Angen Help?
Delwedd o ddyn hŷn yn eistedd ar fainc parc ar noson heulog. / Image of an older man sat on a park bench on a sunny evening.

YMATEB I’R YMGYNGHORIAD – Pensiynau 2050: Tystiolaeth a Blaenoriaethau’r Dyfodol

i mewn Adnoddau, Ddylanwadu ar polisi ac arferion

Ymated i’r Ymgynghoriad – Pensiynau 2050: Tystiolaeth a Blaenoriaethau’r Dyfodol

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn llais annibynnol ac yn eiriolwr dros bobl hŷn ledled Cymru. Fe’i sefydlwyd gan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru), sy’n amlinellu manylion rôl a phwerau statudol y Comisiynydd. Rôl y Comisiynydd yw hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru, herio gwahaniaethu, annog arferion gorau ac adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

Cyflwyniad

Mae’r Comisiynydd yn croesawu’r cyfle i ymateb i adroddiad dros dro’r Ail Gomisiwn Pensiynau,   Pensiynau 2050: Tystiolaeth a Blaenoriaethau’r Dyfodol.

Yn ddiweddar, cyflwynodd y Comisiynydd dystiolaeth i’r Trydydd Adolygiad o Oedran Pensiwn y Wladwriaeth[i] ac ymchwiliad y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau i Dlodi Pensiynwyr[ii]. Mae’r cyflwyniadau hynny’n parhau i fod yn berthnasol a dylid eu hystyried ochr yn ochr â’r ymateb hwn.

Mae’r ymateb hwn yn canolbwyntio ar y materion sydd fwyaf arwyddocaol i bobl hŷn yng Nghymru a’r camau sydd eu hangen i sicrhau bod polisi pensiwn y dyfodol yn cefnogi urddas, annibyniaeth a diogelwch ariannol yn hwyrach mewn bywyd.

Dyma farn y Comisiynydd:

  • Dylai Pensiwn y Wladwriaeth barhau i fod yn sylfaen i incwm ymddeol
  • Dylai digonolrwydd pensiynau gael ei flaenoriaethu ochr yn ochr â chynaliadwyedd
  • Dylai disgwyliad oes iach fod yn ganolog i benderfyniadau ynglŷn ag oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • Ni ddylai polisi pensiynau ddyfnhau anghydraddoldebau sy’n bodoli’n barod
  • Dylai polisi incwm ymddeol ystyried costau tai a chostau byw ehangach
  • Dylai diwygiadau’r dyfodol adlewyrchu profiadau pobl yng Nghymru

Digonolrwydd pensiynau a Phensiwn y Wladwriaeth

Prin yw’r cyfleoedd sydd gan nifer o bobl i adeiladu cynilion pensiwn preifat oherwydd cyflogau isel, cyflogaeth ansicr, cyfrifoldebau gofalu, anabledd neu afiechyd. Mae menywod, gofalwyr, pobl hunangyflogedig, a nifer o grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn parhau i wynebu rhwystrau strwythurol nad yw’r system wedi’u goresgyn eto. I’r grwpiau hyn, mae Pensiwn y Wladwriaeth yn parhau i fod yn hollbwysig wrth amddiffyn pobl rhag tlodi.

Mae’r newid o bensiynau â buddion wedi’u diffinio i bensiynau â chyfraniadau wedi’u diffinio wedi rhoi mwy o gyfrifoldeb a risg ar unigolion. Disgwylir i lawer o bobl bellach wynebu penderfyniadau cymhleth o ran buddsoddi mewn pensiynau, amseru ymddeoliad a’r ffordd orau o ddefnyddio eu cynilion yn hwyrach mewn bywyd.

Gall yr ansicrwydd hwn fod yn heriol, yn enwedig i’r rhai sydd â lefelau is o hyder ariannol, mynediad prin at gyngor, neu wendidau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag iechyd gwael, anabledd neu allgau digidol.

Gall penderfyniadau a wneir adeg ymddeol gael goblygiadau sylweddol a pharhaol o ran incwm a safonau byw yn hwyrach mewn bywyd. Dylai diwygiadau’r dyfodol gydnabod yr heriau hyn a sicrhau bod gan bobl fynediad at gymorth clir, hygyrch ac annibynnol wrth gynllunio ar gyfer ymddeoliad a’i reoli.

Felly dylai’r Comisiwn:

  • Argymell sefydlu isafswm incwm ymddeol sy’n seiliedig ar yr hyn sydd ei angen i fyw ag urddas yn hwyrach mewn bywyd, ac asesu a yw Pensiwn y Wladwriaeth a’r system incwm ymddeol ehangach, gyda’i gilydd, yn galluogi pobl gyflawni hyn
  • Ystyried pa effaith y mae anghydraddoldeb ar hyd cwrs bywyd yn ei chael ar ganlyniadau ymddeol
  • Sicrhau nad yw diwygiadau’r dyfodol yn cynyddu tlodi ymhlith pobl hŷn

Byddai’r Comisiynydd yn rhybuddio yn erbyn unrhyw ddull sy’n tybio y gall cynilon pensiwn preifat yn unig wneud iawn am anghydraddoldebau a brofir drwy gydol bywyd gwaith.

Disgwyliad oes iach ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Mae’r Comisiynydd yn dal o’r farn y dylai disgwyliad oes iach fod yn bwysicach na disgwyliad oes yn unig wrth ystyried newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y dyfodol.

Nid yw byw’n hirach o reidrwydd yn golygu y gall pobl weithio’n hirach. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng Nghymru, lle mae disgwyliad oes iach yn parhau’n sylweddol is mewn rhai cymunedau – mae disgwyliad oes iach tua 61 oed ymhlith dynion a 60 oed ymhlith menywod[iii].

Felly dylai penderfyniadau am oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y dyfodol:

  • Ystyried disgwyliad oes iach
  • Ystyried yr effaith ar bobl mewn swyddi sy’n heriol yn gorfforol
  • Cydnabod profiadau pobl anabl, gofalwyr di-dâl a’r rhai sy’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor
  • Cynnwys asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb a’r effaith economaidd-gymdeithasol

Lleihau anghydraddoldebau pensiwn

Mae’r adroddiad dros dro yn tynnu sylw’n briodol at y risgiau sy’n wynebu menywod, gofalwyr, gweithwyr ar gyflogau isel a phobl eraill a allai fod â bylchau yn eu hanes cyflogaeth.

Mae nifer o bobl hŷn yng Nghymru wedi profi anfantais drwy gydol eu bywydau gwaith sy’n effeithio ar eu hincwm adeg ymddeoliad.

Mae cyfraddau cyflogaeth ymhlith pobl 50–64 oed yn is yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o’r DU, gyda 66.4% o’r grŵp oedran hwn mewn gwaith yng Nghymru (Gorffennaf – Medi 2025[iv]).

Tynnodd ymateb blaenorol y Comisiynydd sylw at y ffaith y gallai rhai pobl a fyddai wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y gorffennol symud at fudd-daliadau oedran gweithio yn lle hynny, a bod cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o fudd-daliadau analluogrwydd ymhlith pobl dros 65 oed.

Felly, dylai diwygiadau’r dyfodol wneud y canlynol:

  • Cryfhau’r cymorth i ofalwyr di-dâl
  • Mynd i’r afael â’r bwlch pensiynau rhwng y rhywiau
  • Diogelu pobl anabl a gweithwyr ar gyflogau isel
  • Sicrhau nad yw diwygiadau cofrestru awtomatig yn creu caledi i bobl ar incwm is

Costau tai a diogelwch ariannol

Mae’r Comisiynydd yn croesawu’r gydnabyddiaeth yn yr adroddiad dros dro fod pensiynwyr y dyfodol yn fwy tebygol o wynebu costau tai yn hwyrach mewn bywyd, gyda gostyngiad yn nifer y rhai sy’n berchen ar dai yn creu pwysau newydd yn ystod ymddeoliad.

Ni all digonolrwydd pensiynau gael ei farnu ar sail incwm pensiwn yn unig. Gallai pensiwn sy’n ymddangos yn ddigonol i rywun sy’n berchen ar ei gartref yn llwyr fod yn gwbl annigonol i rywun sy’n talu rhent preifat, yn byw mewn tai heb sicrwydd, neu’n wynebu costau uchel sy’n gysylltiedig â thai.

Ni all digonolrwydd pensiynau gael ei ystyried ar wahân i gostau byw ehangach, gan gynnwys tai, tanwydd a threuliau sy’n gysylltiedig ag anabledd. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn cymunedau gwledig, lle mae pobl hŷn yn wynebu costau uwch ar gyfer trafnidiaeth, gwresogi a chael gafael ar wasanaethau.

Dylai’r Comisiwn sicrhau bod amgylchiadau tai yn rhan o unrhyw asesiad o ddigonolrwydd incwm ymddeol yn y dyfodol.

Hygyrchedd a Chynhwysiant

Dylai’r system bensiynau fod yn hawdd ei deall a’i defnyddio.

Ni ddylai pobl hŷn sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, sydd â mynediad prin at gyngor, neu sy’n wynebu rhwystrau yn ymwneud ag iechyd, anabledd neu iaith, fod dan anfantais nac wynebu oedraniaeth ddigidol.

Dylai diwygiadau’r dyfodol gynnwys:

  • gwybodaeth glir, hygyrch a dwyieithog
  • llwybrau nad ydynt yn rhai digidol i gael cymorth a chyngor
  • amddiffyniad cryfach rhag sgamiau
  • cymorth wedi’i dargedu i bobl sy’n agosáu at ymddeoliad

Ni ddylai polisi pensiwn gymryd yn ganiataol y gall pawb fynd ar-lein, neu fod pawb eisiau mynd ar-lein. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng Nghymru, lle mae allgáu digidol yn parhau’n broblem sylweddol i lawer o bobl hŷn. Ni ddylai diwygio pensiynau gymryd yn ganiataol bod mynediad digidol, hyder digidol neu lythrennedd ariannol yr un peth i bawb.

Sicrhau bod Cymru yn cael ei hadlewyrchu ym mholisïau’r dyfodol

Er bod pensiynau yn nwylo Llywodraeth y DU, mae eu heffaith yn cael ei phrofi’n wahanol ledled y DU.

Felly, dylai argymhellion y dyfodol adlewyrchu Cymru o ran y disgwyliad oes iach is mewn rhannau o’r wlad, y gwahaniaethau yn y farchnad lafur, ei natur wledig, tlodi ac anghydraddoldebau iechyd.

Dylai’r Comisiwn ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl hŷn a rhanddeiliaid yng Nghymru, cyhoeddi dadansoddiad sy’n benodol i Gymru, a sicrhau nad yw ei argymhellion yn rhoi pobl yng Nghymru dan anfantais.

Credyd Pensiwn

Mae Credyd Pensiwn yn parhau i gael ei dan-hawlio’n sylweddol, sy’n golygu bod nifer o bobl hŷn yn colli allan ar y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Dylai diwygiadau pensiwn y dyfodol gynnwys mesurau i wneud y mwyaf o’r defnydd ohono drwy hyrwyddo rhagweithiol, rhannu data a chymorth wedi’i dargedu i’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o dlodi.

Mae’r Comisiynydd hefyd o’r farn y dylid symleiddio systemau hawlio, a’i gwneud hi’n haws i bobl hŷn ddeall pa gymorth sydd ar gael, cael mynediad at eu hawliau a defnyddio’r system bensiynau a nawdd cymdeithasol yn hyderus.

Crynodeb o’r argymhellion allweddol

Dylai’r Comisiwn wneud y canlynol:

  • Argymell meincnod clir ar gyfer incwm ymddeol digonol
  • Cynnal Pensiwn y Wladwriaeth fel sylfaen i incwm ymddeol
  • Ystyried disgwyliad oes iach yr un mor bwysig â disgwyliad oes wrth wneud penderfyniadau sy’n ymwneud ag oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • Asesu effaith diwygiadau ar ofalwyr, menywod, pobl anabl, gweithwyr incwm isel, a grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • Ymgorffori costau tai i asesiadau digonolrwydd incwm ymddeol
  • Sicrhau bod diwygiadau yn hygyrch i bobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol
  • Cyhoeddi gwaith dadansoddi ac argymhellion sy’n benodol i Gymru

Casgliadau

Mae’r Comisiynydd yn croesawu adroddiad dros dro’r Comisiwn Pensiynau ac o blaid datblygu system bensiynau sy’n ddigonol, yn deg ac yn gynaliadwy. Mae’r adroddiad yn cynnig asesiad gwerthfawr o’r heriau sy’n wynebu pensiynwyr y dyfodol ac yn cydnabod rôl bwysig Pensiwn y Wladwriaeth a chymorth nawdd cymdeithasol ehangach wrth atal tlodi a hyrwyddo diogelwch ariannol yn hwyrach mewn bywyd.

Dylai diwygiadau’r dyfodol flaenoriaethu digonolrwydd pensiynau ochr yn ochr â chynaliadwyedd, mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau a brofir gydol oes, a rhoi mwy o bwys ar ddisgwyliad oes iach wrth ystyried newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Rhaid i benderfyniadau am incwm ymddeol adlewyrchu’r realiti sy’n wynebu’r rhai ar incwm isel, menywod, gofalwyr di-dâl, pobl anabl a phobl eraill sydd â chyfleoedd prin i adeiladu cynilion pensiwn.

Rhaid i setliad pensiynau teg ar gyfer 2050 alluogi pawb i fwynhau urddas, annibyniaeth a diogelwch ariannol yn hwyrach mewn bywyd. Mae’r Comisiynydd yn annog y Comisiwn i sefydlu dealltwriaeth glir o’r hyn sydd gyfwerth ag incwm ymddeol digonol ac i sicrhau bod ei argymhellion terfynol yn cefnogi’r nod hwn.

 

Cyfeiriadau

[i] Ymateb i Ymgynghoriad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – Trydydd Adolygiad o Oedran Pensiwn y Wladwriaeth: adroddiad annibynnol galwad am dystiolaeth (2025):

YMATEB I YMGYNGHORIAD – Trydydd adolygiad o oedran Pensiwn y Wladwriaeth: adroddiad annibynnol galwad am dystiolaeth – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

[ii] Ymateb i Ymgynghoriad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – Ymgynghoriad y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau: Tlodi pensiynwyr – heriau a mesurau lliniaru (2025): Ymgynghoriad y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau: Tlodi pensiynwyr – heriau a mesurau lliniaru – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

[iii] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – Heneiddio yng Nghymru – Cipolwg ar brofiadau pobl hŷn (2025): Heneiddio-yng-Nghymru-Cipolwg-ar-Brofiadau-Pobl-Hyn.pdf

[iv] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – Deall Poblogaeth Cymru sy’n Heneiddio – Ystadegau Allweddol (2026): Deall-Poblogaeth-Cymru-syn-Heneiddio-Ystadegau-Allweddol-2026-1.pdf

 

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges