telerau.  Gan hynny, byddwch cystal ag edrych eto ar y Telerau pryd bynnag y byddwch yn cyrchu’r Wefan neu’n ei defnyddio.  Os na fyddwch yn dymuno derbyn y Telerau ar unrhyw adeg, chewch chi ddim defnyddio’r Wefan.

Dim Dibyniaeth

Er bod y Comisiynydd Pobl Hŷn wedi ceisio sicrhau bod sylwedd yr wybodaeth sydd ar gael ar y Wefan yn gywir, nid yw’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn gwarantu nac yn rhoi unrhyw warantiad o ran cywirdeb, amseroldeb neu gyflawnder unrhyw wybodaeth neu ddeunydd ar y Wefan.  Er gwybodaeth yn unig y cynigir cynnwys y Wefan hon, nid oes dim ar y Wefan hon yn gyfystyr â chyngor proffesiynol neu gyfreithiol a dylai cyngor gael ei gymryd oddi wrth weithiwr proffesiynol neu gyfreithiwr cymwysedig bob tro mewn perthynas ag unrhyw broblem neu bryder penodol.  Gan hynny mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn nacáu pob rhwymedigaeth a chyfrifoldeb sy’n codi yn sgil unrhyw ddibyniaeth a roddir ar yr wybodaeth hon neu’r deunydd hwn gan unrhyw un sy’n ymweld â’r Wefan.

Cysylltiad â’r Gwefannau

Er gwybodaeth yn unig y mae’r Wefan yn cysylltu â gwefannau neu dudalennau gwe ac nid yw’r rhain wedi’u hadolygu gan y Comisiynydd Pobl Hŷn. Nid oes gan y Comisiynydd Pobl Hŷn gyfrifoldeb dros gynnwys gwefannau neu dudalennau gwe y mae’r Wefan hon wedi cysylltu â nhw neu sy’n cysylltu â’r Wefan hon, ac nid yw’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn derbyn dim cyfrifoldeb neu rwymedigaeth am unrhyw golledion neu rwymedigaethau o gwbl a all godi yn sgil clicio drwodd i wefannau cysylltiedig.

Eiddo Deallusol

Mae’r Wefan, gan gynnwys testun, cynnwys, meddalwedd, fideo, cerddoriaeth, sain, graffeg, ffotograffau, darluniau, gwaith celf, enwau, logos, modau masnach a deunyddiau eraill (“Cynnwys”) (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain) wedi’i diogelu gan hawlfreintiau, hawliau cronfeydd data, nodau masnach a/neu hawliau eiddo deallusol eraill.

Mae Cynnwys yn golygu cynnwys sy’n perthyn i’r Comisiynydd Pobl Hŷn neu’n cael ei reoli ganddo a chynnwys sy’n perthyn i drydydd partïon neu yn cael ei reoli ganddynt ac sydd wedi’i drwyddedu i’r Comisiynydd Pobl Hŷn.

Mae’r holl erthyglau, cyhoeddiadau ac elfennau unigol eraill sy’n ffurfio’r Wefan yn weithiau o dan hawlfraint.  Rydych chi’n cytuno i barchu pob hysbysiad neu gyfyngiad hawlfraint ychwanegol a gynhwysir yn y Wefan a’r drwydded a nodir isod.

Ni chewch ddefnyddio’r un o nodau masnach neu enwau masnach y Comisiynydd Pobl Hŷn heb gydsyniad y Comisiynydd Pobl Hŷn ac rydych yn cydnabod nad oes gennych hawliau perchennog yn yr un o’r enwau a’r nodau hynny nac iddynt.  Rydych yn cytuno i hysbysu’r Comisiynydd Pobl Hŷn mewn ysgrifen yn ddi-oed os cewch wybod bod y Wefan yn cael ei chyrchu neu ei defnyddio heb awdurdod gan unrhyw barti neu am unrhyw honiad bod y Wefan neu unrhyw ran o’r Cynnwys yn torri unrhyw hawlfraint, nod masnach, neu hawl arall mewn contract, mewn statud neu yn y gyfraith gyffredin sydd gan unrhyw barti.

Hawliau Trwydded

Darperir mynediad i’r Wefan dros dro ac rydych yn cydnabod nad ydych yn sicrhau dim hawliau na thrwyddedau yn y Wefan a/neu’r Cynnwys nac iddynt heblaw’r hawl gyfyngedig i ddefnyddio’r Wefan yn unol â’r Telerau hyn.

Heblaw fel y’i nodir yn yr adran hon (neu fel y’i darperir gan y gyfraith gymwys) chewch chi ddim copïo, dadlunio, datgymalu, peiriannu’n wrthol, dosbarthu neu addasu unrhyw ran o’r Wefan, trefnu ei bod ar gael, ei llwytho i fyny na’i hecsbloetio mewn unrhyw fodd arall.

Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn caniatáu lawrlwytho, ar yr amod:

  1. eich bod yn defnyddio unrhyw gopi o’r Wefan a gaiff ei lawrlwytho a/neu ei argraffu at ddibenion personol, anfasnachol yn unig ac na fyddwch yn diwygio dim o’r Cynnwys yr ydych wedi’i argraffu; a
  2. eich bod yn cadw ar y copi wedi’i lawrlwytho neu’r copi wedi’i argraffu bob hysbysiad hawlfraint a’ch bod yn parhau i gael eich rhwymo gan delerau’r geiriad hwnnw a’r hysbysiadau hynny.

Yn ychwanegol, chewch chi ddim cynnig gwerthu’r Cynnwys nac unrhyw ran ohono heb ein cydsyniad pendant ni na’i werthu, na threfnu ei fod ar gael na’i ddosbarthu drwy unrhyw gyfrwng arall (gan gynnwys ei ddosbarthu drwy ei ddarlledu ar y teledu neu’r radio ar yr awyr neu ei ddosbarthu ar rwydwaith cyfrifiadur).

Ni chaniateir defnyddio’r Wefan a’r wybodaeth a gynhwysir ynddi i greu cronfa ddata o unrhyw fath, ac ni chaniateir i’r Wefan gael ei storio (yn gyfan gwbl ynteu’n rhannol) mewn cronfeydd data i’w cyrchu gennych chi neu gan unrhyw drydydd parti nac i ddosbarthu unrhyw wefannau cronfa ddata sy’n cynnwys y cyfan o’r Wefan neu ran ohoni.

Heb ragfarnu cyffredinolrwydd yr uchod, cewch gysylltu ag unrhyw ran o’n Gwefan.

Caniatadau

Os hoffech gael gwybodaeth am sicrhau caniatâd y Comisiynydd Pobl Hŷn i ddefnyddio unrhyw ran o’r Cynnwys cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost at gofyn@olderpeoplewales.com

Dim Gwarantiad

Darperir y Wefan a’r Cynnwys “fel y maent” heb gynnwys unrhyw warantiadau ac amodau  o unrhyw fath, yn bendant neu’n ymhlyg, a hynny i’r graddau llawnaf a ganiateir yn unol â’r gyfraith gymwys gan gynnwys hepgor gwarantiadau ac amodau ynghylch teitl, masnacholdeb, ansawdd foddhaol, addasrwydd at ddibenion penodol a pheidio â thorri hawliau perchnogion neu hawliau trydydd partïon (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain). Ymhellach, nid yw’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn derbyn dim cyfrifoldeb na rhwymedigaeth dros raglenni a gynhwysir ar y Wefan.

Er na all y Comisiynydd Pobl Hŷn warantu perfformiad ei Wefan, os torrir ar draws defnyddio’r Wefan neu os ceir unrhyw wallau wrth ei defnyddio, byddwn yn ceisio datrys y materion hynny mewn modd rhesymol o amserol.

Dylech sicrhau bod eich offer cyfrifiadurol yn gydnaws â’r Wefan a’ch bod wedi gosod meddalwedd gyfoes i wirio rhag feirysau cyn unrhyw sesiwn ar y rhyngrwyd gan nad yw’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn atebol am unrhyw ddifrod y gallech ei ddioddef o ganlyniad i nodweddion dinistriol o’r fath a allai heintio’ch cyfrifiadur neu’ch data am eich bod wedi defnyddio’r Wefan neu am eich bod wedi lawrlwytho unrhyw ddeunydd a osodwyd arni.

Rhaid peidio â dal y Comisiynydd Pobl Hŷn yn gyfrifol am Gynnwys a ddarperir gan drydydd partïon. Nid yw’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn gyfrifol ychwaith am ddibynadwyedd neu argaeledd parhaus y llinellau ffôn a’r offer y byddwch yn eu defnyddio i gyrchu’r Wefan.

Rydych yn deall bod y Comisiynydd Pobl Hŷn yn defnyddio gwerthwyr trydydd parti a phartneriaid cynnal i ddarparu’r galedwedd, y feddalwedd, y rhwydweithiau, y storfeydd a’r dechnoleg berthynol sy’n angenrheidiol i redeg y Wefan ac unrhyw wasanaeth y trefnir ei fod ar gael drwyddi.

Cyfyngu Rhwymedigaeth

Rydych yn cydnabod mai chi yn unig sy’n gyfrifol am risg defnyddio’r Wefan, gan gynnwys y Cynnwys.  Os ydych yn anfodlon ar y Wefan, y Telerau neu unrhyw ran o’r Cynnwys, yr unig rwymedi sydd gennych yw rhoi’r gorau i ddefnyddio’r Wefan.  Ac eithrio mewn perthynas â thwyll ac anaf personol neu farwolaeth i’r graddau y bydd hynny’n deillio o esgeulustod y Comisiynydd Pobl Hŷn, ni fydd y Comisiynydd Pobl Hŷn yn atebol o dan unrhyw amgylchiadau i chi nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw iawn uniongyrchol, arbennig, anuniongyrchol, canlyniadol neu achlysurol (gan gynnwys elw a gollir), nac unrhyw iawn arall o unrhyw fath boed wedi’i seilio ar gontract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall, hyd yn oed os hysbyswyd y Comisiynydd Pobl Hŷn fod hynny’n bosibl.

Feirysau Hacio a Thramgwyddau Eraill

Rhaid ichi beidio â chamddefnyddio’r Wefan drwy fynd ati’n fwriadol i gyflwyno feirysau, ceffylau Caerdroea, mwydod, bomiau rhesymeg na deunyddiau eraill sy’n faleisus neu sy’n niweidiol yn dechnolegol.  Rhaid ichi beidio â cheisio cyrchu’r Wefan na’r gweinydd y mae wedi’i storio arno heb awdurdod a rhaid ichi beidio ag ymosod ar ein Gwefan drwy gyfrwng ymosodiad i wrthod gwasanaeth neu ymosodiad cyfun i wrthod gwasanaeth.

Fyddwn ni ddim yn atebol am unrhyw golled neu niwed a achosir gan ymosodiad cyfun i wrthod gwasanaeth sy’n codi ar ôl i chi ddefnyddio’r Wefan.

Terfynu

Os torrwch chi unrhyw un o’r Telerau hyn mae eich hawl i ddefnyddio’r Wefan yn terfynu’n awtomatig.

Newidiadau i’r Wefan

Ar unrhyw adeg, gall y Wefan gynnwys deunydd sy’n hen.  Er nad yw’r Comisiynydd Pobl Hŷn o dan rwymedigaeth i wneud hynny, rydych chi’n derbyn bod gan y Comisiynydd Pobl Hŷn hawl i newid cynnwys neu fanylebau technegol unrhyw agwedd ar y Wefan ar unrhyw adeg a hynny yn ôl disgresiwn y Comisiynydd Pobl Hŷn yn unig.  Rydych yn derbyn hefyd y gall y newidiadau hynny olygu na allwch chi gyrchu’r Wefan.

Nacâd

Ni fydd yr un nacâd gan y Comisiynydd Pobl Hŷn ynghylch unrhyw achos o dorri unrhyw rwymedigaeth sy’n codi o dan y Telerau hyn yn gyfystyr â nacâd ynghylch unrhyw doriad arall ac ni fydd methiant gan y Comisiynydd Pobl Hŷn i arfer neu i rannol-arfer unrhyw rwymedi yn gyfystyr â nacáu’r hawl wedyn i arfer y rhwymedi hwnnw neu unrhyw rwymedi arall.

Amrywiol

Ni fydd y Comisiynydd Pobl Hŷn o dan rwymedigaeth am unrhyw achos o dorri’r Telerau hyn a achosir gan amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth resymol.

Ni fydd gan berson nad yw’n barti i’r Telerau hyn hawl o dan Ddeddf Contract (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 i orfodi unrhyw un o’r Telerau hyn.

Y Gyfraith Lywodraethol a’r Awdurdodaeth

Llywodraethir y Telerau gan gyfraith Cymru a Lloegr fel y mae’n gymwys yng Nghymru  ac mae’r partïon yn darostwng i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

 

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges