Angen Help?
A stethoscope and pen on a medical chart

Anawsterau cael gafael ar wasanaethau meddygfeydd sy’n golygu bod llawer o bobl hŷn yn dioddef mewn poen ac yn byw gyda chyflyrau sy’n gwaethygu, rhybuddia’r Comisiynydd

i mewn Adnoddau, Ymchwil ac Adroddiad

Anawsterau cael gafael ar wasanaethau meddygfeydd sy’n golygu bod llawer o bobl hŷn yn dioddef mewn poen ac yn byw gyda chyflyrau sy’n gwaethygu, rhybuddia’r Comisiynydd

Mae nifer sylweddol o bobl hŷn ledled Cymru yn wynebu anawsterau wrth geisio cael gafael ar wasanaethau meddygfeydd, sy’n golygu bod llawer o unigolion yn dioddef mewn poen, yn byw gyda chyflyrau sy’n gwaethygu ac yn teimlo’n bryderus.

Dyna’r canfyddiad allweddol o adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Cael Gafael ar Wasanaethau Meddygfeydd yng Nghymru: Profiadau Pobl Hŷn1, sy’n seiliedig ar dystiolaeth a rannwyd gan dros 900 o bobl hŷn sy’n byw ledled Cymru.

Mae adroddiad y Comisiynydd yn datgelu bod newidiadau i’r ffordd y mae pobl yn cael gafael ar wasanaethau meddygfeydd yng Nghymru, sydd wedi newid llawer iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a’r newid yn y berthynas rhwng cleifion a’u practisau yn aml yn ei gwneud hi’n anodd i bobl hŷn gael apwyntiadau addas gyda chlinigydd priodol.

Pryder arbennig yw’r ffaith bod y mathau hyn o anawsterau wedi golygu nad yw rhai unigolion yn rhoi gwybodaeth am eu hiechyd neu symptomau i rai clinigwyr, gan fod yn well ganddynt drafod rhai materion gyda’u meddyg eu hunain yn unig, rhywbeth sy’n peri risg sylweddol i iechyd pobl.

Dywedodd llawer o bobl hŷn hefyd wrth y Comisiynydd nad yw gwasanaethau’n aml yn teimlo’n ‘gydgysylltiedig’ ac y gall cyfathrebu rhwng gwasanaethau fod yn wael, sydd wedi arwain at achosion o golli gwybodaeth cleifion, oedi o ran presgripsiynau hanfodol, a phobl yn cael eu hanfon ‘o bared i bost’ wrth geisio datrys problemau.

Yn ogystal â’r problemau hyn, canfu’r Comisiynydd fod tua dwy ran o dair o bobl hŷn a ymatebodd i’w harolwg yn ei chael hi’n anodd gwneud apwyntiadau addas, neu’n wynebu problemau wrth geisio cysylltu â’u meddygfa neu gyfathrebu â nhw, boed hynny dros y ffôn neu ar-lein. Ymhlith y problemau eraill a bwysleisiwyd roedd cael mynediad at wasanaethau a gwybodaeth mewn iaith o’u dewis – rhwystr penodol i bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hŷn – a chyrraedd meddygfeydd drwy drafnidiaeth gyhoeddus.

Wrth drafod casgliadau ei hadroddiad, dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:

“Wrth i ni fynd yn hŷn, mae cael mynediad at feddygon a chael gafael ar wasanaethau iechyd eraill yn aml yn dod yn rhan fwy amlwg o’n bywydau ac mae’r rhain yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi llawer o bobl hŷn i gadw’n iach, yn annibynnol ac yn ddiogel.

“Mae pobl hŷn yn aml yn rhannu pryderon am yr anawsterau y maen nhw’n eu profi wrth gael gafael ar wasanaethau meddygfeydd gyda fi a fy nhîm mewn digwyddiadau ymgysylltu, yn ogystal â thrwy fy ngwasanaeth Cyngor a Chymorth, ac roeddwn i’n awyddus i edrych yn fanylach ar y problemau hyn i sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu hatal rhag cael mynediad at ran hanfodol o’r gwasanaeth iechyd.

“Mae’r nifer fawr o ymatebion i’m harolwg yn dangos bod y mathau hyn o broblemau’n effeithio ar fywydau llawer o bobl hŷn ledled Cymru, a hoffwn ddiolch i bawb a gysylltodd am sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ac am ddarparu cymaint o dystiolaeth i gefnogi fy ngalwadau am weithredu.

“Mae fy adroddiad yn dangos, ochr yn ochr â’r problemau sy’n bod ers tro byd a fydd yn gyfarwydd i ni i gyd – fel anawsterau gwneud apwyntiadau neu fynd drwodd i bractisau ar y ffôn – mae’n ymddangos bod y newid yn natur gwasanaethau meddygon teulu a’r berthynas rhwng cleifion a’u meddygfeydd hefyd yn creu rhwystrau i bobl hŷn o ran trefnu’r mathau cywir o apwyntiadau neu gael mynediad at glinigwr priodol.

“Mae’r mathau hyn o anawsterau yn golygu bod llawer o unigolion yn dioddef mewn poen, yn byw gyda chyflyrau sy’n gwaethygu ac yn teimlo’n bryderus, rhywbeth sy’n peri pryder mawr.”

Mae adroddiad y Comisiynydd yn cynnwys cyfres o argymhellion ar gyfer meddygfeydd, byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru a chyrff a sefydliadau iechyd eraill, sy’n nodi’r camau sydd eu hangen i wella profiadau pobl hŷn a mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n ei gwneud yn anos cael gafael ar wasanaethau meddygfeydd.

Mae hyn yn cynnwys camau sy’n canolbwyntio ar feithrin perthynas o ymddiriedaeth rhwng cleifion a’u meddygfeydd, cael gwared ar rwystrau ymarferol i gael mynediad a gwella cyfathrebu, yn ogystal â sicrhau bod digon o fuddsoddiad i foderneiddio systemau a gwella seilwaith ehangach.

Ychwanegodd y Comisiynydd:

“Rwy’n ymwybodol iawn o’r pwysau sylweddol sy’n wynebu gwasanaethau iechyd, gan gynnwys gwasanaethau meddygon teulu, ac adlewyrchwyd hyn hefyd mewn ymatebion gan lawer o bobl hŷn, a oedd yn cydnabod bod staff yn gwneud eu gorau glas o dan amgylchiadau anodd.

“Bydd llawer o’r camau yr wyf yn galw amdanynt yn sicrhau gwelliannau heb fawr ddim cost neu heb unrhyw gost, neu’n canolbwyntio ar sicrhau bod safonau a fframweithiau presennol – fel Safonau Mynediad Llywodraeth Cymru – yn cael eu bodloni a bod hyn yn cael ei adlewyrchu ym mhrofiadau pobl hŷn.

“Bydd cyflawni’r camau yr wyf yn galw amdanynt yn helpu i sicrhau y gall pobl gael gafael ar y gwasanaethau iechyd sydd eu hangen arnynt, pan fydd eu hangen arnynt, mewn ffordd sy’n addas iddynt, a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau miloedd lawer o bobl hŷn ledled Cymru.

“Fel Comisiynydd, byddaf yn monitro’r cynnydd yn erbyn y cam hwn, a byddaf yn parhau i annog a chefnogi gwasanaethau iechyd, meddygfeydd a sefydliadau allweddol eraill i estyn allan at bobl hŷn ledled Cymru ac ymgysylltu â nhw mewn ffordd ystyrlon fel bod lleisiau cleifion o bob oed yn helpu i lunio polisi ac ymarfer.

“Rwyf hefyd am rymuso pobl hŷn trwy eu helpu i ddeall yn well yr hyn y gallant ei ddisgwyl o ran cael gafael ar wasanaethau meddygfeydd a lle gall pobl ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth os ydynt yn profi problemau neu rwystrau. Cyn hir byddaf yn cyhoeddi canllaw newydd i ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt, sy’n cael ei pharatoi gyda chefnogaeth gan bobl hŷn.”

DIWEDD

Darllenwch Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru: Profiadau Pobl Hŷn

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges