Amlygu effaith oedraniaeth ar fywydau beunyddiol pobl hŷn
Er bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effaith rhagfarn a gwahaniaethu wedi gwella’n sylweddol, mae oedraniaeth yn parhau’n gyffredin ledled y byd ac mae’n aml yn destun chwerthin neu’n mae’n rhywbeth sy’n cael ei ddiystyru.
Mae iaith a delweddau sy’n amlygu oedraniaeth yn ymddangos yn y cyfryngau, mewn hysbysebion a sgyrsiau cyhoeddus, ac yn aml mae henaint yn cael ei bortreadu fel cyfnod o ddirywiad, gwaeledd ac eiddilwch, ac fel rhywbeth i’w ofni’n hytrach na’i ddathlu.
Mae’r stereoteipiau hyn yn cryfhau agweddau negyddol tuag at bobl hŷn a gall arwain at wahaniaethu mewn meysydd fel cyflogaeth a mynediad at iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae tystiolaeth yn dangos bod oedraniaeth yn cael effeithiau niweidiol ehangach, gan gynnwys ei effeithiau ar iechyd, llesiant, sicrwydd ariannol a chynhwysiant cymdeithasol, ac mae’n cyfyngu ar y cyfleoedd i heneiddio’n dda.
Pan wnes i lansio Sylw i Oedraniaeth ym mis Ionawr, dywedais yr hoffwn dynnu sylw at realiti oedraniaeth i bobl hŷn yng Nghymru a sut mae’n amlygu ei hun ym mywydau pob dydd pobl.
Ac mae’r cyfraniadau a rannwyd gan arweinyddion gwasanaethau cyhoeddus ac arbenigwyr eraill sy’n gweithio mewn sectorau allweddol, sydd wedi’u dwyn ynghyd yma, yn creu darlun byw o rai o’r heriau a’r rhwystrau mae pobl hŷn yn eu profi.
Hoffwn ddiolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu am rannu eu gwybodaeth, eu harbenigedd a’u sylwadau arbenigol ac am gyflwyno cyfraniadau mor effeithiol i brocio’r meddwl.
Fel y gwelwch, mae’r cyfraniadau wedi’u seilio ar dystiolaeth ac ar brofiadau byw pobl, gan amlygu problemau mewn meysydd penodol y mae angen ymateb iddynt, yn ogystal â datgelu nifer o themâu cyffredin a all helpu i flaenoriaethu gweithredu.
Darllenwch Sylw i Oedraniaeth