Angen Help?

Profiadau pobl hŷn o ofal cymdeithasol yng Nghymru

i mewn Adnoddau, Ddylanwadu ar polisi ac arferion

System gofal cymdeithasol ‘tameidiog’ yng Nghymru yn peryglu llesiant, ansawdd bywyd ac annibyniaeth pobl hŷn

Mae’n ymddangos nad yw realiti profiadau llawer o bobl hŷn o ran gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cyflawni’r uchelgeisiau a nodir mewn polisi a deddfwriaeth, gan effeithio ar lesiant, ansawdd bywyd ac annibyniaeth pobl mewn nifer o ffyrdd, yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Wrth gyhoeddi canfyddiadau ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar ar ei rhan, mae’r Comisiynydd yn tynnu sylw at system ‘tameidiog’ a nodweddir yn aml gan gyfathrebu gwael, oedi a diffyg cydgysylltu, sy’n golygu bod unigolion a’u hanwyliaid yn wynebu cyfrifoldebau a phwysau sylweddol, yn aml o dan amgylchiadau heriol iawn.

Mae canfyddiadau’r Comisiynydd yn seiliedig ar brofiadau 268 o unigolion o bob cwr o Gymru – pobl hŷn sy’n cael gofal cymdeithasol, yn ogystal â theulu a ffrindiau sydd, mewn llawer o achosion, yn darparu llawer iawn o ofal di-dâl a chymorth arall.

Gofynnwyd cyfres o gwestiynau i’r cyfranogwyr a oedd yn canolbwyntio ar safonau allweddol sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol yng Nghymru, a oedd yn nodi disgwyliadau clir ynghylch ansawdd y cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol. Bu nifer o unigolion cymryd rhan mewn cyfweliadau mwy manwl hefyd. Rhoddodd hyn y cyfle i archwilio eu hymatebion a’u profiadau ymhellach.

Mae’r Comisiynydd wedi rhannu ei chanfyddiadau â sefydliadau allweddol sydd â chyfrifoldebau dros ofal cymdeithasol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae hi eisiau gweld gweithredu pendant ar draws nifer o feysydd allweddol a fyddai’n gwella profiadau pobl ac ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir heb fod angen diwygio gofal cymdeithasol yn sylweddol, rhywbeth a fydd, er ei fod yn bwysig yn y tymor hir, yn cymryd cryn dipyn o amser.

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hollbwysig ym mywydau degau o filoedd o bobl hŷn ar hyd a lled Cymru, gan gynnig cymorth amhrisiadwy a ddylai alluogi unigolion i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol, a chael yr ansawdd bywyd gorau posibl.

“Ond mae materion a phryderon am ofal cymdeithasol yn cael eu codi’n aml gyda mi – drwy fy Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth ac mewn digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned – sy’n dangos, mewn llawer o achosion, nad yw profiadau pobl yn cyflawni’r hyn y gallent ei ddisgwyl yn seiliedig ar y polisi a’r ddeddfwriaeth sydd gennym yma yng Nghymru.

“Dyna pam roeddwn i eisiau edrych mewn mwy o fanylder ar realiti profiadau pobl hŷn o ddydd i ddydd, er mwyn penderfynu ymhle y gallai fod angen gweithredu a gwella, a hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd.

“Mae fy nghanfyddiadau’n tynnu sylw at y ffaith, er bod llawer o’r cyfranogwyr yn gwerthfawrogi staff gofal a chymorth yn fawr, gan gydnabod y pwysau a’r heriau sylweddol y maent yn eu hwynebu mewn system heb ddigon o adnoddau, mae’n ymddangos bod nifer o faterion cyffredin yn effeithio ar lesiant, ansawdd bywyd ac annibyniaeth pobl hŷn sy’n cael gofal cymdeithasol yng Nghymru.

“Mae’r materion hyn yn cynnwys bylchau o ran gwybodaeth a chyfathrebu, sy’n aml yn arwain at oedi a dyblygu, yn ogystal â’r gofynion sylweddol a’r pwysau ariannol a roddir ar ofalwyr di-dâl ac aelodau o’r teulu, gyda rhai ohonynt yn disgrifio cefnogi eu hanwyliaid fel ‘brwydr barhaus’.

“Mae’r ymchwil hefyd yn dangos nad yw lleisiau pobl hŷn yn aml yn cael eu hadlewyrchu mewn asesiadau nac adroddiadau ar ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol gan awdurdodau lleol, gyda dim ond llond llaw o adroddiadau blynyddol yn cynnwys adborth gan bobl hŷn am eu profiadau uniongyrchol.

“Mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch i ba raddau y mae’r rhain yn cael eu llywio gan y rhai hynny sy’n defnyddio gwasanaethau, ac a ydynt yn darparu darlun digon cadarn o ansawdd gwasanaethau.

“Rwyf wedi rhannu fy nghanfyddiadau â sefydliadau allweddol sydd â chyfrifoldebau dros ofal cymdeithasol yng Nghymru, gan nodi nifer o feysydd lle byddai camau pendant yn arwain at welliannau sylweddol heb fod angen diwygio gofal cymdeithasol hirdymor ar raddfa fawr.

“Byddaf hefyd yn parhau i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn sy’n derbyn gofal cymdeithasol yn cael eu clywed, ochr yn ochr â chraffu ar y camau gweithredu a’r penderfyniadau a gymerir mewn ymateb i’m canfyddiadau, i sbarduno newid cadarnhaol ledled Cymru.”

DIWEDD

Darllenwch Bapur Briffio'r Comisiynydd Papur Briffio - Fersiwn HTML

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges