Blog y Comisiynydd: Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2026
“Fi yw ei wraig. Wrth gwrs mod i’n gofalu amdano.”
“Mae hi’n chwaer i mi. Beth arall fyddwn i’n ei wneud?”
“Fe wnaeth e ofalu amdana i am flynyddoedd. Fy nhro i yw hi nawr.”
Dyma’r mathau o bethau y bydda i’n eu clywed yn aml gan bobl hŷn sy’n darparu gofal a chymorth i rywun maen nhw’n ei garu. I lawer o bobl, mae gofalu yn rhan o fod yn ŵr, gwraig, partner, perthynas neu ffrind, yn hytrach na rhywbeth y bydden nhw’n ei ddisgrifio fel rôl neu gyfrifoldeb penodol.
Dyna pam y mae thema Diwrnod Hawliau Gofalwyr eleni, Mae rhywun rydych chi’n ei adnabod yn ofalwr, ond ydyn nhw’n gwybod hynny eto?, mor bwysig. Nid yw llawer o bobl sy’n darparu gofal di-dâl yn ystyried eu hunain yn ofalwyr, ac mae hynny o bosibl yn golygu nad ydyn nhw’n ymwybodol o’u hawliau neu’n gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw.
Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl hŷn, sy’n gwneud cyfraniad eithriadol fel gofalwyr di-dâl, gan ddarparu cymorth sylweddol, a hynny’n aml tra’n rheoli newidiadau yn eu hanghenion iechyd neu ofal eu hunain.
Gall y gofal maen nhw’n ei roi amrywio o helpu â thasgau bob dydd a gofal personol i drefnu apwyntiadau, rheoli materion ariannol a chanfod eu ffordd o gwmpas gwasanaethau cymhleth. Dros gyfnod, gall y cyfrifoldebau hyn fynd yn fwy a mwy o dreth ar rywun, gan gael effaith gorfforol, emosiynol ac ariannol sylweddol.
Drwy fy ngwasanaeth Cyngor a Chymorth, rwy’n clywed yn aml gan ofalwyr hŷn sy’n cael anhawster i ymdopi, sy’n poeni am eu hiechyd eu hunain neu sy’n cael anhawster i gael y cymorth mae arnyn nhw ei angen. Ond mae llawer yn dweud, “Dw i’n dal ati.”
Er bod hyn yn adlewyrchu gwydnwch ac ymrwymiad aruthrol, gall hefyd olygu nad ydym yn sylwi ar anghenion y gofalwyr hŷn eu hunain, yn enwedig pan nad ydyn nhw’n gweld eu hunain yn gymwys i gael cymorth.
Dyma pam mae hi mor bwysig ein bod yn codi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr.
Mae gan ofalwyr di-dâl hawliau amrywiol, gan gynnwys mynediad at wybodaeth a chyngor, a’r hawl i asesiad o anghenion gofalwr, sy’n nodi’r cymorth y gallen nhw fod ei angen yn eu rôl ofalu.
Fodd bynnag, nid yw hawliau’n ystyrlon oni bai fod pobl yn gwybod amdanyn nhw ac yn gallu eu hymarfer. Rhaid i wasanaethau cyhoeddus felly fod yn llawer mwy rhagweithiol wrth nodi gofalwyr di-dâl, eu helpu i ddeall eu hawliau a sicrhau eu bod yn gallu cael cymorth priodol cyn i bethau fynd yn argyfwng.
Mae Strategaeth Genedlaethol newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yn darparu cyfle pwysig i gryfhau’r dull gweithredu hwn. Mae’n rhoi pwyslais ar adnabod ac ymateb i anghenion gofalwyr yn gyflymach, gwella mynediad at seibiant, gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau, ac mae cefnogi iechyd a llesiant yn cael ei groesawu’n fawr, yn ogystal â’r gydnabyddiaeth o’r pwysau ariannol y mae gofalwyr yn ei wynebu yn aml. Mae’r pwyslais newydd hwn yn bwysig, ond y prawf go iawn fydd a fydd yr ymrwymiadau hyn yn amlygu eu hunain fel gwelliannau ystyrlon ym mywydau bob dydd gofalwyr. Rydym wedi cael strategaethau ac ymrwymiadau o’r blaen, ond mae llawer gormod o ofalwyr hŷn yn dal i geisio ymdopi heb y cymorth y mae arnyn nhw ei angen.
Fel y dywedais yn fy ymateb i’r ymgynghoriad ar y strategaeth, mae arna i eisiau gweld gweithredu ac atebolrwydd clir, ochr yn ochr â mwy o gydnabyddiaeth o’r heriau penodol y mae gofalwyr hŷn yn eu hwynebu. Rhaid i’w profiadau nhw gael eu hadlewyrchu yn y ffordd y mae’r strategaeth yn cael ei gweithredu, a rhaid i’w lleisiau nhw helpu i siapio’r gwasanaethau y bwriadwyd iddyn nhw eu cefnogi.
Mae hyn yn cynnwys camau ymarferol megis gwella dulliau casglu data er mwyn darparu darlun cliriach o’r lefelau a’r mathau o ofal sy’n cael ei ddarparu gan ofalwyr hŷn yng Nghymru ac a yw asesiadau a chymorth yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf o angen y rhain.
Mae hefyd yn hollbwysig bod gwybodaeth a chyngor ar gael drwy sianeli annigidol er mwyn sicrhau nad yw pobl hŷn nad ydynt ar-lein yn canfod eu hunain wedi’u hatal rhag cael mynediad at gymorth a chefnogaeth hollbwysig.
Fel Comisiynydd, byddaf yn dal i bwyso ar Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus i gyflwyno newidiadau a gwelliannau er mwyn sicrhau bod hawliau gofalwyr hŷn yn cael eu cydnabod a’u cadarnhau.
A gall pob un ohonom chwarae ein rhan hefyd drwy gydnabod y gofalwyr di-dâl sydd o’n cwmpas, eu helpu i ddeall eu hawliau a’u hannog i ofyn am gymorth.
Ddylai gofalu am rywun rydych chi’n ei garu byth olygu aberthu eich iechyd, eich llesiant neu eich annibyniaeth eich hun. Felly gadewch i ni wneud yn siŵr bod pawb sy’n darparu gofal di-dâl yn gwybod bod eu cyfraniad yn bwysig, bod eu hawliau yn bwysig, a’u bod nhw’n bwysig hefyd.