Ymchwil i brofiadau pobl o fynd yn hŷn heb blant
Crynodeb Gweithredol
Cyflwyniad
- Ym mis Ionawr 2025, comisiynodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Miller Research i gynnal adolygiad llenyddiaeth ar bobl hŷn heb blant. Mae nifer yr oedolion hŷn heb blant yn y DU yn codi, gydag amcanestyniadau’n awgrymu cynnydd o 1.2 miliwn (65+ oed) yn 2025 i 2 filiwn erbyn 2030, a threblu o ran y rheini dros 80 oed heb blant erbyn 2045.[1] O ganlyniad, mae’n ddefnyddiol ystyried anghenion unigryw’r demograffig mawr hwn o unigolion yng nghyd-destun llenyddiaeth bresennol.
Trosolwg o’r Prosiect
- Mae’r adolygiad yn diffinio pobl hŷn heb blant yn gyffredinol, ac mae’n cynnwys y rheini nad ydynt yn gallu dibynnu ar eu plant am gymorth oherwydd ffactorau fel ymddieithrio, neu amgylchiadau. Defnyddiodd y gwaith ymchwil ddull wrth ddesg, gan greu matrics llenyddiaeth yn Excel i gategoreiddio themâu fel polisi, arferion gorau, a heriau. Canfu ‘dull domino’ 65 o ffynonellau perthnasol, a ddadansoddwyd drwy ddefnyddio meddalwedd mapio’r meddwl i strwythuro’r adroddiad yn thematig.
Canfyddiadau
- Mae’r gwaith ymchwil presennol ar heneiddio heb blant (AWOC) yn bennaf yn tynnu sylw at heriau fel unigrwydd, ynysigrwydd cymdeithasol, a dirywiad mewn iechyd oherwydd diffyg gofalwyr teuluol anffurfiol. Fodd bynnag, anaml y bydd astudiaethau’n archwilio manteision AWOC, fel mwy o annibyniaeth, diogelwch ariannol, a rhwydweithiau cymdeithasol amrywiol. Mae angen gwaith ymchwil mwy cytbwys i archwilio’r cryfderau a’r anawsterau.
- Mae llawer o unigolion AWOC yn gwneud iawn am absenoldeb teulu drwy feithrin cysylltiadau cymdeithasol cryf â ffrindiau, cymdogion a sefydliadau cymunedol. Er bod y rhwydweithiau hyn yn gallu darparu cefnogaeth ystyrlon, mae eu heffeithiolrwydd yn amrywio ar draws cyd-destunau diwylliannol, gyda chymdeithasau sy’n canolbwyntio ar y teulu yn cyflwyno heriau mwy.
- Nid yw polisi a deddfwriaeth yn mynd i’r afael ag anghenion unigryw unigolion AWOC, gan nad yw polisïau heneiddio yn gyffredinol yn gwahaniaethu rhwng y rheini sydd â chefnogaeth deuluol a’r rheini sydd heb gefnogaeth o’r fath. Mae taer angen ymyriadau wedi’u targedu, fel modelau gofal amgen a rhwydweithiau cymorth cymunedol cynaliadwy.
- Mae’r bylchau ymchwil allweddol yn cynnwys diffyg gwahaniaethu rhwng bod heb blant yn wirfoddol ac anwirfoddol, adnoddau methodolegol cyfyngedig, a ffocws daearyddol ar Tsieina, Asia ac Ewrop. Mae angen mwy o waith ymchwil i nodi polisïau effeithiol ar draws gwahanol gyd-destunau diwylliannol.
Argymhellion
- Mae angen dull cynhwysfawr i gefnogi oedolion hŷn heb blant, gan gyfuno diwygiadau polisi, gwaith ymchwil a mentrau sy’n cael eu gyrru gan y gymuned. Mae’r prif argymhellion yn cynnwys:
Polisi a Gweithredu Deddfwriaethol:
- Polisïau sy’n benodol i AWOC: Integreiddio ystyriaethau AWOC i strategaethau heneiddio cenedlaethol i fynd i’r afael â diffyg cymorth teuluol posibl.
- Cynyddu cyllid gofal cymdeithasol: Buddsoddi mewn gwasanaethau cymorth yn y gymuned fel cynlluniau cyfeillio a modelau gofal arloesol.
- Cryfhau amddiffyniadau cyfreithiol: Sicrhau llwybrau cyfreithiol clir ar gyfer gwneud penderfyniadau ym maes gofal, cyllid a chynllunio diwedd oes ar gyfer unigolion AWOC.
Ymwybyddiaeth y Cyhoedd a Newid Diwylliannol:
- Cymorth i weithwyr AWOC: Dylai cyflogwyr ddarparu polisïau ymddeol a gofalu hyblyg i gynnwys y rheini nad ydynt yn aelodau teulu.
- Hyrwyddo cydnabyddiaeth AWOC: Dylai ymgyrchoedd dynnu sylw at faterion AWOC mewn trafodaethau polisi, gan ganolbwyntio ar annibyniaeth a rhwydweithiau cymdeithasol amgen.
Ymyriadau sy’n seiliedig ar waith ymchwil a thystiolaeth:
- Data presennol cyfyngedig: mae’r diffyg data sydd wedi’i ddadgyfuno ar gyfer Cymru yn tynnu sylw at yr angen am ragor o waith ymchwil.
- Astudio modelau cymorth effeithiol: Gwerthuso ymyriadau AWOC llwyddiannus ar draws gwahanol gyd-destunau diwylliannol a pholisi.
Cymorth Cymunedol a Chymdeithasol:
- Datblygu modelau cymorth amgen: Hyrwyddo cynlluniau dan arweiniad y gymuned fel rhaglenni cyfeillio a grwpiau cefnogi cyfoedion.
- Mwy o ddewisiadau tai: Cefnogi tai sy’n ystyriol o oedran, cyd-drigo, a byw rhwng y cenedlaethau er mwyn hyrwyddo ymreolaeth a chysylltiadau cymdeithasol.
- Mae mynd i’r afael ag AWOC yn gofyn am newidiadau cymdeithasol ac o ran polisi, gan fuddsoddi mewn fframweithiau cynhwysol i sicrhau urddas, diogelwch a chysylltiad cymdeithasol wrth i bobl heneiddio.
Cyflwyniad
-
- Ym mis Ionawr 2025, comisiynodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Miller Research i gynnal adolygiad o lenyddiaeth sy’n ffocysu ar bobl hŷn heb blant.
- Mae nifer yr oedolion hŷn heb blant yn y DU yn cynyddu, gydag amcanestyniadau’n awgrymu cynnydd o 1.2 miliwn o unigolion dros 65 oed yn y DU, i 2 filiwn erbyn 2030.[2] Disgwylir i’r duedd hon gyflymu, ac mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn rhagweld y bydd tair gwaith yn fwy o bobl dros 80 oed nad oes ganddynt blant erbyn 2045.[3] Mae hyn wedi’i osod yn erbyn y cyd-destun ehangach bod 30% o bobl dros 65 oed heb blant yn disgwyl gorfod defnyddio gwasanaethau gofal ffurfiol, o’i gymharu â 22% o’r rheini sydd â phlant,[4] a’r ffaith mai plant sy’n oedolion yw’r darparwyr gofal cymdeithasol di-dâl mwyaf cyffredin i’w rhieni mewn oedrannau hŷn pan fo anghenion gofal ar eu huchaf.[5]
- At ddibenion yr adolygiad llenyddiaeth hwn, mae’r diffiniad o oedolion hŷn heb blant yn cynnwys y rheini nad ydynt yn gallu dibynnu’n gyson ar gefnogaeth gan eu plant sy’n oedolion – sef y ffynhonnell fwyaf cyffredin o gymorth yn nes ymlaen yn eu bywydau.[6] Mae’r garfan hon yn cwmpasu oedolion a allai fod wedi cael plant ond sydd wedi cael profedigaeth, pobl heb blant o gwbl oherwydd anffrwythlondeb, dewis neu amgylchiadau, a’r rheini sydd wedi ymddieithrio neu sydd â phlant nad ydynt yn gallu cynnig unrhyw help neu gymorth oherwydd pellter neu amgylchiadau.[7] Yn yr ystyr ehangaf, mae’r gwaith ymchwil hwn yn ystyried pobl hŷn heb blant i gynnwys y rheini sy’n byw heb gymorth gan eu plant eu hunain.
Methodoleg
- Roedd yr adolygiad llenyddiaeth hwn yn golygu bod angen creu matrics llenyddiaeth, a oedd yn darparu fframwaith ar gyfer nodi a chategoreiddio themâu perthnasol i’w tynnu o bob ffynhonnell. Ffurfiwyd taenlen Excel gyda thabiau ar wahân ar gyfer pob un o’r themâu. Roedd hyn yn cynnwys polisi a deddfwriaeth, ymchwil a thueddiadau, arferion gorau, heriau, manteision a thystiolaeth o ‘beth sy’n gweithio’. Yn dilyn hyn, nodwyd 65 o ffynonellau llenyddiaeth drwy fabwysiadu ‘dull domino’, lle cafodd y rhestr gyfeirio o ffynonellau llenyddiaeth sylfaenol ei hadolygu i nodi dogfennau perthnasol eraill. Dadansoddwyd y ffynonellau llenyddiaeth hyn gan ddefnyddio’r meddalwedd mapio meddwl Miro, sy’n darparu strwythur thematig ar gyfer yr adroddiad.
Strwythur yr adroddiad
Mae’r adroddiad hwn wedi’i strwythuro fel a ganlyn:
- Mae Adran 2 yn canolbwyntio ar y cyd-destun sy’n ymwneud â’r llenyddiaeth sydd ar gael, gan gynnwys tueddiadau demograffig, yr amrywiaeth o brofiadau AWOC a ffactorau cymdeithasol a strwythurol.
- Mae Adran 3 yn edrych ar rwydweithiau cymorth, gan gynnwys gofal cymunedol, strategaethau ymdopi ac annibyniaeth, llesiant seicolegol a rhwydweithiau cymdeithasol, a mynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd.
- Mae Adran 4 yn cyflwyno’r fframweithiau polisi a chyfreithiol sy’n sail i’r cymorth sydd ar gael i oedolion hŷn heb blant, gan gynnwys datblygu cynaliadwy a chydraddoldeb, cynllunio ariannol a chyfreithiol, lleihau tlodi, rhagfarn ar sail oedran a hawliau dynol, a hyfforddiant ac ymwybyddiaeth y gweithlu.
- Mae Adran 5 yn canolbwyntio ar anghenion gofal ar gyfer AWOC, gan gynnwys goblygiadau polisi, gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, dulliau gofal arloesol ac addasol, a modelau gofal amgen.
- Mae Adran 6 yn cyflwyno casgliadau ac argymhellion o’r adolygiad llenyddiaeth.
Cyd-destun
Tueddiadau Demograffig
- Yn ystod y degawdau diwethaf, mae nifer yr oedolion hŷn heb blant wedi bod yn cynyddu’n gyflym yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop. Ar flaen y gad yn y datblygiad hwn mae’r Almaen, y Swistir ac Awstria, lle bydd dros 20% o’r menywod sydd bellach yn cyrraedd diwedd eu cyfnod atgenhedlu yn parhau heb blant. Nid oedd gan ddwyrain a de Ewrop lefelau uchel o oedolion hŷn heb blant ddegawd yn ôl, ond maent bellach yn gweld cynnydd cyson.[8] O ran darpariaeth gofal, mewn gwladwriaethau lles sydd â gwasanaethau cymdeithasol cryf, mae cefnogaeth ffurfiol yn gwneud iawn, ond i’r gwrthwyneb, gall oedolion hŷn heb blant brofi bylchau mewn gofal angenrheidiol mewn gwledydd sydd â systemau lles gwannach.[9] Mae astudiaethau’n dangos tueddiadau tebyg, gydag oedolion hŷn heb blant yn aml yn dibynnu mwy ar systemau gofal ffurfiol, yn enwedig mewn gwledydd sydd â gwasanaethau cymdeithasol gwannach.[10]
- Mae sawl ffynhonnell o lenyddiaeth yn cyfeirio at yr Arolwg o Iechyd, Heneiddio ac Ymddeoliad yn Ewrop (SHARE). Dyma gronfa ddata panel amlddisgyblaethol a thraws-genedlaethol o ficroddata ar iechyd, statws economaidd-gymdeithasol a rhwydweithiau cymdeithasol a theuluol, sy’n ceisio deall goblygiadau heneiddio demograffig yn Ewrop drwy gasglu data gan unigolion 50 oed a hŷn ar draws gwahanol wledydd Ewropeaidd. Mae’r arolwg yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ymchwilwyr a llunwyr polisïau ar y broses heneiddio, ymddeol, a’r rhyngberthnasoedd rhwng ffactorau iechyd, economaidd a chymdeithasol.[11]
- Yn hanesyddol, mewn llawer o wledydd Ewropeaidd yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, arhosodd 20% neu fwy o fenywod heb blant.[12] Roedd oedran cymharol uchel adeg priodas yn nodweddiadol o system deulu gorllewin Ewrop, lle’r oedd oedolion ifanc yn gadael cartref eu rhieni i weithio fel gweision a morwynion yng nghartrefi eu cyflogwyr. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd yn rhaid iddynt aros yn sengl a heb blant. Mae’r niferoedd uchel o fenywod heb blant yn y 1920au hefyd yn cael eu priodoli i’r heriau cymdeithasol ac economaidd a ddilynodd y Dirwasgiad Mawr, yn ogystal â’r cymarebau rhyw afluniedig a achoswyd gan yr Ail Ryfel Byd.[13] Mae’r cyfraddau priodas a ffrwythlondeb yn ystod y 1950au a dechrau’r 1960au yn cael eu hesbonio gan Kreyenfeld a Konietzka (2017) fel ‘adfywiad o werthoedd teuluol traddodiadol ar ôl y rhyfel’,[14] sy’n golygu bod 9% o’r rheini a gafodd eu geni yn y 1940au heb blant.[15] Fodd bynnag, nid oes gan 20% o’r rheini a anwyd yn y 1960au blant, a bydd disgwyliad oes y garfan hon yn hirach, gan arwain at nifer uchel o fenywod a fydd yn AWOC yn 80 oed yn y 2040au.
- Yn ogystal, mae amcanestyniad diweddar gan yr ONS wedi dod i’r casgliad bod yr oedran y mae menywod yn cael plant yn cynyddu. I fenywod a aned ym 1951, yr oed cyfartalog y byddai ganddynt blentyn oedd 26 oed. Cynyddodd hyn i oedran cyfartalog o 31 ar gyfer menywod a anwyd ym 1978, a rhagwelir y bydd yn 35 oed ar gyfer y rheini a anwyd yn 2007, ac yn 36 oed ar gyfer y rheini a anwyd yn 2025.[16] Dywedodd yr ONS y gallai’r duedd gael ei gyrru gan “bwysau ariannol a digwyddiadau bywyd eraill, fel ffurfio partneriaeth a symud i’ch cartref eich hun, yn digwydd yn hwyrach”,[17] ac fe ellir hefyd gysylltu’r duedd â chynnydd yn nifer yr oedolion hŷn heb blant.
Ailfeddwl y label ‘Di-Blant’
- Mae profiadau oedolion hŷn heb blant yn amrywiol ac ni ddylid eu categoreiddio’n llym. Mae disgwyliadau diwylliannol, hanesyddol a rhyweddol yn dylanwadu ar sut mae oedolion hŷn heb blant yn cael eu gweld, yn ogystal â’u profiadau unigol. Mae defnyddio’r cwrs bywyd ‘normal’ rhieiniol fel pwynt cyfeirio, fel y nodir gan Allen a Wiles (2013), yn gyson â llawer o’r llenyddiaeth yn y gofod hwn. Mae’r astudiaeth hon yn archwilio sut mae’r ‘norm’ hwn yn broblemus, ac yn hytrach ni ddylid ei weld yn berthnasol iawn, lle mae cael neu beidio â chael plant yn ‘un o ystod o opsiynau nad ydynt wedi cael eu defnyddio’.[18] Mae Kreyenfeld a Konietzka (2017) hefyd yn archwilio canfyddiad mai unigolyn ‘sy’n rhydd o unrhyw ymrwymiadau teuluol’ yw’r enillydd yn y ras am y llwyddiant gyrfa a’r llwyddiant materol mwyaf mewn bywyd’[19]. Mae gallu’r cenedlaethau presennol i “ddewis” p’un a ddylid cael plant ai peidio yn cael ei ystyried gan Kreyenfeld a Konietzka (2017) yn gyflawniad o amodau cwrs bywyd ôl-fodern.[20]
- Mae sawl term yn boblogaidd yn y maes llenyddiaeth hwn: y rheini sy’n ‘rhydd o blant’, ‘di-blant’, a’r rheini sydd heb blant yn ‘wirfoddol’ neu’n ‘anwirfoddol’. Mae’r termau hyn yn cael eu hystyried yn broblemus weithiau oherwydd eu cynodiadau. Mae’r label ‘di-blant’ yn cael ei ystyried yn ddisgrifiad anghywir; mae Kreyenfeld a Konietzka (2017) yn egluro sut mae’n cynnwys y ddadl ffeministaidd lle mae ymdrechion wedi’u gwneud i ddileu’r term hwn a’i ddisodli gyda’r term ‘rhydd o blant’.[21] Yn ôl yr ysgolheigion hyn, mae’r term “di-blant” yn cynnwys arwyddocâd negyddol oherwydd bod y rhagddodiad “di” yn awgrymu “bod rhywbeth ar goll, yn amddifad neu’n anffodus”; tra bo’r term “rhydd o blant” yn awgrymu dewis bwriadol. Mae McDonough a Davitt (2011) yn edrych ar sut nad yw rhai unigolion yn ystyried eu hunain yn ‘ddi-blant’ gan eu bod yn ystyried bod cael plant bedydd, bod yn llys-riant, a chwarae rhan ystyrlon ym mywydau plant eu teuluoedd a’u ffrindiau yn ystyrlon.[22]
- Gwnaeth astudiaeth o’r UDA gan Xu et al. (2022) edrych ar wahanol ddiffiniadau o fod yn ‘ddi-blant’ yng nghyd-destun strwythurau teuluol cymhleth, a oedd yn amrywio rhwng 9.2% ac 13.6%, yn dibynnu ar y diffiniad a ddefnyddiwyd. Yn yr astudiaeth hon, roedd y cysylltiadau rhwng rhai nodweddion unigol, fel rhywedd a statws priodasol, a’r tebygolrwydd o fod yn ‘ddi-blant’, yn ogystal â’r berthynas rhwng bod yn ‘ddi-blant’ a chymorth cymdeithasol, yn wahanol ar sail y diffiniad a ddefnyddiwyd.[23] Mae’r astudiaeth yn pwysleisio pwysigrwydd ystyried yn ofalus sut mae oedolion heb blant yn cael eu diffinio mewn gwaith ymchwil.
Ffactorau Cymdeithasol a Strwythurol
- Mae nifer y bobl sy’n heneiddio heb blant wedi bod yn cynyddu ers y 1960au am amrywiaeth o resymau. Mae hyn yn cynnwys newidiadau strwythurol mewn cymdeithas, fel mwy o fenywod mewn addysg uwch a’r gweithlu, a lle nad oes disgwyl i aelodau staff benywaidd adael eu swyddi llawn amser ar ôl priodi a phan fyddant yn feichiog.[24] Fodd bynnag, mae diffyg cyflogaeth ddiogel wedi arwain llawer o oedolion ifanc i ohirio priodi a bod yn rhiant gan fod merched ifanc erbyn hyn bron i gyd yn disgwyl cael eu cyflogi drwy gydol eu hoes, er bod polisïau teulu a chyflogwyr ond wedi addasu’n rhannol i’r dyheadau hyn. Mae hyn yn gorfodi rhai menywod i wneud dewisiadau anodd rhwng cael gyrfa a bod yn rhiant.[25]
- Mae’r ONS (2020) yn edrych ar sut mae agweddau at briodas a strwythurau teuluol sy’n esblygu yn rhoi mwy o ymreolaeth i fenywod dros ddewisiadau atgenhedlol, gan leihau pwysau cymdeithasol i gael plant.[26] Mae ffactorau eraill yn cynnwys mynediad eang at ddulliau atal cenhedlu, mwy o bobl yn symud i ffwrdd o’r ardal lle cawsant eu magu i fynd ar drywydd addysg neu gyfleoedd gwaith, teuluoedd yn chwalu a dieithrio, ac mae hyd bywyd hirach yn golygu ei fod yn dod yn fwy cyffredin i bobl fyw yn hirach na’u plant. Yn olaf, mae ansefydlogrwydd economaidd a’r costau cynyddol sy’n gysylltiedig â magu plant, a’r rheini sydd wedi dewis peidio â chael plant am resymau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd, hefyd wedi cyfrannu at y nifer cynyddol o oedolion hŷn heb blant.[27]
- Mae Penning et al. (2022) yn nodi bod cyfres o elfennau cadarnhaol a negyddol yn gysylltiedig ag oedolion sydd heb blant.[28] Mae’r elfennau cadarnhaol yn cynnwys sut mae’n ‘naturiol’ i beidio â bod eisiau plant, yn gallu bod yn rhywbeth sy’n rhedeg mewn teuluoedd, ac yn fater o ddirnadaeth gan fod cael plant ond yn opsiwn os bodlonir amodau priodol. Yn ogystal, gall y dewis i beidio â chael plant gael ei wneud er mwyn atal niwed (gan gynnwys trais teuluol ac atal gorboblogi’r blaned), neu fod o ganlyniad i fod wedi goroesi trawma. Ar y llaw arall, mae’r ffynhonnell yn edrych ar y posibilrwydd o fframio negyddol, gan gynnwys cael ei weld fel ‘cyfle a gollwyd’, fel ffawd i’w dderbyn (fel anffrwythlondeb, unigrwydd, priodi yn hwyr mewn bywyd), fel mater o alar, ac fel effaith garfan (fel bod yn weddw neu am resymau iechyd).[29]
- Mae Beaujouan a Berghammer (2019) hefyd yn archwilio’r bwlch rhwng bwriadau ffrwythlondeb gydol oes a ffrwythlondeb wedi’i gwblhau mewn 19 o wledydd Ewropeaidd a’r UDA, gan ddod i’r casgliad bod gan fenywod yn gyffredinol lai o blant nag a fwriadwyd, ac mae bod heb blant yn anfwriadol yn hŷn yn fwy cyffredin na’r disgwyl.[30] Canfu’r astudiaeth fod bylchau mwy o ran ffrwythlondeb yn cael eu dylanwadu gan alwadau gyrfa a pholisïau cymdeithasol, ac mae amrywiadau rhanbarthol lle mae’r bylchau mwyaf mewn gwledydd yn ne Ewrop ac mewn gwledydd sy’n siarad Almaeneg, tra mai mewn gwledydd yng nghanol Ewrop ac yn nwyrain Ewrop y mae’r bylchau lleiaf. Mae ffactorau cyd-destunol fel polisïau gwaith-teulu, amodau economaidd, a normau diwylliannol yn dylanwadu ar ganlyniadau ffrwythlondeb, sy’n arwain at oblygiadau polisi: polisïau gwaith-teulu, sefydlogrwydd economaidd, a chymorth gofal plant gwell. Archwilir hyn ymhellach yn Adran 4.
- Er bod cyfran yr oedolion hŷn heb blant yn cynyddu, mae Gonen et al. (2024) yn trafod sut mae tabŵs cryf o hyd yn gysylltiedig â ‘gwyro oddi wrth y norm cymdeithasol presennol’.[31] Mae hyn hefyd wedi cael ei archwilio gan y National Care Forum (2021), sy’n cynrychioli darparwyr gofal cymdeithasol a chymorth nid-er-elw yn Lloegr, gan egluro bod rhagdybiaethau a beirniadaethau’n cael eu gwneud am ddewisiadau bywyd. Mae’r National Care Forum yn gweld bod yr unigolion hyn yn gallu teimlo’n anweledig, ar y cyrion, eu bod yn cael eu hanwybyddu mewn trafodaethau am heneiddio a bod heb le mewn cymdeithas sy’n canolbwyntio ar y teulu.[32] Ar ben hynny, mae’r National Care Forum yn edrych ar sut gall oedolion hŷn heb blant deimlo eu bod wedi’u datgysylltu oddi wrth genedlaethau iau, a’u bod yn gallu ofni na fydd eu straeon yn cael eu clywed, yn enwedig os byddant yn datblygu dementia yn nes ymlaen mewn bywyd. Gall hyn wedyn gyfrannu at bryderon ynghylch sut bydd yr oedolion hŷn hyn heb blant yn cael eu trin mewn lleoliadau gofal, gyda’r astudiaeth yn dod i’r casgliad ei bod hi cyn bwysiced i fynd i’r afael â’r teimladau hyn o allgau a rhagfarn, ag yw hi i ddatrys problemau ymarferol cymorth a gofal.[33]
- Yn ogystal â’r teimladau cyffredinol hyn, mae’n bwysig nodi bod oedolion hŷn heb blant yn cynrychioli grŵp amrywiol iawn o bobl. Mae rhai grwpiau ymylol yn fwy tebygol o fod yn AWOC. Er enghraifft, mae’r National Care Forum (2021) yn nodi bod tua 90% o’r bobl sy’n LHDTC+ yn AWOC, ac ni fydd plant gan tua 85% o bobl sydd ag anableddau.[34] Mae Hadley (2021) hefyd yn dangos sut mae profiadau dynion sy’n heneiddio heb blant yn aml yn wahanol iawn i brofiadau menywod.[35] Mae’r grŵp amrywiol hwn o bobl yn cael ei archwilio i ryw raddau yn y llenyddiaeth.
- Mae’r ONS (2020) hefyd yn nodi gwahaniaethau yng nghyfraddau oedolion hŷn heb blant, a allai hefyd chwarae rhan yn y patrymau gofal cymdeithasol a welwyd. Mae cyfraddau is o oedolion hŷn heb blant ymysg y boblogaeth bresennol o bobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig 65 oed a hŷn (9%) o gymharu â phobl Wyn hŷn (15%), a chyfraddau is ar gyfer pobl 65 oed a hŷn o alwedigaethau â llaw a galwedigaethau arferol (9%), o gymharu â galwedigaethau canolradd (11%) a galwedigaethau rheolaethol a phroffesiynol (13%).[36]
- Defnyddiodd McDonough a Davitt (2011) theori lleoli i dynnu sylw at y llu o sefyllfaoedd a digwyddiadau amodol y mae pobl hŷn eu hunain yn eu hwynebu mewn perthynas â bod heb blant. [37] Daethant i’r casgliad nad yw dosbarthiad rhiant / diriant syml yn dweud llawer am y profiadau sy’n gysylltiedig â sefyllfaoedd o’r fath, na’r canlyniad iechyd neu gymdeithasol disgwyliedig. Canfuwyd hefyd nad oedd y gwahaniaeth rhwng gwirfoddol ac anwirfoddol yn ddigonol. O ganlyniad, mae’r astudiaeth hon yn cynnwys llawer o adroddiadau disgrifiadol yn fwriadol i dynnu sylw at yr amrywiaeth sy’n cael ei danadrodd ym mhrofiadau’r grŵp hwn o unigolion.
Rhwydweithiau Cymorth
Rhwydweithiau Cymorth a Gofal yn y Gymuned
- Mae oedolion hŷn heb blant yn cael cyfle i adeiladu rhwydweithiau cymorth amrywiol a chyfoethog sy’n ymestyn y tu hwnt i strwythurau teuluol traddodiadol. Mae absenoldeb aelodau agos o’r teulu yn annog cysylltiadau cryfach â ffrindiau, cymdogion a sefydliadau cymunedol, gan feithrin cyd-ddibyniaeth a lles ar y cyd. Mae gwaith ymchwil yn tynnu sylw at bwysigrwydd systemau cymorth lleol o ran darparu cymorth emosiynol ac ymarferol, gan ddangos y gall unigolion AWOC ffynnu o fewn rhwydweithiau cymdeithasol sydd wedi’u datblygu’n dda (Barker, 2002;[38] Deindl a Brandt, 2011).[39]
- Mae modelau gofal cymunedol lleol, fel cynlluniau a arweinir gan wirfoddolwyr a “Mentrau Cymorth yn y Gymdogaeth,” yn cael eu hystyried yn ffyrdd effeithiol o liniaru arwahanrwydd cymdeithasol a darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol. Mae Hoang et al. (2020) yn nodi bod y modelau hyn yn helpu gydag ymweliadau cartref, siopa a chwmnïaeth, gan gyfrannu at ymdeimlad cyffredinol o les ar gyfer oedolion hŷn.[40] Mae Scharlach et al. (2014) yn disgrifio’r “Model Pentref”, yng nghyd-destun yr Unol Daleithiau, sef dull gweithredu sy’n cael ei yrru gan ddefnyddwyr ar gyfer heneiddio yn y cartref, lle mae cymunedau’n darparu fframwaith cymorth i oedolion sy’n heneiddio. Mae pentrefi yn sefydliadau dielw, sy’n cael eu gyrru gan aelodau, sy’n darparu cymorth cymdeithasol ac ymarferol, ac weithiau cymorth sy’n gysylltiedig ag iechyd, i oedolion hŷn mewn ardal ddaearyddol benodol.[41] Y prif nod yw galluogi oedolion hŷn i aros yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain, yn hytrach na symud i leoliadau sefydliadol fel cartrefi gofal neu lety â chymorth (Greenfield a Mauldin, 2017).[42] Mae pentrefi fel arfer yn darparu mynediad at:
- Gwasanaethau cludiant (ar gyfer apwyntiadau meddygol, siopa, ac ati)
- Cymorth cynnal a chadw yn y cartref (gwaith atgyweirio sylfaenol, garddio, cymorth technegol)
- Gweithgareddau cymdeithasol a hamdden (dosbarthiadau ymarfer corff, clybiau llyfrau, gwibdeithiau grŵp)
- Cydlyniant a pherthyn cymunedol (rhwydweithiau cymar-i-gymar)
- Cymorth iechyd a lles (darparu gofal gan wirfoddolwyr, atgyfeiriadau i ddarparwyr gofal cartref)
- Digwyddiadau addysgol a diwylliannol (gweithdai, darlithoedd, rhaglenni pontio’r cenedlaethau).
- Serch hynny, nid yw gweithredu’r model hwn yn rhydd o heriau sy’n gysylltiedig â’r gallu i ehangu, yn enwedig ar gyfer unigolion AWOC sydd dan anfantais economaidd. Mae Scharlach et al. (2014) yn nodi, er bod y “Model Pentref” yn addawol, wrth i nifer yr oedolion hŷn heb blant gynyddu, mae’r her hon yn dod yn bwysicach fyth, yn enwedig wrth i grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio’n economaidd gael trafferth cael gafael ar ofal yn y gymuned a manteisio arno.
- Mae fersiynau o’r “Model Pentref” yn bodoli yn y DU, gan ddarparu’r gefnogaeth a’r mynediad a restrir uchod i oedolion hŷn, ond mae’r rhain yn cael eu gweithredu’n bennaf fel sefydliadau er-elw. Mae hyn yn cynnwys grŵp Audley Villages, rhwydwaith o 21 o safleoedd ymddeol moethus gyda gwasanaethau gofal a ffordd o fyw mewn partneriaeth â’r sector gofal.[43]
Strategaethau Ymdopi ac Annibyniaeth
- Mae unigolion sy’n AWOC yn aml yn rhoi blaenoriaeth uchel i gynnal annibyniaeth, ac mae llawer yn gwneud dewisiadau ffordd o fyw bwriadol i sicrhau hunangynhaliaeth. Mae’r strategaethau hyn yn cynnwys cynilo ar gyfer ymddeol, buddsoddi mewn gwasanaethau gofal preifat, a sicrhau yswiriant iechyd. Mae’r dull rhagweithiol hwn yn eu galluogi i ddylunio profiadau yn nes ymlaen mewn bywyd sy’n alinio â’u dyheadau a’u gwerthoedd personol.
- Mae Johnson (2007) yn dadlau bod llawer yn dewis gwasanaethau gofal preifat fel ffordd o osgoi bylchau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac osgoi dibyniaeth ar drefniadau darparu gofal anffurfiol, a all hefyd fod yn faich ariannol.[44]
- Mae rhwydweithiau anffurfiol, fel ffrindiau a chymdogion, yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol hanfodol. Mae astudiaethau gan Allen a Wiles (2013) a Chen et al. (2020) yn tynnu sylw at natur ddeuol y rhwydweithiau hyn – darparu cefnogaeth sylweddol tra, ar yr un pryd, bod yn anniogel oherwydd dirywiad iechyd cymheiriaid sy’n heneiddio.[45],[46] Mae Abramowska-Kmon et al. (2021) yn ymestyn y ddadl hon, gan nodi, er bod oedolion heb blant yn aml yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, gwirfoddoli a threfniadau cymorth cyfatebol, bod eu gallu i wneud hynny’n dibynnu ar symudedd personol, galluedd corfforol, ac argaeledd trafnidiaeth.[47] Mae cynnal ffordd annibynnol o fyw yn gymhleth wrth i faterion iechyd sy’n gysylltiedig ag oedran ddod i’r amlwg, ond mae datrysiadau arloesol fel rhwydweithiau cymdeithasol lleol, gwasanaethau trafnidiaeth a rennir, a chymunedau digidol yn darparu ffyrdd arall o barhau i gymryd rhan a chysylltu.
- Ar ben hynny, mae’r syniad o “heneiddio yn y cartref” wedi cael sylw fel strategaeth ddymunol i’r AWOC hynny, gan ganiatáu iddynt aros yn eu cartrefi gyda chefnogaeth eu rhwydweithiau cymdeithasol estynedig. Mae heneiddio yn y cartref yn caniatáu i unigolion gynnal eu hunaniaeth a’u harferion, sy’n gallu gwarchod rhag dirywiad gwybyddol ac unigrwydd (Portacolone et al., 2022).[48] Yn ogystal, mae llawer o bobl yn ffafrio gwneud addasiadau i’r cartref, defnyddio technolegau cynorthwyol, a gwasanaethau gofal yn y cartref dros opsiynau sefydliadol, er mwyn cadw rheolaeth dros eu bywydau (Carney et al., 2019).[49] Mae Křenková (2014) yn datgan bod lleoliad daearyddol yn dylanwadu ar y gallu i ddewis rhwng heneiddio yn y cartref a sefydliadoli. Gellir lliniaru ar y rhwystrau gwledig drwy wella gwasanaethau trafnidiaeth a digidol y cyfeirir atynt uchod.[50]
Llesiant Seicolegol a Rhwydweithiau Cymdeithasol
- Yn groes i’r camsyniadau cyffredin, mae oedolion hŷn heb blant yn profi lefelau tebyg o les seicolegol i’r rheini sydd â phlant, yn enwedig pan fyddant yn meithrin rhwydweithiau cymdeithasol cryf (Margolis a Verdery, 2017[51]; Vikstrom et al., 2018).[52] Mae amrywiaeth a hyblygrwydd y rhwydweithiau hyn yn caniatáu rhyngweithio cymdeithasol ystyrlon sy’n gwella ansawdd bywyd a boddhad personol.
- Mae bod heb blant yn wirfoddol yn gysylltiedig ag ymdeimlad o ymreolaeth a boddhad bywyd, wrth i unigolion wneud dewisiadau bwriadol ynghylch eu ffordd o fyw, eu gyrfaoedd a’u perthnasoedd (Allen a Wiles, 2013;[53] Dykstra a Hagestad, 2007).[54] Mae’r unigolion hyn fel arfer yn cynllunio’n rhagweithiol ar gyfer henaint, gan ddatblygu bywydau cymdeithasol cryf a sicrwydd ariannol sy’n gallu bod yn glustog rhag anfanteision yn nes ymlaen mewn bywyd. Gall bod heb blant yn wirfoddol, yn enwedig ymysg y rheini a oedd wedi gobeithio cael plant ond nad oeddent yn gallu eu cael oherwydd anffrwythlondeb, amgylchiadau bywyd neu statws partneriaeth, fod yn gysylltiedig â lefelau uwch o alar, gofid ac unigrwydd (Hadley, 2019; [55] Margolis a Verdery, 2017).[56] Er gwaethaf hyn, mae unigolion AWOC anwirfoddol yn aml yn dod o hyd i bwrpas a chymorth drwy ymgysylltu â’r gymuned, mentora a theuluoedd a ddewiswyd (gweler isod) (Bures, 2016).[57] Mae’r dulliau amrywiol hyn yn tynnu sylw at allu oedolion hŷn sydd heb blant i fod yn hyblyg wrth lunio’r strwythurau sy’n gweddu orau i’w hanghenion.
- Gall agweddau cymdeithasol tuag at oedolion hŷn heb blant waethygu’r gwahaniaethau hyn. Mae gwaith ymchwil gan Hadley (2019) yn awgrymu bod dynion sydd heb blant yn anwirfoddol, yn benodol, yn profi teimladau o ymyleiddio, gan fod disgwyliadau cymdeithasol traddodiadol yn aml yn clymu gwrywdod i fod yn dad. Yn yr un modd, gall menywod hŷn a oedd wedi rhagweld mamolaeth, ond nad oeddent yn gallu cenhedlu, brofi trallod emosiynol sy’n parhau, yn enwedig mewn diwylliannau lle mae cysylltiad cryf rhwng bod yn rhiant a hunaniaeth a statws cymdeithasol (Beaujouan a Berghammer, 2019).[58] Gall y trallod emosiynol hwn gyfrannu at fwy o achosion o symptomau iselder ymhlith unigolion AWOC o gymharu â’r rheini a arhosodd yn rhydd o blant yn ôl dewis (Vikstrom et al., 2018). Mae hyn yn awgrymu bod cyd-destun oedolion hŷn heb blant – boed yn wirfoddol neu’n anwirfoddol – yn gallu cael effaith sylweddol ar les seicolegol.
- Mae gwaith ymchwil hefyd yn tanlinellu’r amrywioldeb diwylliannol o ran sut mae oedolion hŷn heb blant yn creu ac yn cynnal rhwydweithiau cymdeithasol. Gall fod yn haws i oedolion hŷn heb blant ddatblygu cysylltiadau cymdeithasol drwy sefydliadau lleol, sefydliadau crefyddol, neu fentrau gwirfoddoli (Mair, 2019).[59] Mae Song (2015) yn trafod sut, mewn cymdeithasau unigolyddol, gall perthnasoedd gyda ffrindiau ac unigolion nad ydynt yn rhan o’ch teulu ddisodli cymorth teuluol, tra’i bod yn gallu bod yn fwy heriol adeiladu rhwydweithiau y tu allan i’ch teulu mewn cymdeithasau cyfunolaidd.[60] Yn Song (2015), mae’r drafodaeth am gymdeithasau unigolyddol fel arfer yn cyfeirio at ddiwylliannau lle mae ymreolaeth bersonol, hunanddibyniaeth, ac annibyniaeth yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr. Mae hynny’n gwrthgyferbynnu â chymdeithasau cyfunolaidd, lle mae rhwymedigaethau teuluol a chymunedol yn chwarae rhan ganolog ym mywyd unigolyn. Maen nhw’n dadlau mai nodweddion allweddol cymdeithasau unigolyddol yw:
- Perthnasoedd Teuluol Gwannach – Mae unigolion yn llai dibynnol ar gymorth teuluol estynedig, ac mae gofalu sy’n pontio’r cenedlaethau yn llai o norm diwylliannol.
- Bod yn hunangynhaliol – Disgwylir i bobl ofalu amdanynt eu hunain yn hytrach na dibynnu ar berthnasau agos am gymorth yn eu henaint.
- Cymorth Sefydliadol ar gyfer Heneiddio – Gall oedolion hŷn heb blant ddibynnu mwy ar ofal sy’n cael ei ddarparu gan y wladwriaeth neu wasanaethau cymdeithasol yn hytrach na chymorth teuluol.
- Symudedd ac Annibyniaeth – Mae mwy o bwyslais ar ddewis personol o ran ble a sut mae unigolion yn byw, sy’n aml yn arwain at wahanu corfforol oddi wrth aelodau o’r teulu.
- Mae gan y nodweddion hyn oblygiadau sylweddol i boblogaethau sy’n heneiddio, yn enwedig i oedolion hŷn heb blant neu’r rheini sydd wedi’u gwahanu’n ddaearyddol oddi wrth eu plant oherwydd tueddiadau mudo. Fodd bynnag, maent hefyd yn dweud bod trefoli a natur dros dro bywyd modern yn cymhlethu’r dybiaeth bod diwylliannau unigolyddol bob amser yn well o ran meithrin cysylltiadau cymdeithasol cryf.[61]
Buddsoddi Gweithredol mewn Cyfeillgarwch
- Mae angen i oedolion heb blant fuddsoddi’n weithredol mewn cyfeillgarwch a chyfranogiad cymunedol i sicrhau eu lles seicolegol yn eu henaint (Greenberg, 2013).[62] Mae hyn yn alinio â gwaith ymchwil ehangach sy’n dangos bod cyfalaf cymdeithasol – a adeiladwyd drwy gyfeillgarwch a chyfranogiad cymunedol – yn benderfynydd allweddol o les yn nes ymlaen mewn bywyd (Penning et al., 2022;[63] Mair, 2019).[64] Yn wahanol i unigolion sydd â phlant, sy’n aml yn dibynnu ar gymorth teuluol, mae pobl AWOC yn cynnal ac yn meithrin eu rhwydweithiau cymdeithasol yn rhagweithiol er mwyn atal unigrwydd a sicrhau trefniadau gofalu cyfatebol (Dykstra a Keizer 2009).[65]
- Mae’r cysyniad o ‘deulu a ddewiswyd’ wedi’i amlygu fel strategaeth ymdopi sylweddol ymhlith unigolion heb blant (Allen a Wiles, 2013).[66] Mae’r teuluoedd a ddewiswyd hyn, sy’n cynnwys ffrindiau agos a chysylltiadau cymdeithasol estynedig, yn darparu cefnogaeth emosiynol, gymdeithasol, seicolegol ac ymarferol, gan weithredu’n aml fel unedau teuluol benthyg (Barker, 2002; Krenkova, 2014). Mae astudiaethau’n awgrymu bod cymryd rhan weithredol mewn cyfeillgarwch yn arwain at fwy o gydlyniant cymdeithasol a mwy o ymdeimlad o berthyn, gan atgyfnerthu’r syniad y gellir adeiladu perthnasoedd ystyrlon ar unrhyw gam o fywyd (Teerawichitchainan et al., 2019).[67]
- Er y gall rhwydweithiau nad ydyn nhw’n rhai teuluol fod yn wahanol o ran strwythur o gymharu â pherthnasoedd teuluol, maen nhw’n cynnig manteision unigryw, gan gynnwys mwy o ymreolaeth, cymorth cyfatebol sy’n seiliedig ar werthoedd cyffredin, a ffocws ar gyfoethogi emosiynol yn hytrach na rhwymedigaeth (Deindl a Brandt, 2011;[68] Quashie et al., 2020).[69] Mewn llawer o achosion, mae oedolion heb blant yn datblygu cyfeillgarwch gydol oes sy’n darparu’r un diogelwch a chwmnïaeth sy’n gysylltiedig yn draddodiadol â chysylltiadau teuluol.
- Mae’n allweddol nodi bod Deindl a Brandt (2011) wedi canfod bod tasgau darparu gofal ymarferol, fel cynorthwyo gyda gweithgareddau dyddiol neu gymorth ariannol, yn cael eu darparu’n llai aml gan rwydweithiau nad ydynt yn rhai teuluol. Mae hyn yn awgrymu y gall cyfeillgarwch liniaru unigrwydd, ond efallai na fydd yn disodli cymorth ymarferol yn llwyr ar bob achlysur (Quashie et al., 2020).
Mynd i’r Afael ag Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymdeithasol
- Mae ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd yn risgiau critigol i bobl sy’n AWOC, gyda goblygiadau o ran iechyd meddwl, gan gynnwys iselder a gorbryder (Chang et al., 2019).[70] Fodd bynnag, mae Quashie et al. (2020) yn dadlau bod y profiad o unigrwydd yn amrywio’n fawr, yn dibynnu ar ffactorau fel cydnerthedd personol, ymgysylltiad cymdeithasol blaenorol, a mynediad at gymorth. Mae rhai unigolion sy’n AWOC yn datblygu rhwydweithiau cymdeithasol helaeth, gan feithrin cyfeillgarwch dwfn ac ystyrlon sy’n ffactorau amddiffynnol cryf yn erbyn ynysigrwydd. Gall eraill, yn enwedig y rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig neu ardaloedd nad oes ganddynt ddigon o adnoddau, wynebu mwy o heriau o ran cynnal rhyngweithiadau cymdeithasol cyson.
- Mae nifer o ymyriadau, gan gynnwys cynlluniau cyfeillio, rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid, a chymunedau oed-gyfeillgar, wedi cael eu datblygu i fynd i’r afael â’r materion hyn (Doran et al., 2018). [71] Mae’r rhaglenni hyn yn arbennig o hanfodol i fynd i’r afael ag unigrwydd ymysg oedolion hŷn, a allai fod mewn rhanbarthau sydd â chefnogaeth deuluol gyfyngedig. Canfuwyd bod ymgysylltu cymdeithasol strwythuredig drwy grwpiau cymunedol, mentrau tai a rennir, a gwirfoddoli yn gwella llesiant ac yn rhoi ymdeimlad o berthyn (Lehning et al., 2017).[72] Ar ben hynny, mae unigolion sy’n AWOC ac sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni diwylliannol a rhaglenni sy’n pontio’r cenedlaethau yn elwa o ragor o ryngweithio cymdeithasol a chysylltiadau emosiynol, sy’n helpu i gynnal llesiant tymor hir (Quashie et al., 2020).
- Mae Doran et al. (2018) yn nodi bod gweithredu rhaglenni o’r fath yn aml yn cael ei lesteirio gan gyllid anghyson a gwahaniaethau rhanbarthol, gan godi pryderon ynghylch cynaliadwyedd a chyrhaeddiad yr ymyriadau hyn. Er bod gan rai ardaloedd fentrau cymunedol sy’n cael eu hariannu’n dda, mae eraill yn ei chael hi’n anodd o ran dyrannu adnoddau, gan adael llawer o’r rheini sy’n AWOC heb fynediad at rwydweithiau cymorth cymdeithasol hanfodol. Mae angen dull polisi mwy integredig er mwyn sicrhau bod cynlluniau oed-gyfeillgar ar gael i bawb a bod digon o adnoddau ar eu cyfer.
- Mae technoleg yn chwarae rhan gynyddol hanfodol wrth gynnal cysylltiadau, gan gynnig cyfleoedd i oedolion hŷn heb blant gymryd rhan mewn cymunedau rhithwir, ailgysylltu â ffrindiau pell, ac archwilio cylchoedd cymdeithasol newydd (Lehning et al., 2017). Mae llwyfannau digidol, gan gynnwys grwpiau cymorth ar-lein, galwadau fideo, a chymunedau rhithiol sy’n seiliedig ar ddiddordebau, yn caniatáu i unigolion sy’n AWOC feithrin cyfeillgarwch, waeth beth fo’r cyfyngiadau daearyddol. Mae sicrhau hygyrchedd at adnoddau digidol yn grymuso oedolion hŷn ymhellach i barhau i ymgysylltu a chysylltu’n gymdeithasol (Bohme et al., 2020).[73] Fodd bynnag, mae Bohme et al. (2020) hefyd yn tynnu sylw at y gagendor digidol, gan nodi y gall oedolion hŷn wynebu rhwystrau fel diffyg mynediad i’r rhyngrwyd, heriau llythrennedd digidol, a phryderon ynghylch fforddiadwyedd. Gallai mynd i’r afael â’r rhwystrau hyn drwy fentrau addysg digidol a mynediad â chymhorthdal at dechnoleg wella cynhwysiant cymdeithasol ymhellach i oedolion hŷn heb blant.
- Er gwaethaf yr heriau sy’n gysylltiedig ag ynysigrwydd cymdeithasol, mae unigolion sy’n AWOC yn dangos galluoged rhyfeddol o ran creu a chynnal bywydau cymdeithasol boddhaus. Drwy gymryd rhan weithredol mewn mentrau cymunedol, cofleidio technoleg, a ffurfio rhwydweithiau cymdeithasol cryf, gallant liniaru unigrwydd a sicrhau cysylltiadau ystyrlon a hirhoedlog ymhell i mewn i’r henoed.
Fframweithiau Polisi a Fframweithiau Cyfreithiol
- Mae sawl fframwaith polisi cenedlaethol a rhyngwladol yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion unigryw oedolion hŷn heb blant. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Gofal 2014 yn rhoi pwyslais mawr ar ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a diogelu poblogaethau agored i niwed. Mae hyn yn sicrhau bod oedolion hŷn, beth bynnag fo’u statws rhieniol, yn gallu cael mynediad at wasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion unigol. Mae’r Deddfau’n annog gofal integredig rhwng gwasanaethau cymdeithasol a gofal iechyd, sydd o fudd i unigolion sy’n AWOC drwy ddarparu mynediad at yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer heneiddio’n annibynnol (Llywodraeth Cymru, 2014[74]; Llywodraeth y DU, 2014[75]). Fodd bynnag, mae’r polisïau hyn wedi cael eu beirniadu am dybio presenoldeb systemau cymorth gan deuluoedd, sy’n aml yn methu â mynd i’r afael ag amgylchiadau unigryw’r rheini sy’n AWOC (National Care Forum, 2021).[76]
- Mae fframweithiau rhyngwladol fel y Madrid International Plan of Action on Ageing (2002) a’r United Nations Decade of Healthy Ageing (2021-2030) yn eirioli dros bolisïau cynhwysol sy’n ystyried y demograffig penodol hwn (Y Cenhedloedd Unedig, 2002;[77] WHO, 2021).[78] Er nad ydynt yn canolbwyntio ar oedolion hŷn heb blant yn unig, maent yn cynnig strategaethau cynhwysfawr ar gyfer mynd i’r afael â heriau ehangach heneiddio, gan gynnwys cynhwysiant cymdeithasol, mynediad at ofal, a chymorth i’r rheini sydd heb systemau cymorth gan deuluoedd. Er enghraifft, mae’r Madrid Plan yn pwysleisio pwysigrwydd undod rhwng y cenedlaethau drwy ddatblygu ac annog ymgysylltu mewn mannau cymdeithasol a ffisegol hygyrch, gweithgareddau cymunedol a diwylliannol, a gwasanaethau (Y Cenhedloedd Unedig, 2002). Mae’r Decade of Healthy Ageing yn adeiladu ar waith y Madrid Plan ac yn canolbwyntio ar wella bywydau oedolion hŷn dros gyfnod o 10 mlynedd. Mae mentrau yn cynnwys hyrwyddo amgylcheddau oed-gyfeillgar, gwelliannau i fannau cyhoeddus, trafnidiaeth, tai a seilwaith digidol, datblygu darpariaeth gofal iechyd fforddiadwy, cyffredinol a gwasanaethau tymor hir, yn ogystal â mynd i’r afael â thlodi, anghydraddoldeb economaidd ac anllythrennedd ariannol.
- Er bod y polisïau hyn yn bodoli, mae beirniadaeth yn parhau ynghylch diffyg mecanweithiau gorfodadwy sy’n sicrhau bod cymorth cadarn yn cael ei ddarparu. Mae Albertini a Mencarini (2019) yn dadlau, er bod fframweithiau polisi rhyngwladol yn amlinellu argymhellion cyffredinol, nad oes ganddynt y gefnogaeth ddeddfwriaethol sydd ei hangen i sicrhau newidiadau yn y byd go iawn.[79] Ar ben hynny, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn mandadu mynediad nad yw’n gwahaniaethu at wasanaethau i oedolion hŷn, ond mae’n parhau i fod yn adweithiol yn hytrach na rhagweithiol o ran mynd i’r afael ag anghenion penodol y rheini sy’n AWOC (Llywodraeth Cymru, 2010).[80]
Datblygu Cynaliadwy a Chydraddoldeb
- Mae oedolion hŷn heb blant yn wynebu nifer o heriau sy’n ymwneud ag anghydraddoldebau economaidd a chymdeithasol sy’n cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) y Cenhedloedd Unedig. Mae’r rhain yn cynnwys materion sy’n ymwneud â lleihau tlodi (NDC 1), iechyd a lles (NDC 3), a lleihau anghydraddoldebau (NDC 10) (Y Cenhedloedd Unedig, 2015).[81] Mae astudiaethau’n dangos bod pobl sy’n AWOC mewn mwy o berygl o ansicrwydd ariannol wrth iddynt heneiddio, yn bennaf oherwydd absenoldeb cymorth ariannol teuluol (ONS, 2020). Mae Beaujouan a Berghammer (2019) yn tynnu sylw at y gwahaniaeth mewn systemau pensiwn, sy’n aml yn ffafrio unigolion â phlant yn anuniongyrchol, gan waethygu’r heriau ariannol sy’n wynebu oedolion hŷn heb blant.[82] Isod, mae crynodeb o’r tri NDC mwyaf perthnasol ar gyfer y grŵp hwn:
Lleihau Tlodi (NDC 1):
- Mae astudiaethau fel y rhai gan yr ONS (2020) wedi tynnu sylw at y ffaith y gall oedolion hŷn heb blant wynebu rhwystrau i sicrhau annibyniaeth ariannol, gan nad ydynt yn elwa o’r cymorth ariannol anffurfiol y mae plant yn aml yn ei ddarparu.[83] Er enghraifft, mae plant yn aml yn cyfrannu at les eu rhieni, yn ariannol neu drwy ddarparu gofal, gan leihau dibyniaeth eu rhieni ar gymorth cyhoeddus neu bensiynau. O ganlyniad, gall rhai unigolion sy’n AWOC, ac sydd felly heb y systemau anffurfiol hyn, fod yn fwy agored i dlodi, yn enwedig os nad ydynt yn gallu adeiladu digon o gynilion neu gael gafael ar ddigon o adnoddau ymddeol.
Cyfleoedd ar gyfer Diogelwch Economaidd:
- Gall oedolion hŷn heb blant gofleidio annibyniaeth ariannol drwy gymryd rhan mewn strategaethau ymddeol hyblyg, gan gynnwys gwaith rhan-amser parhaus, ffrydiau incwm goddefol, a threfniadau byw â chymorth cymunedol.
- Gall rhaglenni sy’n annog llythrennedd ariannol ac adeiladu cyfoeth (fel cynlluniau ymddeol ac addysg fuddsoddi a noddir gan gyflogwyr) rymuso’r rheini sy’n AWOC i sicrhau eu dyfodol ariannol.
Modelau Cyd-drigo a Rhannu Eiddo:
- Mae datrysiadau tai arloesol, fel cyd-drigo, byw gydag unigolion o genhedlaeth arall, a mentrau cydweithredol i bobl hŷn, yn rhoi dewisiadau cost-effeithiol i oedolion hŷn heb blant yn lle modelau gofal traddodiadol.
- Mae’r trefniadau hyn nid yn unig yn lleihau costau byw ond hefyd yn meithrin rhwydweithiau cymdeithasol cryf, sy’n gwella lles a diogelwch.
Eiriolaeth Polisi ar gyfer Systemau Amddiffyn Cymdeithasol Cryfach:
- Mae llawer o lywodraethau a sefydliadau’n cydnabod yr angen i gryfhau systemau pensiwn ac ehangu budd-daliadau nawdd cymdeithasol, gan sicrhau bod gan y rheini sy’n AWOC gefnogaeth ariannol gadarn.
- Drwy eirioli ar gyfer cynlluniau pensiwn cyffredinol, rhaglenni fforddiadwyedd tai, a pholisïau cyflogaeth oed-gyfeillgar, gall oedolion hŷn heb blant gyfrannu’n weithredol at siapio economi fwy cynhwysol.
Iechyd a Lles (NDC 3):
- O ran gofal iechyd, mae unigolion sy’n AWOC hefyd mewn mwy o berygl o broblemau iechyd corfforol a meddyliol wrth iddynt heneiddio. Gall y posibilrwydd na fydd aelodau o’r teulu yn gweithredu fel gofalwyr neu eiriolwyr anffurfiol mewn lleoliadau gofal iechyd ei gwneud yn anoddach ymdopi â chymhlethdodau triniaeth feddygol, cyflyrau cronig, a gofal hirdymor.
Rheoli Iechyd yn Rhagweithiol:
- Gyda phwyslais cynyddol ar ofal iechyd ataliol, rhaglenni lles a thelefeddygaeth, mae gan oedolion hŷn heb blant fynediad at ddatblygiadau meddygol arloesol a datrysiadau iechyd digidol sy’n hyrwyddo hirhoedledd ac annibyniaeth.
- Mae llawer o bobl sy’n AWOC yn ymgysylltu’n weithredol mewn ymarfer corff, arferion iechyd meddwl, a chynllunio maeth, gan arwain at ganlyniadau heneiddio iachach.
Rhwydweithiau Cymorth Cymdeithasol a Chymheiriaid Cryf:
- Yn hytrach na dibynnu ar strwythurau teuluol traddodiadol, mae oedolion hŷn heb blant yn arloesi ym maes systemau cymorth amgen, gan gynnwys rhwydweithiau gofalu sy’n seiliedig ar gyfeillgarwch, rhaglenni iechyd cymunedol a grwpiau cyd-gymorth.
- Mae mentrau fel “cymunedau bwriadol” a chlybiau cymdeithasol i bobl hŷn yn cynnig cefnogaeth emosiynol, cymdeithasol ac ymarferol, gan leihau ynysigrwydd a gwella lles cyffredinol.
Eiriolaeth a Hunan-ddyrchafu mewn Gofal Iechyd:
- Mae pobl sy’n AWOC yn arwain y twf mewn hunan-eiriolaeth o fewn systemau gofal iechyd, gan sicrhau bod polisïau a gwasanaethau’n gynhwysol ac wedi’u teilwra i brofiadau heneiddio amrywiol.
- Mae llawer yn cymryd rhan weithredol mewn byrddau cynghori cleifion, cynghorau heneiddio, a sefydliadau eiriolaeth, gan lunio dyfodol gofal iechyd i fod yn fwy ymatebol ac yn fwy oed-gyfeillgar.
Lleihau Anghydraddoldebau (NDC 10):
- Gall oedolion hŷn heb blant wynebu anghydraddoldebau cymdeithasol, yn enwedig o ran cael gafael ar wasanaethau cymdeithasol a manteision cyhoeddus. Fel y mae Beaujouan a Berghamme (2019) yn nodi, mae systemau pensiwn yn aml o fudd anuniongyrchol i unigolion sydd â phlant, gan eu bod yn gallu dibynnu ar drosglwyddo cyfoeth rhwng cenedlaethau, darparu gofalu, a systemau cymorth anffurfiol eraill. Fel arfer, nid yw oedolion hŷn heb blant yn gallu defnyddio’r mathau hyn o gymorth, sy’n golygu eu bod yn fwy agored i ansefydlogrwydd ariannol ac allgau cymdeithasol wrth fynd yn hŷn. Rhaid i ymdrechion i leihau’r anghydraddoldebau hyn roi blaenoriaeth i’r rheini sy’n AWOC mewn polisïau sy’n ymwneud â diogelwch incwm, gofal iechyd a chynhwysiant cymdeithasol.
- Mae hyn yn cynnwys gwella rhwydi diogelwch cymdeithasol, gwella darpariaeth tai oed-gyfeillgar, a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn hygyrch ac yn deg i bob oedolyn hŷn, ni waeth beth fo’u statws teuluol. Ar ben hynny, gall integreiddio ystyriaethau AWOC i’r Nodau Datblygu Cynaliadwy helpu i brif ffrydio eu materion i’r fframwaith cynaliadwyedd a chydraddoldeb ehangach, gan sicrhau nad oes unrhyw oedolyn hŷn yn cael ei adael ar ôl.
Cynllunio Ariannol a Chyfreithiol
- Yn wahanol i rai astudiaethau (uchod) sy’n archwilio sut mae unigolion AWOC yn fwy agored i dlodi gan y gallant fod heb systemau gofal anffurfiol, mae mwy o sefydlogrwydd ariannol o ganlyniad i beidio â chael yr ymrwymiad ariannol o gael plant hefyd yn cael ei archwilio. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod gan rai oedolion hŷn heb blant fwy o incwm gwario a mwy o gyfleoedd i gynilo ar gyfer ymddeol, gan nad ydynt yn gyfrifol am y costau sy’n gysylltiedig â magu plant (ONS, 2020; Beaujouan a Berghammer, 2019). Heb yr ymrwymiadau ariannol hyn o ran addysg, gofal plant, a chymorth ariannol rhwng cenedlaethau, gall unigolion gyfeirio mwy o adnoddau tuag at fuddsoddiadau hirdymor, perchentyaeth, teithio a chyfoethogi personol.
- Gall y rheini sy’n AWOC hefyd fod yn fwy annibynnol yn ariannol yn ddiweddarach mewn bywyd, o ganlyniad i fod â llai o rwymedigaethau i ddarparu cymorth economaidd i genedlaethau iau (Margolis a Verdery, 2017). Mae’r rhyddid ariannol hwn yn caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth gynllunio ar gyfer ymddeol, gan alluogi oedolion hŷn heb blant i gael gofal iechyd premiwm, sicrhau trefniadau byw cyfforddus, a buddsoddi mewn buddiannau a lles personol (Ivanova a Dykstra, 2019).[84]
- Yn ogystal, mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod pobl sy’n AWOC yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn cynllunio ariannol strategol, gan gynnwys sicrhau pensiynau preifat, buddsoddi mewn yswiriant gofal hirdymor, a blaenoriaethu rheoli ystadau (Forman et al., 2020).[85] Mae’r gallu i wneud penderfyniadau ariannol heb bwysau teuluol yn arwain yn aml at wario mwy bwriadol a chronni cyfoeth, gan sicrhau ansawdd bywyd uwch pan fyddant yn hŷn (Tolkamp a Schult, 2019).[86]
- Er bod y manteision ariannol yn amlwg, mae hefyd yn hanfodol ystyried amgylchiadau unigol. Efallai y bydd rhai unigolion sy’n AWOC heb gymorth ariannol anffurfiol gan aelodau o’r teulu yn nes ymlaen mewn bywyd, sy’n golygu bod cynllunio rhagweithiol yn hanfodol. Mae diffyg perthynas agosaf yn aml yn golygu bod angen gwneud penderfyniadau’n gynnar ynghylch gofal tymor hir, atwrneiaeth, gofal iechyd priodol, a rheoli ystadau pan na all rhywun wneud y penderfyniadau hynny’n annibynnol mwyach (Forman et al., 2020).[87] Fodd bynnag, mae mynediad at gyngor ariannol a gwasanaethau cyfreithiol proffesiynol yn aml yn cael ei gyfyngu gan statws economaidd-gymdeithasol (Ivanova a Dykstra, 2019).[88] Serch hynny, gyda’r strategaethau ariannol cywir a mynediad at gyngor ariannol proffesiynol, gall oedolion hŷn heb blant fanteisio i’r eithaf ar eu diogelwch economaidd a chynnal ffordd o fyw boddhaus ac annibynnol (Johnson, 2007).[89] Dylai llunwyr polisïau edrych ar ffyrdd o ddarparu cymorth ariannol wedi’i dargedu a chynlluniau pensiwn sy’n sicrhau bod pawb sy’n AWOC, beth bynnag eu sefyllfa ariannol, yn gallu ymddeol gyda digon o adnoddau ac annibyniaeth.
Rhagfarn ar Sail Oedran a Hawliau Dynol
- Mae rhagfarn ar sail oedran yn fater treiddiol, gydag oedolion hŷn heb blant yn arbennig o agored i wahaniaethu ym maes gofal iechyd, tai a gwasanaethau cymdeithasol (National Care Forum, 2021). Er bod Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn mandadu diogelu hawliau unigolion hŷn, mae Abramowska-Kmon a Timoszuk (2021) yn dadlau bod y fframweithiau cyfreithiol hyn yn tueddu i fod yn adweithiol yn hytrach na rhagweithiol wrth fynd i’r afael â’r heriau unigryw sy’n wynebu’r rheini sy’n AWOC.[90] Mae mynd i’r afael â’r bylchau mewn polisi ac ehangu hyfforddiant i’r gweithlu yn hanfodol i sicrhau bod unigolion yn cael eu cefnogi a’u cydnabod yn deg mewn systemau gofal.
Gwahaniaethu ym maes Gofal Iechyd a Thai:
- Gall oedolion hŷn heb blant ddioddef gwahaniaethu neu esgeulustod mewn lleoliadau gofal iechyd, yn enwedig os nad oes ganddynt blant i eirioli dros eu hanghenion. Heb i aelodau o’r teulu weithredu fel eiriolwyr, efallai y byddant yn ei chael yn fwy anodd llywio drwy systemau meddygol cymhleth neu sicrhau eu bod yn cael y lefel briodol o ofal. Gall hyn gael ei waethygu ymhellach gan ragfarn ar sail oed, lle gall darparwyr gofal iechyd danamcangyfrif anghenion neu alluoedd cleifion hŷn, gan arwain at driniaeth sydd wedi’i gohirio neu driniaeth annigonol (National Care Forum, 2021).[91]
- Yn yr un modd, gall pobl sy’n AWOC wynebu gwahaniaethu ar sail oed mewn marchnadoedd tai, lle gallant gael eu trin fel “baich” neu eu hanwybyddu oherwydd eu henaint a diffyg cefnogaeth gan deulu. Rhaid i bolisïau tai gydnabod yr heriau sy’n wynebu’r rheini sydd heb blant, gan ddarparu datrysiadau sy’n eu galluogi i heneiddio yn y cartref neu i gyrchu dewisiadau tai sy’n fforddiadwy ac yn gefnogol.
Gwarchodaeth a Hawliau Cyfreithiol:
- Er bod fframweithiau cyfreithiol fel Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn y DU yn rhoi amddiffyniad mandad i oedolion hŷn, mae Abramowska-Kmon a Timoszuk (2021) yn dadlau, er y gallai cyfreithiau amddiffyn oedolion hŷn heb blant ar ôl iddynt brofi gwahaniaethu, nad ydynt o reidrwydd yn mynd i’r afael â’r rhwystrau neu’r rhagfarnau systemig sy’n arwain at ymyleiddio yn y lle cyntaf.[92]
- Ar ben hynny, mae angen mwy o ymwybyddiaeth polisi a mwy o hyfforddiant i’r gweithlu. Gallai hyn gynnwys hyfforddiant wedi’i dargedu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gofalwyr, a gweithwyr cymdeithasol ar wendidau unigryw’r rheini sy’n AWOC, yn ogystal ag addysg hawliau dynol mwy cynhwysfawr o fewn systemau gofal ymatebol. Ar ben hynny, byddai creu rhaglenni eiriolaeth sy’n helpu oedolion hŷn heb blant i lywio drwy brosesau cyfreithiol a chyrchu gwasanaethau cymdeithasol yn gam mawr tuag at sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys.
Gofal
Polisi ac Anghenion Gofal Cymdeithasol
- Wrth i’r boblogaeth o oedolion hŷn heb blant barhau i dyfu, bydd yn fwyfwy pwysig i lunwyr polisi sicrhau bod gwasanaethau gofal ffurfiol yn cael eu hariannu’n ddigonol a’u bod ar gael.
- Bydd angen i raglenni cymunedol ac eiriolaeth gofal cymdeithasol ganolbwyntio ar ddarparu ar gyfer strwythurau teuluol amrywiol a darparu cefnogaeth i’r rheini heb blant.
- Mae Albertini a Kohli (2004) yn defnyddio data SHARE i herio’r canfyddiad mai oedolion hŷn heb blant sy’n derbyn gofal a chymorth cymdeithasol yn bennaf, gan dynnu sylw at eu cyfraniadau i deulu, ffrindiau a chymdeithas yn lle hynny.[93] Mae data SHARE yn dangos bod oedolion hŷn heb blant yn cyfrannu’n gymdeithasol drwy roi arian i elusennau, gwneud gwaith gwirfoddol a gwirfoddoli yn eu cymunedau, gan fynd i’r afael ag unigrwydd, a sicrhau bod ganddynt gysylltiadau cymdeithasol y tu hwnt i aelodau agos o’r teulu. Mae’r astudiaeth yn dangos sut mae’r unigolion hyn hefyd yn rhoi cymorth ariannol iddynt eu hunain, perthnasau eraill, ffrindiau a phobl nad ydynt yn berthnasau, yn hytrach na’u plant eu hunain. Fodd bynnag, mae’r data’n tynnu sylw at elfen negyddol bosibl, sef nad oes gan oedolion hŷn heb blant gysylltiadau sy’n pontio’r cenedlaethau, yn enwedig gyda chenedlaethau iau. Dangosodd yr astudiaeth nad yw cysylltiadau â nithod neu neiaint yn disodli’n llwyr y cysylltiad sydd gan rieni, ond caiff hyn ei wrthbwyso drwy ymgysylltu cymdeithasol y tu allan i’r teulu, megis drwy wirfoddoli. Canfu’r astudiaeth hefyd fod rhwydweithiau cymorth yn wahanol i rai rhieni, ac mae eu gallu i gyrchu gofal yn ddiweddarach mewn bywyd yn parhau i fod yn bryder.[94]
- Defnyddiodd astudiaeth arall gan Wenger (2009) ddata o Astudiaeth Hydredol ar Heneiddio Bangor (1979-99), i archwilio goblygiadau bod yn oedolyn hŷn heb blant ymysg pobl 85 oed neu hŷn sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru. Canfu’r astudiaeth, waeth beth yw’r gwerth uwch y mae’r grŵp hwn yn ei roi ar annibyniaeth, oni bai eu bod yn marw’n sydyn neu ar ôl salwch acíwt byr, bod bron pob un ohonynt yn mynd i mewn i ofal preswyl neu ysbyty arhosiad hir ar ddiwedd eu hoes.[95]
- Yn yr un modd, mae adroddiad polisi cyhoeddus a heneiddio a gynhyrchwyd gan Ivanova a Dykstra (2015) yn canolbwyntio ar sut mae poblogaethau sy’n heneiddio mewn gwledydd Gorllewinol yn profi newidiadau demograffig, yn enwedig cynnydd mewn unigolion AWOC. Canfuwyd bod gan hyn oblygiadau sylweddol i systemau cymorth cymdeithasol, darparu gofal, a datblygu polisi, wrth i strwythurau teuluol traddodiadol esblygu ac wrth i’r ddibyniaeth ar ofal teuluol leihau. Mae’r erthygl yn pwysleisio’r angen i lunwyr polisïau fynd i’r afael â’r newidiadau hyn i sicrhau cefnogaeth ddigonol i unigolion AWOC.[96]
Gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Mae angen i fodelau gofal ar gyfer oedolion hŷn heb blant ganolbwyntio ar yr unigolyn, gan gydnabod unigolrwydd eu profiadau. Mae hyn yn cynnwys teilwra cymorth i anghenion penodol, yn hytrach na thybio y bydd unrhyw aelodau o’r teulu yn darparu cymorth.
- Mae Johnson (2006) yn archwilio’r trefniadau gofal ar gyfer oedolion hŷn bregus heb blant, ac yn eu cymharu â’r rheini sydd â phlant.[97] Er bod yr astudiaeth hon bron yn 20 oed, mae’n rhoi cyd-destun defnyddiol ar drefniadau gofal, a chanfu fod oedolion hŷn bregus di-briod heb blant tua 31% yn llai tebygol o gael cymorth di-dâl gan deulu a ffrindiau, o’i gymharu â’r rheini sydd â dau neu fwy o blant sy’n oedolion. At hynny, canfu’r astudiaeth fod oedolion hŷn heb blant yn aml yn dibynnu ar un gofalwr, sef cymar neu ffrind fel arfer, sy’n arwain at rwydweithiau cymorth llai. Mae’r opsiynau gofal anffurfiol cyfyngedig ar gyfer yr unigolion hyn yn tynnu sylw at yr angen i ehangu mynediad at wasanaethau gofal cartref ffurfiol i sicrhau eu bod yn cael y cymorth angenrheidiol yn y gymuned.
- Mae gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ystyried anghenion unigol unigolyn, gan ystyried eu hanghenion a’u profiadau amrywiol. Mae Lowers et al. (2024) yn archwilio’r strategaethau a’r adnoddau personol sy’n cael eu defnyddio gan unigolion ‘sy’n heneiddio ar eu pennau eu hunain’ sydd â dementia cynnar, i reoli anghenion darparu gofal, nawr ac yn y dyfodol.[98] Mae’r cysyniad hwn o ‘heneiddio ar eich pen eich hun’ yn ehangach nag AWOC, gan gynnwys y rheini heb berthnasau agos cyfagos a’r rheini y mae eu hymrwymiad i annibyniaeth yn drech na’r disgwyliadau confensiynol o ofalu teuluol. Canfuwyd bod yr unigolion hyn yn fwy tebygol o eirioli drostynt eu hunain yn gynnar, gan ragweld na fydd ‘neb arall yn eirioli ar eu rhan’. Mae’r awydd hwn i gynnal annibyniaeth yn gyffredin hyd yn oed ymysg y rheini sydd ag aelodau o’r teulu, fel plant neu frodyr a chwiorydd, a allai ddarparu gofal yn y dyfodol. Canfu’r astudiaeth y dylai ymyriadau ganolbwyntio ar helpu pobl sy’n heneiddio ar eu pennau eu hunain i gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan ysgogi eu hangen am annibyniaeth fel cymhelliant wrth gadw ymdeimlad unigolion o’u hunain drwy berthnasoedd.
- Mae sicrhau urddas, parch a hunanbenderfyniaeth yn hanfodol mewn gwasanaethau gofal, oherwydd na fydd gan unigolion sy’n AWOC blant eu hunain i wneud penderfyniadau ar eu rhan. Dylai’r gwasanaethau geisio cynnal annibyniaeth oedolion hŷn heb blant wrth ddiwallu eu hanghenion corfforol, emosiynol a chymdeithasol.
Dulliau Gofal Arloesol ac Addasol
- Wrth i boblogaeth y bobl sy’n AWOC barhau i dyfu, bydd angen dulliau gofal arloesol i sicrhau bod systemau gofal yn gynaliadwy, o ansawdd uchel, ac wedi’u teilwra i’r demograffig hwn.
- Bydd technolegau newydd, ymyriadau therapiwtig, a modelau gofal addasol yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael ag anghenion oedolion hŷn heb blant, yn enwedig wrth i’r model cymorth teuluol traddodiadol ddod yn llai cyffredin.
- Mae Abramowska-Kmon et al. (2023) yn ymchwilio i’r mecanweithiau ymdopi a ddefnyddir gan bobl hŷn heb blant yng Ngwlad Pwyl i fynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig ag AWOC.[99] Canfu’r astudiaeth fod cyfranogwyr, er mwyn mynd i’r afael â theimladau o unigrwydd a diffyg cefnogaeth ymarferol, yn defnyddio nifer o strategaethau sy’n bersonol i’r unigolyn. Mae’r rhain yn cynnwys hyrwyddo heneiddio’n iach, ehangu rhwydweithiau cymdeithasol ac alinio camau gweithredu â thueddiadau personol. Mae’r astudiaeth yn cydnabod y gall defnyddio’r strategaethau ymdopi hyn fod yn sail i bolisi ac ymyriadau.
- Mae Barker (2002) yn tynnu sylw at bwysigrwydd darpariaeth gofal gan unigolion nad ydynt yn berthnasau, o ran cynnal annibyniaeth, a gafodd eu categoreiddio’n bedwar ‘arddull’: achlysurol, ffiniedig, ymroddedig ac ymgorfforol. Roedd yr heriau o ofalu am bobl nad ydynt yn berthnasau yn cynnwys gosod ffiniau ac ymlyniadau emosiynol, ac roedd y gwobrau’n cynnwys boddhad a chwmnïaeth.[100] Yn yr astudiaeth hon, roedd y perthnasoedd gofalu hyn yn amrywio o ran sut y gwnaethant ddechrau, y tasgau a gyflawnwyd, a’u hyd (yn amrywio o 1 mis i 57 mlynedd), ac roedd bron i hanner y gofalwyr (47%) yn 65 oed a hŷn eu hunain.
- Gan ddefnyddio data SHARE, archwiliodd Börsch-Supan a Scherpenzeel (2021) sut gall gofal rhwng cenedlaethau lywio dulliau sy’n berthnasol i bobl sy’n AWOC. [101] Canfu’r astudiaeth fod gofal rhwng cenedlaethau yn cael ei ddylanwadu gan ymrwymiadau gwaith a theulu’r plant, bod systemau gofal cyhoeddus cryf ar gyfer pobl hŷn yn llai dibynnol ar ofal gan deuluoedd, bod gan rai gwledydd rwymedigaethau cyfreithiol sy’n ei gwneud yn ofynnol i blant gefnogi rhieni, ac mae rhai gwledydd yn cael eu llywodraethu gan normau a disgwyliadau diwylliannol. Gwelir hyn yn ne Ewrop, lle mae gofal yn cael ei ystyried yn ddyletswydd foesol o’i chymharu â gogledd Ewrop, lle mae’n cael ei ystyried yn ddewis personol sy’n cael ei gefnogi gan wasanaethau gofal. Drwy gydbwyso gwasanaethau gofal ffurfiol â systemau cymorth teuluol, ystyried disgwyliadau diwylliannol a fframweithiau cyfreithiol, ac ehangu gwasanaethau gofal hygyrch a fforddiadwy mewn gwledydd lle mae llawer iawn o ddibyniaeth ar ofal gan deuluoedd, gall hynny helpu i leihau’r baich ar blant, yn enwedig menywod. Byddai hyn, yn ei dro, yn helpu i gefnogi pobl sy’n AWOC.
Modelau Gofal Amgen
- Mae archwilio modelau gofal amgen fel cynlluniau Shared Lives a modelau heneiddio yn y cartref cymunedol, fel y “Model Pentref”, yn cynnig datrysiadau addawol y gellid eu hintegreiddio i bolisïau heneiddio yng Nghymru ac ar draws y DU. Mae’r mentrau hyn yn creu rhwydweithiau anffurfiol lle gall oedolion hŷn fyw’n annibynnol wrth barhau i gael cymorth gan aelodau o’r gymuned.
- Mae’r “Model Pentref”, fel yr archwiliwyd gan McDonough a Davitt (2011), Scharlach et al. (2012) ac Lehning et al. (2017), yn ddull cymunedol sydd wedi’i gynllunio i gefnogi heneiddio yn y cartref, sy’n darparu gwasanaethau ymarferol fel cludiant, gwaith tŷ, a gwaith cynnal a chadw’r cartref, ynghyd â chyfleoedd i gymryd rhan mewn llywodraethu, gan sicrhau bod aelodau’n cadw’r pŵer i wneud penderfyniadau dros eu gofal.[102],[103],[104]
- Mae’r model hwn wedi cael ei dreialu ym Manceinion, a’r model yw ffocws astudiaeth ymchwil gweithredu cyfranogol ar heneiddio yn y cartref gan Doran et al. (2024) i gyd-greu a phrofi prosiectau sydd wedi’u hanelu at leihau ynysigrwydd cymdeithasol a hyrwyddo heneiddio yn y cartref.[105] Yn ôl arferion gorau, mae cynnwys preswylwyr hŷn yn y gwaith o ddylunio a gweithredu strwythurau cymorth sydd wedi’u teilwra i anghenion a dewisiadau penodol y gymuned yn cyfrannu at amgylcheddau trefol mwy gwydn a chefnogol ar gyfer poblogaethau sy’n heneiddio.
- Yn debyg i’r ‘Model Pentref’, mae’r Gymuned ElderSpirit yn yr Unol Daleithiau, fel yr archwiliwyd gan Glass (2009), yn fenter cyd-drigo a reolir gan drigolion ar gyfer oedolion hŷn, sy’n canolbwyntio ar gyd-gymorth a thai fforddiadwy. [106] Canfu’r astudiaeth fod y preswylwyr yn fwy tebygol o fod heb blant a / neu wedi ysgaru neu erioed wedi priodi. Dyma enghraifft arall lle mae amgylcheddau o gyd-gymorth a rhannu cyfrifoldeb yn cynnig cyfleoedd i bobl sy’n AWOC gynnal annibyniaeth wrth dderbyn y gefnogaeth angenrheidiol.
- Mae Cynlluniau Shared Lives GIG Lloegr yn paru rhywun y mae angen gofal arno â gofalwr cymeradwy, sy’n rhannu ei fywyd teuluol a chymunedol, gan ddarparu gofal a chymorth i’r unigolyn sydd ag anghenion gofal. Mae rhai pobl yn symud i fyw gyda’r gofalwr Shared Lives, tra bo eraill yn ymwelwyr rheolaidd yn ystod y dydd. Maent yn darparu dewis amgen i fathau traddodiadol o ofal, fel cartrefi gofal.[107] Mae’r fenter hon hefyd ar gael yng Nghymru ac yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, gan gefnogi 1,200 o bobl sydd ag amrywiaeth o anghenion (gan gynnwys oedolion hŷn heb blant) ar draws wyth gwasanaeth gwahanol.[108]
- Cyflwynodd PramaCare, sydd wedi’i leoli yn Dorset, fenter Red Bags, a ariennir gan elusen, yn 2019 fel dull system gyfan o wella’r cyfnod pontio rhwng lleoliadau ysbytai cleifion mewnol a lleoliadau cartrefi gofal.[109] Mae’r Red Bag yn fag coch sy’n cynnwys eiddo personol hanfodol, taflen o wybodaeth bersonol a meddyginiaeth i gefnogi unigolyn sy’n symud i’r ysbyty. Cafodd ei ddatblygu i annog pobl sydd mewn perygl i fod yn fwy parod ar gyfer cael eu derbyn i’r ysbyty, ac mae wedi cael ei hyrwyddo yng Nghymru gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan[110] a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.[111]
- Mae’r modelau hyn yn cynnig hyblygrwydd, cynhwysiant ac yn grymuso oedolion hŷn heb blant, er bod rhaid mynd i’r afael â heriau fel cynaliadwyedd, fforddiadwyedd a thegwch.
Casgliadau
- Mae’r llenyddiaeth bresennol ar heneiddio heb blant (AWOC) yn bennaf yn tynnu sylw at heriau fel unigrwydd, ynysigrwydd cymdeithasol, a dirywiad mewn iechyd heb ofal anffurfiol gan deulu. Fodd bynnag, mae bwlch amlwg yn y gwaith ymchwil sy’n archwilio manteision uniongyrchol AWOC, gyda’r rhan fwyaf o ffynonellau’n canolbwyntio ar strategaethau ymdopi yn hytrach na gwella ansawdd bywyd. Mae angen astudiaethau mwy cytbwys i dynnu sylw at y cryfderau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig ag AWOC, gan gynnwys mwy o annibyniaeth, sicrwydd ariannol, a rhwydweithiau cymdeithasol amrywiol.
- Un mecanwaith cydbwyso allweddol ar gyfer absenoldeb cymorth gan aelodau teulu agos yw’r buddsoddiad mewn cysylltiadau cymdeithasol amgen. Mae llawer o bobl sy’n AWOC yn datblygu perthnasoedd cryf gyda chyfeillion, cymdogion, teuluoedd estynedig a mudiadau cymunedol. Mae’r rhwydweithiau hyn yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol, gan ddangos nad yw oedolion hŷn heb blant o reidrwydd yn cael eu hynysu, ond yn hytrach maent yn cynnal perthnasoedd ystyrlon nad ydynt yn rhai teuluol. Fodd bynnag, mae effeithiolrwydd y rhwydweithiau hyn yn amrywio yn ôl cyd-destun diwylliannol, gyda chymdeithasau sy’n blaenoriaethu cysylltiadau teuluol yn cyflwyno mwy o heriau i oedolion hŷn heb blant i ffurfio a chynnal cyfeillgarwch.
- Er gwaethaf y realiti hwn, mae polisi a deddfwriaeth yn dal i fod yn annigonol i raddau helaeth o ran mynd i’r afael ag anghenion penodol oedolion hŷn heb blant. Mae’r polisïau heneiddio presennol yn tueddu i fod yn eang ac nid ydynt yn gwahaniaethu rhwng y rheini sydd â strwythurau cymorth gan deuluoedd, a’r rheini sydd heb strwythurau o’r fath. Mae angen dybryd am ymyriadau wedi’u targedu sy’n hyrwyddo modelau gofal amgen, cynllunio ariannol ar gyfer y dyfodol, a rhwydweithiau cymorth cymunedol cynaliadwy, fel cynlluniau Shared Lives a’r ‘Model Pentref’.
- Mae angen rhoi sylw pellach i sawl tuedd yng ngwaith ymchwil AWOC. Mae llawer o astudiaethau’n methu â gwahaniaethu rhwng oedolion hŷn sydd heb blant yn wirfoddol, a’r rheini sydd heb blant yn anwirfoddol, er bod tystiolaeth yn awgrymu bod y gwahaniaeth hwn yn effeithio’n sylweddol ar les, ymgysylltiad cymdeithasol a ffurfio hunaniaeth. Ar ben hynny, mae methodolegau ymchwil yn tueddu i ddibynnu ar set gyfyngedig o adnoddau, fel yr Arolwg o Iechyd, Heneiddio ac Ymddeoliad yn Ewrop (SHARE) a’r Health and Retirement Study (HRS), ochr yn ochr ag arolygon sy’n benodol i wlad fel y Netherlands Kinship Panel Study a’r Canadian General Social Survey. Yn rhyngwladol, mae astudiaethau’n canolbwyntio’n anghymesur ar Tsieina, rhannau eraill o Asia, ac Ewrop, gan ffocysu’n aml ar unigolion 50 oed a hŷn, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cyd-destun wrth lywio profiadau pobl sy’n AWOC. Mae angen hanfodol o hyd am waith ymchwil sy’n archwilio’r hyn sy’n gweithio mewn polisïau ac amgylcheddau diwylliannol gwahanol, gan symud y tu hwnt i nodi problemau i ddatrysiadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
- Mae nifer o ganfyddiadau nodedig yn deillio o waith ymchwil sy’n bodoli eisoes:
- Gwahaniaethau rhwng y rhywiau: Mae gwaith ymchwil yn dangos bod dynion heb blant, yn enwedig y rheini sydd heb bartner, yn wynebu mwy o wahaniaethau o ran lles, o’u cymharu â thadau a menywod heb blant. Maent yn adrodd am lai o foddhad bywyd, llai o effeithiau cadarnhaol (e.e. teimladau o hapusrwydd a bodlonrwydd), a mwy o effeithiau negyddol (e.e. teimladau o unigrwydd, tristwch a gorbryder) (Hadley, 2019).[112] Mae’r gwahaniaeth hwn yn aml yn gysylltiedig â’r disgwyliad cymdeithasol bod dynion yn cael llawer o’u cefnogaeth gymdeithasol ac emosiynol gan eu partneriaid a’u plant, yn hytrach na rhwydweithiau cymdeithasol ehangach (Penning et al., 2019).[113] Mae’r effeithiau negyddol o fod heb blant ar les dynion yn deillio’n bennaf o ddiffyg strwythurau gofalu mewnol, cefnogaeth emosiynol cyfyngedig, a rhwydweithiau cymdeithasol gwannach yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae Hadley (2019) yn tynnu sylw at y ffaith y gallai dynion sydd heb blant yn anwirfoddol, yn benodol, gael trafferth gydag ymdeimlad o allgau cymdeithasol ac edifeirwch, gan waethygu eu trallod seicolegol. Ar ben hynny, gall canfyddiadau cymdeithas o wrywdod atal dynion rhag mynd ati i geisio cymorth emosiynol neu ffurfio rhwydweithiau cymdeithasol amgen (Dykstra a Keizer, 2009).[114] Fodd bynnag, nid yw pob astudiaeth yn dod i’r casgliad bod dynion heb blant yn profi canlyniadau gwaeth yn gyffredinol. Mae Kreyenfeld a Konietzka (2017) yn dadlau bod graddau’r effaith negyddol yn dibynnu ar integreiddiad cymdeithasol, sefydlogrwydd economaidd a ffactorau diwylliannol.[115] Mewn cymdeithasau lle mae rhwydweithiau cymorth amgen yn cael eu meithrin yn weithredol, fel drwy gyfeillgarwch cryf neu gyfranogiad cymunedol, mae’n bosibl na fydd dynion heb blant yn profi fawr ddim gwahaniaeth mewn bodlonrwydd bywyd o’u cymharu â’u cyfoedion â phlant (Quashie et al., 2020).[116]
- Materion statws partner: Mae oedolion hŷn heb blant sydd mewn perthnasoedd hirdymor yn teimlo’n debyg i rieni o ran lles cymdeithasol ac emosiynol, tra bod oedolion hŷn sydd heb blant ac sydd heb bartner yn wynebu’r anfantais fwyaf, gyda rhwydweithiau cymorth cyfyngedig a risgiau uwch o ynysigrwydd cymdeithasol.
- Buddsoddi mewn cyfeillgarwch: Mewn diwylliannau sydd â normau teuluol cryf, gall oedolion hŷn heb blant ei chael hi’n anodd sefydlu perthnasoedd cefnogol. I’r gwrthwyneb, mewn cymdeithasau sy’n pwysleisio unigoliaeth a rhwydweithiau sy’n seiliedig ar gyfeillgarwch, mae oedolion hŷn heb blant yn ei chael yn haws meithrin perthnasoedd cymdeithasol ystyrlon.
