Annwyl Gweinidog,
Ymateb i’r ymgynghoriad: Strategaeth Genedlaethol Ddrafft ar gyfer Gofalwyr Di-dâl
Roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle i’ch cyfarfod ar 23 Mawrth 2026, i drafod Strategaeth Genedlaethol Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofalwyr Di-dâl cyn i chi adael y Senedd.
Hoffwn hefyd ddiolch i chi a’ch swyddogion am ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol i’m cais i gategori “cyn-ofalwr” gael ei gynnwys ar y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad ar gyfer y Strategaeth Genedlaethol Ddrafft.
Fel y gwnaethom drafod yn ein cyfarfod, rwy’n ysgrifennu i sôn ychydig mwy am ein trafodaeth am y Strategaeth Genedlaethol Ddrafft. Derbyniwch y llythyr hwn fel fy ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad.
Pan gyflwynais fy nhystiolaeth ysgrifenedig i Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i Wella Cymorth i Ofalwyr Di-dâl, roeddwn yn ymwybodol y byddai’r ymchwiliad yn cael ei gynnal ochr yn ochr â datblygu Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofalwyr Di-dâl. Roeddwn yn gobeithio y byddai’r ymateb hwnnw’n helpu i lywio’r Pwyllgor a Llywodraeth Cymru ac yn arwain at welliannau sylweddol yn y cymorth sydd ar gael i ofalwyr hŷn yng Nghymru. Rwyf wrthi ar hyn o bryd yn darllen adroddiad yr ymchwiliad gyda diddordeb.
Rwy’n cefnogi’r cynigion a nodir yn y ddogfen ymgynghori gyfredol. Fodd bynnag, hoffwn gynnig sylwadau a nodi materion ychwanegol i’w cynnwys yn y strategaeth yn y dyfodol. Rwyf hefyd yn pryderu y bydd y bwlch presennol rhwng polisi ac ymarfer yn parhau, heb lywodraethu ac atebolrwydd effeithiol.
Sylwadau cyffredinol
Mae’n hanfodol bod pobl hŷn yn gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli’n benodol ym mhob agwedd ar y strategaeth a’r camau gweithredu dilynol, gan gynnwys unrhyw ymgyrchoedd neu weithgareddau neu ddigwyddiadau codi ymwybyddiaeth. Dylid adolygu’r drafft terfynol o safbwynt pobl hŷn i sicrhau ei fod yn osgoi rhagfarn oed ac nad yw’n gwneud rhagdybiaethau di-sail am ofalwyr hŷn neu bobl hŷn yn ehangach.
Yn aml, nid yw llawer o ofalwyr hŷn di-dâl, fel gofalwyr di-dâl yn gyffredinol, yn ystyried eu hunain yn ofalwyr. Gall hyn fod yn arbennig o wir pan fydd person hŷn yn darparu gofal i briod neu bartner. Mae’r ddogfen ymgynghori hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y gallai gofalwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig hefyd fod yn llai tebygol o ystyried neu ddisgrifio eu hunain fel gofalwyr, yn enwedig mewn cymunedau lle mae gofalu yn cael ei ystyried yn gyfrifoldeb teuluol.
Yn wyneb hyn, dylai’r strategaeth roi sylw manwl i’r rôl y mae iaith a therminoleg yn ei chwarae, gan y gall y rhain greu rhwystrau o ran ystyried eu hunain. Bydd yn bwysig ystyried sut y gellir lleihau’r rhwystrau hyn, gan sicrhau bod gofalwyr hŷn yn teimlo eu bod yn gallu cydnabod eu rolau gofalu a chael mynediad i’r cymorth sydd ar gael iddynt.
Yn ogystal â hyn, efallai na fydd ffrindiau a chymdogion sy’n ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu hefyd yn ystyried eu hunain yn ofalwyr, a dylid ystyried y grŵp hwn o fewn dull y strategaeth o ehangu cydnabyddiaeth a chefnogaeth.
Mae pobl hŷn yn parhau i ddweud wrthyf am yr heriau sylweddol a achosir gan allgau digidol. Rwy’n disgwyl i Lywodraeth Cymru – ac unrhyw gorff cyhoeddus – sicrhau bod yr holl gyfathrebu, gwybodaeth am y strategaeth, ac unrhyw weithgareddau yn y dyfodol ar gael mewn fformatau ac opsiynau nad ydynt yn ddigidol. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod pobl heb fynediad i’r rhyngrwyd (gan gynnwys y rhai sy’n dewis peidio â’i ddefnyddio), a’r rhai sydd â sgiliau digidol neu hyder cyfyngedig, yn cael eu cynnwys yn llawn ac yn gallu cymryd rhan.
Diffyg ffocws ar bobl hŷn
Rwy’n pryderu nad oes llawer iawn o sôn am bobl hŷn fel grŵp poblogaeth yn y ddogfen ymgynghori, yn wahanol i ofalwyr ifanc, sydd â’u hadran eu hunain. Mae tua 55% o ofalwyr yng Nghymru dros 55 oed. Mae hyn yn golygu bod tua 275,000 o ofalwyr hŷn yng Nghymru erbyn hyn.i Mae gofalwyr di-dâl yn debycach o fod yn fenywod, yn hŷn ac yn byw mewn cymunedau mwy difreintiedig.ii Cymru sydd â’r gyfran uchaf yn y DU o ofalwyr hŷn a gofalwyr sy’n darparu mwy na 50 awr o ofal yr wythnos.iii
Er gwaethaf y cyfraniad sylweddol hwn, mae pobl hŷn sydd â phrofiad bywyd o ofalu wedi cael eu tangynrychioli ar y Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl. Dylid cywiro’r bwlch hwn yn y trefniadau llywodraethu ar gyfer y strategaeth newydd.
Data
Dylai’r strategaeth newydd sicrhau gwell data sy’n benodol i Gymru ar anghenion penodol gofalwyr hŷn mewn gwahanol fandiau oedran. Mae’r diffyg data o ansawdd da ar ofalwyr hŷn yn rhwystr mawr i allu asesu’n gywir yr angen am wasanaethau cymorth i ofalwyr hŷn, a ddiwallir ai peidio, ac i ddarpariaeth briodol. Er enghraifft, nid yw nifer y gofalwyr dros 60 oed yng Nghymru sy’n derbyn Asesiad Gofalwr yn hysbys, heb sôn am faint o bobl dros 70 oed, dros 80 neu’n hŷn sy’n derbyn un.
Allgymorth a chymorth rhagweithiol
Yn fy ymateb i Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol tynnwyd sylw at y potensial i ddefnyddio systemau data fel y gall awdurdodau lleol fod yn rhagweithiol wrth adnabod gofalwyr yn eu cymunedau ac estyn allan atynt. Rwy’n siomedig nad yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y strategaeth ddrafft.
O ystyried cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y bydd Cymru’n dod yn genedl Marmot, hoffwn weld y strategaeth yn nodi sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio penderfynyddion ehangach iechyd i gynnig cymorth rhagweithiol i ofalwyr. Byddai’n ddefnyddiol archwilio dull awdurdodau lleol sydd ar flaen y gad o ran agenda Marmot yng Nghymru, megis Cynghorau Torfaen a Blaenau Gwent, o ran allgymorth a chymorth i ofalwyr.
Gofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia
Mae’n hanfodol bod Strategaeth Dementia newydd Cymru yn cyd-fynd â’r Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl. Mae fy nhystiolaeth ysgrifenedig i Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn rhoi sawl enghraifft o’r problemau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl pobl sy’n byw gyda dementia.
Mae fy adroddiad ar Heneiddio heb Blant (a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2025) hefyd yn berthnasol i’r strategaeth. Er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar y manteision yn ogystal â’r heriau o heneiddio heb blant neu deulu, mae angen herio’r rhagdybiaeth bod gan bawb gefnogaeth deuluol i helpu i ddarparu gofal anffurfiol. Dylai’r strategaeth adlewyrchu argymhellion perthnasol fy adroddiad i sicrhau bod anghenion ac amgylchiadau’r rhai sy’n heneiddio heb blant yn cael eu hystyried a’u cyfeirio’n benodol.
Llywodraethu ac atebolrwydd
Mae trefniadau llywodraethu cadarn yn hanfodol i oruchwylio a chraffu ar y modd y’i gweithredir. Dylai’r trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd ar gyfer y strategaeth sicrhau’r canlynol:
- Cynnwys pobl hŷn sydd â phrofiad bywyd o ofalu o bob rhan o’r gymdeithas ar bob lefel o lywodraethu;
- Dull o gynhyrchu ar y cyd wrth ddatblygu a gweithredu’r strategaeth ymhellach;
- Sicrhau bod gweithredu’r strategaeth newydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau gofalwyr di-dâl a dileu unrhyw fwlch rhwng bwriadau a phrofiadau polisi;
- Metrigau sy’n canolbwyntio ar y person ochr yn ochr â metrigau system, i sicrhau bod y trefniadau adrodd yn adlewyrchu profiad gwirioneddol.
Casgliad
Gobeithio y byddwch chi’n gweld yr ymateb hwn yn ddefnyddiol i ddatblygu’r strategaeth newydd ymhellach. Byddai fy swyddfa yn hapus i drafod y sylwadau hyn ymhellach.
Lawrlwythwch gopi o ymateb y Comisiynydd