Angen Help?
Older man getting his blood pressure tested by the GP

Y Comisiynydd yn gofyn i bobl hŷn rannu eu profiadau o wasanaethau meddygfeydd yng Nghymru

i mewn Newyddion

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn poeni y gallai pobl hŷn fod yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar wasanaethau meddygfeydd sy’n diwallu eu hanghenion. Mae hi’n gwahodd pobl hŷn i gysylltu â’i swyddfa i rannu eu profiadau er mwyn iddi allu canfod y materion y mae angen i feddygfeydd, byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â nhw.

Ers y pandemig mae newidiadau wedi cael eu cyflwyno’n gyflym iawn i’r ffordd mae gwasanaethau meddygfeydd yn cael eu darparu yng Nghymru. Mae’r Comisiynydd yn poeni bod pobl hŷn mewn perygl o gael eu gadael ar ôl a’u heithrio.

Mae’r Comisiynydd eisiau clywed gan bobl hŷn am eu profiadau mewn amrywiaeth o feysydd, fel trefnu apwyntiadau, dealltwriaeth meddygfeydd o anghenion cleifion a darparu cymorth priodol, ac a yw pobl yn teimlo bod y staff yn gwrando arnyn nhw ac yn eu parchu. Mae hi hefyd eisiau clywed am faterion ehangach fel a yw gwasanaethau fel cyfieithu ar gael, a mynediad at feddygfeydd ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r Comisiynydd yn gweithio gyda sefydliadau a phartneriaid lleol yng Nghymru i gyrraedd pobl hŷn ar hyd a lled Cymru ac yn dosbarthu holiadur er mwyn i bobl allu dweud eu dweud. Mae’n awyddus hefyd i glywed am brofiadau cadarnhaol pobl a’r pethau sy’n ddefnyddiol wrth ymweld â’u meddygfa. Mae’n bosibl i bobl rannu eu profiadau dros y ffôn, ar-lein neu drwy ysgrifennu at swyddfa’r Comisiynydd.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae gwasanaethau meddygfeydd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi ein hiechyd a’n llesiant, yn enwedig wrth i ni heneiddio, ac yn aml dyma’r ffordd o gael gafael ar wasanaethau iechyd hanfodol eraill. Dyna pam ei bod hi mor bwysig bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar wasanaethau meddygfeydd, a bod y gwasanaethau eu hunain yn diwallu anghenion pawb.

“Mae pobl hŷn ar hyd a lled Cymru yn aml yn rhannu materion a phryderon am wasanaethau meddygfeydd â mi, ac ers y pandemig mae’n ymddangos bod rhwystrau wedi codi, fel y newid i wneud llawer mwy ar-lein.

“Dyna pam fy mod yn gwahodd pobl hŷn i gysylltu â’m swyddfa i rannu eu profiadau, er mwyn i mi allu dysgu rhagor am y math o faterion a heriau sy’n wynebu pobl a chanfod lle mae angen gweithredu. Rwyf hefyd yn awyddus i glywed am yr hyn sy’n gweithio’n dda, er mwyn gallu mabwysiadu’r arfer da hwn sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ehangach.

“Rydw i eisiau sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed a’u bod yn cael eu defnyddio i siapio polisïau ac arferion ar hyd a lled Cymru.”

Bydd y Comisiynydd yn edrych ar ei chanfyddiadau drwy gydol yr hydref, ac yn cyhoeddi adroddiad yn y Flwyddyn Newydd, gan dynnu sylw at yr hyn mae pobl hŷn wedi’i rannu â hi a nodi argymhellion i helpu i sicrhau bod meddygfeydd yng Nghymru yn hygyrch i bobl hŷn.

Ar ben hynny, bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi canllaw gwybodaeth i helpu pobl hŷn i ddeall yn well beth dylen nhw ei ddisgwyl gan wasanaethau meddygfeydd, gan ganolbwyntio’n benodol ar hawliau pobl o ran materion fel hygyrchedd.

Ychwanegodd y Comisiynydd:

“Ochr yn ochr â’m hadroddiad a’m hargymhellion ar gyfer gweithredu, sydd i fod i gael eu cyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd, rwyf hefyd eisiau sicrhau bod pobl hŷn yn deall eu hawliau wrth gael gafael ar wasanaethau meddygfeydd, er mwyn i unigolion deimlo eu bod yn gallu herio arferion gwael neu godi pryderon.

“Dyna pam fy mod yn datblygu canllaw defnyddiol a fydd yn cael ei ddosbarthu i bobl hŷn ar hyd a lled Cymru i ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw, a manylion ble i gael cymorth a chefnogaeth os ydyn nhw’n cael trafferth cael gafael ar y gwasanaethau meddygfeydd sydd eu hangen arnyn nhw.”

Ymateb i Holiadur y Comisiynydd

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges