Ymateb i Ddatganiad Cyllideb 2026
Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies:
“Mae pobl hŷn ledled Cymru yn aml yn codi pryderon gyda mi am effaith yr argyfwng costau byw parhaus ar eu bywydau, yn enwedig mewn perthynas â chostau ynni. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith y bydd cymorth ariannol wedi’i dargedu yn cael ei ddarparu i tua dwy ran o dair o aelwydydd, rhywbeth yr wyf wedi galw amdano o’r blaen.
“Mae mesurau i ddileu taliadau sefydlog o filiau nwy, ac i gynyddu’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes, sy’n lleihau biliau trydan aelwydydd cymwys, hefyd i’w croesawu.
“Yn yr un modd, bydd newidiadau i’r Lwfans Gofalwr yn helpu i sicrhau bod gan ofalwyr di-dâl, sy’n aml yn wynebu anawsterau ariannol, fwy o hyblygrwydd ac nad ydynt yn colli mynediad at gymorth ariannol hanfodol.
“Ar hyn o bryd, mae gofalwyr di-dâl yn colli’r Lwfans cyfan os ydynt yn ennill unrhyw swm (hyd yn oed ceiniog) dros y Terfyn Enillion Wythnosol, ond bydd disodli’r ‘dibyn’ hwn â system dapro yn gam cadarnhaol ymlaen.
“Mae angen inni weld dull tebyg, mwy hyblyg o ymdrin â hawliau eraill, megis Credyd Pensiwn, gan gydnabod y gall pobl sydd ychydig uwchlaw’r trothwyon cymhwysedd barhau i wynebu anawsterau ariannol sylweddol, ond eu bod yn colli allan ar fathau ehangach o gymorth a allai wneud gwahaniaeth sylweddol.
“Rwyf hefyd yn croesawu’r trefniadau a fydd yn sicrhau na fydd yn rhaid i bobl hŷn sy’n cael Pensiwn y Wladwriaeth yn unig, sy’n gyfran gymharol uwch yng Nghymru, dalu treth incwm ar yr hyn y maent yn ei gael uwchlaw’r lwfans personol y flwyddyn nesaf.
“Fodd bynnag, nid yw’n glir eto a yw’r cymorth hwn yn mynd yn ddigon pell, o ystyried y disgwylir i filiau ynni godi 16% ym mis Ionawr, tua £275 ar gyfer aelwyd gyffredin, tra bo costau eraill yn parhau i gynyddu’n gyflym.
“Mae llawer o bobl hŷn wedi rhannu eu pryderon gyda mi ynghylch sut y byddant yn gallu fforddio eu biliau y gaeaf hwn, ac wedi dweud y byddant yn cael eu gorfodi i dorri’n ôl hyd yn oed yn fwy ar wresogi a hanfodion eraill.
“Mae hyn yn creu risgiau i iechyd a llesiant pobl, sy’n aml yn arwain at bwysau a chostau pellach yn y dyfodol, yn aml ar ôl i bobl gyrraedd pwynt argyfwng.
“Roedd hefyd yn siomedig bod cyn lleied o ffocws ar ofal cymdeithasol. Mae’r Prif Weinidog, yn gwbl briodol, wedi nodi bod hyn yn sylfaenol i ansawdd bywyd pobl ac wedi cyflwyno gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Loegr, y cyfeiriodd y Canghellor ato eto heddiw.
“Ond mae angen i bobl hŷn a’u hanwyliaid wybod beth fydd yn digwydd i wella gofal cymdeithasol cyn i’r Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol fod ar waith. Mae angen eglurder arnynt hefyd ynghylch yr adnoddau a fydd yn cael eu darparu i fynd i’r afael â’r problemau sylweddol sy’n wynebu gofal cymdeithasol ar hyn o bryd.
“Yn bwysig, mae penderfyniadau cyllido ar gyfer gofal cymdeithasol yn Lloegr hefyd o bwys i Gymru. Bydd unrhyw gyllid canlyniadol i Lywodraeth Cymru yn effeithio ar yr opsiynau sydd ar gael yma i wella gofal cymdeithasol yn y tymor byr.
“Er bod mesurau i’w croesawu yn y Gyllideb hon a rhai camau cadarnhaol ymlaen, mae maint yr heriau sy’n wynebu llawer o bobl hŷn yn golygu bod llawer iawn o waith i’w wneud o hyd.”