Sylw ar… Brofiadau LHDTC+: Dydy paratoi at y dyfodol ddim yn rhywbeth sy’n digwydd dros nos
Amanda Weir, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, MHA
Mae amrywiaeth ar gynnydd ymysg ein pobl hŷn. Heddiw, mae mwy na phedair gwaith yn fwy o bobl 45 i 64 oed sy’n ystyried eu hunain yn LHDTC+ na phobl 65 oed a hŷn. Dros y degawdau nesaf, bydd miloedd yn fwy o bobl LHDTC+ yn heneiddio ac yn dechrau defnyddio gwasanaethau gofal, tai a chymunedol.
I sefydliadau fel MHA mae hi’n anochel bod y newid hwn ar y gorwel. Ond ydyn ni’n barod am y newid hwnnw?
Creu gwasanaeth gofal sy’n gyfeillgar i bobl LHDTC+
Cafodd pobl hŷn heddiw eu magu yn ystod cyfnod pan roedd hi’n drosedd bod yn hoyw ac roedd gwahaniaethu’n beth cyffredin. Mae’n bosibl bod llawer o bobl sy’n uniaethu fel LHDTC+ wedi cuddio eu cyfeiriadedd rhywiol am y rhan fwyaf o’u bywydau, os nad drwy gydol eu bywyd. Mae’n bosibl y bydd rhai sy’n uniaethu’n agored fel LHDTC+ yn osgoi gofyn am wasanaethau gofal oherwydd bod arnyn nhw ofn y bydd yn rhaid iddyn nhw guddio pwy ydyn nhw oherwydd gwahaniaethu gan breswylwyr eraill neu hyd yn oed staff.
Yn MHA, mae hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth galon ein strategaeth. Dros y chwe blynedd diwethaf, rydyn ni wedi gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl LHDRC+ ar draws ein cartrefi gofal, ein cynlluniau byw ar ôl ymddeol, gwasanaethau Cymunedau MHA a’r cymunedau ehangach lle rydyn ni’n gweithio. Mae’n cynnwys y canlynol:
- mynd i ddigwyddiadau Balchder i wrando, i ddysgu ac i godi ymwybyddiaeth o MHA
- datblygu adnoddau LHDTC+ i gydweithwyr
- cefnogi rhwydwaith Balchder staff MHA
- recriwtio caplaniaid LHDTC+ er mwyn i’r preswylwyr gael gofal bugeiliol gan bobl sydd â phrofiad bywyd pan fo hynny’n briodol
- sicrhau bod cartrefi a gwasanaethau’n groesawgar i bawb
Byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwaith hwn drwy gefnogi’r cynlluniau hyn ar yr un pryd â chryfhau ein systemau a’n prosesau mewnol. Bydd hyn yn golygu ein bod yn gallu dechrau cael sgyrsiau sensitif a gwirfoddol gyda phreswylwyr ac aelodau am eu cyfeiriadedd rhywiol, pan fyddan nhw’n dewis rhannu hynny, er mwyn i ni allu deall yn well y bobl rydyn ni’n eu cefnogi a darparu gofal mwy personol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Dydy casglu’r wybodaeth hon ddim yn ymwneud â labeli. Mae’n ymwneud â sicrhau nad oes neb yn mynd yn anweledig yn nes ymlaen mewn bywyd. Drwy ddeall rhagor am y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, gallwn greu amgylcheddau lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cydnabod, eu parchu ac yn gallu bod yn nhw eu hunain.
Gwell cefnogaeth i’n cymunedau
Ers gormod o amser, mae pobl LHDTC+ wedi bod yn ystadegol anweledig yn aml. Os nad ydyn ni’n gwybod pwy rydyn ni’n eu cefnogi, mae’n anoddach o lawer deall a ydyn ni’n diwallu eu hanghenion. Drwy gasglu data preswylwyr ac aelodau, gallwn ddarparu gwell gwasanaethau, gweithgareddau a chaplaniaeth. Gallwn hefyd ddefnyddio’r wybodaeth hon i wella hyfforddiant staff a darparu tystiolaeth gryfach i gomisiynwyr, gan helpu i wella’r gofal i bobl hŷn LHDTC+ ar draws y sector.
Mae creu amgylcheddau lle gall pobl fod yn nhw eu hunain o fudd i bawb. Mae gofal da sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn dechrau drwy ddeall yr unigolyn, ei hanes, ei berthnasoedd, ei hunaniaeth a’r hyn sydd bwysicaf iddo.
Dydy paratoi at y dyfodol ddim yn rhywbeth sy’n digwydd dros nos. Rhaid gwrando, dysgu ac weithiau herio ein hunain i feddwl yn wahanol.
Yn MHA, rydyn ni’n falch o’n cynnydd, ond rydyn ni’n gwybod bod mwy i’w wneud. Wrth i genhedlaeth newydd ddod yn hŷn, byddwn yn parhau i weithio i sicrhau bod pob unigolyn yn gallu heneiddio gan wybod y bydd yn cael ei groesawu, ei barchu a’i gefnogi am fod yn nhw eu hunain.
“Mae MHA yn sefydliad sy’n gwneud mwy na goddef fy hunaniaeth LHDTC+, mae’n ei dathlu. Mae hynny’n gwneud i mi deimlo bod croeso i mi a’i bod yn ddiogel i mi fod yn fi fy hun, a gobeithio bod hyn yn gorlifo i’r gofal rydyn ni’n ei roi i bobl eraill.” Nat Gibbons, Caplan a Chadeirydd Rhwydwaith Balchder MHA
“Mae MHA yn sefydliad lle… rydw i wir yn teimlo bod gennym ni gyfle i fod yn ni ein hunain, sy’n mynd ymhell”. Cyn-gydweithiwr MHA
“Ar sail yr hyn sy’n digwydd yn y byd ar hyn o bryd, mae hi’n bwysicach nag erioed ein bod yn parhau i frwydro dros ddaioni.” Cyn-gydweithiwr MHA