Ymchwil i brofiadau pobl o fynd yn hŷn heb blant
Rydym yn gweld newid demograffig sylweddol o ran nifer y bobl sy’n mynd yn hŷn heb blant, rhywbeth y disgwylir iddo gynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod.
Mae’n hanfodol fod y rhai sy’n creu polisïau ac yn gwneud penderfyniadau yn ymateb yn effeithiol i’r newidiadau hyn er mwyn sicrhau ein bod ni, beth bynnag fo’n hamgylchiadau, yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnom wrth i ni heneiddio a chael cyfleoedd i fyw ac heneiddio’n dda.
Dyna pam y comisiynais yr adroddiad hwn, sy’n defnyddio amrywiaeth eang o ymchwil sydd ar gael er mwyn archwilio profiadau pobl o fynd yn hŷn heb blant a’r mathau o gamau sydd eu hangen i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hadlewyrchu’n well mewn polisïau, cynlluniau ac wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith fod tyfu’n hŷn heb blant yn gallu dod â llawer o fanteision, gan gynnwys bywydau cymdeithasol cryf a chysylltiadau â ffrindiau, cymdogion a mudiadau cymunedol; cyfleoedd i greu rhwydweithiau cefnogol cyfoethog ac amrywiol a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a gwirfoddoli; a sefydlogrwydd ariannol.
Fodd bynnag, gall pobl heb blant hefyd deimlo’n anweledig, ar yr ymylon a’u bod yn cael eu hanwybyddu yn ystod trafodaethau am heneiddio mewn cymdeithas sy’n canolbwyntio ar y teulu.
Yn yr un modd, mae llawer o bolisïau – hyn yn oed y rhai sy’n honni eu bod yn canolbwyntio ar yr unigolyn – yn tybio bod rhyw fath o gymorth teuluol ar gael, sy’n gallu creu rhwystrau o ran cael gafael ar wasanaethau a chymorth fel iechyd a gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, gweithgareddau cymdeithasol, addysg a gweithgareddau diwylliannol.
Gall pobl sy’n mynd yn hŷn heb blant ganfod eu hunain hefyd mewn mwy o berygl o faterion sy’n gallu effeithio ar ein gallu i heneiddio’n dda.
Mae’r adroddiad yn nodi pam mae angen gweithredu i fynd i’r afael â pholisi a deddfwriaeth, sy’n annigonol i raddau helaeth wrth ymateb i anghenion penodol pobl sy’n mynd yn hŷn heb blant, gan dynnu sylw at yr angen am fwy o ymyriadau wedi’u targedu, gwelliannau i gymorth cymdeithasol, a dulliau arloesol o ddarparu gofal sy’n adeiladu ar arferion da sydd eisoes yn cael eu treialu a’u darparu.
Mae cyhoeddi’r adroddiad hwn yn gam pwysig ymlaen o ran sicrhau bod y materion sy’n aml yn wynebu pobl hŷn heb blant yn cael eu cydnabod ac yn cael sylw. Byddaf yn rhannu’r canfyddiadau â Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus, darparwyr gwasanaethau a sefydliadau allweddol eraill, yn ogystal â defnyddio’r dystiolaeth bwysig hon i ddylanwadu ar bolisi a dyluniad gwasanaethau.
Byddaf yn cynnal digwyddiad gweminar yn ddiweddarach yn y flwyddyn, i ddod â’r bobl allweddol sy’n llunio polisïau ac yn gwneud penderfyniadau at ei gilydd i glywed gan bobl hŷn am eu profiadau o fynd yn hŷn heb blant, er mwyn archwilio’r dystiolaeth yn yr adroddiad yn fanylach ac i edrych ar ffyrdd ymarferol o fynd i’r afael â’r materion a nodwyd.
Er mwyn creu gwasanaethau a chymunedau sy’n gynhwysol ac yn addas ar gyfer y dyfodol, mae’n hanfodol fod Cymru yn symud y tu hwnt i bolisi ac ymarfer yn seiliedig ar dybiaethau hen ffasiwn, gan gydnabod anghenion pob person hŷn – gan gynnwys y rhai heb blant – rhywbeth y byddaf yn ei gefnogi drwy’r gwaith hwn.
Rhian Bowen-Davies // Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Darllenwch adroddiad y Comisiynydd