Angen Help?
Tri ffrind hŷn, un dyn, dwy fenyw, yn tynnu hunlun y tu allan. // Three older friends, one male, two females, taking a selfie outside.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn lansio cwrs dysgu newydd i ysbrydoli gweithredu yn erbyn oedraniaeth yng Nghymru

i mewn Newyddion

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn lansio cwrs dysgu newydd i ysbrydoli gweithredu yn erbyn oedraniaeth yng Nghymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi lansio cwrs dysgu newydd sydd wedi’i gynllunio i rymuso cyfranogwyr ledled Cymru i adnabod a herio oedraniaeth, sy’n dal i gael ei ystyried yn dderbyniol er gwaethaf y niwed sylweddol y mae’n ei achosi.

Mae’r cwrs rhyngweithiol, a ddatblygwyd ar y cyd â’r Brifysgol Agored yng Nghymru, yn defnyddio ystod eang o dystiolaeth a phrofiadau uniongyrchol pobl hŷn i helpu cyfranogwyr i ddeall graddfa ac effaith oedraniaeth ar unigolion a chymdeithas yn ehangach.

Mae’r cwrs yn ymdrin â nifer o feysydd allweddol lle mae oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran yn gyffredin, gan gynnwys mynediad at wasanaethau, cyflogaeth a recriwtio, ac ym myd y cyfryngau a hysbysebu.

Yn ogystal â chynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth, gan gynnwys am ddeddfwriaeth allweddol fel y Ddeddf Cydraddoldeb sydd wedi’i chynllunio i amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu, mae’r cwrs hefyd yn cynnig gwybodaeth ymarferol am sut i weithredu yn erbyn oedraniaeth, ynghyd â dolenni i adnoddau a sefydliadau defnyddiol eraill sy’n gallu darparu gwybodaeth a chymorth.

Er bod y cwrs wedi cael ei greu’n bennaf ar gyfer staff y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae’r cwrs ar gael am ddim i unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am y rôl y maen nhw’n gallu ei chwarae i fynd i’r afael ag oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran, a pham mae hyn mor bwysig.

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae oedraniaeth yn dal yn un o’r mathau mwyaf cyson o wahaniaethu sy’n aml yn cael ei anghofio. Mae’n siapio’r ffordd mae pobl hŷn yn cael eu gweld, eu trin, a’u gwerthfawrogi.

“Mae oedraniaeth yn golygu mai dim ond mewn termau negyddol yr ystyrir mynd yn hŷn yn aml, a’i fod yn rhywbeth i’w ofni ac yn gysylltiedig â dirywiad a dibyniaeth. Mae hyn yn atgyfnerthu agweddau oedraniaethol a gwahaniaethu, gan gyfyngu ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni wrth i ni heneiddio a chreu rhwystrau i fyw a heneiddio’n dda.

“Felly, rwy’n falch iawn o lansio’r cwrs dysgu hwn heddiw i helpu i roi’r wybodaeth ymarferol sydd ei hangen ar gyfranogwyr er mwyn iddynt allu adnabod oedraniaeth a theimlo eu bod wedi’u grymuso i roi gwybod amdano neu ei herio, sy’n rhan hanfodol o wneud oedraniaeth yn annerbyniol a rhoi diwedd arno.”

Mae’r modiwl wedi cael ei ddatblygu yn dilyn cyflwyno sesiynau dysgu oedraniaeth wyneb yn wyneb ac ar-lein gan dîm y Comisiynydd, a fynychwyd gan staff o amrywiaeth eang o gyrff a sefydliadau cyhoeddus allweddol ledled Cymru.

Roedd yr adborth o’r digwyddiadau hyn yn hynod gadarnhaol, a ysgogodd y Comisiynydd i archwilio sut y gellid cyflwyno cyfleoedd dysgu fel y rhain yn ehangach er budd hyd yn oed mwy o unigolion.

Roedd llwyfan OpenLearn y Brifysgol Agored yn ddelfrydol i gefnogi’r nod hwn, gan alluogi’r Comisiynydd i sicrhau bod yr hyfforddiant ar gael am ddim ac estyn allan at gynulleidfa lawer ehangach.

Roedd cydweithio â’r tîm OpenLearn a defnyddio eu harbenigedd a’u profiad i baratoi’r cynnwys i’w ddefnyddio ar lwyfan ar-lein yn hytrach na lleoliad wyneb yn wyneb hefyd wedi helpu i ddod â’r modiwl yn fyw drwy gynnwys profiadau bywyd ac astudiaethau achos, adrannau rhyngweithiol a chynnwys fideo gan sefydliadau sy’n gweithio ledled y byd i frwydro yn erbyn oedraniaeth.

Dywedodd Dr Scott McKenzie, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Dysgu, Sgiliau ac Arloesi yn y Brifysgol Agored yng Nghymru:

“Mae gan y Brifysgol Agored bartneriaeth gynyddol â gwasanaethau cyhoeddus Cymru, a thrwy OpenLearn, rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys cynghorau, colegau a chyrff statudol. Mae’r cwrs newydd, rhad ac am ddim hwn yn adlewyrchu ein cenhadaeth graidd o gynnig cyfleoedd i bawb. Ni ddylai cefndir person, gan gynnwys ei oedran, ei rwystro rhag cyflawni ei botensial. Mae darparu dysgu am ddim drwy OpenLearn hefyd yn ganolog i’r genhadaeth hon. Rydym yn helpu pobl i ddatblygu gwybodaeth newydd, cefnogi eu cymunedau, a chymryd eu camau cyntaf tuag at ddysgu gydol oes.”

Un o’r sefydliadau a gefnogodd y Comisiynydd drwy brofi’r cwrs yn ystod y camau datblygu terfynol oedd Dysgu, y corff dysgu ac arwain proffesiynol cenedlaethol ar gyfer ysgolion a lleoliadau a gynhelir yng Nghymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Dysgu, Dr Gwenllian Lansdown Davies:

“Fel corff cyhoeddus newydd yng Nghymru, rydym am i’n holl waith roi blaenoriaeth i greu amgylcheddau dysgu teg a chynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi. Mae’r cydweithrediad hwn gan ddau sefydliad dibynadwy yn grymuso cyfranogwyr gyda chyd-destun cyfreithiol defnyddiol a syniadau ymarferol am yr hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i fynd i’r afael ag oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran.”

Mae’r Comisiynydd wedi rhannu’r cwrs â sefydliadau a chyrff cyhoeddus allweddol ledled Cymru er mwyn gallu ei gyflwyno i’w timau, ac mae’n edrych ar gyfleoedd i gynnwys y cwrs mewn rhaglenni hyfforddi mewnol safonol.

Ychwanegodd y Comisiynydd:

“Mae oedraniaeth yn sail i lawer o’r materion sy’n wynebu pobl hŷn, ac yn ei hanfod mae annhegwch ac anghyfiawnder, ac nid ydym yn cytuno â’r naill na’r llall yma yng Nghymru.

“Dyna pam ei bod yn hanfodol bod oedraniaeth a’r niwed mae’n ei achosi yn cael ei gydnabod a’n bod ni i gyd yn chwarae ein rhan drwy sefyll i fyny a siarad yn ei erbyn, rhywbeth y bydd fy modiwl dysgu yn helpu i’w gefnogi.”

Gweld modiwl Oedraniaeth a Gwahaniaethu ar Sail Oedran y Comisiynydd

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges