Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i weithredu ar frys i amddiffyn hawliau, diogelwch a llesiant pobl hŷn ledled Cymru
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog newydd, Rhun ap Iorwerth, yn galw am weithredu ar frys mewn meysydd allweddol i ddiogelu hawliau, diogelwch a llesiant pobl hŷn ledled Cymru.
Yn ei llythyr, mae’r Comisiynydd yn tynnu sylw at y ffaith, er bod llawer o bobl hŷn yng Nghymru yn cael profiadau cadarnhaol a chefnogaeth gref gan y gymuned, bod heriau sylweddol yn parhau y mae angen i Lywodraeth Cymru roi sylw iddynt ar unwaith, llawer ohonynt yn cyd-fynd â’r ymrwymiadau ym mhapur ‘100 Diwrnod Cyntaf’ y Llywodraeth.
Mae’r Comisiynydd yn galw am gynllun gweithredu i roi terfyn ar yr hyn a elwir yn ‘ofal coridor’ lle caiff triniaethau eu darparu mewn amgylcheddau anghlinigol, o ystyried yr effaith anghymesur y mae’r mater hwn yn ei chael ar bobl hŷn (fel prif ddefnyddwyr ysbytai), a’r risgiau sylweddol y mae’n eu creu o ran diogelwch ac urddas cleifion.
Mae’r Comisiynydd hefyd yn galw am fwy o gymorth i bobl hŷn sy’n cael trafferthion ariannol, gyda disgwyl i gostau byw gynyddu’n sylweddol yn ystod y misoedd i ddod o ganlyniad i’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol. Mae hi eisiau i Lywodraeth Cymru sefydlu Cronfa Cydnerthedd newydd i ddarparu cymorth i bobl hŷn sy’n ei chael hi’n anodd, ond nad ydynt yn gymwys i gael mathau eraill o gymorth ariannol, fel Credyd Pensiwn.
Ochr yn ochr â hyn, mae’r Comisiynydd eisiau i gamau pellach gael eu cymryd i fynd ati’n rhagweithiol i ganfod a helpu pobl hŷn i hawlio’r cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, a all fod yn werth miloedd y flwyddyn – amcangyfrifir bod dros £100m heb ei hawlio ac wedi aros gyda’r Trysorlys y llynedd yn hytrach na chyrraedd pocedi pobl hŷn.
Gyda ffocws cynyddol ar ddarpariaeth ddigidol, mae’r Comisiynydd hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych a oes gan gyrff a sefydliadau cyhoeddus y canllawiau sydd eu hangen arnynt i lywio drwy dirwedd ddigidol sy’n newid yn gyflym a sicrhau bod y gwasanaethau maen nhw’n eu datblygu yn hygyrch ac yn gynhwysol.
Yn olaf, mae’r llythyr yn pwysleisio’r cyfraniad sylweddol pobl hŷn i Gymru drwy weithio, gwirfoddoli a darparu gofal di-dâl, sy’n werth biliynau o bunnoedd bob blwyddyn, gan alw am fwy o gefnogaeth i alluogi gweithwyr hŷn i aros mewn gwaith neu ddychwelyd i waith, a allai roi hwb o tua £1bn y flwyddyn i economi Cymru.
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae’n hanfodol ein bod yn manteisio ar yr egni a’r momentwm sydd wedi deillio o etholiad hanesyddol a ffurfio Llywodraeth newydd i sicrhau newid ystyrlon a chadarnhaol i bobl hŷn.
“Mae heneiddio yng Nghymru yn brofiad cadarnhaol i lawer o bobl ac mae gennym sylfeini cryf i adeiladu cynnydd a newid ohonynt, yn enwedig y cryfder, y gwydnwch a’r gefnogaeth amhrisiadwy sydd yn ein cymunedau.
“Ond mae llawer i’w wneud o hyd i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i fyw a heneiddio’n dda, a bod eu hawliau’n cael eu diogelu a’u cynnal.
“Ac er y bydd angen i lawer o’r newid sydd ei angen i alluogi hyn gael ei gyflawni dros y tymor hirach, mae’n rhaid blaenoriaethu camau gweithredu mewn nifer o feysydd allweddol yn fy marn i.
“Dyna pam fy mod yn galw ar y Prif Weinidog i gymryd camau brys i ddod â’r argyfwng gofal coridor i ben, sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar gymorth costau byw os oes ei angen arnynt, ac i atal allgáu mewn byd sy’n dod yn fwyfwy digidol.
“Rwyf wedi gofyn am gyfarfod ag ef i drafod y materion hyn a sut i’w datrys yn fwy manwl, ac rwy’n edrych ymlaen at gael ymateb ganddo’n fuan.”