O Ymrwymiad Polisi i Fynediad Cyfartal: Mynd i’r afael ag allgáu digidol yng Nghymru
Mae newidiadau cyflym i’r ffyrdd y mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u darparu yn golygu nad yw bod ar-lein bellach yn fater o wneud gweithgareddau penodol yn haws neu’n fwy cyfleus yn unig. Mae bod ar-lein bellach yn hollbwysig i’n galluogi i gymryd rhan ym mywyd bob dydd ac mae’n gynyddol bwysig o ran cydraddoldeb, cyfranogiad, hawliau ac annibyniaeth.
Mae pobl hŷn ledled Cymru yn rhannu pryderon â’r Comisiynydd yn gyson am effaith allgáu digidol ar eu bywydau, a’r rhwystrau y mae’n ei greu wrth iddynt geisio cael gafael ar wybodaeth, gwasanaethau a chyfleoedd hanfodol.
Mae’r profiadau hyn yn cael eu hadlewyrchu mewn amrywiaeth o waith ymchwil a data sy’n dangos bod miloedd o bobl hŷn ledled Cymru yn dal wedi’u hallgáu’n ddigidol, gan gynnwys 1 o bob 5 o bobl 75 oed a hŷn.
Pobl hŷn hefyd yw’r grŵp oedran lleiaf tebygol o feddu ar sgiliau digidol sylfaenol o hyd, ac mae Cymru’n parhau i fod â lefelau uwch o allgáu digidol na’r gyfran gyffredinol yn y DU.
Dyna pam mae cymryd camau i fynd i’r afael ag allgáu digidol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Comisiynydd, a pham mae angen ymateb cryfach a mwy cydlynol ar draws Cymru, o dan arweiniad Llywodraeth Cymru.
Mae’r papur hwn yn archwilio’r cynnydd a wnaed hyd yma ac yn tynnu sylw at y problemau a’r rhwystrau y mae miloedd o unigolion yn dal i’w hwynebu, yn ogystal â nodi’r camau sydd eu hangen i sicrhau bod ymrwymiadau polisi yn arwain at welliannau ystyrlon ym mywydau a phrofiadau bob dydd pobl hŷn.
Cefndir a chyd-destun cyfredol
Wrth ymateb i gyhoeddi adroddiad y Comisiynydd, Dim Mynediad, yn 2024, tynnodd Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus allweddol eraill sylw at ystod o gamau roedden nhw’n eu cymryd i fynd i’r afael â’r problemau a nododd.1,2
Roedd hyn yn cynnwys polisïau, rhaglenni a chanllawiau newydd, yn ogystal ag ymrwymiadau ehangach i weithio gyda phartneriaid a rhwydweithiau i sicrhau bod anghenion pobl hŷn sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn cael eu cydnabod a’u deall.
Y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol
Mae’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol, sy’n ystyried a oes gan bobl y cysylltedd, y dyfeisiau, y sgiliau, y wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen i gymryd rhan mewn cymdeithas fodern, yn llywio dull Llywodraeth Cymru fwyfwy tuag at gynhwysiant digidol ac sydd bellach yn cael ei adlewyrchu mewn elfennau datblygu polisi, ymchwil, dulliau mesur a rhaglenni cyflenwi.3
Canllawiau ar ddylunio gwasanaethau cynhwysol
Yn 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau a ddatblygwyd gyda chymorth y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i helpu sefydliadau’r sector cyhoeddus i ddylunio gwasanaethau cynhwysol ac i osgoi dulliau digidol yn unig.4 Mae’r Canllawiau yn pwysleisio pwysigrwydd dylunio gwasanaethau hygyrch a chynhwysol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol hefyd wedi datblygu canllawiau ar ddylunio gwasanaethau hygyrch, cynhwysol a chynaliadwy, gan gynnwys gwasanaethau i bobl hŷn a phobl sydd wedi’u heffeithio gan allgáu digidol.5
Pecyn Cymorth Gwerthuso Cynhwysiant Digidol
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Becyn Cymorth Gwerthuso Cynhwysiant Digidol ym mis Chwefror 2025, sy’n anelu at gefnogi grwpiau a mudiadau cymunedol i werthuso effaith prosiectau a gweithgaredd cynhwysiant digidol.6 Mae’r pecyn cymorth yn pwysleisio’n benodol bwysigrwydd gwerthuso effaith a chanlyniadau hirdymor, a deall a yw’r cymorth yn gwneud gwahaniaeth positif.
Cynhwysiant Digidol Cymru
Mae’r rhaglen Cynhwysiant Digidol Cymru, a lansiwyd yn 2025, yn cynnig cyngor, adnoddau a chymorth ymarferol i helpu mudiadau i ymgorffori cynhwysiant digidol i bolisïau, dylunio gwasanaethau ac arferion bob dydd.7 Ochr yn ochr â’r rhaglen genedlaethol, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar newid sefydliadol a systemig, mae cyllid grant Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau a ddatblygwyd yn lleol ac a gynlluniwyd i ymateb i anghenion a nodwyd.
Canllawiau ymarferol Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Gweithio gyda Chymunedau sydd wedi’u Hallgáu’n Ddigidol: Llwybrau Ymarferol tuag at Weithredu ac Effaith yn 2026. Mae’r canllaw yn dod ag ymchwil, tystiolaeth gwerthuso a mewnwelediadau ymarferwyr at ei gilydd i gefnogi sefydliadau i ddeall achosion allgáu digidol, teilwra cymorth i unigolion a chymunedau, ac asesu effaith. Mae’n pwysleisio’r angen am gamau ymarferol a gwerthuso, ac yn atgyfnerthu’r angen i farnu gweithgaredd cynhwysiant digidol yn ôl y canlyniadau y mae’n eu cyflawni yn hytrach na gweithgarwch yn unig.
Yn ogystal â’r mentrau hyn, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y Cynllun Cynhwysiant Digidol ar gyfer y DU, a nododd bedwar prif faes (sgiliau, dyfeisiau, gwasanaethau, cymorth) lle byddai camau gweithredu’n cael eu cyflawni i sicrhau bod gan ‘bawb y mynediad, y sgiliau a’r hyder i ddefnyddio’r rhyngrwyd’.
Mae’r datblygiadau hyn yn dangos bod allgáu digidol yn cael mwy o sylw mewn polisi a bod gwell cydnabyddiaeth o’r angen am wasanaethau cynhwysol a safonau cliriach. Mae tystiolaeth hefyd o fentrau newydd sy’n canolbwyntio ar wella sgiliau digidol, ond mae rhai pryderon wedi eu codi ynghylch a fydd y rhain yn gynaliadwy yn y dyfodol.
Serch hynny, y prawf allweddol yw a yw’r gweithgaredd hwn yn arwain at welliannau mesuradwy o ran sgiliau digidol pobl hŷn a mynediad at wasanaethau hanfodol o ddydd i ddydd.
Ar hyn o bryd, prin yw’r dystiolaeth o hyd bod ymrwymiadau polisi, canllawiau a chyllid yn trosi’n gyson yn ganlyniadau gwell ar gyfer pobl hŷn.
Profiadau pobl hŷn
Mae tystiolaeth a rannwyd gan bobl hŷn – drwy ymatebion i ymgynghoriadau, arolygon barn, gweithgareddau ymgysylltu ac ymholiadau Cyngor a Chymorth – yn dangos yn gyson fod allgáu digidol yn parhau i weithredu fel rhwystr i gael mynediad at wasanaethau hanfodol, ac mae’n dangos bod hyn yn dod yn fater mwy dybryd ym mywydau bob dydd nifer o bobl.
Caiff hyn ei adlewyrchu yn nifer yr ymholiadau sy’n ymwneud ag allgáu digidol a dderbyniwyd gan Wasanaeth Cyngor a Chymorth y Comisiynydd, sydd wedi cynyddu dros 400% yn y cyfnod 30-mis o fis Ionawr 2024 i fis Gorffennaf 2026 o’i gymharu â’r 30 mis blaenorol.
Mae profiadau pobl hŷn yn atgyfnerthu’r ffaith nad yw allgáu digidol yn ymwneud â mynediad ar-lein yn unig ond yn adlewyrchu amrywiaeth o rwystrau cydgysylltiedig sy’n ymwneud â fforddiadwyedd, hygyrchedd, sgiliau, hyder, iaith a chysylltedd, yn ogystal â phryderon ehangach am ddiogelwch ar-lein a thwyll. At hynny, tra bod rhai pobl hŷn yn croesawu cymorth i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder digidol, nid yw eraill yn gallu neu’n dymuno defnyddio gwasanaethau digidol, sy’n atgyfnerthu pwysigrwydd dewisiadau eraill o ansawdd uchel nad ydynt yn rhai digidol.
Isod, ceir braslun o’r problemau a’r pryderon a godwyd gyda’r Comisiynydd gan bobl hŷn.
Gwasanaethau hanfodol yn troi’n ddigidol yn ddiofyn
- Mae pobl hŷn yn dweud yn amlach am anawsterau wrth gael mynediad at wasanaethau bancio, gofal iechyd, budd-daliadau, gwasanaethau cyhoeddus a gwybodaeth wrth i wasanaethau droi ar-lein ac wrth i ddewisiadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn a dewisiadau lleol gael eu lleihau neu eu tynnu’n ôl.
- Mae nifer yn teimlo o dan bwysau i ddefnyddio sianeli digidol hyd yn oed pan ddylai opsiynau nad ydynt yn rhai digidol barhau i fod ar gael.
- Mae pobl hŷn yn parhau i ffafrio cyswllt wyneb yn wyneb ac ar y ffôn, yn enwedig wrth ddelio â materion cymhleth neu wrth gael mynediad at wasanaethau hanfodol.
Effeithiau ar iechyd, llesiant a grwpiau agored i niwed
- Gall gofynion digidol ei gwneud yn anoddach cael mynediad at ofal iechyd, meddyginiaethau a gwasanaethau hanfodol eraill.
- Yn aml, mae’r effaith fwyaf ymhlith pobl hŷn sydd ag anableddau, cyflyrau iechyd hirdymor, amhariadau gwybyddol neu gyfrifoldebau gofalu.
Colli dewis a ffafrio mynediad nad yw’n ddigidol
- Mae pobl hŷn yn dweud wrth y Comisiynydd dro ar ôl tro eu bod nhw eisiau dewisiadau ystyrlon eraill i wasanaethau digidol, gan gynnwys opsiynau wyneb yn wyneb, dros y ffôn, a rhai sy’n ymwneud ag arian parod a phapur.
- Mae nifer yn teimlo bod technoleg ddigidol yn disodli cyswllt dynol yn hytrach na darparu ffordd ychwanegol o gael mynediad at wasanaethau.
Allgáu digidol yn creu rhwystrau i fywyd bob dydd
- Gall apiau, codau QR, systemau archebu ar-lein, systemau parcio a gwasanaethau sy’n ddibynnol ar ffonau clyfar atal pobl hŷn rhag cael mynediad at drafnidiaeth, siopa, gweithgareddau hamdden, gwasanaethau bancio a bywyd cymunedol.
- Mae pobl sydd heb ffonau clyfar yn aml yn teimlo eu bod wedi’u heithrio o wasanaethau y mae eraill yn eu cymryd yn ganiataol.
Problemau cysylltedd mewn cymunedau gwledig
- Mae band eang gwael, signal annibynadwy ar ffonau symudol a “mannau gwan” digidol yn parhau i gyfyngu ar fynediad at wybodaeth, gwasanaethau ar-lein, bancio a siopa, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru.
Allgáu, annibyniaeth a chyfranogiad
- Mae pobl hŷn yn disgrifio ymdeimlad cynyddol bod cymdeithas yn cymryd yn ganiataol bod pawb ar-lein.
- Gall allgáu digidol leihau annibyniaeth, cynyddu’r teimlad o fod yn ynysig a chyfyngu ar gyfranogiad ym mywyd bob dydd y gymuned, gan adael rhai pobl i deimlo eu bod wedi’u heithrio neu wedi’u gadael ar ôl.
Allgáu digidol yn creu rhwystrau i fywyd bob dydd
- Gall apiau, codau QR, systemau archebu ar-lein, systemau parcio a gwasanaethau sy’n ddibynnol ar ffonau clyfar atal pobl hŷn rhag cael mynediad at drafnidiaeth, siopa, gweithgareddau hamdden, gwasanaethau bancio a bywyd cymunedol.
- Mae pobl sydd heb ffonau clyfar yn aml yn teimlo eu bod wedi’u heithrio o wasanaethau y mae eraill yn eu cymryd yn ganiataol.
Cau’r bylchau rhwng gweithgareddau a chanlyniadau
Fel y nodwyd uchod, ceir tystiolaeth o fwy o ymwybyddiaeth a mwy o bwyslais ar allgáu digidol ymhlith gwneuthurwyr polisi a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, sydd wedi arwain at fentrau a chanllawiau newydd, yn ogystal â rhywfaint o gyllid ychwanegol.
Eto i gyd, yn seiliedig ar y profiadau a rannwyd â’r Comisiynydd gan nifer o bobl hŷn, prin yw’r dystiolaeth i ddangos bod profiadau bob dydd pobl hŷn wedi gwella mewn unrhyw ffordd ystyrlon, yn enwedig o ran lleihau rhwystrau neu gynyddu mynediad at wasanaethau.
At hynny, tra bod nifer o sefydliadau yn parhau i gynnig llwybrau i wasanaethau nad ydynt yn rhai digidol, nid yw’r llwybrau hyn wastad yn hawdd i’w hadnabod, yn hygyrch nac yn gyfwerth â gwasanaethau ar-lein, sy’n golygu bod nifer o bobl hŷn yn parhau i wynebu rhwystrau wrth geisio cael mynediad at wasanaethau dros y ffôn, ar bapur neu wyneb yn wyneb.
Craffu ac atebolrwydd
Mae rhywfaint o ddata ar gael ynglŷn â’r defnydd o’r rhyngrwyd, sgiliau digidol, gweithgaredd a ariennir a sefydlu/cyflwyno rhaglenni. Serch hynny, mae’r mesurau hyn yn tueddu i ddisgrifio maint yr allgáu digidol neu’r gweithgaredd a gyflawnwyd, yn hytrach na rhoi cipolwg i weld a yw profiadau pobl hŷn a’u mynediad at wasanaethau yn gwella. Mae hyn yn golygu mai prin yw’r dystiolaeth sydd ar gael i’r cyhoedd ac sydd wedi’i dadgyfuno yn ôl oedran, sy’n dangos:
- a all pobl hŷn gwblhau teithiau hanfodol ar wasanaethau yn llwyddiannus;
- a yw dulliau dros y ffôn, wyneb yn wyneb ac ar bapur yn weladwy, yn amserol ac yn cyfateb i ddulliau digidol;
- a yw ymyriadau cynhwysiant digidol yn arwain at welliannau parhaus o ran hyder, annibyniaeth a mynediad;
- pa grwpiau o bobl hŷn sydd ddim yn cael eu cyrraedd; ac
- a yw trawsnewidiad digidol yn lleihau neu’n ehangu anghydraddoldebau.
Heb y dystiolaeth hon, mae’n anodd barnu a oes cynnydd yn cael ei wneud ac a yw pobl hŷn yn profi canlyniadau gwell.
Mae hyn yn dangos pwysigrwydd casglu tystiolaeth a data sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau drwy ymgysylltu parhaus rhwng pobl hŷn a’r rhai sy’n dylunio ac yn gweithredu systemau digidol.
Byddai casglu a chyhoeddi’r data ychwanegol hwn yn caniatáu mwy o graffu, gan alluogi aelodau o’r Senedd, cyrff cyhoeddus a sefydliadau cymdeithas sifil i archwilio a yw ymrwymiadau polisi yn creu gwelliannau gweladwy i fywydau pobl hŷn.
Symud ymlaen: y gweithredu sydd ei angen wrth Lywodraeth Cymru
Fel mae’r papur hwn yn ei egluro, er bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud o ran polisïau, canllawiau a mentrau newydd, mae angen amrywiaeth o waith pellach – ar unwaith ac yn y tymor hwy – i sicrhau bod pobl hŷn sydd wedi’u heffeithio gan allgáu digidol yn gweld gwelliannau ystyrlon yn eu profiadau o ddydd i ddydd.
O gofio natur y newidiadau sydd eu hangen, mae Llywodraeth Cymru mewn lle da i i fwrw ymlaen â’r camau sydd eu hangen, mewn sefyllfa i ddarparu arweinyddiaeth a goruchwyliaeth o ran cynnydd tra hefyd yn ymgysylltu ac yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Cymru, yn genedlaethol ac yn lleol.
Er nad yw’r Rhaglen Lywodraethu 2026-2030 a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cyfeirio’n benodol at gynhwysiant digidol, mae ei huchelgeisiau ehangach yn gyfle pwysig i gydnabod cynhwysiant digidol fel blaenoriaeth drawsbynciol.
Byddai gwneud hynny’n cryfhau arweinyddiaeth strategol ac yn adlewyrchu’r rôl ganolog a chynyddol y mae mynediad digidol yn ei chwarae yng ngallu pobl i gael gafael ar wasanaethau, defnyddio eu hawliau a chymryd rhan mewn bywyd bob dydd.
Gan adeiladu ar yr uchelgeisiau ehangach hyn, mae cyfle nawr i symud o gasgliad o bolisïau, rhaglenni a chanllawiau tuag at fframwaith cenedlaethol cydlynol sy’n seiliedig ar hawliau, canlyniadau ac atebolrwydd.
Gweithredu ar unwaith
Dylai Llywodraeth Cymru gyflawni’r camau ymarferol canlynol ar frys er mwyn ymateb i’r bylchau yn y cynnydd a nodwyd yn y papur hwn:
- Ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau hanfodol gynnal mynediad effeithiol nad yw ar-lein sy’n weladwy, yn hygyrch ac yn cyfateb i ddulliau digidol.
- Sefydlu mesurau canlyniadau cenedlaethol i asesu a yw gweithgaredd cynhwysiant digidol yn gwella mynediad pobl hŷn at wasanaethau.
- Dechrau cyhoeddi data cynnydd rheolaidd sy’n dangos beth sy’n newid i bobl hŷn, gan gynnwys y rhai sy’n parhau i beidio â bod ar-lein.
- Cryfhau atebolrwydd ar draws cyrff cyhoeddus fel bod trawsnewidiad digidol yn lleihau anghydraddoldeb, yn hytrach na’i atgyfnerthu.
Fframwaith canlyniadau cenedlaethol ar gyfer gweithredu hirdymor
Yn ogystal â’r camau gweithredu sydd angen eu cymryd ar unwaith, mae angen gweithredu’n barhaus dros y tymor hwy hefyd, gan ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau clir a mesuradwy i bobl hŷn.
Fel y nodwyd uchod, bydd canolbwyntio ar ganlyniadau yn helpu i sicrhau bod llwyddiant cymorth cynhwysiant digidol yn cael ei fesur ar sail ei effaith ar fywydau a phrofiadau pobl hŷn. Bydd hyn yn cefnogi camau gweithredu mwy effeithiol a gwell atebolrwydd.
Felly, mae’r Comisiynydd wedi nodi pedwar canlyniad sy’n darparu fframwaith y gellir ei ddefnyddio i gyflawni camau gweithredu a mesur llwyddiant, gan ganolbwyntio’n benodol ar hawliau a chyfranogiad.
Byddai defnyddio’r fframwaith hwn yn galluogi dull cenedlaethol cydlynol, dan arweiniad
Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid cyflawni yn y sector cyhoeddus, a fydd yn hanfodol i sicrhau bod ymwybyddiaeth ac uchelgeisiau’n cael eu trosi’n welliannau ystyrlon ym mywydau bob dydd pobl hŷn.
Gall pobl hŷn gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol drwy ddulliau o ansawdd uchel nad ydynt yn rhai ar-lein
Rhaid i Lywodraeth Cymru:
- Sefydlu disgwyliadau clir bod rhaid i wasanaethau hanfodol ddarparu mynediad effeithiol nad yw’n ddigidol.
- Sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn asesu effeithiolrwydd dulliau ffôn, wyneb yn wyneb a phapur yn rheolaidd.
- Cryfhau amddiffyniadau yn erbyn gwasanaethau’n troi’n ddigidol yn ddiofyn.
- Sicrhau bod platfformau gwasanaethau cyhoeddus digidol yn bodloni safonau dylunio cynhwysol a hygyrchedd.
Gall pobl hŷn gael mynediad at blatfformau ar-lein cynhwysol a hygyrch
Rhaid i Lywodraeth Cymru:
- Ei gwneud yn ofynnol i bob gwasanaeth digidol sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd a dylunio cynhwysol cydnabyddedig.
- Sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn profi gwasanaethau digidol yn rheolaidd gyda grwpiau amrywiol o bobl hŷn, gan gynnwys pobl hŷn anabl, siaradwyr Cymraeg a’r rhai sydd â hyder digidol isel.
- Gofyn i sefydliadau’r sector cyhoeddus asesu effaith technolegau newydd, gan gynnwys systemau sy’n cael eu galluogi gan AI, ar fynediad pobl hŷn at wasanaethau a chymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau a nodwyd.
Mae gan bobl hŷn gyfleoedd ystyrlon i ddylanwadu ar ddatblygiad gwasanaethau digidol yn ystod y broses ddylunio, profi a gwerthuso
Rhaid i Lywodraeth Cymru:
- Ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnwys pobl hŷn drwy gydol y broses o ddylunio gwasanaethau, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.
- Ymgorffori safonau dylunio a hygyrchedd cynhwysol ar draws rhaglenni trawsnewid digidol.
- Adolygu’r canllawiau sy’n bodoli’n barod a gynlluniwyd i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus gydag ymgysylltu sy’n ymwneud â thrawsnewid digidol a galluogi dylunio cynhwysol i sicrhau ei fod yn dal i fod yn addas at y diben mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym (a’i ddiweddaru / ei ailgyhoeddi os oes angen).
Mae profiadau a chanlyniadau pobl hŷn yn gwella drwy weithgaredd cynhwysiant digidol sy’n cael ei arwain gan dystiolaeth
Rhaid i Lywodraeth Cymru:
- Nodi camau ymarferol i gyflawni’r canlyniadau a nodwyd yn fframwaith y Comisiynydd, gan gynnwys cerrig milltir allweddol ac amserlenni ar gyfer eu cyrraedd.
- Sefydlu mesurau sylfaenol y gellir asesu cynnydd yn eu herbyn.
- Cyhoeddi adroddiadau/diweddariadau rheolaidd ar ganlyniadau i bobl hŷn er mwyn galluogi mwy o graffu ac atebolrwydd, ac er mwyn olrhain cynnydd ac effaith dros amser.
Casgliadau
Mae Cymru wedi gwneud cynnydd wrth gydnabod allgáu digidol a datblygu ymatebion polisi i fynd i’r afael ag ef, fel y nodir uchod. Y flaenoriaeth nawr yw cyflawni: sicrhau bod ymrwymiadau polisi yn arwain at welliannau gweladwy y gellir eu mesur o ran gallu pobl hŷn i gael mynediad at wasanaethau hanfodol.
Nid mater ymylol yw allgáu digidol. Wrth i wasanaethau droi’n fwyfwy digidol, mae’n effeithio’n uniongyrchol ar p’un a all pobl hŷn gael mynediad at ofal iechyd, gwasanaethau ariannol, gwybodaeth, cyngor a chymorth, ynghyd â chael effaith ehangach ar gynhwysiant a chyfranogiad.
Yr her i Lywodraeth Cymru yw dangos bod polisïau cynhwysiant digidol yn sicrhau gwelliannau mesuradwy o ran canlyniadau, ac nad yw pobl hŷn dan anfantais wrth i wasanaethau newid.
Mae hyn yn golygu:
- sicrhau bod mynediad o ansawdd uchel drwy ddulliau nad ydynt yn rhai ar-lein yn cael eu gwarchod;
- mesur beth sy’n gwella i bobl hŷn;
- sicrhau bod pobl hŷn yn siapio’r ffordd y caiff gwasanaethau eu dylunio; a
- chydnabod cynhwysiant digidol fel mater o gydraddoldeb, cyfranogiad a hawliau.
Mae trawsnewidiad digidol mewn perygl o ddyfnhau anghydraddoldebau sy’n bodoli’n barod, ond gyda’r mesurau diogelu iawn, gall yn hytrach wella mynediad, diogelu hawliau a chefnogi annibyniaeth pobl hŷn.
Felly, mae’n hanfodol bod Cymru’n adeiladu ar yr ymrwymiadau polisi sydd eisoes ar waith, a throi’r rhain yn welliannau mesuradwy yng ngallu pobl hŷn i gael gafael ar wasanaethau hanfodol.
Er nad oes cyfeiriad penodol at gynhwysiant digidol yn y Rhaglen Lywodraethu, mae cyfle clir i
Lywodraeth Cymru ei wreiddio ar draws portffolios gweinidogol a defnyddio camau gweithredu arfaethedig y Comisiynydd fel sail ymarferol i gyflawni gwelliannau mesuradwy i bobl hŷn.
Bydd y Comisiynydd yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i gyflawni’r camau gweithredu a’r canlyniadau y mae wedi’u nodi er mwyn sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu hallgáu nac yn cael eu gadael ar ôl a’u bod yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i fyw a heneiddio’n dda.
CYFEIRIADAU:
- Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2024) Dim Mynediad: Profiadau Pobl Hŷn o Allgáu Digidol yng Nghymru. Ar gael yn: https://comisiynyddph.cymru/adnodd/dim-mynediad-profiadau-pobl-hyn-o-allgau-digidol-yngnghymru/
- Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2024) Dim Mynediad: Profiadau Pobl Hŷn o Allgáu Digidol yng Nghymru: Diweddariad ar y Cynnydd, Gorffennaf 2024. Ar gael yn: https://comisiynyddph.cymru/dimmynediad-profiadau-pobl-hyn-o-allgau-digidol-yng-nghymru-llais-ac-eiriolwr-annibynnol-ar-gyfer-pobl-hyndiweddariad-ar-y-cynnydd-gorffennaf-2024/
- Llywodraeth Cymru (2025) Tuag at y Safon Ofynnol ar Gyfer Bywyd Digidol: trosolwg. Ar gael yn: https:// llyw.cymru/tuag-y-safon-ofynnol-ar-gyfer-bywyd-digidol-trosolwg
- Llywodraeth Cymru (2024) Sut i wneud gwasanaeth yn gynhwysol. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/ sut-i-wneud-gwasanaeth-yn-gynhwysol-html
- Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (2025) Dylunio gwasanaethau hygyrch, cynhwysol a chynaliadwy. Ar gael yn: https://gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru/arweiniad-a-safonau/ llawlyfr-gwasanaeth/dylunio-gwasanaethau-syn-canolbwyntio-ar-y-defnyddiwr/dylunio-gwasanaethauhygyrch%2C-cynhwysol-a-chynaliadwy
- Llywodraeth Cymru (2025) Pecyn Cymorth Gwerthuso Cynhwysiant Digidol. Ar gael yn: https://www.llyw. cymru/pecyn-cymorth-gwerthuso-cynhwysiant-digidol-html
- Cwmpas – Cynhwysiant Digidol Cymru: https://cy.cwmpas.coop/digital-inclusion-wales/
Lawrlwytho PDF