Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2026: Lleisiau Go Iawn, Newid Go Iawn
Mae thema Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni – Profiadau byw yn cael eu clywed: lleisiau go iawn, newid go iawn – yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod lleisiau pobl sydd â phrofiad byw yn llywio’r polisïau, y gwasanaethau a’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.
Mae profiad byw yn cynnig mewnwelediadau na ellir eu cael drwy ddata, ymchwil nac arbenigedd proffesiynol yn unig.
Gwyddom fod gwrando ar leisiau pobl ac ymateb iddynt, drwy ymgysylltu ystyrlon a chydgynhyrchu gwirioneddol, yn arwain at systemau a gwasanaethau sy’n fwy person-ganolog ac wedi’u seilio ar hawliau, ac sy’n gallu diwallu anghenion pobl yn well.
Yng nghyd-destun gwasanaethau iechyd meddwl, byddai hyn yn helpu i sicrhau bod cymorth yn adlewyrchu’n well realiti byw gyda chyflwr iechyd meddwl, ac yn helpu i nodi rhwystrau i gael gafael ar gymorth a chefnogaeth na fyddent efallai’n cael eu hystyried fel arall.
Er mwyn cyrraedd y pwynt hwnnw, mae’n hanfodol bod pawb yn cael cyfle i wneud i’w lleisiau gael eu clywed, gan gynnwys pobl hŷn, nad yw eu profiadau o broblemau iechyd meddwl a chael gafael ar gymorth yn cael eu ceisio’n weithredol na’u hadlewyrchu’n ddigon aml mewn polisïau a’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu.
Mae hyn yn creu bylchau sylweddol yn ein dealltwriaeth o brofiadau byw pobl hŷn. Caiff hyn ei waethygu ymhellach gan y ffaith y gall problemau iechyd meddwl ymhlith pobl hŷn fynd heb eu sylwi, neu gael eu diystyru fel rhan naturiol o fynd yn hŷn.
Er enghraifft, gall rhagdybiaethau sy’n seiliedig ar oedran olygu bod sgyrsiau am iechyd meddwl pobl hŷn yn canolbwyntio ar faterion fel dementia, yn hytrach nag ar gyflyrau iechyd meddwl cyffredin neu ddifrifol. Yn yr un modd, gall iselder, gorbryder a thrawma ymddangos mewn ffyrdd gwahanol yn ddiweddarach mewn bywyd, a chael eu priodoli i ddigwyddiadau bywyd sy’n aml yn gysylltiedig â heneiddio, fel profedigaeth neu iechyd corfforol sy’n dirywio, yn hytrach na chael eu cydnabod fel problemau iechyd meddwl sydd angen cymorth.
Gall y bylchau hyn mewn dealltwriaeth, ynghyd â’r rhagdybiaethau sy’n deillio ohonynt, ddylanwadu ar bopeth, o’r ffordd yr ymatebir i symptomau (a’r mathau o gymorth a gynigir wedyn), i’r ffordd y caiff gwasanaethau eu hunain eu cynllunio a’u darparu.
Dyna pam ei bod mor bwysig sicrhau bod profiadau pobl hŷn yn cael eu deall a’u hadlewyrchu mewn polisïau, ymarfer a darpariaeth gwasanaethau.
Dyna pam y byddaf yn cychwyn Adolygiad ffurfiol yn fuan i fynediad pobl hŷn at gymorth iechyd meddwl yng Nghymru, fel yr amlinellir yn fy Rhaglen Waith 2026-27.
Bydd yr Adolygiad yn archwilio profiadau byw pobl hŷn, gan ystyried y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael ar hyn o bryd, sut mae anghenion pobl yn cael eu nodi ac yr ymatebir iddynt, a sut mae cymorth yn cael ei gynllunio, ei gomisiynu a’i ddarparu. Bydd hefyd yn ystyried y polisïau, y gwasanaethau a’r ffactorau ehangach sy’n dylanwadu ar lesiant meddyliol, atal problemau, mynediad at gymorth a chanlyniadau.
Rwy’n cynnal yr Adolygiad gan ddefnyddio fy mhwerau cyfreithiol, sy’n golygu bod yn rhaid i’r cyrff sy’n ddarostyngedig i’w ganfyddiadau a’i argymhellion ddarparu ymateb yn nodi’r camau y byddant yn eu cymryd i fynd i’r afael ag unrhyw faterion a nodir gennyf neu bryderon a godaf.
Bydd hyn yn helpu i sbarduno newid ystyrlon i gymorth iechyd meddwl i bobl hŷn, wedi’i lywio gan eu profiadau a’r hyn sydd bwysicaf iddynt, gan hefyd sicrhau atebolrwydd am gyflawni’r gwelliannau sydd eu hangen.
Mae llwyddiant mentrau fel Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ynghyd â degawdau o waith caled gan ymgyrchwyr, wedi golygu bod ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a phwysigrwydd cymorth iechyd meddwl hygyrch wedi cynyddu’n sylweddol ledled cymdeithas.
Ond mae llawer o bobl yn dal i wynebu stigma oherwydd eu hiechyd meddwl ac yn dod ar draws rhwystrau wrth geisio cael cymorth, gan gynnwys llawer o bobl hŷn, sy’n wynebu heriau penodol, fel yr amlinellir uchod.
Felly, mae’n hanfodol bod gwasanaethau a chymorth iechyd meddwl yn adlewyrchu anghenion pobl yn well er mwyn sicrhau canlyniadau gwell a galluogi mynediad haws a chynharach at gymorth – uchelgais allweddol yn y Strategaeth Iechyd Meddwl i Gymru.
Ac wrth i ni drosi’r uchelgais hwnnw yn weithredu, mae’n hanfodol bod profiadau pobl hŷn yn cael eu cydnabod ac yr ymatebir iddynt yn briodol, rhywbeth y byddaf yn parhau i’w alluogi drwy fy ngwaith fel Comisiynydd.