Argymhellion
- Er mwyn cefnogi oedolion hŷn heb blant yn well, mae angen dull amlweddog sy’n cyfuno datblygu polisi, gwaith ymchwil wedi’i dargedu, a mentrau sy’n cael eu gyrru gan y gymuned. Mae’r argymhellion canlynol yn amlinellu camau gweithredu allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ymchwilwyr a rhanddeiliaid eraill:
Datblygu Polisi a Gweithredu Deddfwriaethol
- Datblygu polisïau heneiddio sy’n benodol i AWOC: Dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gynnwys ystyriaethau sy’n benodol i AWOC mewn strategaethau heneiddio cenedlaethol, a chynlluniau gweithredu cenedlaethol ar gydraddoldeb, gan sicrhau bod polisïau’n cydnabod y diffyg rhwydweithiau cymorth teuluol posibl ac yn mynd i’r afael â modelau gofal amgen ar gyfer yr amrywiaeth eang o bobl y mae oedolion hŷn heb blant yn eu cynrychioli.
- Ehangu cyllid gofal cymdeithasol a chymorth cymunedol: Mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cymorth cymunedol a ariennir gan awdurdodau lleol, gan gynnwys cynlluniau cyfeillio, eiriolaeth gofal cymdeithasol, a modelau gofal arloesol fel rhwydweithiau Shared Lives a ‘Model Pentref’. Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddarparu cyllid tymor hir i awdurdodau lleol ar gyfer cymunedau oed-gyfeillgar.
- Adolygu a chryfhau amddiffyniadau cyfreithiol ar gyfer pobl sy’n AWOC: Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan oedolion hŷn heb blant lwybrau clir ar gyfer gwneud penderfyniadau cyfreithiol ynghylch eu gofal, materion ariannol, a chynllunio diwedd oes, yn enwedig mewn achosion lle nad oes ganddynt aelodau agos o’r teulu i weithredu fel eiriolwyr.
Ymwybyddiaeth y Cyhoedd, Eiriolaeth a Newid Diwylliannol
- Ymgysylltu â chyflogwyr yn y gwaith o gefnogi gweithwyr AWOC: Mae llawer o weithwyr hŷn heb blant yn parhau i weithio’n hwyrach mewn bywyd ond efallai y bydd angen polisïau yn y gweithle sy’n cydnabod eu hanghenion unigryw, fel cynllunio ymddeoliadau hyblyg a chymorth ar gyfer cyfrifoldebau gofal i ffrindiau neu deulu estynedig.
- Ymgyrchu dros gydnabyddiaeth ehangach o AWOC mewn trafodaethau am bolisïau heneiddio: Dylai llunwyr polisïau, ymchwilwyr a grwpiau eiriolaeth sicrhau bod ystyriaethau AWOC yn cael eu cynnwys mewn strategaethau heneiddio cenedlaethol, polisïau iechyd a gofal cymdeithasol, a diwygiadau pensiwn. Dylai ymgyrchoedd dynnu sylw at annibyniaeth, gwytnwch, a gwerth rhwydweithiau cymdeithasol amgen, yn hytrach na chanolbwyntio’n llwyr ar unigrwydd ac arwahanrwydd.
Ehangu Gwaith Ymchwil ac Ymyriadau sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth
- Data cyfredol cyfyngedig: Oherwydd y diffyg data sydd wedi’i ddadgyfuno sydd ar gael ar gyfer Cymru yn benodol, byddai’r gallu i bennu niferoedd unigolion AWOC yn ôl gwasgariad daearyddol a demograffeg eraill yn ddefnyddiol i lywio’r maes ymchwil hwn ymhellach.
- Cynnal gwaith ymchwil pellach i ymyriadau effeithiol ac arferion gorau: Mae angen gwaith ymchwil sy’n gwerthuso mentrau cymorth AWOC llwyddiannus mewn gwahanol gyd-destunau diwylliannol a pholisi. Dylai astudiaethau yn y dyfodol ganolbwyntio ar yr hyn sy’n gweithio – asesu effeithiolrwydd modelau gofal amgen, systemau cymorth cymunedol, a strategaethau cynllunio ariannol, ac amlygu’r cryfderau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig ag AWOC.
Hyrwyddo Rhwydweithiau Cymorth Cymdeithasol a Chymunedol
- Annog datblygu modelau cymorth cymdeithasol amgen: Mae cryfhau rhwydweithiau cymorth anffurfiol yn hanfodol i bobl sy’n AWOC. Mae buddsoddi mewn mentrau sy’n cael eu harwain gan y gymuned, fel rhaglenni cyfeillio, grwpiau cymorth gan gymheiriaid, a chyfleoedd i wirfoddoli, yn gallu helpu i liniaru’r risg o fod yn ynysig.
- Gwella opsiynau tai a gofal i unigolion sy’n AWOC: Dylai polisïau annog datblygu modelau tai sy’n ystyriol o oedran, mentrau cyd-drigo, a threfniadau byw sy’n pontio’r cenedlaethau a allai gynnig mwy o ymreolaeth i oedolion hŷn heb blant, gan gynnal ymgysylltiad cymdeithasol ar yr un pryd.
Llyfryddiaeth
Abramowska-Kmon, A., and Timoszuk, S. (2023). Coping strategies for happy childless ageing: An explorative study in Poland. Genus, 79(1), 1–25. https://doi.org/10.1186/s41118-022-00180-8
Aging Outreach Services. (2024). Aging without family support: What to do when you need help. Cyrchwyd o: https://agingoutreachservices.com/senior-planning/aging-without-family-support-what-to-do-when-you-need-help/?
Albertini, M., and Kohli, M. (2009). What childless older people give: Is the generational link broken? Ageing and Society, 29(8), 1261–1274. https://doi.org/10.1017/S0144686X0999033X
Allen, K. R., and Wiles, J. L. (2013). How older people position their late-life childlessness: A qualitative study. Journal of Marriage and Family, 75(3), 715–729. https://onlinelibrary.wiley.com/doi/abs/10.1111/j.1741-3737.2012.01019.x
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. (2023). Cynllun Bag Coch Newydd Sir Fynwy. Cyrchwyd o: https://abuhb.nhs.wales/news/news/monmouthshires-got-it-in-the-bag/
Audley Villages. (n.d.). How Retirement Villages Work. Cyrchwyd o: https://www.audleyvillages.co.uk/how-it-works
Barker, J. C. (2002). Neighbors, friends, and other nonkin caregivers of community-living dependent elders. https://doi.org/10.1093/geronb/57.3.S158
Beaujouan, E., and Berghammer, C. (2019). The gap between lifetime fertility intentions and completed fertility in Europe and the United States: A cohort approach. Cyrchwyd o: https://link.springer.com/article/10.1007/s11113-019-09516-3
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. (2023). Pobl sy’n agored i niwed i dderbyn mwy o ofal personol drwy gynllun peilot newydd. Cyrchwyd o: https://bcuhb.nhs.wales/news/health-board-news/vulnerable-people-to-receive-more-personalised-care-through-new-pilot-scheme/
Bonsang, E. (2009). Does informal care from children to their elderly parents substitute for formal care in Europe? https://doi.org/10.1016/j.jhealeco.2008.09.002
Borsch-Supan, A., and Scherpenzeel, A. (2022). The Survey of Health, Ageing and Retirement in Europe. https://doi.org/10.1007/978-3-030-22009-9_348
Chang, M., et al. (2010). The effects of childlessness on the care and psychological well-being of older adults with disabilities. https://doi.org/10.1080/13607860903586151
Chen, L., and Lou, V. W. Q. (2021). Residential reasoning: How childless older adults choose between ageing in place (AIP) and institutionalisation in rural China. Ageing and Society, 41(9), 1985–2008. https://doi.org/10.1017/S0144686X2100074X
Chen, X., Li, Y., and Wang, Z. (2024). Establishing substitute families: Care arrangements for childless older people in urban China. The Journal of Chinese Sociology, 11(1), 1–20. https://doi.org/10.1177/2057150X241265226
Deindl, C., and Brandt, M. (2017). Support networks of childless older people: Informal and formal support in Europe. https://doi.org/10.1017/S0144686X16000416
Doran, P., Goff, M., and Philopson, C. (2023). Interventions to promote aging in place: Developing the village model in Manchester. Quality in Ageing and Older Adults, 24(2), 1–14. https://www.emerald.com/insight/content/doi/10.1108/qaoa-03-2023-0022/full/html
Fertility Network UK. (2025). Life without children. Cyrchwyd o: https://fertilitynetworkuk.org/life-without-children/
Forman, T. K., Huxhold, O., and Tesch-Römer, C. (2021). Aging without children: The link between parental status and support networks in later life. Cyrchwyd o: https://journals.sagepub.com/doi/abs/10.1177/0192513X21993203
Glass, A. P. (2009). Aging in a community of mutual support: The emergence of an elder intentional cohousing community in the United States. Journal of Housing for the Elderly, 23(4), 283–303. https://doi.org/10.1080/02763890903326970
Greenfield, E. A., and Mauldin, R. (2017). Participation in community activities through Naturally Occurring Retirement Community (NORC) Supportive Service Programs. Ageing and Society, 37(8), 1666–1689. https://doi.org/10.1017/S0144686X16000702
Gregory, J. (2025, April 2). Women to continue having babies later in life, ONS projects. BBC News. Cyrchwyd o: https://www.bbc.co.uk/news/articles/cn5xw2g6g3qo
Haberkern, K., and Szydlik, M. (2010). State care provision, societal opinion and children’s care of older parents in 11 European countries. https://doi.org/10.1017/S0144686X09990316
Hadley, R. (2019). “No longer invincible”: The impact of involuntary childlessness on older men. Journal of Men’s Studies, 29(2), 197–215. https://doi.org/10.1080/10833196.2021.1884172
Hadley, R. (2021). ‘It’s most of my life—going to the pub or the group’: The social networks of involuntarily childless older men. https://doi.org/10.1017/S0144686X19000837
Hoang, P., Wang, N., Lu, H., and Le, D. (2022). Interventions associated with reduced loneliness and social isolation in older adults: A systematic review and meta-analysis. JAMA Network Open, 5(10). https://doi.org/10.1001/jamanetworkopen.2022.36676
Ivanova, K., and Dykstra, P. (2015). Aging without children – Public policy and aging report. Cyrchwyd o: https://academic.oup.com/ppar/article-abstract/25/3/98/1558904
Johnson, R. (2006). In-home care for frail childless adults. Cyrchwyd o: https://www.urban.org/sites/default/files/publication/42991/411309-In-Home-Care-for-Frail-Childless-Adults.PDF
Johnson, P. (2007). Private care services: A viable option for ageing populations? Journal of Elderly Care Studies. 32(1), 87-105.
Klaus, D., and Schnettler, S. (2016). Social networks and support for parents and childless adults in the second half of life: Convergence, divergence, or stability? Advances in Life Course Research, 29, 95–105. https://doi.org/10.1016/j.alcr.2015.12.004
Kreyenfeld, M., and Konietzka, D. (2017). Childlessness in Europe: Contexts, causes, and consequences. Cyrchwyd o: https://library.oapen.org/handle/20.500.12657/29707
Lehning, A. J., Smith, R. J., and Dunkle, R. E. (2017). Variations on the village model: An emerging typology of a consumer-driven community-based initiative for older adults. Journal of Applied Gerontology, 36(3), 302–321. https://doi.org/10.1177/0733464815584667
Lowers, J., Peterson, L. J., and Branscum, A. J. (2024). Proactive care-seeking strategies among adults aging solo with early dementia: A qualitative study. The Journals of Gerontology: Series B, 79(5), 899–910. https://doi.org/10.1093/geronb/gbae020
Mair, C. (2019). Social connectedness and health outcomes among older adults: A cross-national analysis. Journals of Gerontology: Social Sciences. 74(7), 1189-1201
Margolis, R., and Verdery, A. M. (2017). Older adults without close kin in the United States. https://doi.org/10.1093/geronb/gbx068
Margolis, R., and Verdery, A. M. (2022). Defining childlessness among middle-aged and older Americans. https://doi.org/10.1215/00703370-9987649
McDonough, K. E., and Davitt, J. K. (2011). It takes a village: Community practice, social work, and aging-in-place. Journal of Gerontological Social Work, 54(5), 528–541. https://doi.org/10.1080/01634372.2011.581744
National Care Forum. (2021). Aging without children (AWOC) toolkit by the National Care Forum. Cyrchwyd o: https://www.nationalcareforum.org.uk/projects/ageing-without-children-awoc/
NHS. (2024). Shared Lives Schemes. Cyrchwyd o: https://www.nhs.uk/conditions/socialcare-and-support-guide/care-services-eure-accession-and-care-homes/shared-lives-schemes/
Office for National Statistics. (2020). Living longer: Implications of childlessness among tomorrow’s older population. Cyrchwyd o: https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/birthsdeathsandmarriages/ageing/articles/livinglonger/implicationsofchildlessnessamongtomorrowsolderpopulation
Office for National Statistics. (2025). Childbearing for women born in different years, England and Wales: 2023. Cyrchwyd o: https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/birthsdeathsandmarriages/conceptionandfertilityrates/bulletins/childbearingforwomenbornindifferentyearsenglandandwales/2023
Penning, M. J., Wu, Z., and Hou, F. (2022). Childlessness and social and emotional loneliness in middle and later life. Ageing and Society, 42(3), 603–628. https://doi.org/10.1017/S0144686X20001084
Quashie, N. et al. (2021). Childlessness and health among older adults: Variation across five outcomes and 20 countries. https://doi.org/10.1093/geronb/gbz153
Scharlach, A., Graham, C., and Lehning, A. (2012). The “Village” model: A consumer-driven approach for aging in place. The Gerontologist, 52(3), 418–427. https://doi.org/10.1093/geront/gnr083
Second World Assembly on Aging, Madrid, Spain. (2002). Madrid International Plan of Action on Ageing (2002). Cyrchwyd o: https://social.un.org/ageing-working-group/documents/mipaa-en.pdf
Shared Lives Plus. (2022). The state of the nation: Shared Lives care in Wales. Cyrchwyd o: https://sharedlivesplus.org.uk/our-work-and-campaigns/our-work-across-the-uk/wales/
Tolkamp, M., and Pollmann-Schult, M. (2024). Subjective well-being of parents and childless people in older age in Germany. Applied Research in Quality of Life, 19, 1–24. https://doi.org/10.1007/s11482-024-10376-z
UK Government. (2014). The Care Act 2014. Cyrchwyd o: https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2014/23/contents
UK Government. (2023). The rights of older people. Cyrchwyd o: https://e-space.mmu.ac.uk/634151/
United Nations. (2015). UN Sustainable Development Goals (SDGs). Cyrchwyd o: https://sdgs.un.org/goals
United Nations / WHO. (2021). Decade of healthy ageing (2021-2030). Cyrchwyd o: https://cdn.who.int/media/docs/default-source/decade-of-healthy-ageing/decade-proposal-final-apr2020-en.pdf?sfvrsn=b4b75ebc_28
Llywodraeth Cymru. (2016). Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Cyrchwyd o: https://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/contents
Llywodraeth Cymru. (2019). Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Cyrchwyd o: https://www.agecymru.wales/siteassets/documents/policy/public-policy-statements/discrimination-and-human-rights-policy-statement—march-2019.pdf
Llywodraeth Cymru. (2023). Cymru o blaid pobl hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio. Cyrchwyd o: https://www.gov.wales/age-friendly-wales-our-strategy-ageing-society
Llywodraeth Cymru. (2024). Cynllun Gweithredu Cenedlaethol
[1] Office for National Statistics. (2020). Living longer: implications of childlessness among tomorrow’s older population.
[2] Office for National Statistics. (2020). Living longer: implications of childlessness among tomorrow’s older population.
[3] Ibid.
[4] National Care Forum. (2021). Ageing without Children: a toolkit for organisations.
[5] Office for National Statistics. (2020). Living longer: implications of childlessness among tomorrow’s older population.
[6] Ibid.
[7] Ageing Without Children. (2025). What Does ‘Ageing Without Children’ Mean?
[8] Kreyenfeld, M. and Konietzka, D. (2017). Childlessness in Europe: Contexts, Causes, and Consequences. pp. 3–57.
[9] Deindl, C. and Brandt, M. (2017). Support networks of childless older people: informal and formal support in Europe. Ageing and Society, 37(8), 1543–1567.
[10] Ibid.
[11] SHARE-ERIC. (2024). The Survey of Health, Ageing and Retirement in Europe.
[12] Kreyenfeld, M. and Konietzka, D. (2017). Childlessness in Europe: Contexts, Causes, and Consequences. pp. 3–57.
[13] Kreyenfeld, M. and Konietzka, D. (2017). Childlessness in Europe: Contexts, Causes, and Consequences. pp. 3–57.
[14] Ibid.
[15] Office for National Statistics. (2020). Living longer: implications of childlessness among tomorrow’s older population.
[16] Office for National Statistics. (2025). Childbearing for women born in different years, England and Wales: 2023.
[17] Gregory, J. (2025, April 2). Women to continue having babies later in life, ONS projects. BBC News.
[18] Allen, R. and Wiles, J. (2013). How older people position their later-life childlessness: a qualitative study. Journal of Marriage and Family, 75(1), 206-220.
[19] Kreyenfeld, M. and Konietzka, D. (2017). Childlessness in Europe: Contexts, Causes, and Consequences. pp. 3–57.
[20] Kreyenfeld, M. and Konietzka, D. (2017). Childlessness in Europe: Contexts, Causes, and Consequences. pp. 3–57.
[21] Ibid.
[22] McDonough, K and Davitt, J. (2011). It takes a Village: community practice, social work, and aging-in-place. Journal of Gerontological Social Work, 54(5), 528-541.
[23] Xu, X. et al. (2022) Defining Childlessness Among Middle-Aged and Older Americans: A Research Note. Demography, 59(3), 813-826.
[24] Allen, R. and Wiles, J. (2013). How older people position their later-life childlessness: a qualitative study. Journal of Marriage and Family, 75(1), 206-220.
[25] Kreyenfeld, M. and Konietzka, D. (2017). Childlessness in Europe: Contexts, Causes, and Consequences. pp. 3–57.
[26] Office for National Statistics. (2020). Living longer: implications of childlessness among tomorrow’s older population.
[27] Ibid.
[28] Penning, M. et al. (2022). Childlessness and social and emotional loneliness in middle and later life.
[29] Penning, M. et al. (2022). Childlessness and social and emotional loneliness in middle and later life.
[30] Beaujouan, E. and Berghammer, C. (2019). The Gap between Lifetime Fertility Intentions and Completed Fertility in Europe and the United States: A Cohort Approach.
[31] Gonen, T. et al (2024). The Way Older Childless Women Value Their Life—A Qualitative Study. Behav Sci (Basel), 14(5), 418.
[32] National Care Forum. (2021). Ageing without Children: a toolkit for organisations.
[33] Ibid.
[34] Ibid.
[35] Hadley, R. (2021). ‘It’s Most of My Life—Going to the Pub or the Group’: The Social Networks of Involuntarily Childless Older Men. Ageing Soc., 41, 51–76.
[36] Office for National Statistics. (2020). Living longer: implications of childlessness among tomorrow’s older population.
[37] McDonough, K. and Davitt, J. (2011). It takes a Village: community practice, social work, and aging-in-place. Journal of Gerontological Social Work, 54(5), 528-541.
[38] Barker, R. (2002). Non-kin caregivers and community-based support structures. The Gerontologist, 42(1), 34-45.
[39] Deindl, C., and Brandt, M. (2011). Financial support and practical help between older parents and their middle-aged children in Europe. Ageing and Society, 31(4), 645-662.
[40] Hoang, Q. et al. (2020). Neighbourhood Help Schemes: Community-driven responses to ageing. Journal of Community Health, 45(2), 380-394.
[41] Scharlach, A. et al. (2014). The Village Model: A consumer-driven approach for aging in place. The Gerontologist, 54(6), 899-907.
[42] Greenfield, E. and Mauldin, R. (2017). Participation in community activities through Naturally Occurring Retirement Community (NORC) Supportive Service Programs. Ageing and Society, 37(10), 1987–2011.
[43] Audley Villages. (n.d.). How Retirement Villages Work.
[44] Johnson, P. (2007). Private care services: A viable option for ageing populations? Journal of Elderly Care Studies, 32(1), 87-105.
[45] Allen, R., and Wiles, J. (2013). The usefulness of neighbours: Social networks and social care in later life. Journal of Aging Studies, 27(4), 521-530.
[46] Chen, Y. et al. (2020). Loneliness and social isolation in older age: A systematic review. Ageing and Society, 40(2), 221-246.
[47] Abramowska-Kmon, A. and Timoszuk, S. (2021). Ageing without children: Social and policy implications. Journal of Ageing Studies, 50(2), 45-61.
[48] Portacolone, E. et al. (2022). Rethinking home care policies for older adults with cognitive impairment. The Milbank Quarterly, 100(3), 750-781.
[49] Carney, M. et al. (2019). Elder orphans hiding in plain sight: A growing vulnerable population. Current Gerontology and Geriatrics Research, 1-11.
[50] Křenková, L. (2014). Aging in place: A rural perspective on care accessibility. Rural and Remote Health. 14(1), 220-238.
[51] Margolis, R., and Verdery, A. (2017). Childlessness and social isolation in later life. Proceedings of the National Academy of Sciences, 114(39), 10169-10174.
[52] Vikström, L., et al. (2018). Social participation and health in old age: The importance of social networks. International Journal of Environmental Research and Public Health, 15(3), 473-488.
[53] Allen, R. and Wiles, J. (2013) How older people position their later-life childlessness: a qualitative study. Journal of Marriage and Family, 75(1), 206-220.
[54] Dykstra, P. and Hagestad, G. (2007). Roads less taken: Developing a nuanced view of older adults without children. Journal of Family Issues, 28(10), 1275-1310.
[55] Hadley, R. (2019). The experiences of involuntary childless older men: Social isolation and psychological distress. Ageing International, 44(3), 247-264.
[56] Margolis, R., and Verdery, A. (2017). Childlessness and social isolation in later life. Proceedings of the National Academy of Sciences, 114(39), 10169-10174.
[57] Bures, R. (2016). Childlessness and psychological well-being in midlife and old age. Journal of Family Issues, 37(8), 1095-1117.
[58] Beaujouan, E. and Berghammer, C. (2019). The gap in economic security: Pension systems and childless individuals. European Population Studies, 28(3), 255-273.
[59] Mair, C. (2019). Social connectedness and health outcomes among older adults: A cross-national analysis. Journals of Gerontology: Social Sciences, 74(7), 1189-1201.
[60] Song, L. (2015). The role of social networks in later-life well-being: Individualistic versus collectivist cultures. Journal of Aging and Social Policy, 27(3), 265-286.
[61] Ibid.
[62] Greenberg, S. (2013). Aging without children: Social and financial implications. Journal of Aging and Social Policy, 25(3), 295-311.
[63] Penning, M. et al. (2022). Childlessness and social and emotional loneliness in middle and later life. Ageing and Society, 1-28.
[64] Mair, C. (2019). Social connectedness and health outcomes among older adults: A cross-national analysis. Journals of Gerontology: Social Sciences, 74(7), 1189-1201
[65] Dykstra, P. and Keizer, R. (2009). The well-being of childless men and fathers in mid-life. Ageing and Society, 29(8), 1227–1242.
[66] Allen, R. and Wiles, J. (2013) How older people position their later-life childlessness: a qualitative study. Journal of Marriage and Family, 75(1), 206-220.
[67] Teerawichitchainan, B. et al. (2019). Productive aging in developing Southeast Asia: Comparative analyses between Myanmar, Vietnam, and Thailand. Social Science and Medicine, 229, 161–171.
[68] Deindl, C. and Brandt, M. (2017). Support networks of childless older people: informal and formal support in Europe. Ageing and Society, 37(8), 1543–1567.
[69] Quashie, N. et al. (2020). The experience of loneliness among older adults without children. Journal of Aging and Health, 32(5-6), 365-387.
[70] Chang, E. et al. (2019). Global perspectives on loneliness and social isolation. The Lancet, 394(10214), 934-935.
[71] Doran, T. et al. (2018). Interventions for loneliness in older adults: A systematic review. British Medical Journal Open, 8(3).
[72] Lehning, A. et al. (2017). Variations on the village model: A typology of a consumer-driven community-based initiative for older adults. The Gerontologist, 57(5), 901–910.
[73] Bohme, P. et al. (2020). Alone but better off? Adult child migration and health of elderly parents in Moldova. Ageing and Society, 40(2), 311-338.
[74] Llywodraeth Cymru. (2014). Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Yr hanfodion.
[75] UK Government. (2014). Care Act 2014.
[76] National Care Forum. (2021). The impact of COVID-19 on adult social care: A national care forum report.
[77] United Nations. (2002). Political declaration and Madrid International Plan of Action on Ageing.
[78] World Health Organization. (2021). Decade of healthy ageing: Baseline report.
[79] Albertini, M., and Mencarini, L. (2019). Childlessness and support networks in later life: New pressures on familialistic welfare states? Journal of Family Issues, 40(11), 1515–1537.
[80] Llywodraeth Cymru. (2010). Deddf Cydraddoldeb 2010: Canllawiau i ddarparwyr gwasanaethau.
[81] United Nations. (2015). Transforming our world: The 2030 Agenda for Sustainable Development.
[82] Beaujouan, É., and Berghammer, C. (2019). The gap between lifetime fertility intentions and completed fertility in Europe and the United States: A cohort approach. Population Research and Policy Review, 38(4), 507–535.
[83] Office for National Statistics. (2020). Living longer: Impact of childlessness on the support networks of older people.
[84] Ivanova, K., and Dykstra, P. (2019). Aging without children: The role of personal networks in obtaining social support. The Journals of Gerontology: Series B, 74(3), 494–504.
[85] Forman, D. et al. (2020). PTCA in the elderly: The “young-old” versus the “old-old”. Journal of the American Geriatrics Society, 38(11), 1235–1240.
[86] Tolkamp, M., and Schilt, T. (2019). Financial literacy and retirement preparation in the Netherlands. Journal of Pension Economics and Finance, 18(3), 366–389.
[87] Forman, D. et al. (2020). PTCA in the elderly: The “young-old” versus the “old-old”. Journal of the American Geriatrics Society, 38(11), 1235–1240.
[88] Ivanova, K., and Dykstra, P. (2019). Aging without children: The role of personal networks in obtaining social support. The Journals of Gerontology: Series B, 74(3), 494–504.
[89] Johnson, P. (2007). Private care services: A viable option for ageing populations? Journal of Elderly Care Studies, 32(1), 87-105.
[90] Abramowska-Kmon, A. and Timoszuk, M. (2021). Ageism and the rights of older adults: Policy and social implications. Journal of Aging and Social Policy, 33(3), 253-269.
[91] National Care Forum. (2021). The impact of COVID-19 on adult social care: A national care forum report.
[92] Abramowska-Kmon, A. and Timoszuk, M. (2021). Ageism and the rights of older adults: Policy and social implications. Journal of Aging and Social Policy, 33(3), 253-269.
[93] Albertini, M. and Kohli, M. (2009). What childless older people give: is the generational link broken? Ageing and Society, 29(8), 1261–1274.
[94] Ibid.
[95] Wenger, G. (2009). Childlessness at the end of life: evidence from rural Wales. Ageing and Society, 29(8), 1243–1259.
[96] Ivanova, K. and Dykstra, P. (2015). Aging Without Children – Public Policy and Aging Report.
[97] Johnson, R. (2006). In-home care for frail childless adults.
[98] Lowers, J. et al. (2024). Proactive Care-Seeking Strategies Among Adults Aging Solo With Early Dementia: A Qualitative Study. The Journals of Gerontology: Series B, 79(5).
[99] Abramowska-Kmon, A. et al. (2023). Coping strategies for happy childless ageing: an explorative study in Poland, Genus, 79(2).
[100] Barker, J. (2002). Neighbors, Friends, and Other Nonkin Caregivers of Community-Living Dependent Elders. The Journals of Gerontology: Series B, 3(57), 158–167.
[101] Börsch-Supan, A. and Scherpenzeel, A. (2021). The Survey of Health, Ageing and Retirement in Europe. In: Gu, D., Dupre, M.E. (eds) Encyclopedia of Gerontology and Population Aging. Springer, Cham.
[102] McDonough, K. and Davitt, J. (2011). It takes a Village: community practice, social work, and aging-in-place. Journal of Gerontological Social Work, 54(5), 528-541.
[103] Scharlach, A. et al. (2012). The “Village” model: A consumer-driven approach for aging in place. The Gerontologist, 52(3), 418-427.
[104] Lehning, A. et al. (2017). Variations on the Village Model: An Emerging Typology of a Consumer-Driven Community-Based Initiative for Older Adults. Journal of Applied Gerontology, 36(2), 234-246.
[105] Doran, P. et al. (2024). Interventions to promote ageing in place: developing the Village model in Manchester. Quality in Ageing and Older Adults, 25(1), 56-67.
[106] Glass, A. (2009). Aging in a Community of Mutual Support: The Emergence of an Elder Intentional Cohousing Community in the United States. Journal of Housing For the Elderly, 23(4), 283–303.
[107] NHS England (2024). Shared Lives Schemes.
[108] Shared Lives Plus. (2022). The State of the nation: Shared Lives care in Wales.
[109] NHS England (2019). Introducing the Red Bag Scheme into North Dorset Care Homes.
[110] Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. (2023). Cynllun Bag Coch Newydd Sir Fynwy.
[111] Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. (2023). Pobl sy’n agored i niwed i dderbyn mwy o ofal personol drwy gynllun peilot newydd.
[112] Hadley, R. (2019). “No longer invincible”: The impact of involuntary childlessness on older men. Journal of Men’s Studies, 29(2), 197–215.
[113] Penning, M. et al. (2022). Childlessness and social and emotional loneliness in middle and later life.
[114] Dykstra, P. and Keizer, R. (2009). The well-being of childless men and fathers in mid-life. Ageing and Society, 29(8), 1227–1242.
[115] Kreyenfeld, M., and Konietzka, D. (2017). Childlessness in Europe: Contexts, causes, and consequences.
[116] Quashie, N. et al. (2020). The experience of loneliness among older adults without children. Journal of Aging and Health, 32(5-6), 365-387.