Angen Help?
Older man getting his blood pressure tested by the GP

Y Comisiynydd yn lansio canllaw newydd i bobl hŷn ar gael mynediad at feddygfeydd yng Nghymru

i mewn Adnoddau, Taflen Wybodaeth

Y Comisiynydd yn lansio canllaw newydd i bobl hŷn ar gael mynediad at feddygfeydd yng Nghymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi lansio canllaw newydd i helpu pobl hŷn a’u teuluoedd i ddeall eu hawliau’n well wrth gael gafael ar eu meddyg teulu, a deall y mathau o wasanaethau a chymorth a ddylai fod ar gael.

Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi’r canllaw ar ôl i ymchwil a gynhaliwyd ganddi yn gynharach eleni ganfod bod y newidiadau i’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu, a’r newid i rolau gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio gyda phractisiau meddygon teulu, wedi golygu bod llawer o bobl hŷn yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i apwyntiadau addas.

Mae’r canllaw’n cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys cyfathrebu â’ch practis, dod o hyd i’r gwasanaeth a’r gweithiwr proffesiynol iawn, y cymorth y dylid ei gynnig i helpu i ddiwallu eich anghenion, a’r hyn y gallwch chi ei wneud os nad ydych chi’n fodlon â’r gwasanaeth rydych chi’n ei gael. Mae’r canllaw hefyd yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer sefydliadau sy’n gallu darparu help a chefnogaeth i bobl hŷn a’u teuluoedd, gan gynnwys Tîm Cyngor a Chymorth y Comisiynydd.

Datblygwyd y canllaw gyda chymorth gan bobl hŷn, yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol a rhanddeiliaid allweddol eraill, ac mae’n cael ei ddosbarthu i meddygfa yng Nghymru, yn ogystal ag i bobl hŷn drwy sefydliadau cymunedol.

Mae fersiynau o’r canllaw ar gael mewn fformatau BSL, Sain a Hawdd eu Darllen, ochr yn ochr â chrynodebau mewn ieithoedd eraill.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Wrth i ni fynd yn hŷn, mae defnyddio meddygfeydd yn aml yn dod yn rhan amlycach o’n bywydau, ac maen nhw’n gallu chwarae rhan bwysig drwy ein helpu i aros yn iach ac yn annibynnol.

“Un o ganfyddiadau allweddol fy adroddiad diweddar ‘Mynediad i Bractisiau Meddygon Teulu’ oedd bod llawer o bobl hŷn yn ansicr ynghylch pa wasanaethau sydd ar gael gan eu meddygfa a’r hyn y mae ganddynt hawl iddo.

“Dyna pam fy mod wedi cynhyrchu’r canllaw hwn, i rymuso pobl hŷn a’u teuluoedd, a’u helpu i ddeall eu hawliau’n well wrth ddefnyddio meddygfeydd.

“Bydd hyn yn helpu pobl i deimlo’n fwy hyderus wrth wneud apwyntiadau ac ymgysylltu â’u meddygfa, i ddeall yn well y gwasanaethau a’r cymorth y mae ganddynt hawl iddynt, ac i deimlo’n fwy hyderus i godi materion neu bryderon.”

Ochr yn ochr â lansio ei chanllaw gwybodaeth, mae’r Comisiynydd hefyd wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd mewn ymateb i’w hadroddiad ‘Mynediad i Bractisiau Meddygon Teulu’ ers ei gyhoeddi ym mis Mawrth.

Mae’r adroddiad cynnydd yn tynnu sylw at y ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd yn defnyddio canfyddiadau’r Comisiynydd i lunio polisïau ac arferion, yn ogystal â’r ymrwymiadau y mae sefydliadau allweddol eraill yn eu gwneud i gymryd camau i wella profiadau pobl hŷn.

Ychwanegodd y Comisiynydd:

“Roeddwn yn falch o weld yr ymateb cadarnhaol i’m hadroddiad ‘Mynediad i Bractisiau Meddygon Teulu’ ac yn croesawu’r camau gweithredu sydd eisoes ar y gweill.

“Mae bellach yn hanfodol bod llunwyr polisïau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn adeiladu ar hyn ac yn cymryd camau pellach yn ôl fy argymhellion, rhywbeth y bydd fy nhîm yn pwyso amdano ac yn ei fonitro’n agos wrth i ni symud ymlaen.”

Os hoffech chi gael copi caled o’r canllaw, anfonwch e-bost at gofyn@comisiynyddph.cymru neu ffoniwch 03442 640670.

DIWEDD

 

Lawrlwythwch y Canllaw Yma Lawrlwythwch Grynodeb o'ch Hawliau wrth gael mynediad i'ch Practis Meddyg Teulu Yma

Ieithoedd ychwanegol

Lawrlwythwch Practisau Meddygon Teulu yng Nghymru: Canllaw i’ch hawliau mewn iaith arall:

Arabeg // عربي

Bengali // বাংলা

Tsieinëeg (Traddodiadol) // 中文(繁體)

Pwyleg // Polski

Pwnjabi // ਪੰਜਾਬੀ

Somalïaidd // Soomaali

Wrdw // اردو

Accessible Versions

Fersiynau Hygyrch

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges