Angen Help?
Older man with glasses looking at a laptop

Canllawiau Cyfathrebu i Sefydliadau wrth Godi Ymwybyddiaeth o Sgamiau a Thwyll

i mewn Adnoddau, Ddylanwadu ar polisi ac arferion

Mae’r Comisiynydd wedi bod yn gweithio gyda grwpiau o bobl hŷn ledled Cymru i edrych ar ffyrdd o wneud gwybodaeth am sgamiau a thwyll ariannol yn fwy diddorol ac effeithiol.

Mae’r wybodaeth a’r syniadau sydd wedi cael eu rhannu gan bobl hŷn yn y digwyddiadau hyn wedi cael eu defnyddio i greu cyfres fer o ganllawiau defnyddiol, sy’n tynnu sylw at bethau allweddol i’w hystyried wrth ddatblygu deunyddiau codi ymwybyddiaeth, fel iaith a delweddau. Mae crynodeb o’r canllawiau hefyd.

Gobeithio bydd y canllawiau’n ddefnyddiol i chi, a’u bod yn eich helpu i gyrraedd pobl hŷn yn fwy effeithiol, a sicrhau bod gan bobl yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddiogelu eu hunain yn erbyn sgamiau a thwyll.

Rhannwch y canllawiau ag unrhyw gydweithwyr neu gysylltiadau rydych chi’n meddwl allai elwa ohonyn nhw hefyd, neu drwy eich sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Os hoffech chi drafod y canllawiau ymhellach, cysylltwch ag Arweinydd Diogelu’r Comisiynydd, Andrea Cooper drwy anfon e-bost at andrea.cooper@olderpeople.wales.

Darllenwch ganllawiau’r Comisiynydd Darllenwch grynodeb y Comisiynydd

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges