Angen Help?

Swyddogaeth a Phwerau Cyfreithiol

Swyddogaeth a Phwerau Cyfreithiol

Diffinnir rôl a phwerau statudol y Comisiynydd gan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a’r Rheoliadau ategol.

Mae’r Ddeddf yn amlinellu’r camau y mae’r Comisiynydd yn gallu eu cymryd i sicrhau bod buddiannau pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo pan fydd cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu swyddogaethau, a’r cymorth y gall y Comisiynydd ei ddarparu’n uniongyrchol i bobl hŷn dan rai amgylchiadau penodol.

Swyddogaethau’r Comisiynydd

  • Hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru
  • Herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru.
  • Annog arferion gorau yn y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin yng Nghymru
  • Adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru

Perthynas â Phobl Hŷn

Rhaid i’r Comisiynydd sicrhau:

  • Bod pobl hŷn yng Nghymru yn gwybod am fodolaeth a swyddogaethau swyddfa’r Comisiynydd
  • Bod pobl hŷn yng Nghymru yn gwybod lle mae swyddfa neu swyddfeydd y Comisiynydd a sut y gallant gysylltu â’r Comisiynydd a’i staff
  • Bod pobl hŷn yn cael eu hannog i gysylltu â’r Comisiynydd a’i staff
  • Bod barn pobl hŷn yn cael ei cheisio ynglŷn â sut dylai’r Comisiynydd ymarfer ei swyddogaethau ac ynglŷn â chynnwys rhaglen waith flynyddol y Comisiynydd
  • Bod y Comisiynydd a’i staff yn trefnu eu bod ar gael i bobl hŷn yn eu lleoliad hwy eu hunain

Adolygu cyflawni swyddogaethau (Adolygiad Adran 3)

Gall y Comisiynydd adolygu’r ffordd y mae buddiannau pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo pan fydd cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu swyddogaethau, yn bwriadu cyflawni eu swyddogaethau neu’n methu cyflawni eu swyddogaethau. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n cyflawni swyddogaethau ar ran cyrff cyhoeddus.

Mae gan y Comisiynydd awdurdod cyfreithiol i fynd i lefydd heblaw cartrefi preifat i gyfweld pobl hŷn (gyda’u caniatâd).

Mae gan y Comisiynydd y disgresiwn i benderfynu a yw hi’n cyhoeddi adroddiad gyda’i chanfyddiadau neu beidio, ac a fydd hi’n gwneud argymhellion neu beidio.Os yw’r Comisiynydd yn penderfynu llunio adroddiad ac argymhellion yn dilyn adolygiad Adran 3, gall ofyn bod y cyrff a adolygwyd yn ymateb i’r argymhellion. Mae Rheoliadau 2007 yn pennu’r amserlen gyfreithiol a’r gofynion adrodd ar gyfer y math hwn o waith dilynol.

Adolygu trefniadau eiriolaeth, chwythu chwib neu gwyno (Adolygiad Adran 5)

Tebyg i Adolygiad Adran 3, ond yn canolbwyntio ar ystyried a yw trefniadau rhai cyrff ar gyfer gweithdrefnau eiriolaeth, chwythu chwib a chwyno yn effeithiol o ran diogelu a hyrwyddo buddiannau pobl hŷn perthnasol yng Nghymru.

Yn ystod y math hwn o adolygiad, gall y Comisiynydd fynnu bod cyrff yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arni i gyflawni’r adolygiad. Gellir cyfeirio unrhyw achos o wrthod darparu gwybodaeth o’r fath, drwy dystysgrif, i’r Uchel Lys, er mwyn iddo archwilio’r mater. Gellir trin rhywun sy’n gwrthod darparu gwybodaeth fel pe bai’n cyflawni dirmyg llys.

Yn dilyn adolygiad o’r fath, gall y Comisiynydd gyhoeddi adroddiad ac argymhellion, a gall fynnu bod cyrff yn darparu gwybodaeth yn amlinellu sut y byddant yn cydymffurfio â’r argymhellion, neu esbonio pam na fyddant. Gellir cyfeirio unrhyw achos o fethu darparu gwybodaeth o’r fath, drwy dystysgrif, i’r Uchel Lys.

Cymorth (Adran 8)

Gall y Comisiynydd helpu person sydd, neu sydd wedi bod, yn bobl hŷn yng Nghymru i wneud cwyn neu gyflwyno sylwadau i gyrff cyhoeddus. Mae cymorth yn cynnwys cymorth ariannol neu drefnu rhywun i gynghori, cynrychioli neu helpu person hŷn.

Gall y Comisiynydd helpu person mewn rhai achosion cyfreithiol, ond ni chaiff adolygu nac archwilio mater sy’n destun achos ar hyn o bryd neu sydd wedi derbyn dyfarniad gan lys barn neu dribiwnlys. Dim ond pan fydd materion yn yr achos er budd ehangach pobl hŷn, ac nid dim ond yn berthnasol i un person hŷn penodol, y gall y Comisiynydd helpu mewn achos cyfreithiol.

Archwilio (Adran 10)

Gall y Comisiynydd archwilio achos person hŷn yng nghyswllt mater sy’n effeithio ar fuddiannau grŵp ehangach o bobl hŷn, ac nid dim ond yr unigolyn dan sylw. Ar ôl archwiliad, rhaid i’r Comisiynydd gynhyrchu adroddiad, a gallai lunio argymhellion.

Mae Rheoliadau 2007 yn pennu’r prif baramedrau ar gyfer cynnal archwiliad, gan ddynodi’r cylch gorchwyl, er enghraifft, y gallu i gwestiynu dan lw, gwysio tystion ayb.

Os bydd unrhyw berson neu gorff yn gwrthod cydymffurfio ag archwiliad, cyflenwi gwybodaeth yng nghyswllt archwiliad, neu esbonio sut byddant yn cydymffurfio â’r argymhellion, gall y Comisiynydd gyhoeddi tystysgrif i’r Uchel Lys archwilio’r mater, a gallai hynny arwain at berson neu gorff gael eu trin fel pe baent yn cyflawni dirmyg llys.

Cyhoeddi Canllawiau (Adran 12)

Gall y Comisiynydd gynhyrchu canllaw ynglŷn ag arferion da yng nghyswllt unrhyw fater sy’n ymwneud â buddiannau pobl hŷn yng Nghymru. Rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori ag unrhyw un priodol, yn ei thyb hi, wrth gynhyrchu’r canllaw.

Unwaith y bydd y canllaw wedi’i gynhyrchu, rhaid i gyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n darparu gwasanaethau rheoledig, ddilyn y canllaw wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Adrannau eraill y Ddeddf

Mae adrannau eraill Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 yn caniatáu i’r Comisiynydd gyflawni gweithgareddau ymchwil ac addysg yng nghyswllt unrhyw rai o’r swyddogaethau, cyflawni archwiliadau / ymchwiliadau ar y cyd a gweithio ar y cyd er mwyn rhannu arferion gorau a gwybodaeth briodol arall gyda chyrff cyffelyb.

Deddfwriaeth:

Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a’r Rheoliadau ategol Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru Cymru

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges