Angen Help?
Graphic of Strategy and Work Programme covers

Comisiynydd yn nodi’r camau y bydd yn eu cymryd i gyflawni newid cadarnhaol i bobl hŷn

i mewn Newyddion

Comisiynydd yn nodi’r camau y bydd yn eu cymryd i gyflawni newid cadarnhaol i bobl hŷn

Mae gormod o bobl hŷn yng Nghymru yn wynebu heriau a rhwystrau mewn llawer o agweddau ar eu bywydau bob dydd sy’n effeithio ar eu hiechyd, eu llesiant a’u hannibyniaeth ac yn eu gadael yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio, yn cael eu gadael ar ôl ac nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, gan effeithio ar y cyfleoedd sydd gan bobl i fyw ac i heneiddio’n dda.

Dyna rybudd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wrth iddi gyhoeddi ei Strategaeth a’i Rhaglen Waith newydd, sy’n nodi’r camau y bydd hi’n eu cymryd i gyflawni newid cadarnhaol i bobl hŷn.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn galw am ragor o gamau gweithredu gan gyrff a gwasanaethau cyhoeddus i ymateb i’r materion sy’n wynebu pobl hŷn er mwyn galluogi’r newid a’r gwelliannau sydd eu hangen.

Mae Strategaeth a Rhaglen Waith y Comisiynydd wedi cael eu siapio gan leisiau a phrofiadau pobl hŷn o bob cwr o Gymru yn dilyn rhaglen helaeth o ymweliadau ymgysylltu wyneb yn wyneb â channoedd o bobl hŷn ers iddi ddechrau yn ei swydd ddiwedd 2024, a chanfyddiadau ei Hymgynghoriad cenedlaethol ‘Dweud eich Dweud’, yr ymatebodd dros 400 o bobl hŷn iddo.

Mae’r Comisiynydd yn bwrw ymlaen ag amrywiaeth eang o waith sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau, y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt, a’u bod yn teimlo’n ddiogel gartref ac yn eu cymunedau, gyda dewis a rheolaeth dros eu bywydau.

Bydd gwaith y Comisiynydd hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu trin yn deg a bod y cyfraniad sylweddol y maent yn ei wneud i’n bywydau a’n cymunedau yn cael ei gydnabod.

Bydd y camau allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod yn cynnwys:

  • Archwilio profiadau pobl hŷn o ofal cymdeithasol yng Nghymru
  • Adolygu mynediad at wasanaethau deintyddol
  • Gwella mynediad pobl hŷn at gludiant cyhoeddus
  • Diogelu hawliau pobl hŷn nad ydynt ar-lein fel nad ydynt yn cael eu heithrio rhag cael gafael ar wybodaeth, gwasanaethau a gweithgareddau bob dydd
  • Gweithio gyda phartneriaid i wella diogelwch cymunedol
  • Gwella gwasanaethau a chymorth i bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin, gan gynnwys trais rhywiol
  • Lansio hyfforddiant newydd i helpu llunwyr polisïau a staff y sector cyhoeddus i ddeall yn well effaith niweidiol oedraniaeth a sut y gellir herio hyn
  • Gwella mynediad pobl hŷn at eiriolaeth annibynnol er mwyn iddynt allu sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn ystod cyfnodau anodd ac adegau o argyfwng.
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol i wneud cymunedau ledled Cymru yn fwy oed-gyfeillgar i gefnogi pobl i fyw ac i heneiddio’n dda

Ochr yn ochr â hyn, bydd y Comisiynydd yn craffu ar ystod eang o bolisïau ac arferion y llywodraeth ar lefel genedlaethol a lleol, gan ddylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau a dal cyrff cyhoeddus i gyfrif lle bo angen.

Bydd y Comisiynydd hefyd yn parhau i ddarparu cymorth a chefnogaeth i bobl hŷn ledled Cymru drwy ei Gwasanaeth Cyngor a Chymorth, sy’n helpu i sicrhau bod hawliau pobl yn cael eu cynnal ac yn grymuso pobl hŷn i herio arferion a phenderfyniadau gwael.

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“I lawer o bobl hŷn, mae mynd yn hŷn yng Nghymru yn brofiad cadarnhaol – maen nhw’n gallu cael gafael ar yr wybodaeth, y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, maen nhw’n teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi a’u cymunedau, yn cael eu trin yn deg ac yn gallu sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

“Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod bod gormod o bobl hŷn yng Nghymru yn wynebu amrywiaeth o heriau a rhwystrau ar draws nifer o agweddau ar eu bywydau bob dydd, sy’n aml yn cael effaith sylweddol ar iechyd, llesiant ac annibyniaeth pobl. Mae hyn yn gwneud i bobl hŷn deimlo eu bod yn cael eu heithrio, yn cael eu gadael ar ôl ac nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, gan effeithio ar eu cyfleoedd i fyw ac i heneiddio’n dda.

“Hoffwn ddiolch i’r holl bobl hŷn sydd wedi siarad â mi neu sydd wedi ymateb i fy ymgynghoriad am rannu’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau mewn ffordd mor agored a gonest, ac am dynnu sylw at y newid a’r gwelliannau maen nhw eisiau ac angen eu gweld.

“Mae’r lleisiau a’r profiadau hyn wrth galon fy Strategaeth a’m Rhaglen Waith, a thrwyddynt byddaf yn bwrw ymlaen ag amrywiaeth o gamau gweithredu a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac ystyrlon i fywydau pobl hŷn ledled Cymru.

“Ond nid yw cyflawni’r holl newid angenrheidiol yn rhywbeth y gallaf ei wneud ar fy mhen fy hun, a dyna pam fy mod i hefyd yn galw ar gyrff cyhoeddus a gwasanaethau ledled Cymru i gymryd camau i ymateb yn fwy effeithiol i’r problemau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu.

“Drwy weithio gyda’n gilydd fel hyn, mae gennym gyfleoedd i greu Cymru lle mae pob person hŷn yn cael ei werthfawrogi, ei gynnwys a’i gefnogi i fyw gydag urddas ac annibyniaeth.

Drwy wrando, gweithredu a sbarduno newid ystyrlon, gallwn adeiladu cymdeithas lle mae tyfu’n hŷn yn rhywbeth i’w ddathlu – Cymru sy’n arwain y ffordd ar gyfer pobl hŷn.”

Darllenwch Strategaeth y Comisiynydd 2025-28 Darllenwch Rhaglen Waith y Comisiynydd 2025-26

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges