Angen Help?

Ymgynghoriad y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau: Tlodi pensiynwyr – heriau a mesurau lliniaru

Ymgynghoriad y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau: Tlodi pensiynwyr – heriau a mesurau lliniaru

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a sefydlwyd gan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 sy’n nodi manylion rôl a phwerau statudol y Comisiynydd, yn llais annibynnol ac yn hyrwyddo hawliau pobl hŷn ledled Cymru.  Rôl y Comisiynydd yw hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru, herio gwahaniaethu, annog arfer gorau ac adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

 

Crynodeb

  • Mae gan Gymru ganran uwch o bobl hŷn na gweddill y DU, gyda chyfran fwy yn byw mewn tlodi cymharol o ran incwm.
  • Mae angen archwilio a sefydlu faint o incwm sydd ei angen ar gyfer ymddeoliad urddasol sy’n sicrhau bywyd o ansawdd da, yn hytrach na dim ond darparu’r hanfodion sydd eu hangen i oroesi. Yna mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddatblygu a gweithredu cynlluniau i sicrhau bod pawb yn gallu cael y lefel hon o incwm.
  • Mae angen cynnal asesiadau effaith mwy ystyrlon o benderfyniadau polisi sy’n effeithio ar bobl hŷn, a dylid cynnwys gwaith penodol i sicrhau nad yw penderfyniadau’n cael eu dylanwadu gan dybiaethau neu agweddau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran mewn cynigion polisi yn y dyfodol.
  • Dylai llywodraethau ar bob lefel gymryd agwedd fwy rhagweithiol tuag at nodi pobl hŷn sy’n debygol o fod yn colli allan ar hawliadau ariannol a’u hannog i hawlio. Rhaid i hyn fynd y tu hwnt i weithgarwch codi ymwybyddiaeth cyffredinol a chanolbwyntio ar gymorth wedi’i deilwra a’i bersonoli.
  • Dylid symleiddio mwy ar y broses o wneud cais am fudd-daliadau gan dynnu sylw pobl hŷn sy’n debygol o fod yn gymwys i gael budd-daliadau ychwanegol at hyn a, lle bo’n bosibl, eu cyfeirio i’w derbyn.
  • Dylai’r iaith o ddefnyddir wrth sôn am fudd-daliadau newid ffocws i ddisgrifio cymorth ariannol o’r fath fel ‘hawliadau’ a dylid rhoi’r gorau i ddefnyddio unrhyw iaith negyddol i ddisgrifio hawlwyr. Gall yr iaith a ddefnyddir atal pobl hŷn rhag cael gafael ar y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.
  • Dylai Llywodraeth y DU roi cymorth penodol i bobl hŷn nad ydynt yn gymwys i gael Credyd Pensiwn ac sy’n colli allan o fymryn bach (ychydig bunnoedd neu geiniogau). Ni ddylai cymorth ddibynnu ar nifer o wahanol gynlluniau sy’n amrywio ar draws awdurdodau lleol, gan arwain at loteri cod post.
  • Dylid ailsefydlu’r Lwfans Tanwydd Gaeaf gan sicrhau bod pob person hŷn yn derbyn cymorth yn ystod misoedd oeraf y gaeaf.

Cyflwyniad

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau ar ‘Dlodi pensiynwyr – heriau a mesurau lliniaru’.  Mae effaith niweidiol tlodi ar bobl hŷn yng Nghymru yn achos pryder difrifol i’r Comisiynydd ac mae’n bwnc a godir gan bobl hŷn mewn amryw o ffyrdd.

Hoffai’r Comisiynydd gynnig sylwadau ar y meysydd a nodir isod.

 

Beth yw cyflwr tlodi pensiynwyr ar draws y Deyrnas Unedig? Pa grwpiau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio? 

Mae bron i 1 o bob 6 o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol o ran incwm (16%).[i]  Mae hyn yn codi gydag oedran: mae 17% o bobl 65-69 a 75-79 oed yn byw mewn tlodi cymharol o ran incwm, gan gynyddu ymhellach i 18% ar gyfer pobl 80-84 oed ac 20% o bobl 85+ oed.[ii]  Mae effeithiau’r argyfwng costau byw parhaus yn parhau i gael eu teimlo, sy’n golygu nad yw pobl hŷn ar yr incwm isaf yn gallu fforddio gwresogi eu cartrefi na chael digon o fwyd.  Mae hyn yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn.

Mae gan Gymru, ar gyfartaledd, fwy o bobl hŷn na rhannau eraill o’r DU.  Mae pobl dros 60 oed yn cyfateb i 28.2% o boblogaeth Cymru, o’i gymharu â 24.7% yn Lloegr a 24.9% yn y DU gyfan.[iii]

Yn ogystal â chael canran uwch o bobl hŷn, mae gan Gymru gyfran uwch o bobl hŷn sy’n byw mewn tlodi cymharol o ran incwm hefyd. Cyn costau’r cartref, mae 19% o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol o ran incwm, o’i gymharu â 17% yn yr Alban, 18% yn Lloegr a chyfartaledd y DU o 18%.

Mae rhai grwpiau o bobl hŷn yn teimlo effaith tlodi’n waeth nag eraill, ac mae colli allan ar Gredyd Pensiwn yn effeithio’n arbennig ar bobl hŷn o’r grwpiau hyn.  Er enghraifft, nid yw llawer o fenywod hŷn yn cael Pensiwn y Wladwriaeth yn ‘llawn’, gan eu bod yn fwy tebygol o fod wedi cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd cyfrifoldebau gofalu, ac mae menywod yn fwy tebygol o brofi tlodi parhaus o gymharu â dynion.

Mae tlodi mewn pobl hŷn yn fwy tebygol o effeithio ar bobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain, gyda 24% o ddynion a menywod hŷn sengl yn byw mewn tlodi cymharol o ran incwm, o’i gymharu â 14% o bobl hŷn sy’n byw fel cwpl.[iv] Hefyd dangosodd ymchwil gan Age UK ym mis Mai 2021 fod pobl hŷn Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig tua dwywaith yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi na phobl hŷn Wyn.[v]

 

I ba raddau y mae Pensiwn presennol y Wladwriaeth a budd-daliadau eraill i rai o oedran pensiwn yn atal tlodi pensiynwyr? Pa hanfodion y dylai Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau oedran pensiwn eraill eu darparu?

Mae Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth (ar gyfer unrhyw un sy’n gymwys cyn 6 Ebrill 2016) yn werth £8,814 y flwyddyn ar hyn o bryd.[vi]  Gwerth llawn Pensiwn newydd y Wladwriaeth yw £11,502.40.[vii]  Mae’n bwysig cofio nad yw pawb yn gymwys i gael Pensiwn llawn y Wladwriaeth, naill ai sylfaenol neu newydd.  Mae menywod, a allai fod wedi colli allan ar gyfraniadau o ganlyniad i gymryd amser i ffwrdd i ofalu am deulu neu sydd wedi gweithio’n rhan amser, yn arbennig o debygol o gael eu heffeithio.

Yng Nghymru, cafodd 646,234 o bobl ryw fath o bensiwn y wladwriaeth ym mis Mai 2024. O’r rhain, dim ond 213,817 (33%) a dderbyniodd bensiwn newydd y wladwriaeth.[viii]

Mae Credyd Pensiwn yn darparu arian ychwanegol a all helpu gyda chostau byw i bobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar incwm isel, gan ychwanegu at incwm wythnosol person sengl i £218.15 (£332.95 i gyplau).[ix]  Ar gyfer person hŷn sengl, mae hyn yn cyfateb i £11,343.80, ac ar gyfer cyplau, £17,313.40.  Mae Credyd Pensiwn hefyd yn datgloi hawliau eraill sy’n darparu cymorth ariannol pellach, gan gynnwys gostyngiadau yn y dreth gyngor a chymorth gyda chostau tai, gofal deintyddol a llygaid am ddim, a Thrwyddedau Teledu am ddim i bobl 75+ oed.

Mae bron i 1 o bob 6 o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol o ran incwm (16%) ac amcangyfrifir bod tua 50,000 o bobl yn gymwys i gael Credyd Pensiwn ond nad ydynt yn hawlio ar hyn o bryd.  Efallai bod penderfyniad Llywodraeth y DU i gyfyngu taliadau Tanwydd Gaeaf yn y dyfodol i bobl hŷn yn unig sy’n derbyn Credyd Pensiwn wedi effeithio ar y rhif hwn, a’r gobaith yw y bydd cyfraddau hawlio yn cynyddu.  Cyn hyn, amcangyfrifodd yr Adran Gwaith a Phensiynau nad oedd 33% o ddynion hŷn sengl cymwys, 33% o fenywod sengl cymwys a 31% o gyplau cymwys yn derbyn Credyd Pensiwn.

Nid yw Pensiwn presennol y Wladwriaeth a budd-daliadau i rai o oedran pensiwn yn galluogi pob person hŷn i gael safon byw ddiogel, iach a chyfforddus yn ddiweddarach mewn bywyd, sy’n golygu bod llawer mewn tlodi fel y dangosir uchod.  Mae’r argyfwng costau byw a’r cynnydd mewn prisiau ynni wedi erydu incwm, problem benodol i bobl sy’n byw ar incwm sefydlog.  Nododd ymchwil gan Brifysgol Loughborough a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2024 fod “safonau byw yn y DU wedi arafu (OBR, 2023) ac mae gan gyfran gynyddol o bensiynwyr incwm nad yw’n cyrraedd y lefel sydd ei hangen ar gyfer isafswm safon byw sy’n dderbyniol yn gymdeithasol, yr incwm sydd ei angen arnynt i fyw gydag urddas yn y DU.”[x]

Nid yw pobl hŷn eisoes yn hawlio’r holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo.  Ym mis Rhagfyr 2022, cynhaliodd cyn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru Uwchgynhadledd Credyd Pensiwn.  Roedd y canfyddiadau’n amlygu bod y rhesymau pam nad yw pobl hŷn yn hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt yn cynnwys stigma, cywilydd ac embaras – ddim eisiau ymddangos bod angen cymorth ariannol ychwanegol arnynt.[xi]  Mae hyn yn awgrymu y bydd Lwfans Tanwydd Gaeaf ar sail prawf modd yn golygu y bydd pobl hŷn ar incwm sy’n ddigon isel i fod yn gymwys ddim yn ei dderbyn.

Mae ymdrechion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar Gredyd Pensiwn wedi canolbwyntio’n bennaf ar godi ymwybyddiaeth.  Fodd bynnag, ar ôl nifer o flynyddoedd o weithgarwch, mae’n amlwg nad diffyg ymwybyddiaeth yw’r broblem o reidrwydd.  Cyfeiria pobl hŷn hefyd at gael eu digalonni gan ffurflenni cymhleth a hir, stigma a’u bod yn credu y byddai’r llywodraeth yn rhoi gwybod iddynt pe baent yn gymwys.[xii]

Yn seiliedig ar ymchwil gan Brifysgol Loughborough, mae’r Safonau Byw ar ôl Ymddeol yn nodi tair lefel o sut y gallai bywyd ar ôl ymddeol edrych a’r lefelau gwariant blynyddol sydd ei angen er mwyn fforddio pob un.[xiii]  Mae’r isafswm lefel yn gofyn am £14,400 ar gyfer person sengl a £22,400 ar gyfer cwpl.  Er bod y safon isaf yn cynnwys gwariant y tu hwnt i oroesi yn unig, ni ellid ei ddisgrifio fel gwariant sy’n ormodol.  Mae bwlch sylweddol rhwng y safon isaf a Phensiynau sylfaenol a newydd llawn y Wladwriaeth, hyd yn oed os bydd Credyd Pensiwn ar ben hynny.

Mae cynnwys dyraniad bach tuag at DIY a chynnal a chadw eiddo, dillad, ynghyd â gwasanaeth teledu, band eang a ffrydio sylfaenol, er enghraifft, yn adlewyrchu safonau byw sylfaenol cyffredinol, a’r ffaith bod mwy a mwy o wasanaethau hanfodol yn cael eu darparu’n bennaf ar-lein.  Fel y cyfeiriwyd ato uchod, mae’r isafswm safon byw sy’n dderbyniol yn gymdeithasol yn adlewyrchu’r incwm sydd ei angen ar bobl hŷn i allu byw gydag urddas yn y DU.

Croesewir y cynnydd blynyddol ym Mhensiynau sylfaenol a newydd y Wladwriaeth ond ni ddylid ystyried hyn yn lle Lwfans Tanwydd Gaeaf ond yn hytrach i fynd i’r afael â chwyddiant dros y 12 mis blaenorol.  Nid yw’r cynnydd yn dechrau tan fis Ebrill 2025, ar ôl tywydd oeraf y gaeaf, ac mae’n cael ei ledaenu dros 12 mis.

Mae angen archwilio a sefydlu faint o incwm sydd ei angen ar gyfer ymddeoliad urddasol sy’n sicrhau bywyd o ansawdd da, yn hytrach na dim ond darparu’r hanfodion sydd eu hangen i oroesi.  Yna mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddatblygu a gweithredu cynlluniau i sicrhau bod pawb yn gallu cael y lefel hon o incwm.

 

Sut mae pensiynwyr mewn tlodi yn rheoli costau bwyd, ynni a’r cartref gyda’r incwm sydd ganddynt?

Dywed pobl hŷn eu bod yn troi at fesurau eithafol i reoli gwariant hanfodol yn seiliedig ar yr incwm sydd ganddynt.  Yn Hydref 2024, clywodd y Comisiynydd gan bobl hŷn sydd wedi gwneud heb un pryd o fwyd y dydd er mwyn ceisio fforddio costau gwresogi eu cartref.  Mae eraill wedi cysylltu â’r Comisiynydd gan ddweud bod taliadau Tanwydd Gaeaf yn y gorffennol wedi bod yn achubiaeth i dalu am hyd yn oed y mymryn lleiaf o wres.

Ym mis Mawrth 2023, canfu ymchwil ar ran Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, oedd yn canolbwyntio ar bobl 60 oed a hŷn yng Nghymru, fod 64% o’r ymatebwyr wedi gwario llai yn ystod y 12 mis blaenorol.  Dywedodd ymatebwyr mai’r prif feysydd yr oeddent wedi gwario llai arnynt oedd:

  • Ynni (84%)
  • Siopa bwyd (83%)
  • Gweithgareddau cymdeithasol (65%)
  • Dillad newydd (64%)
  • Trafnidiaeth (51%)
  • Gwyliau (51%)
  • Dŵr (38%)
  • Ffôn/Rhyngrwyd (27%).

Bydd y camau hyn yn arwain at effaith niweidiol ar iechyd a lles pobl hŷn.

 

Pa effaith mae costau byw yn ei chael ar iechyd pensiynwyr mewn tlodi? Pa effaith mae hyn yn ei chael ar y GIG a gofal cymdeithasol?

Yn ogystal â’r effaith a nodir uchod, mae’n bwysig nodi mai Cymru sydd â’r stoc dai hynaf yn y DU[xiv] sy’n golygu bod llawer o dai wedi’u hinswleiddio’n wael.  Mae hyn yn arwain at gostau ynni uwch ac yn golygu bod tlodi tanwydd yn broblem benodol.  Mae’r amcangyfrifon presennol o dlodi tanwydd yng Nghymru yn seiliedig ar Arolwg Byw yng Nghymru 2008 ac Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18. Nid yw hyn felly yn rhoi darlun cywir o dlodi tanwydd yng Nghymru, gan fod yr arolygon yn seiliedig ar ddata sydd wedi dyddio. Mae nifer o ffactorau wedi effeithio ar incwm cartrefi a chostau byw ers hynny, megis chwyddiant, newidiadau mewn patrymau cyflogaeth, ac effaith COVID-19 a Brexit. Mae’r ffactorau hyn yn dylanwadu ar dlodi tanwydd, gan wneud unrhyw ddata hŷn yn llai perthnasol a dibynadwy.

Mae tlodi tanwydd yn arwain at gartrefi oer, sy’n cyfrannu at farwolaethau ychwanegol y gaeaf ac at wahanol salwch symptomatig. Mae pobl hŷn yn debygol o gael eu heffeithio’n anghymesur gan newidiadau mewn tymheredd a achosir gan dywydd oerach. Mae 75% o farwolaethau ychwanegol y gaeaf yn bobl 75 oed neu’n hŷn.[xv] Mae’r person hŷn cyffredin a gefnogir gan Gofal a Thrwsio (elusen sy’n helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol trwy waith atgyweirio, addasiadau a chynnal a chadw’r cartref) yn gwario 19% o’u hincwm ar gyfleustodau dros y gaeaf.  Yng ngaeaf 2022/23, roedd cleientiaid a ymgysylltodd â gwasanaeth tlodi tanwydd a chyngor ynni Gofal a Thrwsio yn gwario 25% o’u hincwm ar gyfleustodau ar gyfartaledd.

Gall tywydd oer a byw mewn cartref oer effeithio ar gyflyrau anadlu a chylchrediad y gwaed, clefyd cardiofasgwlaidd ac anafiadau damweiniol, a’u gwneud yn waeth.[xvi] Mae ymchwil hefyd yn dangos cysylltiad rhwng tymereddau oer mewn cartrefi a dirywiad mewn iechyd meddwl. Mae hen stoc dai Cymru ac effeithlonrwydd ynni gwael yn arwain at gostau sylweddol i GIG Cymru: yn 2019, amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod effaith tywydd oer wedi cynyddu’r costau i’r gwasanaeth iechyd sy’n gysylltiedig â thai o ansawdd gwael o tua £41M, gan ddod â’r cyfanswm i bron i £100M y flwyddyn.[xvii]  Mae mynd heb fwyd neu beidio â bwyta digon dros amser yn arwain at ddiffyg maeth, sy’n cynyddu’r risg o fregusrwydd, mwy o ymweliadau â meddygon teulu, derbyniadau i’r ysbyty a hyd arhosiad yn yr ysbyty.[xviii]

Mae angen cyffredinol am Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb mwy ystyrlon sy’n ystyried effaith penderfyniadau polisi ar bobl hŷn, gan gynnwys y galw tebygol ar ofal iechyd a gwasanaethau eraill.  Dylid asesu effaith gronnol penderfyniadau, er enghraifft, fel na ddylai’r penderfyniad i newid cymhwysedd ar gyfer Lwfans Tanwydd Gaeaf gael ei ystyried ar wahân i benderfyniadau polisi eraill.

Mae angen deall yn well y risg y bydd un grŵp o ddinasyddion yn rhoi pwysau anghymesur ar amrywiaeth o ddewisiadau polisi e.e. toriadau i drafnidiaeth neu wasanaeth llyfrgell ar y cyd â phenderfyniadau eraill.  Mae hyn hefyd yn berthnasol i’r menywod hynny yr effeithiwyd arnynt gan newidiadau i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (WASPI – Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth) lle dylid edrych ar effaith penderfyniad diweddar Llywodraeth y DU i beidio â thalu unrhyw iawndal ochr yn ochr â newidiadau i’r Lwfans Tanwydd Gaeaf.

Gallai Swyddfa Cydraddoldeb a Chyfleoedd Llywodraeth y DU hefyd chwarae rhan flaenllaw mewn ‘prawfesur’ cynigion polisi ‘o safbwynt oedran’ i sicrhau nad yw gwahaniaethu ar sail oedran yn effeithio ar ddewisiadau polisi yn anfwriadol ac yn annheg.  Byddai hyn o fudd wrth ddatblygu polisi yn y dyfodol i fynd i’r afael â thlodi ar draws gwahanol gyfnodau bywyd.

 

Pa fesurau i wrthbwyso effaith costau byw ar bensiynwyr sydd fwyaf effeithiol? Sut mae’r rhain yn amrywio yn y gwledydd datganoledig?

Roedd talu Lwfans Tanwydd Gaeaf i bob person hŷn yn ffordd sicr o gyrraedd pob person hŷn heb fod angen prawf modd cymhleth na rhoi’r cyfrifoldeb ar unigolion i’w hawlio.  Mae prawf modd yn golygu bod pobl hŷn yn colli allan ar hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt am y rhesymau a nodir uchod.  Er bod nifer fach o bobl hŷn wedi cysylltu â’r Comisiynydd i ddweud nad oes angen y taliad arnynt, mae angen gosod hyn yn erbyn yr anawsterau i sicrhau bod pobl hŷn sy’n dibynnu ar y taliad yn ei dderbyn, a’r effaith o ganlyniad i hynny ar iechyd a lles.

Mae cymorth penodol i Gymru yn unig sydd ar gael i bobl hŷn yn cynnwys Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) Llywodraeth Cymru sy’n darparu taliadau brys i’r rhai mewn argyfwng, a chymorth drwy’r Sefydliad Banc Tanwydd, sy’n darparu gwasanaeth sy’n cyfateb i fanciau bwyd ond ar gyfer ynni.  Nid oes taliad Tanwydd Gaeaf penodol bellach ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Mae nifer y bobl hŷn sy’n defnyddio’r DAF yn isel o gymharu â grwpiau oedran eraill. Mae’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer bod yn gymwys i gael taliadau yn gyfyng, er enghraifft ‘byddwch mewn caledi ariannol difrifol, er enghraifft eich bod wedi colli’ch swydd, wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf neu heb arian i brynu bwyd, nwy a thrydan’.[xix]  Mae hyn yn rhwystro llawer o bobl hŷn y mae angen cymorth arnynt, er enghraifft, o ganlyniad i dlodi tanwydd ond nad ydynt mewn argyfwng gwirioneddol.  Hyd yn oed pe bai person hŷn yn gymwys i gael yr uchafswm o dan y DAF, ni fyddai hyn yn swm cyfartal i golli’r Taliad Tanwydd Gaeaf o £200 hyd yn oed.

Mae’r ffigurau DAF diweddaraf (Mehefin 2024)[xx] yn dangos bod 810 o bobl rhwng 69 a 69 oed yn derbyn cymorth trwy’r llwybr hwn, tra bod y niferoedd ar gyfer pobl dros 70 oed hyd yn oed yn is, gyda dim ond 160 o daliadau. Mae hyn yn cyferbynnu â 2,235 o bobl rhwng 50 a 59 oed.

 

Sut y gall cymorth gael ei dargedu’n fwy effeithiol at bensiynwyr mewn tlodi? / Beth sydd ei angen i wella mynediad a manteisio ar Gredyd Pensiwn a chymorth nawdd cymdeithasol arall i bensiynwyr mewn tlodi? A oes digon o ddata i allu targedu cymorth yn effeithlon? A oes mecanweithiau cyflawni sy’n fodd i dargedu’n effeithiol?

Dylid ailsefydlu’r Lwfans Tanwydd Gaeaf gan sicrhau bod pob person hŷn yn derbyn cymorth yn ystod misoedd oeraf y gaeaf.  Mae hyn yn osgoi cymhlethdodau prawf modd a byddai’n sicrhau nad oes unrhyw berson hŷn bregus yn colli allan.

Un ffordd o dargedu mathau eraill o gymorth yn fwy effeithiol fyddai i Lywodraethau Cymru a’r DU weithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau ac awdurdodau lleol i ddefnyddio data presennol i nodi a thargedu pobl hŷn yn benodol sy’n debygol o fod yn gymwys ond nad ydynt yn hawlio Credyd Pensiwn neu fudd-daliadau eraill ar hyn o bryd.  Mae angen i’r llywodraeth fod yn gyfrifol am nodi a chysylltu’n uniongyrchol â phobl sy’n gymwys ar gyfer hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt, yn hytrach na bod y cyfrifoldeb ar bobl hŷn i ganfod pa gymorth sydd ar gael a mynd drwy’r broses ymgeisio heb gefnogaeth.

Gallai targedu gynnwys llythyrau unigol, galwadau ffôn, a chefnogaeth bersonol i helpu i gwblhau ceisiadau a gallai awdurdodau lleol a mudiadau trydydd sector wneud hyn.  Byddai angen adnoddau ychwanegol ar awdurdodau lleol a’r trydydd sector i gynyddu eu gwaith yn y maes hwn ond heb hyn, bydd pobl hŷn sydd eisoes ar yr incwm isaf ac sy’n gymwys i gael Credyd Pensiwn, Lwfans Tanwydd Gaeaf a hawliadau eraill, yn dal i golli allan.  Mae cymorth personol, p’un ai i annog pobl i fanteisio ar incwm a sicrhau cymaint â phosibl o incwm neu i helpu i gwblhau’r ffurflenni angenrheidiol, yn arbennig o werthfawr.

Dylai cyfeirio pobl hŷn a sicrhau, pan fyddant yn gymwys am un math o hawliad, eu bod yn cael eu rhybuddio a’u cefnogi i wneud cais am bob un arall y maent yn gymwys i’w cael, ddod yn arfer safonol.  Dylid rhoi pwyslais ar symleiddio budd-daliadau a gwneud y broses mor syml â phosibl, yn unol â Siarter Budd-daliadau bresennol Llywodraeth Cymru.[xxi]

Mae angen mynd ati ar frys i ddatrys y dull sy’n pennu’r trothwy o ran Credyd Pensiwn, pan fo rhywun ond fymryn bach dros y trothwy cymhwysedd (mewn rhai achosion, dim ond ychydig bunnoedd neu hyd yn oed ceiniogau) a’u bod yn colli allan nid yn unig ar Gredyd Pensiwn ond yr holl hawliadau cysylltiedig.  Gallai hyn fod drwy ddull graddedig neu ddull arall ond mae’n rhaid unioni’r sefyllfa lle gall pobl hŷn fod ar incwm isel iawn ond eto yn anghymwys i gael Credyd Pensiwn.

Dylai Llywodraeth y DU roi cymorth penodol i bobl hŷn nad ydynt yn gymwys i gael Credyd Pensiwn ac sy’n colli allan yn sgil swm bach iawn (ychydig bunnoedd neu geiniogau).  Ni ddylai cymorth ddibynnu ar nifer o wahanol gynlluniau sy’n amrywio ar draws awdurdodau lleol, gan arwain at loteri cod post.

Mae’r iaith a ddefnyddir wrth sôn am gymorth ariannol hefyd yn bwysig wrth annog pobl hŷn i wneud cais.  Gall hawliadau fod yn derm mwy defnyddiol na budd-daliadau.  Dylai cynnal urddas a pharch pobl hŷn sy’n gymwys i gael cymorth ariannol fod yn ystyriaethau allweddol ar gyfer rhannu gwybodaeth ynghylch hawliadau a manteisio arnynt yn ogystal ag wrth hyfforddi staff sy’n delio â cheisiadau.

 

 

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn llais annibynnol ac yn hyrwyddo hawliau pobl hŷn ledled Cymru.

Mae’r Comisiynydd yn gweithio tuag at Gymru sy’n arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda.

 

Sut i gysylltu â’r Comisiynydd:

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Adeiladau Cambrian

Sgwâr Mount Stuart

Caerdydd

CF10 5FL

 

Ffôn:   03442 640 670

E-bost:          ask@olderpeople.cymru

Gwefan:        www.olderpeople.wales

Trydar:          @talkolderpeople

 

[i] StatsCymru (2024) Canran yr holl unigolion, plant, oedolion oedran gweithio a phensiynwyr sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer gwledydd a rhanbarthau’r DU rhwng y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 1995 a FYE 2023 (cyfartaledd o 3 blynedd ariannol) (llyw.cymru).

[ii] Stats Cymru (2024) Pensiynwyr mewn tlodi incwm cymharol yn ôl oedran pennaeth yr aelwyd. Mawrth 2023. Ar gael yn:

Pensiynwyr mewn tlodi incwm cymharol yn ôl oedran y penteulu.  Sylwch fod y ffigurau sydd ar gael ar gyfer y rhai dros 80 oed yn seiliedig ar feintiau sampl cyfyngedig iawn.

[iii] StatsCymru (2024) Amcangyfrifon poblogaeth lefel genedlaethol yn ôl blwyddyn, oedran a gwlad y DU. Ar gael yn: Amcangyfrifon poblogaeth lefel cenedlaethol fesul blwyddyn, oed a gwlad y DU (llyw.cymru)

[iv] StatsCymru (2024) Pobl mewn tlodi incwm cymharol yn ôl math o deulu. Ar gael yn: Pobl mewn tlodi incwm cymharol yn ôl math o deulu (llyw.cymru)

[v] AgeUK (2021) Ethnicity and Financial Disadvantage in Later Life ethincity_and_financial_disadvantge_in_later_life_may_2021.pdf (ageuk.org.uk).

[vi] Gweler Llywodraeth y DU: The basic State Pension: How much you get – GOV.UK

[vii] Gweler Llywodraeth y DU: The new State Pension: What you’ll get – GOV.UK

[viii] Yr Adran Gwaith a Phensiynau (2024) State Pension. Ar gael yn: Stat-Xplore – Home

[ix] Llywodraeth y DU (2024): Pension Credit: What you’ll get – GOV.UK (www.gov.uk)..

[x] Chwefror 2024. Retirement living standards in the UK in 2023_FINAL.pdf, tudalen 1

[xi] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. (2023), O’r Trysorlys i Dreorci: Cynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru

[xii] Tatiana Sherwood, Independent Age (2024), “Jumping through hoops”: Older people’s experiences of claiming social security entitlements, ar gael yn: Pensioners’ experiences of claiming social security | Independent Age

[xiii] Cymdeithas Pensiynau a Chynilion Gydol Oes (2023), ), Retirement Living Standards, Home – PLSA – Retirement Living Standards

[xiv] Arolwg Cyflwr Tai Cymru (prif ganlyniadau): Ebrill 2017 i Fawrth 2018. Ar gael yn:

https://www.llyw.cymru/arolwg-cyflwr-tai-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2017-i-mawrth-2018?_gl=1*8494bf*_ga*MTU3NzkzMDA4NC4xNzM2MzQ0MTAy*_ga_L1471V4N02*MTczNjM1NTEwMC4xLjEuMTczNjM1Njk3Ny4wLjAuMA..

[xv] Gofal a Thrwsio (2024) Pobl hŷn yng Nghymru: Tlodi yn y Gaeaf. Ar gael yn: careandrepair.org.uk/winter-report/

[xvi] Iechyd Cyhoeddus Lloegr/UCL Sefydliad Ecwiti Iechyd (2014), Local action on health inequalities: Fuel poverty and cold home-related health problems t. 4. Ar gael yn: read-the-report.pdf

[xvii] S, Garrett H, Woodfine L, Watkins G, Woodham A. (2019). Cost lawn tai gwael yng Nghymru, Building Research Establishment Ltd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru.  Ar gael yn: Cost Lawn Tai Gwael yng Nghymru 2-1.pdf (phwwhocc.co.uk)

[xviii] Llywodraeth y DU (2017), Asesiad effaith: Helping older people maintain a healthy diet: A review of what works. Ar gael yn: Helping older people maintain a healthy diet: A review of what works – GOV.UK (www.gov.uk)

[xix] Canllawiau ar y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF). Ar gael yn: https://www.gov.wales/discretionary-assistance-fund-daf/eligibility

[xx] Cronfa Cymorth Dewisol yn ôl Oedran – Data misoedd (Ebrill 2023 ymlaen). Ar gael yn: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Community-Safety-and-Social-Inclusion/discretionary-assistance-fund/discretionaryassistancefund-by-age-monthly

[xxi] Llywodraeth Cymru (2024), Siarter Budd-daliadau Cymru, ar gael yn: Siarter Budd-daliadau Cymru – Chwefror 2024

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges