Cyflwyniad
Wrth inni heneiddio, mae cael mynediad i bractisau meddygon teulu
yn aml yn dod yn rhan amlycach o’n bywydau, a gall chwarae rhan
bwysig yn ein helpu i aros yn iach ac yn annibynnol.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r ffordd y mae gwasanaethau’n
cael eu darparu gan bractisau meddygon teulu wedi newid yn fawr,
ac mae pobl hŷn weithiau’n wynebu anawsterau wrth geisio cael
mynediad at yr hyn sydd ei angen arnynt.
Dyna pam mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi’r canllaw defnyddiol
hwn, sy’n rhoi gwybodaeth am:
- Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan eich practis meddyg teulu
- Eich hawliau
- Beth i’w wneud os ydych chi’n cael anawsterau
Mae’r canllaw hefyd yn darparu manylion a gwybodaeth gyswllt ar
gyfer sefydliadau a all ddarparu cymorth a chefnogaeth os ydych yn
ei chael hi’n anodd cael mynediad i’ch practis meddyg teulu, neu’r
gwasanaethau sydd ar gael, neu os ydych yn pryderu nad yw eich
hawliau’n cael eu cynnal.
Ynglŷn â’r canllaw hwn
Yn y canllaw hwn, fe welwch gyfeiriad at bethau y mae’n ‘rhaid’
i feddyg teulu neu bractis eu gwneud, sy’n golygu bod gofyniad
cyfreithiol, cytundebol neu ofyniad arall i’w gwneud. Mae’r un peth
yn wir am bethau y mae’n ‘ofynnol’ i Feddyg Teulu neu bractis eu
gwneud neu y mae ‘dyletswydd’ arnynt i’w gwneud.
Os nad yw meddyg teulu neu bractis yn gwneud y pethau hyn,
gallwch eu herio yn ei gylch. Mae gwybodaeth am sut i wneud hyn
ar ddiwedd y canllaw hwn.
Lle mae’r canllaw hwn yn nodi y ‘dylai’ meddyg teulu neu bractis
wneud rhywbeth neu y ‘gallwch ddisgwyl’ iddynt wneud rhywbeth,
yna mae’n arfer da iddynt ei wneud, ond nid yw’n orfodol.
Rhaid i bob practis meddyg teulu gydymffurfio â Deddf
Cydraddoldeb 2010 wrth ddarparu gwasanaethau’r GIG. Mae hyn
yn golygu bod yn rhaid iddynt beidio â gwahaniaethu yn erbyn
unrhyw un wrth ddarparu gwasanaethau a rhaid iddynt wneud
‘addasiadau rhesymol’ i alluogi pobl gyda anableddau i gael
mynediad at eu gwasanaethau.
Os ydych yn pryderu nad yw eich practis yn eich trin yn gyfartal,
dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb
(gweler tudalen 38).
Gall fod gan bractis meddyg teulu safleoedd (meddygfeydd) mewn
sawl man gwahanol. Lle mae’r canllaw hwn yn cyfeirio at bractis,
mae’n golygu’r practis cyfan, nid meddygfa leol. Gall trefniadau lleol
amrywio o feddygfa i feddygfa yn y practis.
Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i bractisau meddygon teulu yng
Nghymru. Mae’n bosibl y bydd pobl sy’n byw yng Nghymru ond
sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr yn gweld bod
ganddynt hawliau, mynediad a phrofiadau gwahanol i’r rhai a
ddisgrifir yma.
Eich hawliau: crynodeb
Gall deall ein hawliau ein helpu mewn amrywiaeth eang o
sefyllfaoedd, gan gynnwys wrth ddefnyddio gwasanaethau meddyg
teulu. Felly mae’n ddefnyddiol cofio os ydych chi’n byw yng
Nghymru, mae gennych chi hawl i:
- Cofrestru gyda phractis meddyg teulu.
- Cael apwyntiad claf newydd o fewn chwe mis i gofrestru.
- Cael mynediad i’ch practis wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac
ar-lein yn ystod oriau agor. - Apwyntiad ar yr un diwrnod os bydd clinigwr yn penderfynu
bod eich angen yn un brys. - Nodi eich dewis i weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol
penodol. - Presgripsiynau am ddim gan fferyllydd yng Nghymru (os
ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru). - Cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau eich practis
mewn ffordd sy’n addas i chi. - Cael mynediad at eich gwybodaeth iechyd bersonol, neu mewn rhai amgylchiadau cofnod iechyd person sydd wedi marw.
- Bod unrhyw wybodaeth a roddwch i’ch practis yn cael ei thrin
yn gyfrinachol. - Taflen wybodaeth yn nodi’r amrywiaeth o wasanaethau y mae
eich practis yn eu darparu. - Gwybodaeth am sut i gael cymorth a chyngor.
- Fersiynau Cymraeg o unrhyw ddogfennau a ddarperir gan y
Bwrdd Iechyd. - Symud eich cofrestriad i bractis arall.
Rhaid i bractisau meddygon teulu yng Nghymru:
- Darparu gwasanaethau i bobl sydd â chyflyrau iechyd y
disgwylir iddynt wella ohonynt, rheoli clefydau cronig a rheoli
cleifion â salwch terfynol yn gyffredinol. - Darparu gwasanaethau ar adegau sy’n briodol i ddiwallu
anghenion rhesymol cleifion. - Sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad effeithiol at
wasanaethau meddygon teulu all-lein ac ar-lein. - Cynnig apwyntiadau y gellir archebu o flaen llaw i gymryd lle
yn ystod oriau craidd. - Sicrhau bod cleifion yn gallu cael mynediad at wasanaethau
trwy gydol oriau craidd mewn argyfwng. - Sicrhau fod drysau eu ‘prif safle’ ar agor a staff ar y safle rhwng 8.30am a 6.00pm.
- Darparu cyfarchiad wedi’i recordio yn Gymraeg a Saesneg ar y ffôn.
- Dweud wrthych os oes tâl am wasanaeth.
- Ystyried profiadau pobl o gael mynediad at eu gwasanaethau
a’u defnyddio a chymryd camau cymesur i fynd i’r afael ag
unrhyw faterion cydraddoldeb. - Dal, cofnodi, amlygu a rhannu eich anghenion cyfathrebu os
ydych yn byw gyda nam ar y synhwyrau. - Sicrhau bod unrhyw arwyddion a hysbysiadau newydd am
wasanaethau’r GIG yn ddwyieithog; yn Gymraeg a Saesneg.
Mae yna hefyd nifer o bethau y dylai practisau meddygon teulu fod yn eu gwneud i helpu i ddiwallu anghenion pobl. Mae’r arfer da hwn yn cynnwys:
- Cynnig cymysgedd o apwyntiadau o bell (ffôn neu fideo),
wyneb yn wyneb, brys, ar y diwrnod ac apwyntiadau y gellir
eu trefnu ymlaen llaw, wedi’u pennu gan y practis mewn
trafodaeth â chleifion. - Trin cais ar-lein yn yr un modd a chais dros y ffôn.
- Cynnig ymgynghoriad priodol i chi pan fyddwch yn cysylltu
â’ch practis am y tro cyntaf, yn seiliedig ar asesiad o’ch
angen clinigol. - Darparu gwasanaeth ffôn sy’n diwallu anghenion cleifion yn
llawn. - Ystyried eich profiad o gael mynediad atynt ar-lein a thros y
ffôn. - Gofyn am eich dewis iaith a gwneud cofnod ohoni.
- Cofnodi’r ffaith eich bod yn gofalu am rywun arall.
Eich hawliau i Wasanaethau Meddygol Cyffredinol (Gwasanaethau Practisau Meddygon Teulu)
Os ydych yn byw yng Nghymru, mae gennych hawl i gofrestru gyda
phractis meddyg teulu sy’n gwasanaethu’r ardal lle’r ydych yn byw.
Gallwch ddod o hyd i fanylion practisau lleol yng nghyfeirlyfr
gwasanaethau lleol 111 y GIG, neu drwy ffonio 111 ar eich ffôn.
Pan fyddwch yn cysylltu â’ch practis dewisol ac yn gofyn am gael
eich cynnwys ar eu rhestr cleifion, gofynnir i chi lenwi ffurflen i
alluogi trosglwyddo eich cofnodion meddygol.
Efallai y gofynnir i chi hefyd lenwi holiadur iechyd fel bod gan y
practis gofnod iechyd sylfaenol i chi tra bod eich cofnodion yn cael
eu trosglwyddo, a all gymryd peth amser.
Pan fyddwch chi’n cofrestru, mae’n amser da i roi gwybod i’r practis
os ydych chi’n gofalu am rywun arall, yn cael trafferth gyda’ch golwg, clyw neu symudedd, ei bod yn well gennych siarad iaith benodol, neu unrhyw bethau eraill y mae angen iddyn nhw wybod amdanoch chi.
Mae gennych hawl i gael cynnig ymgynghoriad claf newydd o fewn
chwe mis i ymuno â’r practis. Yn ystod yr ymgynghoriad hwn, bydd
y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn cwestiynau i chi ac yn
eich archwilio, wedi’u teilwra i’r hyn y mae’n meddwl sy’n briodol i
chi.
Os ydych yn byw mewn cartref gofal
Os byddwch yn symud yn barhaol i gartref gofal ger eich cartref
blaenorol, efallai y gallwch aros gyda’r un practis meddyg teulu. Os
byddwch yn symud allan o ardal y practis, efallai y bydd angen i chi
gofrestru gyda phractis newydd.
Dylech dderbyn yr un amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd pan
fyddwch yn byw yn y cartref gofal ag a gawsoch pan oeddech yn byw yn eich cartref blaenorol.
Newid practisau
I newid eich practis, dylech gysylltu â’r feddygfa yr ydych am
gofrestru â hi. Os byddant yn cytuno i’ch derbyn, byddant yn gofyn
i chi lenwi ffurflen, a fydd yn galluogi trosglwyddo eich cofnodion
meddygol yno, fel y disgrifir uchod.
Nid oes rhaid i chi egluro pam eich bod am newid eich practis
meddyg teulu.
Gwrthod cofrestriad
Gall practis wrthod eich cofrestru os oes ganddo sail ddigonol dros wneud hynny – os ydych yn byw y tu allan i ardal y practis, er
enghraifft, neu os ydynt wedi cau eu rhestr cleifion.
Os gwrthodir cofrestriad i chi dylai’r practis roi esboniad i chi.
Os na allwch ddod o hyd i feddyg teulu i gofrestru ag ef, dylech
gysylltu â GIG 111 Cymru (gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar
ddiwedd y canllaw hwn). Dylent allu eich cyfeirio at bractis arall.
Tynnu oddi ar gofrestr y practis
Gall practis eich tynnu oddi ar ei gofrestr os byddwch yn symud
allan o ardal y practis. Os byddwch yn gadael y DU am fwy na
deuddeg wythnos, efallai y bydd y bwrdd iechyd yn dweud wrth
y practis i gau eich cofnod. Os credwch fod hyn yn debygol o
ddigwydd, dylech ei drafod gyda rheolwr eich practis.
Gall pobl hefyd gael eu tynnu oddi ar y gofrestr os ydynt wedi cam-drin pobl yn y feddygfa ar lafar neu’n gorfforol.
Fel arfer dylech dderbyn rhybudd ac esboniad cyn i chi gael eich
tynnu oddi ar y gofrestr oni bai eich bod wedi bod yn dreisgar tuag
at staff. Yn yr achos hwn gallwch gael eich tynnu oddi ar y rhestr ar
unwaith.
Rhaid i bractis beidio â gwrthod eich cofrestru na’ch tynnu oddi ar
gofrestr y practis os byddai hyn yn gyfystyr â gwahaniaethu o dan y
Ddeddf Cydraddoldeb, fel y nodir uchod.
Gwasanaethau
Bydd union amrywiaeth y gwasanaethau a ddarperir gan bractis
meddyg teulu yn amrywio, ond dylai unrhyw bractis ddarparu
mynediad at amrywiaeth eang o wasanaethau gofal iechyd sy’n
addas i anghenion pobl leol.
Mae’n ofynnol i bractisau gynhyrchu taflenni (ar-lein a chopïau
papur), sy’n darparu gwybodaeth am yr amrywiaeth o wasanaethau
a ddarperir ganddynt, y mae’n rhaid iddynt fod ar gael gan y practis
ar gais.
Mae’r gwasanaethau craidd y mae’n rhaid eu darparu yn cynnwys:
- Ymgynghoriadau â meddygon teulu
- Rheoli clefydau cronig, fel clinigau asthma a diabetes
- Rhai brechiadau ac imiwneiddiadau
- Sgrinio sytoleg serfigol
- Rhai mân lawdriniaethau
Gall meddygon teulu hefyd roi cyngor ar bryderon y gallech fod
gennych a gallant eich helpu i ddod o hyd i gymorth os ydych yn
profi cam-drin domestig (neu fathau eraill o gam-drin).
Efallai y bydd eich practis hefyd yn darparu gwasanaethau mwy
arbenigol, fel monitro gwrthgeulo (meddyginiaeth i helpu gyda
cheulo gwaed) neu fân lawdriniaeth.
Mae rhai meddygfeydd yn cynnig gwasanaethau cyflenwol eraill, a
all gynnwys cwnsela, dermatoleg, neu glinigau rhwymynnau.
Yn olaf, gall practis meddyg teulu gynnig gwasanaethau nad ydynt
yn ymwneud â’r GIG, fel arfer am ffi, fel nodion salwch preifat,
presgripsiynau ar gyfer cymryd meddyginiaeth dramor, tystysgrifau
brechu, asesiadau meddygol sy’n gysylltiedig â chyflogaeth neu
lofnodi pasbortau.
Oriau agor
Mae’r rhan fwyaf o bractisau meddygon teulu ar agor trwy gydol
oriau agor craidd, sef 8yb i 6.30yh, o ddydd Llun i ddydd Gwener
(ac eithrio gwyliau banc).
Fodd bynnag, nid oes gofyniad i bractis ddarparu’r holl wasanaethau bob amser, a gall practisau gau dros dro ar gyfer pethau fel hyfforddiant neu adolygiadau staff. Efallai y bydd gan feddygfa gangen hefyd oriau agor gwahanol i’r brif feddygfa.
Mae’n ofynnol i bractisau ddarparu gwasanaethau ar adegau sy’n
briodol i ddiwallu anghenion rhesymol unigolion, ac i sicrhau bod
pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau drwy gydol oriau craidd
mewn argyfwng.
Gwasanaethau y tu allan i oriau
Os oes angen meddyg teulu arnoch ar ôl oriau’r feddygfa, dylech
ffonio’ch meddygfa a gwrando ar y neges wedi’i recordio. Dylai hyn
eich cyfeirio at y gwasanaeth y tu allan i oriau sy’n cynnwys eich
practis.
Fel arall, gallwch ffonio 111 am gyngor. Byddant yn penderfynu a oes angen i chi weld meddyg teulu y tu allan i oriau ac yn eich cyfeirio at wasanaeth priodol ar gyfer apwyntiad.
Cysylltu â’ch practis
Yn bersonol
Rhaid i ddrysau prif bractis fod ar agor fel bod cleifion yn gallu cael
mynediad corfforol i’r safle rhwng 8.30am a 6.00pm.
Weithiau gall ymweld â’r practis yn bersonol fod yn destun
cyfyngiadau i atal lledaeniad cyflyrau hynod heintus neu ddifrifol.
Dros y ffôn
Mae’n rhaid i bractisau ateb eu ffôn am gyfnod yr oriau craidd
(8.00yb i 6.30yh, o ddydd Llun i ddydd Gwener) oni bai bod
amgylchiadau eithriadol, a bod y bwrdd iechyd wedi cytuno y gallant
ddefnyddio peiriant ateb i reoli galwadau sy’n dod i mewn.
Os byddwch yn ffonio’ch practis, dylid ateb eich galwad i ddechrau
gyda neges safonol wedi’i recordio. Yna dylech gael eich trosglwyddo i aelod o dîm y practis, a fydd yn eich helpu i gael mynediad at y gofal cywir neu eich cyfeirio at wasanaeth arall os yw hyn yn glinigol briodol.
Disgwylir i bob practis ddarparu gwasanaeth ffôn sy’n bodloni
anghenion pobl yn llawn ac ystyried adborth ar y gwasanaeth.
Os nad yw’r gwasanaeth ffôn yn eich practis yn diwallu’ch
anghenion, dylech drafod hyn gyda rheolwr y practis. Os ydych yn
dal yn anfodlon, gallwch nodi pryder drwy’r broses Gweithio i Wella
(mae’r manylion wedi’u cynnwys ar dudalen 38).
Ar-lein
Rhaid i gleifion allu cael mynediad i’r practis ar-lein ar gyfer
apwyntiadau di-frys a gwasanaethau galw nol, a dylai’r practis
ystyried profiad pobl o ddefnyddio dulliau mynediad digidol.
Efallai y bydd eich practis meddyg teulu hefyd yn defnyddio offeryn
hunangyfeirio ar-lein fel eConsult neu Accurx.
Mae’r offer hyn yn galluogi pobl i ymgynghori â’u meddyg teulu ar-lein trwy lenwi ffurflen gyflym sy’n cael ei hanfon a’i hadolygu gan y practis. Maent hefyd yn cyfeirio’r claf at hunangymorth, cyngor
fferyllol a gwasanaethau hunangyfeirio lleol. Unwaith y bydd eich
ymholiad wedi’i gyflwyno bydd y practis yn ymateb i chi drwy e-bost
neu dros y ffôn.
Bwriedir i blatfform digidol y practis meddyg teulu gael ei ddefnyddio ar gyfer mynediad nad yw’n frys a dim ond yn ystod oriau craidd y dylid ei ddefnyddio.
Gallwch hefyd reoli eich presgripsiynau ac (os yw eich practis wedi galluogi hyn) apwyntiadau gan ddefnyddio Ap GIG Cymru, y gallwch ei lawrlwytho o’r App Store neu Google Play, neu drwy wefan GIG Cymru.
I gael mynediad at wasanaethau meddygon teulu trwy’r Ap, rhaid
eich bod wedi cofrestru gyda phractis meddyg teulu yng Nghymru
sydd wedi’i gysylltu â’r Ap a bod â manylion mewngofnodi’r GIG
wedi’u gwirio’n llawn, neu ID llun dilys er mwyn sefydlu un. Os nad
oes gennych ddull adnabod â llun, dylai eich practis allu dilysu eich
cofrestriad.
Os byddwch yn cysylltu â’ch practis ar-lein, dylai eich cais gael ei
drin yn yr un modd a unrhyw gais dros y ffôn. Mae hyn yn golygu
bod yn rhaid i unrhyw help i’ch cefnogi i gael mynediad at y gofal
sydd ei angen arnoch fod yn gyfwerth â’r cymorth a ddarperir dros y
ffôn neu wyneb yn wyneb.
Gwneud apwyntiad
Pan fyddwch yn cysylltu â’ch practis i wneud apwyntiad, rhaid i’r
practis gynnig ymgynghoriad priodol i chi os yw wedi asesu bod
gennych angen clinigol i gael mynediad at ei wasanaethau.
Dylai’r practis gynnig apwyntiad i chi pan fyddwch yn cysylltu â nhw
am y tro cyntaf. Ni ddylai fod yn rhaid i chi gysylltu â nhw eto.
Os bydd clinigwr yn penderfynu bod eich angen yn un brys, rhaid
cynnig apwyntiad i chi ar yr un diwrnod.
Os nad yw eich angen mor frys, rhaid i chi allu trefnu apwyntiad
ymlaen llaw. Fel arfer, dylai eich practis drefnu apwyntiad i chi
o fewn pythefnos i dair wythnos, ond gallant drefnu bod slotiau
apwyntiad ar gael hyd at chwe wythnos ymlaen llaw.
Ni ddylai practisau fod yn rhyddhau pob apwyntiad am 8yb ar gyfer
y diwrnod hwnnw mwyach.
Dod o hyd i’r apwyntiad cywir
Dylai practisau gynnig cymysgedd o apwyntiadau o bell (ffôn neu
fideo), wyneb yn wyneb, brys, ar y diwrnod ac apwyntiadau y gellir
eu trefnu ymlaen llaw, a thrafod y math o apwyntiad gyda chi.
Mae apwyntiad fel arfer yn para tua 10-15 munud, ond gallwch ofyn
am apwyntiad dwbl os oes gennych faterion cymhleth i’w trafod.
Efallai na fydd angen i chi weld meddyg teulu ac efallai y bydd yn gyflymach ac yn fwy effeithiol i weld gweithiwr gofal iechyd
proffesiynol arall yn y practis.
Pan fyddwch yn cysylltu â’r practis, bydd angen i’r derbynnydd
(llywiwr gofal) ofyn rhai cwestiynau i chi i’ch helpu i wneud yr
apwyntiad cywir i chi.
Bydd ateb y cwestiynau hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn nodi’r
gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gorau i chi ei weld. Bydd
darparu’r wybodaeth y maent yn gofyn amdani yn ei gwneud yn
haws iddynt nodi’r gweithiwr proffesiynol gorau i chi ei weld.
Ymweliadau cartref
Os na allwch deithio i’ch meddygfa oherwydd salwch difrifol,
anabledd, eiddilwch neu gyfrifoldebau gofalu, efallai y byddwch am
ofyn am ymweliad cartref.
Wrth wneud cais am ymweliad cartref, mae’n bwysig rhoi disgrifiad
llawn o’ch cyflwr a’ch amgylchiadau, gan y bydd hyn yn galluogi’r
tîm clinigol i benderfynu a oes angen un.
Er y bydd gan y practis bolisi ar ymweliadau cartref, dylai dal i
wneud penderfyniadau ar sail achosion unigol.
Tîm y practis
Caiff eich practis meddyg teulu ei staffio gan dîm o weithwyr gofal
iechyd proffesiynol (meddygon, nyrsys, therapyddion ac eraill) sy’n
arbenigo mewn meysydd penodol o driniaeth a chymorth, a staff
gweinyddol (gan gynnwys rheolwr y practis, derbynyddion neu lyw-wyr gofal a gweinyddwyr) sydd yno i’ch helpu i gael y driniaeth gywir gan y gweithiwr proffesiynol cywir cyn gynted â phosibl.
Pan fyddwch yn cysylltu â’ch practis am apwyntiad, efallai y cewch
eich cynghori i weld gweithiwr iechyd proffesiynol heblaw meddyg
teulu. Bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod yn cael y driniaeth a’r
cymorth mwyaf priodol ac effeithiol, ac y gallwch elwa ar y sgiliau
arbenigol sydd ar gael yn y practis.
Gall gweld gweithiwr iechyd proffesiynol heblaw meddyg teulu
lle bo’n briodol hefyd eich galluogi i gael eich gweld a’ch trin yn
gyflymach.
Gallwch gael mynediad i unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol
yn y practis yn uniongyrchol pan fo’n briodol, heb fynd drwy’r
meddyg teulu yn gyntaf.
Bydd y cymysgedd o weithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn timau
practis meddygon teulu yn amrywio o bractis i bractis (ac o safle i
safle os oes gan eich practis fwy nag un feddygfa).
Mae eich practis meddyg teulu yn gweithio fel rhan o rwydwaith
ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol yn eich cymuned fel
dietegwyr, podiatryddion, therapyddion iaith a lleferydd, timau
iechyd meddwl a nyrsys cymuned ac ardal.
Yn ogystal, mae fferyllfeydd cymunedol yn cynnig cyngor iechyd,
yn darparu meddyginiaethau dros y cownter ac yn dosbarthu
presgripsiynau, yn ogystal â rhagnodi meddyginiaeth ar gyfer
cyflyrau penodol mewn rhai achosion.
Gallwch gael mynediad at rai o’r gwasanaethau hyn yn uniongyrchol, ac efallai y bydd eich practis yn eich cyfeirio at un o’r gwasanaethau hyn heb weld y meddyg teulu yn gyntaf, os byddai hyn yn diwallu eich anghenion orau.
Gofyn am weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol penodol
Os yw’n well gennych weld meddyg teulu penodol, gallwch roi
gwybod i’r practis a dylent gofnodi hyn. Gallwch ofyn am gael gweld
unrhyw feddyg teulu neu nyrs yn y feddygfa, ond bydd gwneud
hynny yn dibynnu a ydynt ar gael.
Dylai’r practis wneud ymdrechion rhesymol i ddarparu ar gyfer eich
dewis, ond ni allant warantu y byddwch yn gallu gweld y person
hwnnw bob tro.
Gofyn am weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol o’r un rhyw
Os byddai’n well gennych weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol
benywaidd neu wrywaidd, gallwch ofyn wrth drefnu eich apwyntiad.
Efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn hirach i un ddod ar gael.
Efallai hefyd na fydd dewisiadau amgen gwrywaidd a benywaidd
yn y practis. Os felly, efallai y bydd eich practis yn gallu cydweithio
â phractis cyfagos i drefnu archwiliad gyda gweithiwr gofal iechyd
proffesiynol o’r rhyw fyddai’n well gennych, er efallai na fydd hyn yn
bosibl.
Gallwch hefyd ofyn am hebryngwr i fynychu unrhyw apwyntiad.
Mae hebryngwr fel arfer yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol ond
weithiau’n aelod o’r tîm gweinyddol. Eu rôl yw bod yn sylwedydd
diduedd, cydnabod pa mor agored i niwed yw rhywun a rhoi cysur
emosiynol a sicrwydd.
Gallwch hefyd ddod ag aelod o’r teulu, ffrind neu ofalwr gyda chi i
apwyntiad os dymunwch.
Mynd i apwyntiad
Nodiadau atgoffa
Mae’r rhan fwyaf o bractisau meddygon teulu yng Nghymru
yn defnyddio negeseuon testun i anfon nodiadau atgoffa am
apwyntiadau a gwybodaeth arall at eu cleifion.
Efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen gydsyniad i ddefnyddio’r
gwasanaeth, neu i optio allan o’r gwasanaeth os nad ydych yn
cydsynio.
Canslo apwyntiad
Mae’n bwysig rhoi gwybod i’ch practis os na allwch ddod i
apwyntiad, a rhoi cymaint o rybudd â phosibl, a fydd yn caniatáu i’r
apwyntiad hwnnw gael ei gynnig i rywun arall.
Os ydych yn cael anhawster mynd i apwyntiadau oherwydd, er
enghraifft, cyfrifoldebau gofalu, dylech esbonio hyn i’ch practis.
Cludiant i’r feddygfa
Os oes angen cymorth arnoch gyda chludiant i’ch apwyntiad, dylai
eich practis meddyg teulu a/neu sefydliadau trydydd sector lleol allu
rhoi gwybodaeth i chi am unrhyw gynlluniau cludiant cymunedol
lleol, cynlluniau ceir gwirfoddol, deialu-i-deithio a chynlluniau tebyg
sydd ar waith yn eich ardal.
Eich apwyntiad
Cyn eich apwyntiad (y cyfeirir ato’n aml fel ‘ymgynghoriad’) gyda
gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, gall fod yn ddefnyddiol gwneud
nodiadau i’ch atgoffa am bethau yr hoffech eu dweud wrthynt neu
ofyn amdanynt.
Pan fyddwch chi’n siarad â’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol,
mae’n bwysig iawn rhoi’r darlun cyfan iddo – hyd yn oed os ydych
chi’n meddwl bod rhywbeth yn ddibwys, ni ddylech ei hepgor.
Os ydych yn betrusgar i roi gwybodaeth benodol i weithiwr iechyd
proffesiynol oherwydd nad ydych yn eu hadnabod, dylech ddweud
wrthynt o hyd.
Mae hefyd yn bwysig ateb pob un o’u cwestiynau, hyd yn oed
os ydych wedi eu hateb o’r blaen. Mae gweithwyr gofal iechyd
proffesiynol yn aml yn gofyn cwestiynau ailadroddus am reswm (ee
i wirio a fu unrhyw newid yn eich cyflwr ers y tro diwethaf iddynt eich gweld).
Os nad ydych yn deall yr hyn y mae’r gweithiwr gofal iechyd
proffesiynol yn ei ddweud am eich diagnosis neu driniaeth, mae’n
iawn gofyn am esboniad neu ofyn iddynt ysgrifennu’r ateb i chi ei
ddarllen eto yn nes ymlaen.
Mae hefyd yn dderbyniol gofyn cwestiynau am ddiagnosis y
gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a’r driniaeth y mae’n ei gynnig.
Er enghraifft, efallai y byddwch am ofyn:
- A oes mwy nag un driniaeth?
- Beth yw manteision ac anfanteision gwahanol driniaethau?
- A oes unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin?
Os ydych yn meddwl efallai na fyddwch yn gallu dilyn cyngor eich
gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, dylech ddweud wrthynt er mwyn
i chi allu trafod sut y gallant eich helpu, neu sut y gallwch gael help
gan ffynhonnell arall, yn dibynnu ar natur yr anhawster.
Ail farn
Os oes gennych unrhyw amheuon am eich diagnosis neu’r driniaeth
a argymhellwyd, gallwch ofyn i’ch meddyg teulu eich cyfeirio i gael
ail farn.
Nid oes hawl i ail farn, ond anaml y bydd meddygon teulu yn gwrthod oni bai bod rheswm da.
Efallai y cewch eich cyfeirio at feddyg teulu arall yn eich practis neu
at ymgynghorydd.
Os yw’ch achos yn gymhleth neu os yw’r diagnosis yn aneglur,
efallai y bydd eich meddyg teulu neu’ch ymgynghorydd yn gofyn am
ail farn i sicrhau bod pob opsiwn triniaeth posibl yn cael ei archwilio.
Gofalwyr Di-dâl
Os ydych yn gofalu am rywun arall, dylech ddweud wrth eich practis
cyn gynted â phosibl fel y gallant gofnodi hyn ar eich cofnodion
meddygol.
Unwaith y byddant yn deall eich cyfrifoldebau gofalu a’r pwysau
sydd arnoch chi, byddant yn gallu cynnig cyngor wedi’i deilwra i’ch
amgylchiadau ac, os oes angen, rhoi mwy o gymorth pan fyddan
nhw’n gwneud diagnosis ac yn eich trin chi yn y dyfodol.
Awdurdodi rhywun arall i drafod eich gofal iechyd
Os dymunwch roi caniatâd i rywun arall drafod eich gofal iechyd
gyda’ch meddygfa, dylech nodi hyn yn ysgrifenedig. Bydd y practis
wedyn yn gwneud nodyn o hyn ar eich cofnod.
Atgyfeiriadau
Os oes gennych fater y mae angen ymchwilio iddo ymhellach, efallai
y bydd eich meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall yn
eich cyfeirio at arbenigwr priodol yn y GIG, megis cardiolegydd neu
lawfeddyg orthopedig.
Yn dilyn atgyfeiriad, dylech dderbyn llythyr gan yr arbenigwr sy’n
egluro’r hyn sydd angen i chi ei wneud nesaf.
Gall amseroedd aros ar gyfer ymchwiliadau a thriniaeth arbenigol
fod yn hir ac efallai na fydd llawer y gall y practis ei wneud i’w
cyflymu.
Os bydd eich problemau meddygol yn gwaethygu, neu os oes
angen triniaeth arnoch tra byddwch yn aros, gallwch drefnu
apwyntiad pellach gyda’ch meddyg teulu ar gyfer gofal meddygol.
Os dymunwch ddefnyddio arbenigwr neu ysbyty preifat, dylech
siarad â’ch practis meddyg teulu.
Ar ôl eich rhyddhau o’r ysbyty
Yn dilyn triniaeth ysbyty, cewch eich rhyddhau yn ôl i ofal eich
meddyg teulu. Dylid anfon gwybodaeth/cofnodion cywir yn gyflym at eich meddyg teulu er mwyn caniatáu iddo reoli eich gofal parhaus,
er y gall hyn gael ei oedi weithiau.
Os ydych yn pryderu nad ydych wedi clywed gan eich meddyg teulu
ar ôl i chi gael eich rhyddhau o’r ysbyty, dylech gysylltu â’ch practis.
Archebu meddyginiaeth
Os ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, mae
gennych hawl i gael presgripsiynau am ddim gan fferyllydd yng
Nghymru.
Ar gyfer meddyginiaethau ‘unwaith ac am byth’ neu dymor byr,
byddwch yn cael yr hyn a elwir yn ‘bresgripsiwn acíwt’ gan feddyg
teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol, ee gwrthfiotigau i drin haint.
Os nad yw problem wedi gwella neu ei bod wedi dychwelyd, efallai y
bydd eich practis yn gallu rhoi presgripsiwn acíwt arall i chi heb fod
angen apwyntiad arall.
Os ydych yn cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd, fel arfer bydd
gennych bresgripsiwn amlroddadwy, sy’n eich galluogi i archebu’r
hyn sydd ei angen arnoch pan fyddwch ei angen heb orfod gweld
meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol. Weithiau, fodd
bynnag, efallai y bydd angen adolygiad meddyginiaeth arnoch
cyn i’ch presgripsiwn nesaf gael ei roi (os yw hyn yn wir, dylech
drefnu apwyntiad ar gyfer yr adolygiad a gofyn i’r practis ddarparu
presgripsiwn interim i sicrhau bod digon gennych tan yr adolygiad).
Os byddwch yn derbyn presgripsiwn gan ysbyty, dylid casglu’r
feddyginiaeth hon o fferyllfa’r ysbyty.
Cael canlyniadau profion
Pan fydd eich practis meddyg teulu yn archebu prawf ar eich
rhan, dylid dweud wrthych pa mor hir y dylech ddisgwyl aros am y
canlyniadau a sut i’w cael.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi ffonio’r practis ar ôl y dyddiad
dychwelyd disgwyliedig, ac efallai na fydd y practis yn cysylltu â chi
oni bai bod angen gwneud gwaith dilynol ar ôl derbyn y canlyniadau.
Os yw eich prawf wedi’i drefnu gan ysbyty, yr ysbyty sy’n gyfrifol am
ddweud y canlyniad wrthych, nid eich practis meddyg teulu.
Gall staff y dderbynfa ddosbarthu rhai canlyniadau profion dros
y ffôn neu wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, nid ydynt yn gymwys
i wneud sylwadau ar ganlyniadau profion. Dylech felly wirio’r
canlyniadau a gwneud apwyntiad dilynol i’w trafod gyda meddyg os
oes angen.
Dylai fod gan eich practis bolisïau llym ar gyfrinachedd a diogelu
data. Dylent ond rhoi canlyniadau i’r person y maent yn ymwneud
ag ef oni bai bod y person hwnnw wedi rhoi caniatâd ymlaen llaw i’w
rhyddhau neu os nad yw’n gallu eu deall. Os yw’r person dan sylw o
dan 16 oed, gellir rhoi’r canlyniadau i’r rhiant neu warcheidwad.
Talu am ofal iechyd gan eich meddygfa
Nid yw meddygon teulu yn codi tâl am driniaeth sylfaenol y GIG.
Rhaid i’ch practis ddweud wrthych os codir tâl am wasanaeth.
Mae brechlynnau a gynigir i rai grwpiau poblogaeth sydd â risg
uwch, fel yr eryr, covid, ffliw a niwmonia, am ddim.
Mae rhai brechlynnau teithio, ar gyfer clefydau heintus fel Hepatitis A, teiffoid a cholera hefyd yn rhad ac am ddim, ond rhaid talu am rai
eraill, ar gyfer clefydau sy’n annhebygol o ledaenu os bydd rhywun
yn eu dal (e.e. y gynddaredd).
Os yw eich meddyg teulu yn meddwl bod angen i chi weld arbenigwr a’ch bod am dalu amdano’n breifat, gall eich cyfeirio at ymgynghorydd preifat neu arbenigwr.
Nid yw rhai gwasanaethau meddygon teulu, megis adroddiadau
meddygol ar gyfer cyflogwyr neu ddibenion yswiriant, yn dod o dan
y GIG ychwaith, a chodir tâl amdanynt.
Cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch
Rhaid i bractisau meddygon teulu gynhyrchu taflen practis, sy’n
disgrifio’r gwasanaethau sydd ar gael i’w cleifion, ac sy’n darparu
gwybodaeth am bethau fel amseroedd meddygfeydd, clinigau ac
ymweliadau cartref.
Mae gan bractisau meddygon teulu nifer o ddyletswyddau i
ddarparu gwybodaeth hygyrch i gleifion a dylent wneud addasiadau
rhesymol (lle bo angen) i ddiwallu eich anghenion.
Nam ar y synhwyrau
Os ydych yn byw gyda math o nam ar y synhwyrau, mae’n bwysig
eich bod yn rhannu eich anghenion gwybodaeth a chyfathrebu â’ch
practis.
Dylai eich practis allu bodloni’ch anghenion, ee trwy gynhyrchu
llythyrau mewn print bras ac ychwanegu awgrymiadau at eich
cofnod meddygol am eich anghenion cyfathrebu a gwybodaeth.
Mae’n ofynnol i bractisau gasglu, cofnodi, amlygu a rhannu
anghenion cyfathrebu cleifion â nam ar y synhwyrau, o dan Safon
Gwybodaeth Hygyrch GIG Cymru.
Pan fydd meddygfa yn eich cyfeirio at ysbyty, dylid anfon eich
anghenion gwybodaeth a chyfathrebu yn awtomatig gyda’r
atgyfeiriad.
Iaith
Dylai eich meddygfa ofyn i chi pa iaith y mae’n well gennych ei
defnyddio a gwneud cofnod ohoni. Os nad ydych yn gyfforddus yn
cyfathrebu yn Gymraeg neu Saesneg, dylech ofyn i’ch practis am
wasanaethau cyfieithu ar y pryd.
Rhaid i bractisau meddygon teulu gyflawni nifer o ddyletswyddau
sy’n ymwneud â’r Gymraeg, gan gynnwys:
- Darparu cyfarchiad wedi’i recordio yn Gymraeg a Saesneg ar
y ffôn. - Darparu fersiynau Cymraeg o’r holl ddogfennau neu ffurflenni
a ddarperir gan y bwrdd iechyd lleol. - Annog staff i wisgo bathodyn neu lanyard i ddangos eu bod yn gallu siarad neu’n dysgu Cymraeg, os ydynt yn darparu
gwasanaethau yn Gymraeg - Sicrhau bod unrhyw arwydd neu hysbysiad newydd am
wasanaethau’r GIG a ddarperir yn ddwyieithog.
Mae’n bosibl y bydd trefniadau iaith Gymraeg ychwanegol ar waith
os caiff eich practis ei reoli’n uniongyrchol gan fwrdd iechyd. Mae’r
union ofynion yn amrywio’n lleol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael
gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg (mae’r manylion cyswllt ar
ddiwedd y canllaw hwn).
Os ydych yn credu nad yw eich meddygfa yn cyflawni ei
dyletswyddau mewn perthynas â’r Gymraeg, gallwch gyflwyno cwyn
i’r bwrdd iechyd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gyflwyno
cwynion isod.
Mynediad nad yw’n ddigidol
Mae gennych hawl i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau
mewn ffordd sy’n addas i chi. Os nad ydych yn defnyddio cyfrifiadur
neu ffôn clyfar neu os nad ydych yn hyderus yn gwneud hynny, mae
gennych hawl i dderbyn yr un lefel o wybodaeth a gwasanaeth â
phobl sydd yn eu defnyddio.
Os ydych chi’n cael anhawster i gael mynediad at yr hyn sydd ei
angen arnoch, dylech gysylltu â rheolwr y practis neu ofyn am
gymorth drwy eich bwrdd iechyd (mae’r manylion cyswllt ar ddiwedd y canllaw hwn).
Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi canllaw ar wahân ar eich hawliau
i gael mynediad at y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen
arnoch trwy ddulliau nad ydynt yn ddigidol.
Cysylltwch â’r Comisiynydd i dderbyn copi neu ewch i wefan y
Comisiynydd. Ceir y manylion ar dudalen 37.
Mynediad at gofnodion iechyd
Mae gennych hawl o dan Ddeddf Diogelu Data (DPA) 2018 a’r
Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) i gael mynediad at eich
gwybodaeth bersonol, neu, mewn rhai amgylchiadau, gofnod iechyd
person sydd wedi marw.
Os ydych am weld y cofnod iechyd a grëwyd gan eich meddyg
teulu, dylech gysylltu â’ch practis yn uniongyrchol a gofyn am
gopi. Gallant roi copi printiedig o’ch cofnod i chi neu anfon fersiwn
ddigidol atoch.
Pan fydd rhywun yn marw, caiff ei gofnod iechyd meddyg teulu ei
storio gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, felly bydd
angen i chi gysylltu â’i swyddfa leol os dymunwch weld hyn (mae’r
manylion cyswllt ar ddiwedd y canllaw hwn).
Sut i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn eich practis
Rhoi adborth
Mae gan bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ddyletswydd i
wrando ar gleifion, gan gydnabod eu gwybodaeth a’u profiad o’u
hiechyd eu hunain, a chydnabod eu pryderon. Os oes rhywbeth yr
hoffech ei ddweud wrth eich gweithiwr proffesiynol, mae gennych
hawl i’w ddweud, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn
ffordd gwrtais a pharchus (dylai gweithwyr proffesiynol ystyried y
ffaith y gallech fod yn ofidus, yn bryderus, yn sâl neu mewn poen).
Mae’n ofynnol i bob practis meddyg teulu gael dealltwriaeth glir o
anghenion cleifion o fewn eu practisau a sut y gellir eu diwallu.
Disgwylir i bractisau gynnal Arolwg Cenedlaethol o Brofiad y Claf,
ystyried yr hyn y mae eu cleifion yn ei ddweud wrthynt drwy’r
arolwg, creu cynllun gweithredu yn seiliedig ar yr adborth a gwneud
gwelliannau. Tra bod yr arolwg yn rhedeg, dylai eich practis roi’r
cyfle i chi gymryd rhan pan fyddwch yn cysylltu â’r practis.
Os yw practisau’n gwneud newidiadau i’r ffordd y maent yn
gweithredu neu i’r gwasanaethau y maent yn eu darparu, disgwylir
iddynt ymgynghori â’r cyhoedd yn eu hardaloedd mewn amrywiaeth
o ffyrdd, e.e.
- Digwyddiadau cyfarfodydd cyhoeddus
- Ymgysylltu drwy’r cyfryngau cymdeithasol
- Gohebiaeth drwy lythyr
- Posteri
- Hysbysiadau
- Cyhoeddiadau yn y wasg leol
- Arolygon cleifion
Bydd practisau yn defnyddio gwahanol gyfuniadau o ddulliau ac efallai na fyddant yn defnyddio pob dull.
Grwpiau Cyfranogiad Cleifion
Mae gan rai practisau meddygon teulu Grŵp Cyfranogiad Cleifion
sy’n cynnwys gwirfoddolwyr o blith y cleifion sydd wedi’u cofrestru
gyda’r practis, sy’n cyfarfod yn rheolaidd ag aelodau o dîm y practis.
Mae’r grŵp yn cynrychioli barn cleifion ac yn gwneud awgrymiadau
am welliannau i’r practis ac yn trafod polisïau a gwasanaethau’r
practis.
Os oes gan eich practis Grŵp Cyfranogiad Cleifion, efallai y
byddwch am ystyried ymuno â neu gyfrannu eich barn drwy un o’r
aelodau er mwyn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Llais
Llais yw corff cenedlaethol llais y dinesydd ar gyfer iechyd a gofal
cymdeithasol yng Nghymru. Mae Llais yn ceisio deall eich barn
a’ch profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol, a sicrhau bod y rhai
sy’n gwneud penderfyniadau yn defnyddio’ch adborth i lunio’ch
gwasanaethau.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt Llais ar dudalen 38.
Nodi pryderon a gwneud cwynion
Nodi pryderon yn anffurfiol
Os oes gennych bryder am y gwasanaeth a gawsoch gan eich
practis meddyg teulu, dylech siarad â’r staff sy’n ymwneud â’ch
gofal cyn gynted â phosibl, fel y gallant geisio datrys eich pryderon
ar unwaith. Os yw’n well gennych, gallwch ofyn i dîm cwynion eich
bwrdd iechyd wneud hynny. Mae manylion cyswllt y byrddau iechyd
ar dudalen 36.
Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le gyda’ch gofal neu driniaeth, dylech
dderbyn ymddiheuriad a dylai’r practis ddweud wrthych beth fydd yn ei wneud i wella ac atal yr un peth rhag digwydd i bobl eraill.
Ni ddylech gael eich tynnu oddi ar restr practis dim ond oherwydd
eich bod wedi nodi pryder.
Nodi pryderon yn ffurfiol
Mae proses annibynnol ar gyfer gwneud cwynion am y GIG yng
Nghymru o’r enw ‘Gweithio i Wella’. Mae rhagor o wybodaeth ar
ddiwedd y canllaw hwn.
Os dymunwch gwyno am y gwasanaethau a ddarperir gan
eich practis meddyg teulu, dylech sôn am y pryderon hyn yn
uniongyrchol wrth reolwr y practis, o fewn 12 mis i’r digwyddiad
neu broblem. Os nad ydych am ddelio â’r practis yn uniongyrchol,
gallwch gysylltu â’r tîm cwynion yn eich bwrdd iechyd lleol yn lle
hynny.
Gallwch wneud cwyn eich hun neu ofyn i aelod o’r teulu, ffrind, neu
ofalwr eich cynrychioli (bydd angen i chi roi caniatâd ysgrifenedig
iddynt wneud hyn).
Mae gan Llais hefyd eiriolwyr cwynion annibynnol a hyfforddedig a
all eich cefnogi i wneud cwyn.
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Os byddwch yn mynd drwy’r broses Gweithio i Wella ac yn
anfodlon â’r ymateb terfynol i’ch cwyn, gallwch gyfeirio’ch cwyn yn
uniongyrchol at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ar holl gyrff y llywodraeth ac
mae’r gwasanaeth a ddarperir yn ddiduedd ac yn rhad ac am ddim.
Mae manylion cyswllt Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru ar ddiwedd y canllaw hwn.
Cwynion yn erbyn gweithwyr proffesiynol unigol
Os ydych am nodi pryder am weithiwr gofal iechyd proffesiynol
unigol, gallwch gysylltu â’r corff rheoleiddio ar gyfer eu proffesiwn.
Mae rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y canllaw hwn.
Gwahaniaethu
Os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef gwahaniaethu o dan
Ddeddf Cydraddoldeb 2010, dylech gysylltu â’r Gwasanaeth
Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS). Mae’r manylion
cyswllt ar ddiwedd y canllaw hwn.
Rhagor o wybodaeth a chysylltiadau defnyddiol
Gwybodaeth a chyngor iechyd (gan gynnwys dod o hyd i bractis meddyg teulu)
GIG 111
Deialwch 111 ar y ffôn 111.wales.nhs.uk
(Ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys deialwch 111 a gwasgwch
OPSIWN 2)
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
01443 848585 pcgc.gig.cymru
Manylion cyswllt swyddfeydd rhanbarthol:
https://pcgc.gig.cymru/cysylltu-a-ni/manylion-cyswllt-eraill/
Byrddau Iechyd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
01873 732732 bipab.gig.cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
01248 384 384 bipbc.gig.cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
029 2074 7747 bipcaf.gig.cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
01443 744800 bipctm.gig.cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
01267 235151 biphd.gig.cymru
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
01874 711661 biap.gig.cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
01639 683344 bipba.gig.cymru
Cyngor a chymorth cyffredinol
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
03442 640 670 comisiynyddph.cymru
Age Cymru
Tel: 0300 303 4498 ageuk.org.uk/cymru
Gofalwyr Cymru
029 2081 1370 carersuk.org/cymru
Nodi pryder
Cwynion a phryderon GIG Cymru: Gweithio i Wella
https://www.llyw.cymru/cwynion-phryderon-am-gig-cymru-gweithio-i-wella
(copïau printiedig ar gael gan y Byrddau Iechyd a gan Llais)
Llais
02920 235 558 llaiscymru.org
Manylion cyswllt timau rhanbarthol Yn Eich Ardal: llaiswales.org/yn-eich-ardal
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
0300 790 0203 ombwdsmon.cymru
Comisiynydd y Gymraeg
0345 6033 221 comisiynyddygymraeg.cymru
Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb
0808 800 0082 equalityadvisoryservice.com
Cyrff rheoleiddio proffesiynol
Cyngor Meddygol Cyffredinol
0161 923 6602 gmc-uk.org
Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
020 7637 7181 rcn.org.uk
Cyngor Fferyllol Cyffredinol
020 3713 8000 pharmacyregulation.org
Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
0300 500 6184 hcpc-uk.org
Atodiad: Dod i adnabod tîm eich practis
Yn yr adran hon gallwch ddod o hyd i wybodaeth am rolau
gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd bellach yn
bresennol mewn llawer o bractisau meddygon teulu, a’r ffyrdd y
gallant gefnogi eich triniaeth a’ch gofal.
Derbynnydd
Staff derbynfa yn aml fydd eich pwynt cyswllt cyntaf â phractis
meddyg teulu ac maent yn ‘llyw-wyr gofal’ hyfforddedig, sy’n golygu
y byddant yn nodi’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gorau i chi ei
weld yn seiliedig ar yr atebion a roddwch i’w cwestiynau.
Po fwyaf o wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i’r derbynnydd, yr
hawsaf fydd hi iddynt nodi’r gweithiwr proffesiynol gorau i chi ei
weld. Mae’n ofynnol i dderbynyddion, fel holl staff y practis, yn ôl y
gyfraith a thrwy gontract i gadw’r wybodaeth a roddwch iddynt yn
gyfrinachol.
Meddyg Teulu
Mae eich meddyg teulu yn feddyg sy’n arbenigo mewn meddygaeth
gyffredinol, gan ddarparu triniaeth a gofal meddygol.
Mae meddygon teulu yn trafod iechyd a thriniaeth cleifion yn y
practis, ar y ffôn neu drwy alwad fideo ac yn ymweld â rhai pobl
gartref. Maent yn trin salwch acíwt a chronig, yn darparu gofal ataliol ac addysg iechyd i gleifion, yn gwneud ac yn rheoli atgyfeiriadau i’r ysbyty, ac yn rheoli argyfyngau yn y practis.
Mae meddygon teulu yn rhagnodi ac yn adolygu meddyginiaethau,
yn rheoli ac yn darparu imiwneiddiadau ac yn adolygu canlyniadau
labordy, radioleg a chanlyniadau eraill. Mae meddygon teulu hefyd
yn ysgrifennu llythyrau i gefnogi cleifion, yn cyhoeddi tystysgrifau
marwolaeth ac yn cysylltu â’r Crwner.
Cydymaith Meddygol
Mae Cymdeithion Meddygol yn ymarferwyr sydd wedi’u hyfforddi’n
feddygol ac sy’n gweithio dan oruchwyliaeth a chyda chymorth y
meddyg teulu. Maent yn fath cymharol newydd o weithiwr gofal
iechyd proffesiynol ond maent yn dod yn fwy cyffredin.
Mae Cymdeithion Meddygol wedi’u hyfforddi i’ch helpu mewn
amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys cymryd eich hanes meddygol,
cynnal archwiliadau corfforol, gwneud diagnosis, cynllunio sut i reoli
eich cyflwr iechyd, cyflawni triniaethau a rhoi cyngor hybu iechyd ac
atal afiechyd i chi.
Uwch Ymarferydd Nyrsio (UYN)
Mae Uwch Ymarferwyr Nyrsio yn nyrsys medrus iawn sy’n gallu
gwneud eu hasesiadau eu hunain, gwneud diagnosis a dehongli
canlyniadau profion. Gall eich UYN ragnodi meddyginiaeth briodol i
chi neu eich cyfeirio at arbenigwr arall os oes angen.
Nyrs Practis
Mae nyrsys practis yn gweithio gyda meddygon teulu a gweithwyr
gofal iechyd proffesiynol eraill yn nhîm y practis, yn ogystal ag yn
uniongyrchol â chleifion, i ddarparu a chydlynu asesiadau, triniaeth
a gofal.
Mae nyrsys practis wedi’u hyfforddi i’ch helpu mewn amrywiaeth
o ffyrdd, gan gynnwys cymryd eich hanes meddygol, cynnal
archwiliadau corfforol, gwneud diagnosis, cynllunio sut i reoli eich
cyflwr iechyd, cyflawni triniaethau a rhoi cyngor hybu iechyd ac atal
afiechyd i chi.
Nyrsys Eraill
Gall mathau eraill o nyrsys hefyd weithio yn eich practis meddyg
teulu neu’n agos gyda nhw, gan gynnwys Nyrsys Ardal, Nyrsys
Cymunedol, Nyrsys Cyflyrau Cronig, aelodau o Dimau Ymateb
Cyflym a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd. Maent i gyd yn weithwyr
gofal iechyd proffesiynol, yn fedrus mewn gofal sy’n helpu pobl i
wella, cynnal, neu adfer eu hiechyd, i ymdopi â phroblemau iechyd,
ac i gyflawni’r ansawdd bywyd gorau posibl beth bynnag fo’u clefyd
neu anabledd.
Cynorthwyydd Gofal Iechyd
Mae Cynorthwywyr Gofal Iechyd yn gweithio ochr yn ochr â nyrsys
yn nhîm y practis, gan wneud llawer o dasgau nyrsio fel cymryd eich
tymheredd a’ch pwls, gwirio’ch anadlu a chofnodi’ch pwysau, a hybu
iechyd meddwl a chorfforol cadarnhaol.
Fferyllydd
Gall tîm eich practis gynnwys fferyllydd, sy’n arbenigwr ar reoli
meddyginiaethau.
Gall eich fferyllydd practis eich helpu gyda chyngor a chefnogaeth
ar ddefnydd priodol a diogel o feddyginiaethau a rheoli
meddyginiaethau, tra hefyd yn rhagnodi rhai meddyginiaethau eu
hunain ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau, o fân anhwylderau i salwch
hirdymor.
Os yw’r symptomau’n awgrymu ei fod yn rhywbeth mwy difrifol, mae
gan fferyllwyr yr hyfforddiant cywir i sicrhau eich bod yn gweld y
gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cywir.
Ffisiotherapydd
Gall tîm eich practis gynnwys ffisiotherapydd, sef y pwynt cyswllt
cyntaf i bobl â chyflyrau cyhyrysgerbydol (sy’n effeithio ar gyhyrau,
nerfau, tendonau, cymalau, cartilag, a disgiau’r asgwrn cefn). Maent hefyd yn gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau niwrolegol ac anadlol.
Mae ffisiotherapyddion yn rhoi cyngor arbenigol i helpu i adfer
symudiad a gweithrediad pan fydd anaf, salwch neu anabledd yn effeithio ar rywun. Gallant eich helpu trwy: ymgynghori ar
faterion yn ymwneud â ffitrwydd i weithio, asesiad a diagnosis, eich
cyfeirio’n uniongyrchol am belydr-x, rhoi pigiadau a rhagnodi rhai
meddyginiaethau, a rheoli eich cyflwr yn gynnar ac atal dirywiad.
Therapydd galwedigaethol
Mae therapyddion galwedigaethol yn darparu cymorth ymarferol i
helpu pobl i wella o salwch ac anaf ac i oresgyn rhwystrau sy’n eu
hatal rhag gwneud y gweithgareddau neu’r galwedigaethau sy’n
bwysig iddynt. Maent yn gweithio gyda’r tîm practis meddyg teulu
i ddatrys materion amrywiol sy’n ymwneud ag eiddilwch, iechyd
meddwl a ffitrwydd i weithio.
Byddant yn asesu eich anghenion, eich amgylchedd, a’ch
gweithgareddau bob dydd, gan nodi eich cryfderau a’ch heriau, i
fynd i’r afael â phryderon brys fel anawsterau yn ymdopi gartref
neu yn y gwaith. Yn ogystal, byddant yn rhoi cymorth ac adnoddau
ymarferol ar waith, gan gynnwys adsefydlu, addasiadau yn y cartref
neu’r gweithle, a strategaethau hunanreoli, i’ch galluogi i fyw a
gweithio’n fwy annibynnol a gwella’ch iechyd meddwl trwy amrywiol
dechnegau llesiant.
Uwch Ymarferydd Parafeddygol (UYP)
Mae Uwch Ymarferwyr Parafeddygol yn cael eu hyfforddi i
frysbennu cleifion, cynnal asesiadau ac archwiliadau, adolygu
canlyniadau profion, cynnal adolygiadau o feddyginiaethau, gwneud
penderfyniadau ac mewn rhai achosion rhagnodi meddyginiaeth.
Gallant hefyd gyfeirio pobl at wasanaethau arbenigol fel adsefydlu,
neu ar gyfer rhai ymchwiliadau.
Gall UYP gynnal ymweliadau cartref, yn enwedig ar gyfer poenau yn
y frest ac anawsterau anadlu. Os nad oes angen i chi fynd i’r ysbyty,
gall UYP ddarparu triniaeth a chymorth ar unwaith. Gall UYP hefyd
redeg clinigau mân anafiadau neu salwch, helpu i reoli cyflyrau
cronig, darparu gofal diwedd oes a chynnal mân lawdriniaethau.
Gweithiwr cyswllt neu lywiwr presgripsiynu cymdeithasol (atgyfeirio cymunedol)
Efallai y bydd gan eich practis weithiwr cyswllt neu lywiwr
penodedig a fydd yn gweithio gyda chi i’ch helpu i gael mynediad at
weithgareddau yn y gymuned a fydd o fudd i’ch iechyd a’ch llesiant.
Darperir y gweithgareddau hyn fel arfer gan sefydliadau yn y
sector gwirfoddol a chymunedol, ac maent yn cynnwys gwirfoddoli,
gweithgareddau celfyddydol, dysgu mewn grŵp, garddio, cyfeillio,
coginio, cyngor bwyta’n iach ac amrywiaeth o chwaraeon.
Gall eich meddyg teulu neu unrhyw un o’r staff eraill yn eich practis
hefyd eich cyfeirio at y gweithgareddau hyn.