Angen Help?
Older woman with her head in hands in black and white

Wythnos Ymwybyddiaeth o Gam-drin Rhywiol a Thrais Rhywiol 2025: Taflu goleuni ar bwnc anghyfforddus

i mewn Newyddion

Wythnos Ymwybyddiaeth o Gam-drin Rhywiol a Thrais Rhywiol 2025: Taflu goleuni ar bwnc anghyfforddus

Mae deall profiadau pobl hŷn o gam-drin yn ei holl ffurfiau yn hanfodol i sicrhau bod pawb y mae cam-drin yn effeithio arnynt, waeth beth yw eu hoedran neu eu hamgylchiadau, yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae hyn yn cynnwys profiadau pobl hŷn o gam-drin rhywiol, sy’n cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl.

Mae cam-drin rhywiol yn gallu dechrau yn nes ymlaen mewn bywyd i rai pobl hŷn, ac mae pobl hŷn eraill yn gallu cario trawma, sy’n aml heb ei ddatrys, oherwydd cam-drin rhywiol a ddigwyddodd yn y gorffennol.

Ychydig iawn o ddata sydd ar gael am brofiadau pobl hŷn o gam-drin rhywiol, ond canfu ymchwil gan Uned Atal Trais Cymru[1] fod heddluoedd Cymru wedi cofnodi 935 o droseddau rhywiol yn erbyn pobl hŷn yn ystod cyfnod o 5 mlynedd, sy’n golygu bod trosedd o’r math hwn yn cael ei gofnodi’n fras bob yn ail ddiwrnod. Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod llawer iawn o gam-drin rhywiol yn digwydd heb gael ei riportio, felly mae’n debyg bod y nifer go iawn yn uwch o lawer.

Roedd y gwaith ymchwil hwn hefyd yn dangos mai oedran mwyaf cyffredin y bobl sy’n cyflawni troseddau rhywiol yn erbyn pobl hŷn oedd 75-84, rhywbeth a allai herio’r rhagdybiaethau ynghylch pwy sy’n cyflawni’r mathau hyn o droseddau. Yn yr un modd, canfu’r ymchwil mai’r lleoliad mwyaf cyffredin ar gyfer troseddau rhywiol yn erbyn pobl hŷn yw mewn ‘cartref neu annedd’, yn hytrach na lleoliadau eraill sy’n aml yn cael sylw amlycach yn y cyfryngau.

Mae cydnabod realiti profiadau pobl hŷn yn hanfodol er mwyn cynyddu’r cyfleoedd i adnabod ac i atal cam-drin, ochr yn ochr â sicrhau bod camau gweithredu, adnoddau a chymorth yn cael eu targedu’n briodol ac yn effeithiol.

Mae hyn yn cynnwys deall anghenion pobl hŷn er mwyn gallu darparu’r gwasanaethau iawn, yn ogystal â mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n gallu atal pobl hŷn rhag gofyn am help, sy’n gallu cynnwys cywilydd neu stigma, credoau bod cam-drin yn fater preifat, ofn canlyniadau codi llais, neu ragdybiaethau mai dim ond i bobl iau mae gwasanaethau a chymorth ar gael.

Mae cam-drin rhywiol yn fater sy’n aml yn gudd iawn ac yn bwnc anghyfforddus i’w drafod, sy’n gallu arwain at ddiffyg gweithredu gan lunwyr polisïau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

Dyna pam fy mod yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled Cymru i sicrhau bod mynd i’r afael â cham-drin pobl hŷn yn ei holl ffurfiau yn flaenoriaeth ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn golygu defnyddio data a thystiolaeth lle mae hyn ar gael, yn ogystal â phrofiadau pobl hŷn sy’n cael eu cofnodi drwy ymchwil ac ymgysylltu, i gyflwyno’r achos dros newid, hyrwyddo arferion da a galw am weithredu gydag un llais cyfunol pwerus.

Roedd cyhoeddi Cynllun Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i Atal Cam-drin Pobl Hŷn – y cyntaf o’i fath yn y DU – yn gam pwysig ymlaen, ond mae hi’n hanfodol nawr bod ei uchelgeisiau’n cael eu trawsnewid yn gamau ystyrlon ac ymarferol i ddiogelu ac i gefnogi pobl hŷn.

Mae’n hynod bwysig hefyd bod gan staff sy’n gweithio ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i adnabod cam-drin a sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau a’r gefnogaeth briodol.

Bydd cydweithio i fwrw ymlaen â’r gweithredu hwn mewn ffordd gydgysylltiedig yn hanfodol er mwyn parhau i adeiladu ar y cynnydd rydyn ni wedi’i weld dros y blynyddoedd diwethaf ac, yn bwysicach o lawer, i wella profiadau pobl hŷn o ran cael gafael ar gymorth.

Ochr yn ochr â hyn, rhaid i ni fod yn barod i gael trafodaethau agored am bynciau anodd – gan gynnwys cam-drin rhywiol – i sicrhau eu bod yn cael eu deall yn well a bod pwysigrwydd sicrhau newid i bobl hŷn yn cael ei gydnabod yn llawn.

Cymorth os ydych chi’n cael eich cam-drin

[1] Walker, A. (2024) Violence Against Older People in Wales: Awst 2024. Uned Atal Trais Cymru, Caerdydd – DS, mae’r adroddiad llawn ar gael i weithwyr proffesiynol drwy Borth Atal Trais Cymru

 

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges