Ymgynghoriad Dweud Eich Dweud: Crynodeb o’r Ymatebion
Mae sicrhau bod y camau gweithredu a gyflawnaf fel Comisiynydd yn cael eu llywio gan leisiau a phrofiadau pobl hŷn ledled Cymru yn rhan hanfodol o’m gwaith.
Dyna pam, ym mis Rhagfyr, lansiais fy ymgynghoriad Dweud Eich Dweud, gan estyn allan at bobl hŷn ledled Cymru i glywed yn uniongyrchol ganddynt am y pethau sy’n bwysig iddynt a’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau, ac i glywed eu barn a’u syniadau am y mathau o gamau gweithredu a fydd yn cyflawni’r newid a’r gwelliannau y mae pobl am eu gweld.
Roedd yr holiadur yn seiliedig ar bedwar canlyniad cenedlaethol allweddol, a nodwyd drwy ymgysylltu â phobl hŷn a rhanddeiliaid a gynhaliwyd pan ddechreuais yn y swydd, y mae’n rhaid inni weithio tuag atynt i greu Cymru sy’n arwain y ffordd ar gyfer pobl hŷn. Mae’r canlyniadau hyn yn canolbwyntio ar sicrhau y gall pobl hŷn:
- Cyrchu’r wybodaeth, y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt
- Teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi, eu cymunedau a’u perthnasoedd
- Cael eu trin yn deg a bod eu cyfraniad yn cael ei gydnabod
- Lleisio eu barn a chael dewis a rheolaeth dros eu bywydau
Roedd yr ymateb gan bobl hŷn yn hynod gadarnhaol, gyda 432 o holiaduron wedi’u cwblhau, a hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd am ddarparu cymaint o gyfoeth o wybodaeth i gefnogi’r gwaith pwysig hwn.
Ochr yn ochr â’m holiadur, rwyf hefyd wedi teithio ar hyd a lled Cymru ers i mi ddechrau yn y swydd i gwrdd â dros 1,000 o bobl hŷn o ystod eang o gefndiroedd a chymunedau a dysgu mwy am y prosiectau a’r mentrau sy’n cefnogi pobl i fyw a heneiddio’n dda. Roedd y digwyddiadau a’r grwpiau ffocws hyn a’r sgyrsiau a alluogwyd ganddynt yn hynod werthfawr, gan adlewyrchu’n agos yr hyn a ddywedodd pobl wrthyf trwy’r holiadur a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am rannu eu barn a’u profiadau mor agored a gonest â mi.
Mae’r wybodaeth a’r dystiolaeth a gasglwyd drwy fy holiadur Dweud Eich Dweud ac yn ystod y digwyddiadau ymgysylltu hyn wedi helpu i lunio fy Strategaeth a’m Rhaglen Waith, sydd wedi’u cyhoeddi ochr yn ochr â’r adroddiad hwn.
Mae lleisiau pobl hŷn yn ganolog i’r adroddiad hwn ac mae’n rhoi cipolwg o’r materion a rennir o dan nifer o themâu allweddol a nodwyd ym mhob canlyniad. Mae’n fy ngalluogi nid yn unig i ddangos bod fy strategaeth a’m rhaglen waith yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r heriau a’r rhwystrau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu, ond mae hefyd yn darparu sylfaen dystiolaeth bwerus a fydd yn cefnogi fy ngwaith ehangach i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar lefel genedlaethol a lleol.
Mae rhannau o’r adroddiad yn anodd eu darllen, gyda llawer o’r bobl hŷn yn amlygu eu bod yn teimlo eu bod wedi’u hallgáu neu eu gadael ar ôl, yn aml yn wynebu sefyllfaoedd heriol neu drallodus. Ond mae’n bwysig cydnabod y profiadau hyn a chodi ymwybyddiaeth o’r materion hyn fel y gallwn ddod o hyd i atebion sy’n grymuso pobl hŷn, yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac yn galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda.
Rhian Bowen-Davies // Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Darllenwch Adroddiad Crynodeb