Angen Help?
Image of colourful umbrellas against a blue sky

Wythnos Diogelu 2026: Nid yw’r hawl i fod yn ddiogel yn lleihau gydag oedran

i mewn Newyddion

Nid yw’r hawl i fod yn ddiogel yn lleihau gydag oedran

Mae Wythnos Genedlaethol Diogelu yn gyfle pwysig i godi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth, esgeulustod a chamfanteisio, i rannu gwersi ac i gydnabod y gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud ledled Cymru i gadw pobl yn ddiogel.

Ond dylai hefyd ein hannog i ofyn rhai cwestiynau anodd.

Mae gan bob person hŷn yr un hawl â phawb arall i fyw heb gamdriniaeth, esgeulustod na chamfanteisio. Nid yw’r hawl honno’n lleihau oherwydd oedran, salwch neu anabledd, nac oherwydd bod rhywun yn dibynnu ar eraill am ofal a chefnogaeth.

Eto i gyd, ni allwn gymryd yn ganiataol bod yr hawliau hyn bob amser yn cael eu gwireddu’n gyfartal yn ymarferol.

Gall pobl hŷn brofi pob math o gamdriniaeth, gan gynnwys camdriniaeth ddomestig, trais rhywiol, rheolaeth orfodol, camfanteisio ariannol ac esgeulustod. Gallant hefyd wynebu rhwystrau penodol o ran adnabod camdriniaeth, datgelu’r hyn sy’n digwydd, neu gael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

I mi, felly, dylai un o’r profion ar gyfer ein system ddiogelu fod yn syml:

Pe bai person iau yn profi’r un amgylchiadau, a fyddem yn cydnabod y niwed yn yr un modd, yn ymateb gyda’r un brys, ac yn cynnig yr un mynediad at gymorth a chyfiawnder?

Os na allwn ateb ‘byddem’ yn hyderus, yna nid ydym eto wedi cyflawni cydraddoldeb.

Cydnabod yr hyn rydym yn methu â’i weld

Gall rhagfarn oed gael effaith ddofn ar sut rydym yn adnabod ac yn ymateb i gam-drin.

Nid yw bob amser yn amlygu ei hun drwy wahaniaethu penodol. Weithiau mae’n cael ei adlewyrchu yn yr hyn nad ydym yn ei weld.

Gall newidiadau mewn ymddygiad gael eu priodoli i heneiddio, afiechyd neu ddementia yn hytrach nag ofn, gofid neu drawma. Gellir camgymryd ymddygiad rheoli am ofal. Gall esgeulustod gael ei oddef oherwydd bod dewisiadau eraill yn gyfyngedig. Efallai y byddwn yn syml yn methu ag ystyried y gallai person hŷn fod yn profi cam-drin domestig neu rywiol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi parhau i weithio gyda sefydliadau ledled Cymru i archwilio profiadau pobl hŷn o drais a cham-drin rhywiol.

Mae hyn yn parhau i fod yn ffurf o gam-drin sy’n arbennig o guddiedig ac sydd heb fod â dealltwriaeth dda ohono. Gall cywilydd, embaras, agweddau cenedlaethau ac ofn na fydd rhywun yn ei gredu atal person hŷn rhag datgelu’r hyn sydd wedi digwydd iddynt. Gall cam-drin fod wedi digwydd flynyddoedd lawer yn ôl ond mae’n parhau i effeithio ar fywyd rhywun heddiw. I eraill, mae cam-drin yn dechrau neu’n parhau yn ddiweddarach mewn bywyd.

Trwy fy Ngrŵp Gweithredu Atal Cam-drin, rydw i wedi gweithio gyda sefydliadau ar draws diogelu, iechyd a gofal cymdeithasol, cyfiawnder troseddol a gwasanaethau arbenigol i archwilio’r hyn sydd angen newid.

Neges glir o’r gwaith hwnnw yw bod angen i bobl hŷn fod yn weladwy drwy gydol y llwybr: mewn atal a chodi ymwybyddiaeth, yn nealltwriaeth ymarferwyr o risg, ac mewn mynediad at gymorth arbenigol, adferiad a chyfiawnder.

Ni allwn ymateb yn effeithiol i niwed nad ydym yn ei weld.

Gwrando ar bobl hŷn

Dim ond y dechrau yw cydnabod cam-drin. Rhaid i ddiogelu da hefyd fod yn ymwneud â gwrando ar y person a deall beth sy’n bwysig iddyn nhw.

Ni ddylai diogelu fod yn rhywbeth a wneir i rywun yn unig. Dylid ei wneud gyda nhw.

Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd gall penderfyniadau diogelu newid bywyd rhywun yn sylfaenol, gan gynnwys eu perthnasoedd, trefniadau byw, annibyniaeth a’r gefnogaeth maen nhw’n ei derbyn.

Nid yw cael llais yn yr amgylchiadau hynny yn ddewis ychwanegol.

Dyna pam mae eiriolaeth yn bwysig.

Ar hyn o bryd rydw i’n defnyddio fy mhwerau cyfreithiol fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i archwilio’r eiriolaeth sydd ar gael i bobl hŷn, gyda sylw arbennig i ddiogelu. Rydw i am ddeall a all pobl hŷn gael mynediad at eiriolaeth pan fydd ei hangen arnynt, a yw’n cael ei chynnig yn ddigon cynnar i wneud gwahaniaeth, ac a yw’r trefniadau presennol yn galluogi lleisiau pobl hŷn i gael eu clywed yn gyson.

Yn y pen draw, ni ellir mesur diogelu llwyddiannus yn unig trwy atgyfeiriadau a wneir, prosesau a gwblhawyd neu gynlluniau a gynhyrchwyd.

Mae angen i ni ofyn beth newidiodd i’r person.

A oeddent yn teimlo eu bod wedi cael eu clywed a’u bod wedi cael eu credu? A oeddent yn deall beth oedd yn digwydd? A gawsant gefnogaeth i wneud dewisiadau? A gawsant y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt? Ac, yn bwysicaf oll, a ydyn nhw’n fwy diogel?

O ddiwygio i newid gwirioneddol

Mae hon yn foment bwysig i ddiogelu yng Nghymru.

Mae rhaglen ehangach Llywodraeth Cymru o ddiwygio gofal cymdeithasol bellach yn gosod atal, diogelu a chymunedau cryf ymhlith y sylfeini ar gyfer dyfodol gofal cymdeithasol. Ochr yn ochr â hyn, mae diwygiadau diogelu arfaethedig, gan gynnwys Cynllun Diogelu Cenedlaethol, yn darparu cyfle pwysig ar gyfer arweinyddiaeth genedlaethol gryfach, tystiolaeth a deallusrwydd gwell, mwy o gysondeb ac atebolrwydd cliriach.

Rydw i’n croesawu’r cyfeiriad hwnnw.

Ond ni all prawf diwygio fod yn ddim ond a yw strwythurau newydd yn cael eu sefydlu neu a yw cynlluniau’n cael eu cyhoeddi.

Mae angen i ni allu gweld llinell glir o uchelgais, i weithredu, i amserlen, i atebolrwydd ac, yn y pen draw, i ganlyniadau gwell i bobl.

Rhaid i bobl hŷn fod yn weladwy o fewn y broses honno. Mae angen data a thystiolaeth arnom sy’n ein galluogi i ddeall eu profiadau a’u canlyniadau, gan gynnwys gwahanol brofiadau pobl hŷn yn hytrach na’u trin fel un grŵp homogenaidd.

A dylai profiad bywyd pobl hŷn helpu i lunio nid yn unig ddatblygiad diwygio diogelu, ond ei weithredu a sut rydym yn barnu a yw’n gweithio. Rhaid i hynny gynnwys ymdrechion bwriadol i glywed gan bobl y mae eu lleisiau’n cael eu clywed leiaf yn rhy aml.

Mae adnewyddu’r Strategaeth Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn cynnig cyfle pwysig arall. Mae angen cydnabod profiadau pobl hŷn o gam-drin domestig a thrais rhywiol yn llawn o fewn polisi cenedlaethol a’u hadlewyrchu yn y gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael.

Ydy pobl hŷn yn fwy diogel ?

Mae llawer o waith cadarnhaol yn digwydd ledled Cymru, ac rydw i’n llawn ymwybodol o ymrwymiad gweithwyr proffesiynol a sefydliadau diogelu i gadw pobl hŷn yn ddiogel.

Ond dylai Wythnos Genedlaethol Diogelu hefyd roi cyfle i ni ein herio ein hunain.

A yw pobl hŷn yn ddigon gweladwy yn ein blaenoriaethau, tystiolaeth a gwasanaethau diogelu?

A ydym yn cydnabod niwed ac yn ymateb gyda’r un difrifoldeb a brys beth bynnag fo oedran person?

A all pobl hŷn gael mynediad at eiriolaeth, cefnogaeth arbenigol a chyfiawnder pan fyddant eu hangen?

A yw gwersi o adolygiadau diogelu a thystiolaeth arall yn newid arfer go iawn?

A ydym yn cau’r ddolen o ddysgu, i weithredu, i arfer wedi’i newid a chanlyniadau gwell?

Ac, yn anad dim, a yw pobl hŷn eu hunain yn dweud wrthym eu bod yn cael eu clywed, eu cefnogi a’u bod yn fwy diogel?

Nid oes gan bobl hŷn lai o hawl i ddiogelwch oherwydd eu hoedran.

Felly, yn fy marn i, rhaid i’r uchelgais fod yn glir:

Yr un hawliau. Yr un brys. Yr un mynediad at gymorth a chyfiawnder.

Mae Wythnos Genedlaethol Diogelu yn gyfle nid yn unig i ail-gadarnhau ein hymrwymiad i’r egwyddorion hynny, ond i ofyn a yw pobl hŷn ledled Cymru yn eu profi yn ymarferol.

Dyna’r safon y dylem ei gosod.

A dyna’r safon y dylid barnu ein cynnydd yn ei herbyn.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges