Angen Help?
A laptop, mobile phone, card machine, and picture of mobile apps overlayed with teal

Ymatebion Ymgynghori – Cynllun gweithredu cynhwysiant digidol DU

i mewn Adnoddau, Ddylanwadu ar polisi ac arferion Eitemau sydd ar gael i’w llwytho i lawr:

Cynllun gweithredu cynhwysiant digidol

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Sefydlwyd swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ei rôl a’i phwerau statudol gan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006. Mae’r Comisiynydd yn llais annibynnol ac yn eiriolydd ar ran pobl hŷn ledled Cymru. Rôl y Comisiynydd yw hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru, herio gwahaniaethu, annog yr arferion gorau ac adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

Cyflwyniad

Mae’r Comisiynydd yn croesawu pwyslais Llywodraeth y DU ar fynd i’r afael â chynhwysiant digidol ac ar gydnabod yr effaith y mae hyn yn ei chael ar bobl, gan gynnwys pobl hŷn.

Er bod llawer o bobl hŷn yng Nghymru yn hyderus yn defnyddio’r rhyngrwyd, mae pobl hŷn nad ydyn nhw’n hyderus ac sy’n cael problemau o ganlyniad i hynny, yn aml yn cysylltu â’r Comisiynydd.  Yng Nghymru, nid oes gan 31% o bobl dros 75 oed (95,069 o bobl) fynediad i’r rhyngrwyd gartref ac nid yw 33% o bobl dros 75 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd (gan gynnwys Setiau Teledu Clyfar a dyfeisiau llaw), o’i gymharu â 13% o bobl 65-74 oed a 0% o bobl 25-44 oed. Mae hyn yn golygu nad yw tua 101,200 o bobl dros 75 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd.[i]

Yn yr un modd, yng Nghymru mae 8% o bobl all-lein, o’i gymharu â’r ffigur o 4% yn y DU.  O ran sgiliau, 28% o bobl yng Nghymru sydd â’r gallu digidol isaf, o’i gymharu â 25% y DU.[ii]

Mae pobl hŷn yn dal i godi materion am allgáu digidol a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar fywyd bob dydd.  Ym mis Ionawr 2024, cyhoeddodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru adroddiad – Dim Mynediad: Profiadau pobl hŷn o allgáu digidol yng Nghymru – Dim Mynediad: Profiadau pobl hŷn o allgáu digidol yng Nghymru.

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod allgáu digidol yn fater cymhleth lle gall pobl hŷn fod yn gyfforddus yn defnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer rhai gweithgareddau, fel cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, ond nid ar gyfer gweithgareddau fel bancio neu reoli cyfleustodau.  Nid yw llawer o bobl hŷn yn gwbl ar-lein neu all-lein a gellir allgáu pobl yn ddigidol yn rhannol.

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys argymhellion i amrywiaeth o sefydliadau a chyrff. Roedd y rhain yn cynnwys yr angen i Lywodraeth y DU gyhoeddi strategaeth cynhwysiant digidol wedi’i diweddaru a darparu cyllid i sicrhau bod modd ei rhoi ar waith yn briodol.  Roedd Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb Senedd y DU hefyd wedi argymell Strategaeth Cynhwysiant Digidol ddiwygiedig. Roedd yn nodi y dylai hyn ganolbwyntio’n fanwl ar anghenion pobl hŷn sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, gan gynnwys cynllun ar gyfer cyllido darpariaeth sgiliau digidol yn lleol a hyrwyddo arferion gorau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat o ran cynnal dewisiadau all-lein yn lle rhai digidol am gyhyd ag y bydd angen, yn ogystal â chanolbwyntio ar gysylltedd band eang mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol.[iii]

Mae ymgynghoriad Llywodraeth y DU yn gam pwysig i fynd i’r afael â’r argymhelliad hwnnw.

Mae’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol lle gall pawb barhau i gael gafael ar gymorth all-lein os oes ei angen arnyn nhw, fel sydd wedi’i nodi yn y ‘Cynllun Gweithredu Cynhwysiant Digidol: Camau Cyntaf’ yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pob person hŷn yn gallu parhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd yn ogystal â gallu defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.  Mae modd ymateb i’r ymgynghoriad hwn drwy’r post, yn ogystal ag ar-lein a dros e-bost, sy’n gam cadarnhaol o ran sicrhau bod pobl yn gallu dweud eu dweud, ni waeth beth yw eu sgiliau digidol ar hyn o bryd.

Mae allgáu digidol yn broblem sy’n effeithio ar bobl hŷn ledled y DU.  Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sydd â’r dulliau i fynd i’r afael â hyn yn effeithiol, felly mae’r grŵp rhyngweinidogol newydd ar gynhwysiant digidol, y cyfeirir ato yn yr ymgynghoriad, yn gyfle i sicrhau bod mentrau’n gydgysylltiedig lle bo hynny’n briodol.  Mae hefyd yn cefnogi rhannu arferion gorau a gwersi o ran yr hyn sy’n gweithio neu ddim yn gweithio.  Mae angen cynrychiolwyr o’r holl weinyddiaethau datganoledig ar lefel briodol ar gyfer y grŵp rhyngweinidogol newydd i sicrhau ei fod yn gweithio’n effeithiol ar draws y DU.

Yn yr un modd, bydd angen i’r Pwyllgor Gweithredu ar Gynhwysiant Digidol gael cynrychiolwyr o bob un o bedair gwlad y DU i rannu gwybodaeth er mwyn gweithio’n fwyaf effeithiol.

Mae angen i waith ar y pwnc hwn yn y dyfodol sicrhau bod manteision datblygu economaidd a chynhwysiant cymdeithasol yn cael eu hadlewyrchu yn y dull o wella cynhwysiant digidol.

Ar yr un pryd, mae’n hanfodol bod llwybrau all-lein i gael gafael ar wasanaethau a gweithgareddau yn dal i fod ar gael, ac nad yw’r dewisiadau hyn yn ddewisiadau amgen o ansawdd is.

Mae’r ymgynghoriad yn cydnabod nad yw’r rhan fwyaf o astudiaethau’n darparu dadansoddiad tymor hir ar gynhwysiant digidol, ac nid yw llawer o astudiaethau’n darparu dadansoddiadau demograffig. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o’r dystiolaeth bresennol yn cael ei darparu ar un adeg benodol, heb ystyried y cyd-destun digidol sy’n newid yn gyflym.  Byddai’n ddefnyddiol gwella data ac olrhain er mwyn gallu deall tueddiadau a gwahaniaethau’n briodol dros amser.  Gallai fod yn ddefnyddiol canolbwyntio ar draws y DU i gyd yma.

Ni ddylid diystyru pwysigrwydd y Gymraeg wrth gefnogi cynhwysiant digidol.  Mae angen i gymorth a gwybodaeth i fagu hyder digidol fod ar gael yn Gymraeg a dylid ystyried pwysigrwydd gweithio mewn amgylchedd dwyieithog ar bob cam o’r broses, o ddylunio i gyflwyno.  Efallai y bydd pobl hŷn yn dymuno defnyddio’r rhyngrwyd a nifer o wefannau, gan gynnwys y rheini sy’n cynnig gwasanaethau cyhoeddus, drwy gyfrwng y Gymraeg a dylid galluogi hyn.  Dylid profi terminoleg gyda phobl hŷn er mwyn sicrhau bod y bobl y gallai fod disgwyl iddynt weithio gyda nhw yn deall cyfieithiadau Cymraeg o dermau anghyfarwydd.

Mae’r Llywodraeth wedi nodi pum grŵp poblogaeth a fyddai’n debygol o elwa’n fawr o fentrau cynhwysiant digidol, sef:
Aelwydydd incwm isel
Pobl hŷn
Pobl anabl
Pobl ddi-waith a’r rhai sy’n chwilio am waith
Pobl ifanc

Mae’r Comisiynydd yn cytuno â’r grwpiau poblogaeth hyn, ac yn nodi nad ydyn nhw’n unffurf ac y bydd gwahaniaethau pwysig rhyngddyn nhw.  Er enghraifft, gall pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol hŷn elwa o gymorth wedi’i deilwra.  Bydd llawer o bobl yn perthyn i fwy nag un categori, a bydd hyn hefyd yn cyflwyno heriau penodol i fynd i’r afael â nhw.

A oes enghreifftiau o fentrau cynhwysiant digidol y gellid eu hehangu neu eu hefelychu mewn cymunedau lleol eraill? Os ydych chi’n gwybod am unrhyw un, rhowch enw’r fenter, y sefydliad, crynodeb o’r hyn maen nhw’n ei wneud ynghyd â manylion cyswllt (os yw’n berthnasol).

Mae Cymunedau Digidol Cymru yn cynnig hyfforddiant ‘Te a Thechnoleg’ mewn lleoliad anffurfiol. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig lle cefnogol i archwilio a datblygu sgiliau digidol, gan fwynhau diod boeth a chacen ar yr un pryd. Mae’r sesiynau hyn wedi taro tant gyda phobl hŷn.

Yn Hyder Digidol Sir Ddinbych, mae’r rhai sy’n bresennol yn cael cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau digidol, fel defnyddio Google Maps i archwilio gwahanol leoedd ar draws y byd, dysgu sut i weld a phrynu tocynnau trên, a sut i sganio codau QR.  Mae’r cyfuniad o ddysgu a chymdeithasu yn creu amgylchedd agored a chyfeillgar, lle mae pobl yn teimlo’n gyfforddus. Mae’r fformat rhyngweithiol yn galluogi’r rhai sy’n bresennol i weld sut gallai sgiliau digidol wella eu bywydau bob dydd mewn ffyrdd ymarferol.

Mae’n hanfodol bod cymorth i bobl hŷn ddatblygu sgiliau digidol a hyder yn seiliedig ar ddiddordebau a hobïau pobl eu hunain yn hytrach na’u bod yn gorfod gwneud hynny am fod gwasanaethau hanfodol yn symud ar-lein.

Enghraifft arall o arfer da yw bod Age Cymru Dyfed yn cynnig prosiect digidol i gefnogi pobl 50 oed a hŷn sydd eisiau dysgu sut i ddefnyddio’r Rhyngrwyd. Drwy’r prosiect hwn, gall pobl hŷn gael mynediad at ddyfais wedi’i benthyca, cael cysylltiad rhyngrwyd gyda SIMs data am ddim a chael cymorth sgiliau pwrpasol sy’n canolbwyntio ar nodau dysgu. ‘Hyrwyddwyr Digidol’ gwirfoddol sy’n cynnal y sesiynau cymorth, ac maen nhw’n cynnig cymorth wyneb yn wyneb ac o bell.

Mae Safon Gwasanaeth Digidol Cymru[iv] y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn dangos sut beth yw gwasanaethau cyhoeddus da yng Nghymru, a sut mae eu cyflawni. Fodd bynnag, dylai arferion da hefyd gynnwys ymwybyddiaeth o’r angen i sicrhau bod pobl nad ydyn nhw’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd, neu sy’n dewis peidio â defnyddio’r rhyngrwyd, yn dal i allu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau. Mae ‘Strategaeth Ddigidol i Gymru’[v] Llywodraeth Cymru yn nodi ffyrdd amgen clir o gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac mae’n rhaid i’r rhain gael eu darparu a’u dylunio i fod cystal â’r rheini sy’n cael eu cynnig ar-lein. Pwysleisiwyd hyn yn fwy diweddar drwy raglen ‘Sut i wneud gwasanaeth yn gynhwysol: Canllawiau i helpu’r sector cyhoeddus i ddylunio gwasanaethau cynhwysol drwy osgoi dulliau digidol yn unig’[vi]. Mae’r Canllawiau, a gynhyrchwyd gyda chefnogaeth y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi’u cynllunio i godi ymwybyddiaeth o’r angen i gynnwys pobl sydd ddim yn defnyddio’r rhyngrwyd wrth ddylunio a darparu gwasanaethau.

Ym mha ffyrdd y gallai’r llywodraeth weithio mewn partneriaeth â diwydiant, elusennau a sefydliadau cymunedol i hyrwyddo cynhwysiant digidol?

Mae lleihau lefelau allgáu digidol yn brosiect tymor hir y mae gofyn canolbwyntio arno’n barhaus.  Felly, mae angen i bartneriaethau’r llywodraeth fod yn seiliedig ar feithrin cysylltiadau hirdymor, datblygu mentrau cynaliadwy a darparu cyllid dibynadwy.

Sut gall y llywodraeth sicrhau bod y Gronfa Arloesi Cynhwysiant Digidol yn cefnogi cymunedau lleol ledled y DU orau?

Mae angen eglurhad ynghylch a yw’r Gronfa Arloesi Cynhwysiant Digidol ar gael yng Nghymru ac, os felly, faint o gyllid sydd ar gael, beth yw’r amserlenni a’r hyd, a’r broses ar gyfer cael gafael arni.

Dylai’r Gronfa fod yn syml i’w defnyddio a’i gweinyddu, gyda lle i arloesi a rhoi cynnig ar ddulliau newydd.  Fodd bynnag, ni ddylid ei chyfyngu i gefnogi prosiectau neu ddulliau ‘newydd’ yn unig ar draul dad-gyllido mentrau effeithiol presennol sy’n gweithio’n dda.  Mae risg y bydd mentrau cynhwysiant digidol sy’n cael effaith gadarnhaol yn dod i ben o ganlyniad i hinsawdd ariannol anodd, a dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru feddwl am sut i gynnal y rhain.

Mae’r llywodraeth wedi nodi pedwar maes i ganolbwyntio arnyn nhw er mwyn cynyddu cynhwysiant digidol, sef:
Ehangu cyfleoedd drwy sgiliau
Mynd i’r afael â thlodi dyfeisiau a data
Chwalu’r rhwystrau i wasanaethau digidol
Magu hyder

Mae pob maes a nodwyd yn bwysig, ond mae angen canolbwyntio’n ychwanegol neu’n benodol ar y maes cynnal sgiliau digidol, gan ganolbwyntio ar bobl hŷn sy’n gadael y gweithle.  Mae a wnelo’r mater nid yn unig â datblygu sgiliau, ond hefyd â gwybod am y datblygiadau diweddaraf, yn enwedig lle mae pobl wedi ymddeol neu wedi gadael y gweithle a lle mae llai o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, neu ddysgu anffurfiol.

Mae sicrhau bod pobl hŷn yn parhau i fod yn hyderus ac yn dal i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod nifer y cyn-ddefnyddwyr yn gostwng cymaint ag y bo modd.  Yn ôl ymchwil gan Fanc Lloyds a gyhoeddwyd yn 2023, roedd y defnydd cyffredinol o’r rhyngrwyd wedi gostwng o 98% i 84% ers 2022. Dangosodd y canfyddiadau fod hyn yn cael ei ysgogi gan lai o ddefnydd ymhlith unigolion dros 60 oed.[vii]  Mae hyn yn dangos bod angen sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu hannog a’u cefnogi i gynnal sgiliau digidol fel nad yw pobl nad oedden nhw wedi’u heithrio’n ddigidol o’r blaen yn ymuno â’r categori hwn.

Ehangu cyfleoedd drwy sgiliau

Mae angen i’r camau gweithredu sydd wedi’u cynllunio yn yr adran hon roi mwy o sylw i bobl hŷn: Dylid ystyried datblygu’r sgiliau digidol angenrheidiol a chael mynediad at yr hyfforddiant a’r gefnogaeth briodol i ddiwallu anghenion pobl sy’n newid pan fyddan nhw’n gadael y gweithle hefyd.  Mae angen bod yn fwy eglur bod y maes hwn yn golygu cynnal sgiliau yn ogystal â datblygu sgiliau.  Mae’r cyfeiriad at anghenion sy’n newid yn ddefnyddiol gan fod beth sydd ei angen ar bobl yn newid dros amser. Ond mae’n bwysig cofio bod technoleg hefyd yn newid a bod angen y sgiliau diweddaraf a chyfredol ar bobl.  Dylai fod camau gweithredu penodol i gefnogi pobl hŷn, gan gynnwys y rheini sydd wedi ymddeol neu sydd ar fin ymddeol, gan ystyried pobl a allai ymddeol yn gynharach oherwydd iechyd gwael.

Cyfeirir fwy nag unwaith at Skills England: gan fod yr amcanion ar waith ledled y DU, byddai’n ddefnyddiol ystyried pa gamau y mae llywodraethau datganoledig yn eu cymryd a sut mae’r rhain yn cyd-fynd â’i gilydd.

Gallai canolbwyntio ar grwpiau anos eu cyrraedd drwy bwyntiau rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus fod yn effeithiol os oes gan weithwyr y sector cyhoeddus y sgiliau a’r gallu i ymgymryd â chymorth.  Fodd bynnag, rhaid gofalu na chymerir yn ganiataol y bydd gweithwyr o’r fath yn gallu ymgymryd â rolau ychwanegol yn awtomatig.

O ran y camau nesaf, efallai y bydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hefyd yn dymuno ystyried a oes ffyrdd y gall cyflogwyr gefnogi staff sydd wedi ymddeol i gynnal sgiliau, er enghraifft drwy rwydweithiau ffurfiol neu anffurfiol.  Byddai ffrwd waith benodol ar gynnal sgiliau digidol a’i gwneud yn hawdd cynnal sgiliau ar ôl i bobl hŷn adael y gwaith yn helpu i fynd i’r afael â hyn, sy’n broblem ledled y DU.

Mynd i’r afael â thlodi dyfeisiau a data

Mae’r amcanion hyn yn rhai synhwyrol a defnyddiol.  Mae’r camau sy’n cyd-fynd yn gadarnhaol ond bydd yn bwysig sicrhau bod pobl hŷn, gan gynnwys y rheini sy’n byw mewn cartrefi gofal, yn cael eu hystyried fel rhan o’r gwaith hwn o’r dechrau un.  Dylai’r diffiniad o ‘aelwydydd’ gynnwys cartrefi gofal a lleoliadau eraill yn benodol lle mae pobl hŷn yn byw, a allai fod y tu hwnt i’r ddealltwriaeth draddodiadol o aelwydydd.

Chwalu’r rhwystrau i wasanaethau digidol

Mae’r amcanion hyn yn gadarnhaol ac mae canolbwyntio ar lwybrau amgen i wasanaethau digidol i’w groesawu’n fawr.  Fodd bynnag, mae angen rhagor o fanylion am y llwybrau amgen gyda chefnogaeth dda ar gyfer y rheini sydd eu hangen, y cyfeirir atyn nhw yn yr adran hon, i sicrhau nad yw’r agwedd hon ar gynhwysiant yn cael ei hymyleiddio o blaid canolbwyntio’n syml ar annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau digidol.

Mae’n bwysig gwneud gwasanaethau cyhoeddus digidol yn well ac yn haws eu defnyddio gan y dylai hyn gynyddu’r amrywiaeth o bobl, gan gynnwys pobl hŷn, a allai ddewis eu defnyddio.  Fodd bynnag, mae sicrhau cefnogaeth dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn hanfodol i’r bobl hynny nad ydyn nhw’n gallu defnyddio gwasanaethau ar-lein, neu nad ydyn nhw’n gwneud hynny.

Bydd gwella safonau a rheoliadau i wneud gwasanaethau digidol yn fwy cynhwysol yn ddefnyddiol, ond mae’n hanfodol monitro a gorfodi’n ddigonol.  Dylai Llywodraeth y DU gymryd camau i fynd i’r afael â phroblem gwefannau’r DU, gan fynnu canolbwyntio ar gynhwysiant, nid dim ond hygyrchedd, datblygu safonau a monitro priodol.  Cydnabyddir yn yr ymgynghoriad fod y sefyllfa bresennol yn broblemus, a dylai’r Llywodraeth nodi ei bwriadau yn y maes hwn.

Mae canolbwyntio ar weithio gyda’r sector preifat a gwasanaethau allweddol yn y sector preifat i’w groesawu.  Fodd bynnag, dylai Llywodraeth y DU nodi pa gamau y gallai fod eu hangen i sicrhau bod gwasanaethau allweddol a gynigir gan y sector preifat yn parhau i fod ar gael i bobl hŷn ac i bobl eraill nad ydyn nhw’n defnyddio’r rhyngrwyd.  Efallai y bydd gofyn cael deddfwriaeth ar gyfer hyn, os nad yw gweithredu gwirfoddol yn ddigon.  Ni ddylai mynediad at wasanaethau bancio a rheoli cyfleustodau, er enghraifft, fod yn ddibynnol ar allu defnyddio’r rhyngrwyd.

Cyfeirir at lyfrgelloedd drwy gydol yr ymgynghoriad fel gwasanaethau pwysig ac mae rhai enghreifftiau gwych o arferion da yn cael eu cyflwyno drwy lyfrgelloedd.  Fodd bynnag, y gwir amdani yw bod oriau agor llyfrgelloedd, canghennau a gwasanaethau’n cael eu lleihau neu eu torri’n barhaus oherwydd yr hinsawdd ariannol.  Mae hyn yn ei gwneud yn anoddach i lyfrgelloedd ddarparu cymorth yn lleol.  Dylid ystyried a all y ffrwd ariannu arfaethedig – y Gronfa Arloesi Cynhwysiant Digidol – ddarparu cymorth i weithgareddau mewn llyfrgelloedd.

Magu hyder

Mae blaenoriaethau yn y maes hwn yn ddefnyddiol gyda’r pwyslais ar annog pobl i ddeall manteision bod ar-lein ac annog pobl i ddeall diogelwch ar-lein.  Mae magu hyder yn rhan hanfodol o gefnogi pobl hŷn i fynd ar-lein ac aros ar-lein.

Croesewir bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i archwilio’r ffordd orau o godi ymwybyddiaeth o’r hawliau a’r warchodaeth sydd gan bobl i’w cadw’n saff a diogel ar-lein. Mae hefyd i’w groesawu y bydd y Llywodraeth yn gweithio gydag ymchwilwyr a pherchnogion arolygon i lunio’r ymchwil bresennol ar rwystrau i gymhelliant a hyder, yn ogystal ag edrych ar gomisiynu ymchwil newydd i ddeall rhwystrau i gymhelliant a hyder. Dylai’r gwaith hwn gynnwys darparu rhagor o wybodaeth am sgamiau a gwella dealltwriaeth o sut mae pryderon am sgamiau, preifatrwydd a diogelwch yn rhwystrau rhag bod ar-lein, yn enwedig i rannau penodol o gymdeithas, fel pobl hŷn.  Mae swyddfa’r Comisiynydd wedi cynhyrchu cyfres o egwyddorion sy’n gallu helpu i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gwaith effeithiol i fynd i’r afael â sgamiau.

Mae cynyddu’r sylfaen dystiolaeth ar ddiffyg diddordeb pobl mewn bod ar-lein a’u hangen i fod ar-lein yn cael ei groesawu – dylai deall mwy am hyn arwain at gyfleoedd ar gyfer ymyriadau sydd wedi’u dylunio’n well.  Dylai Llywodraeth y DU ymrwymo i gomisiynu’r gwaith ymchwil hwn a gwneud hynny’n gyflym yn hytrach na dim ond ystyried comisiynu gwaith o’r fath.

Yn yr un modd, byddai’n gwneud lles edrych o’r newydd ar ymchwil a chael dealltwriaeth well o broblemau cyn-ddefnyddwyr, yn ogystal â chymhlethdod allgáu digidol (lle mae pobl yn hyderus yn gwneud rhai gweithgareddau ond nid eraill).

Mae cyfleoedd lleol i ddatblygu sgiliau, datrys problemau, a gofyn cwestiynau mewn amgylchedd wyneb yn wyneb ac anffurfiol yn hanfodol er mwyn galluogi pobl hŷn i ddatblygu a chynnal hyder.  Mae pobl hŷn yng Nghymru wedi dweud wrth y Comisiynydd nad ydyn nhw’n gwybod beth i’w wneud pan fydd dyfeisiau neu offer maen nhw’n eu defnyddio fel arfer yn torri i lawr neu pan fyddan nhw’n cael problemau â nhw.  Gwerthfawrogir cefnogaeth ymarferol, leol ond rhaid i hyn fod ar gael ar sail hirdymor, yn hytrach na phrosiectau a mentrau tymor byr sy’n dod i ben.

Os oes gennych unrhyw syniadau ychwanegol am yr hyn y dylai’r llywodraeth fod yn ei wneud, dywedwch fwy wrthym.

Rheoleiddwyr a Diwydiant

Roedd ymchwil blaenorol y Comisiynydd – Dim Mynediad – yn cynnwys cyfres o argymhellion.  Un o’r rhain oedd i Lywodraeth y DU weithio gyda chyrff rheoleiddio a darparu mewnbwn strategol i helpu i sicrhau bod gwasanaethau ar gael i gwsmeriaid nad ydyn nhw ar-lein a sicrhau bod allgáu digidol yn cael ei ystyried yn gyson mewn canllawiau rheoleiddio ar ddelio â chwsmeriaid agored i niwed.

Dylai Llywodraeth y DU ofyn i reoleiddwyr pa gamau maen nhw’n eu cymryd i sicrhau cynhwysiant digidol, ond yn enwedig sut maen nhw’n monitro profiadau cwsmeriaid agored i niwed nad ydyn nhw’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd neu nad ydyn nhw’n gwneud hynny.  Dylid defnyddio canlyniadau ymarfer casglu gwybodaeth i benderfynu a oes angen cymryd camau pellach, neu newid canllawiau neu arferion.

Mae cydweithio â’r diwydiant, fel y nodir yn yr ymgynghoriad, i’w groesawu. Ond unwaith eto, efallai y bydd angen cymryd camau mwy penodol i sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bobl nad ydyn nhw’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd neu nad ydyn nhw’n gwneud hynny.  Mae hefyd yn hanfodol bod manteision mentrau’r diwydiant, p’un a ydyn nhw’n darparu sgiliau neu’n rhoi dyfeisiau, yn cael eu lledaenu ledled y DU. Dylai ymrwymiad i weithio gyda’r grwpiau sydd â’r angen mwyaf, yn hytrach na’r hyn y mae’n hawsaf i bartneriaid ei gyflawni, fod wrth galon y mentrau hyn.

Technoleg, Deallusrwydd Artiffisial ac Oedraniaeth Ddigidol

Mae’r Comisiynydd hefyd yn nodi pwyslais Llywodraeth y DU ar bwysigrwydd cynyddol technoleg, yn enwedig Deallusrwydd Artiffisial (AI).  Er bod gan ddeallusrwydd artiffisial botensial enfawr i ddarparu manteision ar draws cymdeithas, mae risgiau rhagfarn deallusrwydd artiffisial ar sail hil a rhywedd eisoes wedi cael eu nodi.

Mae risg pellach o ragfarn deallusrwydd artiffisial mewn perthynas ag oedran – ffenomen ‘oedraniaeth ddigidol’.  Mae amryw o ffurfiau ac effeithiau i hyn.  Er enghraifft, mae perygl i bwy bynnag sy’n ymwneud â dylunio technolegau a’r tybiaethau a wneir am ddefnyddwyr terfynol atgyfnerthu stereoteipiau, allgáu ac ymyleiddio.  Gall diffyg cynnwys oedolion hŷn olygu bod technoleg yn canolbwyntio’n bennaf ar iechyd, gofal a rheoli clefydau yn hytrach nag ar hamdden neu fwynhau.

Mae Chu, Nyrup et al yn nodi sut mae oedraniaeth yn rhan o gylch ehangach anghyfiawnder: Mae’r stereoteipiau presennol o oedolion hŷn fel pobl sydd ddim yn iach a/neu yn dechnegol analluog (Cynrychioli) yn effeithio ar y rhagdybiaethau a wneir am oedolion hŷn, sy’n gallu arwain at eithrio oedolion hŷn o brosesau ymchwil a dylunio (Dylunio). Mae stereoteipiau oedraniaethol yn cael eu hatgyfnerthu ymhellach gan y ffaith bod technolegau gwybodaeth newydd ar gyfer oedolion hŷn yn canolbwyntio’n bennaf ar iechyd a rheoli gofal iechyd (Dylunio/Technoleg). Mae’r gagendor digidol (Dyrannu), ynghyd â phatrymau mewn rhaglenni sy’n bodoli eisoes, yn arwain at setiau data sy’n cynrychioli oedolion hŷn iach yn anghywir (Technoleg). Mae’r setiau data rhagfarnllyd hyn yn cymell rhagor o dechnoleg i gael ei datblygu, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar anghenion gofal iechyd (Dylunio). Mae’r ffaith nad oes llawer o dechnolegau digidol ar gyfer anghenion, diddordebau a dyheadau eraill oedolion hŷn yn ehangu’r gagendor digidol ymhellach (Dyrannu).[viii]

Dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ystyried sut gallai oedraniaeth ddigidol fod yn effeithio ar ymdrechion i wella cynhwysiant digidol a datblygu strategaethau priodol i fynd i’r afael â hyn.

[i] Gweler Deall poblogaeth Cymru sy’n heneiddio

[ii] Gweler Deall poblogaeth Cymru sy’n heneiddio

[iii] The Rights of Older People

[iv] Safon Gwasanaeth Digidol Cymru | Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

[v] Strategaeth Ddigidol i Gymru | LLYW.CYMRU

[vi] Sut i wneud gwasanaeth yn gynhwysol [HTML] | LLYW.CYMRU

[vii] Gweler Deall poblogaeth Cymru sy’n heneiddio

[viii] Charlene H. Chu, Rune Nyrup et al., The Gerontologist, Cyfrol 62, Rhifyn 7, Medi 2022, Tudalennau 947–955, https://doi.org/10.1093/geront/gnab167

Eitemau wedi’u llwytho i lawr

Ymatebion Ymgynghori -Cynllun gweithredu cynhwysiant digidol DU

Maint y ffeil
0.25MB
Math o ffeil
PDF Document
Llwytho i lawr

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges