Angen Help?
A stethoscope and pen on a medical chart

Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu: Profiadau pobl hŷn – Diweddariad ar y cynnydd

i mewn Adnoddau, Ddylanwadu ar polisi ac arferion

Mae pobl hŷn o bob cwr o Gymru wedi bod yn sôn yn gyson wrth y Comisiynydd am fynediad i bractisau meddygon teulu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cyflwynwyd newidiadau i’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu – yn benodol, y newid cyflym i ddarparu gwasanaethau ar-lein, a gafodd ei gyflymu’n sylweddol gan bandemig Covid-19 – ac mae hyn yn peri’r risg o adael pobl hŷn ar ôl, yn enwedig y rheini sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.

Yn 2023, roedd y Comisiynydd wedi gwahodd pobl hŷn i rannu eu profiadau diweddar o gael mynediad i bractisau meddygon teulu yng Nghymru, gan gynnwys trefnu a mynd i apwyntiadau, perthnasoedd a rhyngweithio â meddygon a staff meddygfeydd, parhad gofal a chlinigwyr, ac amgylchedd y feddygfa ei hun, yn ogystal â materion eraill sy’n effeithio ar fynediad i bractisau meddygon teulu. Roedd sefydliadau pobl hŷn cenedlaethol a lleol wedi helpu drwy ddosbarthu holiaduron ar ran y Comisiynydd, a chafodd dros 900 o arolygon ei llenwi ym mhob cwr o Gymru, ac mae’r Comisiynydd yn ddiolchgar i bawb a rannodd eu profiadau.

Cyhoeddodd y Comisiynydd ei hadroddiad Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru: Profiadau Pobl Hŷn ym mis Mawrth 2024. Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion am y camau y dylai practisau meddygon teulu, byrddau iechyd, awdurdodau lleol ac eraill eu cymryd i wella profiadau pobl hŷn.

Mae’r diweddariad hwn yn rhoi cipolwg ar y cynnydd sydd wedi cael ei wneud hyd yma, gan gynnwys manylion y camau mae’r Comisiynydd wedi’u cymryd, fel yr oedd wedi’i addo yn ei hadroddiad.

 

Darllenwch yr Adroddiad Diweddaru Yma Darllenwch ganllaw'r Comisiynydd i gael mynediad i bractisau meddygon teulu yma

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges