Y Comisiynydd yn galw am ragor o weithredu gan fod un o bob pump o bobl dros 75 oed yng Nghymru yn dal wedi’u hallgáu’n ddigidol
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain amrywiaeth o gamau gweithredu i sicrhau bod ymrwymiadau polisi i fynd i’r afael ag allgáu digidol ymysg pobl hŷn yn cael eu trosi’n welliannau ystyrlon yn eu bywydau a’u profiadau o ddydd i ddydd.
Wrth gyhoeddi papur briffio newydd sy’n rhoi cipolwg ar y sefyllfa bresennol yng Nghymru, mae’r Comisiynydd hefyd yn rhybuddio, heb y gweithredu hwn, bod pobl hŷn mewn perygl o gael eu gadael ar ôl a’u hallgáu, ac nad ydynt yn gallu cael gafael ar wybodaeth, gwasanaethau a chymorth hanfodol.
Mae’r papur yn dangos, er bod tystiolaeth o fwy o ffocws ar allgáu digidol a’i effaith mewn polisi cyhoeddus ers cyhoeddi adroddiad Dim Mynediad y Comisiynydd yn 2024, nad oes llawer o dystiolaeth bod hyn wedi arwain at welliannau ystyrlon i bobl hŷn.
Adlewyrchir hyn mewn tystiolaeth a rannwyd â’r Comisiynydd gan bobl hŷn, sy’n dangos yn gyson bod allgáu digidol yn parhau i fod yn rhwystr rhag cael gafael ar wasanaethau a chymorth hanfodol.
Mae llawer o bobl hŷn hefyd yn wynebu rhwystrau oherwydd prinder gwasanaethau dros y ffôn, ar bapur neu wyneb yn wyneb, sy’n rhoi dewisiadau hanfodol yn lle gwasanaethau digidol i’r rheini nad ydynt ar-lein.
Mae tystiolaeth a gasglwyd drwy Wasanaeth Cyngor a Chymorth y Comisiynydd hefyd yn dangos bod y materion hyn yn dod yn fwy cyffredin ym mywydau pobl hŷn o ddydd i ddydd, gydag ymholiadau sy’n ymwneud ag allgáu digidol yn cynyddu dros 400% yn y 30 mis rhwng mis Ionawr 2024 a mis Gorffennaf 2026 o’i gymharu â’r 30 mis blaenorol.
Mae’r Comisiynydd yn galw am weithredu sy’n canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau allweddol i bobl hŷn, a fydd yn helpu i sicrhau bod llwyddiant cymorth cynhwysiant digidol yn cael ei fesur o ran ei effaith ar eu bywydau a’u profiadau, ac a fydd yn galluogi atebolrwydd cryfach.
Mae’r canlyniadau hyn yn rhoi dull cenedlaethol cydlynol, dan arweiniad Llywodraeth Cymru a gyda chefnogaeth ei phartneriaid cyflawni yn y sector cyhoeddus, a fydd yn hanfodol i sicrhau bod ymwybyddiaeth ac uchelgeisiau’n cael eu trosi’n welliannau ystyrlon ym mywydau bob dydd pobl hŷn.
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Er bod sgiliau digidol ymysg pobl hŷn wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae degau o filoedd o unigolion ledled Cymru yn dal i gael eu hallgáu’n ddigidol, gan gynnwys 1 o bob 5 o bobl 75+ oed. Pobl hŷn hefyd yw’r grŵp oedran lleiaf tebygol o feddu ar sgiliau digidol sylfaenol o hyd, ac mae Cymru’n parhau i fod â lefelau uwch o allgáu digidol na’r gyfran gyffredinol yn y DU.
“Fel y nodwyd yn fy mhapur, mae rhywfaint o gynnydd wedi cael ei wneud ers cyhoeddi Dim Mynediad yn 2024, gan gynnwys mentrau, canllawiau ac adnoddau newydd, yn ogystal â gwell dealltwriaeth o allgáu digidol a’i effaith ymysg llunwyr polisïau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
“Fodd bynnag, nid oes llawer o dystiolaeth bod hyn wedi arwain at welliannau ystyrlon ym mywydau pobl hŷn, fel sy’n cael ei adlewyrchu yn y profiadau a’r pryderon y mae llawer o unigolion ledled Cymru yn parhau i’w rhannu â mi.
“Dyna pam fy mod yn galw am weithredu sy’n canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau allweddol i bobl hŷn: sicrhau bod modd cael gafael ar wasanaethau allweddol all-lein, gwneud llwyfannau digidol yn gynhwysol ac yn hygyrch, a rhoi cyfleoedd i bobl hŷn ddylanwadu ar ddatblygiad gwasanaethau digidol.
“Nid dim ond gwneud rhai gweithgareddau’n haws neu’n fwy cyfleus yw bod ar-lein bellach, mae’n aml yn hanfodol er mwyn i ni allu cymryd rhan mewn bywyd bob dydd ac mae’n dod yn fwyfwy pwysig o ran cydraddoldeb, cyfranogiad, hawliau ac annibyniaeth.
“Felly, mae mynd i’r afael ag allgáu digidol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi fel Comisiynydd a pham mae angen ymateb cryfach a mwy cydlynol ledled Cymru, dan arweiniad Llywodraeth Cymru ac wedi’i gefnogi gan ei phartneriaid cyflawni yn y sector cyhoeddus.”
Darllenwch bapur briffio'r Comisiynydd Fersiwn HTML