Gadael y magnetau oergell – darparu cymorth gofal cartref cynhwysol i bobl LHDTC+ hŷn yn eu cartrefi.
Yr Athro Paul Willis, Prifysgol Caerdydd
Gartref yw’r lle mwyaf braf i fod, yn ôl Wini Pot Mêl. Ac i lawer ohonom mae’r dyfyniad hwn yn darlunio’r teimlad braf, cyfarwydd (a theuluol) o fyw mewn cartref sy’n adlewyrchu’r hunaniaethau sy’n bwysig i ni, lle cedwir atgofion o gysylltiadau pwysig â phobl eraill o bwys, ac sy’n cynnig hafan breifat o’r byd prysur o’n cwmpas. Mae’r eiddo rydyn ni’n eu trysori yn ein cartref yn aml yn adlewyrchu straeon pwysig yn ein bywydau a’r bobl sy’n bwysig i ni a’r hyn sy’n werthfawr. Yn ôl ffeithiau a ddarparwyd gan y Comisiynydd Pobl Hŷn, mae mwyafrif y bobl hŷn yng Nghymru yn byw yn eu cartref eu hunain – mae 87% o bobl 65+ oed yn berchen ar eu cartref eu hunain, gyda 10% yn byw mewn tai cymdeithasol a 4% mewn tai rhent preifat.
Nid yw’r cartref bob amser yn hafan ddiogel i bob person hŷn – er enghraifft, rydym yn gwybod bod profiadau o drais domestig ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymdogaethau yn gallu peryglu diogelwch cartref i lawer o bobl. Mae gofal cartref yn un ffynhonnell o gymorth gofal cymdeithasol hanfodol yn y gymuned sy’n helpu llawer o bobl hŷn gyda thasgau bywyd bob dydd ac yn sicrhau bod pobl hŷn yn gallu parhau i fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain. Fodd bynnag, mae’n dibynnu ar drefn lle mae gweithwyr gofal yn dod i mewn i’w cartref yn rheolaidd – pobl na fyddwn yn eu hadnabod nac yn gyfarwydd â nhw (o leiaf nid i ddechrau) a’r tu allan i’n cylch cyfarwydd o gefnogaeth.
Gwyddom o ymchwil flaenorol yn y DU a thu hwnt, ac adroddiadau anecdotaidd yn lleol, bod llawer o bobl hŷn sy’n arddel hunaniaeth LHDTC+ yn poeni ynglŷn â gweithwyr gofal cartref a gweithwyr proffesiynol cymorth eraill yn dod i’w cartref. Efallai y byddant yn pryderu y bydd gweithwyr gofal cartref yn dod â safbwyntiau ac agweddau homoffobig, deuffobig neu drawsffobig gyda nhw ac nad ydynt yn cael eu trin ag urddas a pharch ac, yn gysylltiedig â hyn, yn pryderu ynghylch gorfod tynnu neu guddio eitemau personol sy’n arwydd o hunaniaethau a pherthnasoedd LHDTC+, fel ffotograffau, llyfrau, gwaith celf neu hyd yn oed magnetau oergell. Fel dyn hoyw rwy’n mwynhau casglu llyfrau am fywydau a hanes bywyd pobl LHDTC+ eraill – mae’n arwydd o fy hunaniaeth, o bwy ydw i a beth rwy’n ei werthfawrogi. Byddwn i’n ei chael hi’n anodd tynnu fy llyfrau oddi ar y silffoedd gartref a’u cuddio – byddai’n teimlo fel cuddio rhan bwysig o bwy ydw i.
Gwyddom hefyd o ymchwil flaenorol bod llawer o bobl hŷn LHDTC+ yn dweud nad oes ganddynt lawer o ymddiriedaeth a hyder mewn gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol. Efallai bod hyn yn seiliedig ar brofiadau cynharach yn eu bywydau lle mae pobl LHDTC+ wedi dod ar draws safbwyntiau ac agweddau rhagfarnllyd sy’n gwahaniaethu gan weithwyr proffesiynol fel meddygon teulu, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol neu weithwyr cymdeithasol.
Mae hyn yn golygu bod angen i ddarparwyr gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol weithio ychydig yn galetach i feithrin ymddiriedaeth a hyder pobl LHDTC+ hŷn cyn gynted ag y byddant yn cael cyswllt cychwynnol â’r gwasanaeth a rhaid iddynt hyrwyddo eu hunain fel gweithwyr LHDTC+ cynhwysol ym mhob math o farchnata a chyfathrebu. Mae angen i bobl LHDTC+ hŷn weld bod y gwasanaethau hyn yn amlwg ar eu cyfer ac yn adlewyrchu pobl fel nhw a’u bod yn derbyn cefnogaeth dda sy’n cynnal eu hurddas.
Mae’r astudiaeth LEAP yn astudiaeth ddwy flynedd sy’n edrych ar ddarparu gwasanaethau gofal cartref cynhwysol i bobl LHDTC+ hŷn ledled Cymru a Lloegr. Fe’i cynhelir gan Brifysgol Caint mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd. Nod ehangach yr astudiaeth yw cael gwell dealltwriaeth o sut mae gweithwyr gofal cartref yn gweld a chefnogi pobl LHDTC+ hŷn yn eu cartrefi eu hunain a phrofiad pobl LHDTC+ hŷn o’r gwasanaethau hyn pan fydd eu hangen arnynt.
Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn teithio o amgylch Cymru a Lloegr yn siarad â phobl hŷn (60+ oed) am eu profiadau presennol neu ddiweddar o dderbyn gofal cartref. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed straeon am wasanaethau da, cefnogol yn ogystal â gwasanaethau a allai fod wedi bod yn well neu sydd angen eu gwella. Ni fydd pobl LHDTC+ hŷn yn cael eu henwi wrth gymryd rhan yn yr astudiaeth ac ni fydd cymryd rhan yn effeithio ar y gwasanaeth gofal cartref y maent yn ei dderbyn. Mae ein tîm wedi bod yn ofalus i drefnu cyfweliadau ar adegau sy’n addas i bobl hŷn ac nad ydynt yn effeithio ar y gofal a’r cymorth y maen nhw’n eu derbyn. Mae’n well gan rai pobl hŷn siarad â ni pan fo aelod o’r teulu neu bartner/priod yn bresennol, ac rydym wedi ceisio gwneud hwn yn lle diogel iawn.
Mae’r holl gyfweliadau wedi cael eu harwain gan ddau berson – aelod o’n tîm ymchwil sy’n arddel hunaniaeth LHDTC+ a phobl LHDTC+ sy’n 60+ oed ac sydd â rhywfaint o brofiad o gymorth gofal cymdeithasol i oedolion. Rydym yn credu bod hyn yn bwysig i sicrhau bod prosiectau ymchwil am bobl hŷn yn cynnwys pobl hŷn yn y modd y cânt eu cynllunio a’u cyflwyno ac i wneud yn siŵr bod y broses gyfweld yn lle cefnogol a diogel i rannu profiadau personol iawn.
Ydych chi’n berson LHDTC+ hŷn sy’n byw yng Nghymru gyda phrofiad presennol neu ddiweddar o dderbyn gofal cartref? Hoffem glywed gennych. Darllenwch fwy am ein hastudiaeth yma: https://research.kent.ac.uk/leap-study/
Neu e-bostiwch neu ffoniwch Shannon i gael gwybod mwy. Ebost: s.orourke-11@kent.ac.uk Ffôn: 07907878293
E-bost yr awdur: willisp4@cardiff.ac.uk