Sylw ar… Brofiadau LHDTC+
Caiff ein profiadau o heneiddio eu llywio gan nifer o ffactorau, gan gynnwys ein hiechyd, ein hamgylchiadau ariannol a’r cymunedau lle’r ydym yn byw. Ac, yr un mor bwysig, caiff y profiadau hynny eu llywio gan bwy ydym ni a’r bobl rydym yn eu caru.
Ond dychmygwch pe bai bod yn chi eich hun yn arwain at rwystrau, gwahaniaethu ac anghydraddoldebau a fyddai’n effeithio ar eich iechyd a’ch llesiant, eich mynediad at wasanaethau, a hyd yn oed eich ymdeimlad o berthyn.
Yn anffodus, mae hyn yn dal i fod yn wir am lawer o bobl hŷn LHDTC+ yng Nghymru, er gwaethaf y cynnydd sylweddol sydd wedi’i wneud tuag at fwy o gydraddoldeb a chynhwysiant dros y degawdau diwethaf.
Er mwyn sicrhau bod gwasanaethau a chymorth yn gynhwysol ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, mae’n hanfodol bod llunwyr polisi a phenderfynwyr yn deall realiti’r rhwystrau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu yn eu holl amrywiaeth, gan gynnwys profiadau pobl hŷn LHDTC+.
Dyna ffocws fy mhrosiect Sylw ar… Brofiadau LHDTC+, a fydd yn cynnwys cyfraniadau gan unigolion a sefydliadau sy’n edrych ar yr heriau penodol y gall pobl LHDTC+ eu hwynebu wrth iddynt heneiddio, yn ogystal ag enghreifftiau o arfer da sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Drwy dynnu sylw at y materion hyn, nodi themâu cyffredin ac archwilio atebion posibl, rwyf am helpu i ysgogi newid ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn arwain at welliannau ystyrlon i brofiadau pobl hŷn LHDTC+.
Byddaf yn cyhoeddi cyfraniadau’n raddol dros yr wythnosau nesaf, cyn rhannu fy sylwadau a’m myfyrdodau fy hun, felly cadwch lygad am y diweddariadau diweddaraf.
Rydym yn dechrau’r gyfres gyda chyfraniad gan yr Athro Paul Willis o Brifysgol Caerdydd, sy’n archwilio pam y gall fod gan bobl hŷn LHDTC+ bryderon ynghylch derbyn gofal yn y cartref, a pham ei bod yn bwysig bod darparwyr gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol yn gwneud mwy i feithrin ymddiriedaeth a hyder.
Darllenwch gyfraniad Paul