Angen Help?

Comisiynydd yn ymateb i’r adroddiadau gwyliadwriaeth blynyddol cyntaf ar effaith tywydd oer

i mewn Newyddion

Wrth ymateb i gyhoeddi’r adroddiadau gwyliadwriaeth blynyddol cyntaf ar effaith tywydd oer ar salwch difrifol a marwolaethau yng Nghymru, a gyhoeddwyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru1, dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae cyhoeddi’r adroddiadau gwyliadwriaeth blynyddol cyntaf sy’n edrych ar effaith tywydd oer ar salwch difrifol a marwolaethau yn gam sylweddol a chadarnhaol ymlaen tuag at gryfhau ein dealltwriaeth o sut mae tywydd oer yn effeithio ar iechyd a llesiant pobl.

“Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod y realiti sy’n peri pryder mawr y tu ôl i’r ffigurau yn yr adroddiad hwn: mae tywydd oer yn parhau i gael effaith enfawr ar iechyd, annibyniaeth ac ansawdd bywyd llawer o bobl hŷn ledled Cymru – sy’n cael ei waethygu gan dai oer a llaith, tlodi tanwydd a’r argyfwng costau byw parhaus – gyda rhai unigolion yn talu’r pris eithaf.

“Rhaid i’r gwaith o fynd i’r afael â’r materion hyn barhau i fod yn flaenoriaeth genedlaethol, gan gynnwys cymryd camau parhaus i wella ansawdd ac effeithlonrwydd ynni cartrefi ledled Cymru, gan sicrhau bod pobl hŷn yn gallu byw mewn cynhesrwydd a diogelwch.

“Bydd cael data cadarn a chyson yn hanfodol i gefnogi hyn, gan alluogi tueddiadau i gael eu holrhain dros amser ac i ymyriadau gael eu mesur a’u gwerthuso o ran eu heffeithiolrwydd i sicrhau bod camau gweithredu’n seiliedig ar dystiolaeth glir.

“Ond ochr yn ochr â hyn, mae’n amlwg bod angen cryfhau’r cymorth ariannol sydd ar gael i bobl hŷn sy’n wynebu caledi, er mwyn sicrhau nad oes neb yn gorfod dewis rhwng bwyd a gwres – penderfyniad y mae gormod o bobl hŷn yn dal i gael eu gorfodi i’w wneud.

“Dyna pam fy mod yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cronfa Gwydnwch penodol ar gyfer pobl hŷn sydd mewn trafferthion ariannol difrifol ond nad ydynt yn gymwys i gael Credyd Pensiwn na mathau eraill o gymorth ariannol, fel nad oes neb yn cael ei adael heb gymorth yn ystod misoedd oeraf y flwyddyn.

“Efallai ein bod yn canolbwyntio ar y tymheredd uchaf erioed ar hyn o bryd, ond mae adroddiad heddiw yn ein hatgoffa pam mae angen i ni gymryd camau nawr i fynd i’r afael â’r costau annerbyniol y mae cartrefi oer a thlodi tanwydd yn eu cael ar unigolion, yn ogystal â chymdeithas yn ehangach, a sicrhau bod pobl hŷn yn gallu byw’n dda, yn ddiogel a chydag urddas drwy gydol y flwyddyn.”

DIWEDD

 

Darllenwch yr adroddiadau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges