Angen Help?
Older man getting his blood pressure tested by the GP

Ymateb i’r ymgynghoriad – Ymateb i Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Ddyfodol Meddygaeth Deulu yng Nghymru

i mewn Adnoddau, Ddylanwadu ar polisi ac arferion

Ymateb i Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Ddyfodol Meddygaeth Deulu yng Nghymru

Negeseuon Allweddol:

  • Mae mynediad at feddygon teulu yn parhau i fod yn broblem sy’n cael ei chodi gan bobl hŷn.
  • Mae’r argymhellion o adroddiad Mynediad at Feddygon Teulu Mawrth 2024 yn parhau’n berthnasol.
  • Mae’n hanfodol cadw dulliau nad ydynt yn ddigidol o ymgysylltu â meddygfeydd teulu a gweithredu mewn ffordd nad yw’n rhoi pobl hŷn ac eraill nad ydynt ar-lein dan anfantais.

Cyflwyniad

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i ddyfodol meddygaeth deulu yng Nghymru.

Cynhaliodd y Comisiynydd blaenorol, Heléna Herklots, ddarn sylweddol o waith ar fynediad at feddygon teulu yn 2023-24 sy’n berthnasol i Ymchwiliad y Pwyllgor.  Mae’r Comisiynydd presennol, Rhian Bowen-Davies, wedi parhau i ddatblygu’r gwaith ers dechrau yn ei swydd ym mis Medi 2024.

Adroddiad CPHC ar fynediad pobl hŷn i bractisiau meddygon teulu

Ym mis Medi 2023, roedd y Comisiynydd blaenorol yn pryderu y gallai pobl hŷn fod yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at wasanaethau meddygon teulu sy’n diwallu eu hanghenion, a gwahoddwyd pobl hŷn i rannu eu profiadau er mwyn iddi allu nodi materion yr oedd angen mynd i’r afael â nhw gan bractisiau meddygon teulu, byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru.

Nodwyd hefyd broblemau gyda mynediad at feddygon teulu, gan gynnwys anawsterau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, yn y gwaith a wnaeth y Comisiynydd blaenorol i ddeall profiadau pobl hŷn Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Cyhoeddwyd adroddiad, Mynediad i Bractisiau Meddygon Teulu: Profiadau Pobl Hyn, ym mis Mawrth 2024.  Canfu’r adroddiad fod nifer sylweddol o bobl hŷn ledled Cymru yn wynebu anawsterau wrth geisio cael mynediad at bractisiau meddygon teulu, sy’n golygu bod nifer o unigolion yn dioddef mewn poen, bod eu cyflwr yn dirywio a’u bod yn teimlo’n bryderus ac yn ofidus.

Gwnaeth yr adroddiad argymhellion i bractisiau meddygon teulu, byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, awdurdodau cynllunio ac awdurdodau lleol, ar:

  • feithrin perthynas o ymddiriedaeth rhwng pobl hŷn a thîm ehangach y practis;
  • dileu rhwystrau ymarferol i fynediad gan bobl hŷn a gwella’r cyfathrebu â phobl hŷn; cefnogi pobl hŷn i fynd i bractisiau meddygon teulu a chymryd cyngor clinigol;
  • sicrhau nad yw pobl hŷn yn methu â chael mynediad at bractisiau meddygon teulu o ganlyniad i allgáu digidol;
  • sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i foderneiddio systemau practisiau meddygon teulu a sicrhau bod profiadau pobl hŷn yn cyd-fynd â’r safonau ar gyfer mynediad ac ansawdd;
  • gwella trafnidiaeth gyhoeddus i bractisiau meddygon teulu, a’r
  • seilwaith ehangach.

Cyhoeddwyd adroddiad ar wahân, Dim Mynediad, ar heriau allgáu digidol, a oedd yn cynnwys mynediad at wasanaethau iechyd, ym mis Ionawr 2024.

Canllaw i bobl hŷn

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi’r camau y byddai’r Comisiynydd yn eu cymryd i helpu i wella mynediad pobl hŷn i bractisiau meddygon teulu. Un o ganfyddiadau’r adroddiad oedd bod newidiadau i’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, a’r newid yn rolau’r gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio gyda meddygfeydd, yn golygu bod nifer o bobl hŷn yn cael trafferth dod o hyd i apwyntiadau addas. Cyhoeddwyd Practisiau Meddygon Teulu yng Nghymru: Canllaw i Bobl Hyn ym mis Gorffennaf 2024.

Gweithredu dilynol

Hefyd ym mis Gorffennaf 2024, cadeiriodd y Comisiynydd ddigwyddiad bord gron i archwilio sut y gellid bwrw ymlaen â’r camau angenrheidiol sydd wedi’u cynnwys yn ei hargymhellion, a gynhaliwyd ac a gefnogwyd gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.  Cyhoeddwyd adroddiad diweddariad ar y cynnydd  cyn diwedd tymor Heléna Herklots fel Comisiynydd ym mis Awst 2024.

Yn dilyn hynny, cyfrannodd swyddfa’r Comisiynydd at waith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar eu nodyn cyngor Gwasanaethau Digidol mewn Practisiau Meddygon Teulu y GIG: cyngor newydd ar atal gwahaniaethu ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a phwysigrwydd cynnal gwasanaethau hygyrch nad ydynt yn ddigidol i rai cleifion, gan gynnwys y rhai sy’n anabl ac yn hŷn, ac i rai cleifion o leiafrifoedd ethnig.

Dechreuodd Rhian Bowen-Davies yn ei swydd fel y Comisiynydd presennol ym mis Medi 2024. Cadeiriodd y Comisiynydd newydd ail ddigwyddiad bord gron adeiladol gyda rhanddeiliaid allweddol ym mis Tachwedd 2024. Mae’r naill Gomisiynydd a’r llall wedi bod yn ddiolchgar am gymorth Gweithrediaeth GIG Cymru a byrddau iechyd i ddatrys problemau, fel allgáu digidol, y mae unigolion hŷn yn dal i ddod ar eu traws ar lefel practisiau meddygon teulu.

Arolwg: Dweud eich dweud

Ym mis Rhagfyr 2024, gwahoddodd y Comisiynydd bobl hŷn i rannu eu profiadau a helpu i lunio’r camau y mae’n eu cymryd fel Comisiynydd Pobl Hŷn. Daeth yr arolwg i ben ym mis Chwefror 2025.

Mae’r canlyniadau’n adlewyrchu’r rhai a geir yn yr adroddiad Mynediad at Bractisiau Meddygon Teulu: mae pobl hŷn yn dal i gael trafferth cael mynediad i’r math o apwyntiad sydd ei angen arnynt; mae’r amseroedd aros yn rhy hir; nid yw llinellau ffôn ac e-ymgynghoriadau yn addas i’r diben; mae diffyg o ran parhad y gofal, ac mae rhai pobl hŷn yn teimlo bod gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu hoedran wrth fynychu apwyntiadau meddyg teulu, fel pe na bai rhywun yn gwrando arnynt. Roedd rhai pobl hŷn yn hapus gyda gwasanaethau, ond dywedodd y mwyafrif nad oedd gwasanaethau’n diwallu eu hanghenion.

Casgliad

Mae’r Comisiynydd yn ymwybodol bod y mwyafrif helaeth o’r cyswllt â chleifion yn digwydd mewn gofal sylfaenol a chymunedol.  Mae hi felly wedi parhau i ddatblygu gwaith ei rhagflaenydd i annog rhanddeiliaid i weithredu’r argymhellion yn yr adroddiad Mynediad at Feddygfeydd. Mae mynediad at feddygon teulu yn parhau i fod yn broblem sy’n cael ei chodi gan bobl hŷn fel y dengys yr ymgynghoriad i lywio rhaglen waith y Comisiynydd.

Mae argymhellion adroddiad Mynediad at Bractisiau Meddygon Teulu ym mis Mawrth 2024 yn parhau’n berthnasol a dylent fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghyd â manylion am brofiadau pobl hŷn.

Er bod technoleg ddigidol yn cynnig cyfleoedd i wella systemau meddygfeydd, mae’n hanfodol bod ffyrdd nad ydynt yn ddigidol o ymgysylltu â meddygfeydd teulu yn cael eu cadw ac yn gweithredu mewn ffordd nad yw’n rhoi pobl hŷn ac eraill nad ydynt ar-lein dan anfantais.

Byddai’r Comisiynydd yn hapus i ddarparu tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor pe bai’n cael ei gwahodd.

Lawrlwythwch Fersiwn PDF

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges