Angen Help?
Image of Pound coins and banknotes money currency of United Kingdom

Y Comisiynydd yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am gymorth ychwanegol gyda chostau byw

i mewn Newyddion

Y Comisiynydd yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am gymorth ychwanegol gyda chostau byw

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies:

“Rwy’n croesawu’r mesurau ychwanegol i helpu gyda chostau byw a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru, sy’n adlewyrchu’r galwadau a wnes i am weithredu yn gynharach eleni. Bydd y mesurau hyn yn rhoi cymorth y mae mawr ei angen i bobl hŷn sy’n wynebu anawsterau ariannol wrth i brisiau godi’n sylweddol unwaith eto yn y Flwyddyn Newydd.

“Mae’r cymorth i bobl sy’n defnyddio olew gwresogi neu LPG i’w groesawu’n arbennig, gan fod rhai aelwydydd wedi gweld cost y tanwyddau hyn yn codi’n sylweddol, gyda phris olew gwresogi wedi mwy na dyblu dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae cyfran arbennig o uchel o eiddo yng Nghymru hefyd heb gysylltiad â’r prif rwydwaith nwy, sy’n golygu bod llawer o aelwydydd yn dibynnu ar y mathau hyn o danwydd i wresogi eu cartrefi.

“Mae buddsoddiad i ddiogelu gwasanaethau bysiau a chludiant cymunedol hefyd yn bwysig, o ystyried y rôl hanfodol y mae’r gwasanaethau hyn yn ei chwarae wrth helpu pobl hŷn i gadw mewn cysylltiad ac i gael mynediad at wasanaethau hanfodol.

“Mae’n hanfodol darparu gwybodaeth glir a hygyrch am y cymorth sydd ar gael drwy amrywiaeth o sianeli, gan weithio gyda phartneriaid mewn cymunedau ledled Cymru i estyn allan yn effeithiol at bobl hŷn er mwyn sicrhau eu bod yn deall pa gymorth y gallai fod ganddynt hawl iddo a sut i gael gafael arno. Rhaid i hyn gynnwys gwybodaeth nad yw’n ddigidol er mwyn sicrhau nad yw pobl nad ydynt ar-lein yn colli allan ar gymorth hanfodol.

“Hoffwn hefyd weld mwy o gymorth brys ar gael i bobl sy’n wynebu caledi ariannol ond nad ydynt yn gymwys i gael mathau eraill o gymorth, drwy Gronfa Gwydnwch benodol i Gymru.

“Yn y tymor hwy, mae angen trafodaeth genedlaethol hefyd ynghylch sut y gallwn ddatblygu atebion cynaliadwy sy’n rhoi mwy o sicrwydd ariannol i bobl ac yn eu hatal rhag wynebu’r un pwysau a heriau flwyddyn ar ôl blwyddyn.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges