Angen Help?

Practisau Meddygon Teulu yng Nghymru: Canllaw i’ch hawliau (HTML)

Practisau Meddygon Teulu yng Nghymru: Canllaw i’ch hawliau (HTML)

Gwybod Eich Hawliau

Gall ein hawliau ein helpu mewn llawer o sefyllfaoedd bob dydd, gan gynnwys yn ein meddygfa.

Gall gwybod am ein hawliau ein helpu i ddeall y gwasanaethau a
ddylai fod ar gael, y pethau y mae gennym hawl iddynt, a’r cymorth a’r addasiadau y dylid eu cynnig os bydd eu hangen arnom.

Felly, mae’n ddefnyddiol cofio, os ydych chi’n byw yng Nghymru, bod gennych chi hawl i’r canlynol:

  • Bod wedi cofrestru â phractis meddyg teulu.
  • Cael apwyntiad claf newydd o fewn chwe mis i gofrestru.
  • Cael mynediad i’ch practis yn bersonol, dros y ffôn ac ar-lein yn ystod oriau agor.
  • Apwyntiad ar yr un diwrnod os bydd clinigydd yn penderfynu bod eich angen yn un brys.
  • Nodi ei bod yn well gennych weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol penodol.
  • Presgripsiynau am ddim gan fferyllydd yng Nghymru (os ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru).
  • Cael gafael ar wybodaeth am eich practis a’r gwasanaethau mewn ffordd sy’n addas i chi.
  • Cael gafael ar eich gwybodaeth iechyd personol, neu, mewn rhai amgylchiadau, cofnod iechyd person ymadawedig.
  • Unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i’ch practis yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
  • Taflen wybodaeth yn nodi’r ystod o wasanaethau y mae eich practis yn eu darparu.
  • Gwybodaeth am sut i gael help a chyngor.
  • Fersiynau Cymraeg o unrhyw ddogfennau a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd.
  • Cael symud eich cofrestriad i bractis arall.

Darparu gwasanaethau i gleifion

Yn ogystal â gwybod am ein hawliau, mae hefyd yn ddefnyddiol gwybod am y pethau y mae’n rhaid i feddygfeydd yng Nghymru eu gwneud wrth ddarparu gwasanaethau i gleifion.

Rhaid i bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru wneud y canlynol:

  • Darparu gwasanaethau i bobl sydd â chyflyrau iechyd y disgwylir iddynt wella ohonynt, rheoli clefydau cronig a rheoli cleifion sydd â salwch angheuol yn gyffredinol.
  • Darparu gwasanaethau ar adegau sy’n briodol i ddiwallu anghenion rhesymol cleifion.
  • Sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau meddygon teulu yn effeithiol all-lein ac ar-lein.
  • Sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar wasanaethau drwy gydol oriau craidd mewn argyfwng.
  • Sicrhau bod drysau eu ‘prif adeiladau’ ar agor a bod staff ar y safle rhwng 8.30am a 6.00pm.
  • Darparu cyfarchiad wedi’i recordio yn Gymraeg ac yn Saesneg ar y ffôn.
  • Dweud wrthych chi os codir tâl am wasanaeth.
  • Ystyried profiadau pobl o gael gafael ar eu gwasanaethau a’u
    defnyddio a chymryd camau cymesur i fynd i’r afael ag unrhyw
    faterion cydraddoldeb.
  • Casglu, cofnodi, amlygu a rhannu eich anghenion cyfathrebu os
    ydych chi’n byw gyda nam ar y synhwyrau.
  • Sicrhau bod unrhyw arwyddion a hysbysiadau newydd am
    wasanaethau’r GIG yn ddwyieithog; yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Arfer Da

Ar ben hynny, mae pethau eraill y dylai practisau meddygon teulu
fod yn eu gwneud i helpu i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y
gwasanaethau a’r cymorth y gallai fod eu hangen arnynt.

Mae’r arfer da hwn yn cynnwys:

  • Cynnig cymysgedd o apwyntiadau o bell (ffôn neu fideo), wyneb yn wyneb, ar frys, ar y diwrnod ac apwyntiadau y gellir eu trefnu ymlaen llaw, a bennir gan y practis wrth drafod â chleifion.
  • Trin cais ar-lein yn yr un ffordd â chais dros y ffôn.
  • Cynnig ymgynghoriad priodol i chi pan fyddwch yn cysylltu â’ch practis am y tro cyntaf, yn seiliedig ar asesiad o’ch angen clinigol.
  • Darparu gwasanaeth ffôn sy’n diwallu anghenion cleifion yn llawn.
  • Ystyried eich profiad o gael gafael arnynt ar-lein a dros y ffôn.
  • Gofyn beth yw eich dewis iaith a gwneud cofnod ohoni.
  • Cofnodi’r ffaith eich bod yn gofalu am rywun arall.

Darganfod mwy

Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi canllaw manylach – Gwasanaethau Meddygfeydd yng Nghymru: Canllaw i Bobl Hŷn – sy’n darparu gwybodaeth am bopeth o gofrestru gyda phractis, i wneud a mynychu apwyntiad, i’r gwahanol rolau staff sydd bellach yn gyffredin mewn practisau meddygon teulu.

Os hoffech gopi o’r canllaw, ffoniwch 03442 640 670.

Gallwch hefyd lawrlwytho’r canllaw o wefan y Comisiynydd:
comisiynyddph.cymru.

Cysylltiadau defnyddiol

Os ydych chi’n poeni nad yw eich meddygfa yn eich trin yn deg nac yn darparu’r gwasanaethau a’r cymorth cywir i ddiwallu eich anghenion a chynnal eich hawliau, efallai yr hoffech chi godi hyn yn uniongyrchol gyda’ch practis meddyg teulu neu eich bwrdd iechyd.

Mae manylion cyswllt sefydliadau eraill sy’n gallu darparu cymorth a
chefnogaeth ar gael isod:

GIG 111

Ffoniwch 111 ar y ffôn
111.wales.nhs.uk

Llais

02920 235 558
llaiswales.org

Gwasanaeth Cyngor a Chymorth ynghylch Cydraddoldeb

0808 800 0082
equalityadvisoryservice.com

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Gwasanaeth Cyngor a Chymorth

03442 640 670
comisiynyddph.cymru

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges