Angen Help?
A hob burning

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw am fwy o gymorth gyda biliau ynni ar gyfer pobl hŷn

i mewn Newyddion

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw am fwy o gymorth gyda biliau ynni ar gyfer pobl hŷn

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Yn ôl adroddiadau gallai prisiau ynni godi cymaint â 25% ym mis Ionawr, a bydd hyn yn achosi pryder sylweddol ymysg miloedd o bobl hŷn ledled Cymru.

“Bydd y cynnydd hwn yn achosi i fwy o bobl hŷn wynebu caledi a thlodi, ac yn gorfodi aelwydydd ledled Cymru i dorri’n ôl ymhellach fyth ar wres a hanfodion eraill, sef rhywbeth rydyn ni’n gwybod sy’n rhoi iechyd pobl mewn perygl sylweddol ac sy’n rhoi rhagor o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus.

“O ystyried maint posibl y cynnydd hwn yn y Flwyddyn Newydd, dylai Llywodraeth y DU ystyried darparu rhyw fath o gymorth brys ar gyfer biliau ynni, yn debyg i’r cymorth a gafodd ei ddarparu mewn blynyddoedd blaenorol, i atal pobl hŷn sy’n cael trafferthion ariannol rhag cyrraedd pwynt o argyfwng.

“Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn chwarae rhan hollbwysig, a dylai edrych ar y mecanweithiau sydd ar gael i gynnig cymorth ychwanegol i bobl hŷn, fel sydd wedi cael ei ddarparu o’r blaen. Yn ogystal â sefydlu cronfa wydnwch i ddarparu cymorth brys, yn enwedig i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd ond nad ydynt yn gymwys i gael mathau eraill o gymorth.

“Ar draws Cymru a’r DU, mae hefyd angen mentrau sy’n canolbwyntio ar gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar hawliau ariannol, y mae miloedd o bobl hŷn yn colli allan arnynt bob blwyddyn, gan adeiladu ar ymgyrchoedd a oedd yn llwyddiannus yn y gorffennol.

“Bydd y camau rwy’n galw amdanynt gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn hanfodol i helpu i sicrhau bod pobl hŷn yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gadw’n gynnes, yn ddiogel ac yn iach drwy’r gaeaf.

“Byddwn hefyd yn annog unrhyw berson hŷn sy’n cael trafferthion ariannol i wirio a yw’n cael yr holl gymorth y mae ganddo hawl iddo, fel Credyd Pensiwn.

“Ni chafodd oddeutu £200 miliwn ei hawlio yng Nghymru y llynedd, ac mae Credyd Pensiwn yn werth £4,300 y flwyddyn ar gyfartaledd i’r rhai sy’n ei hawlio, sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn. “Ond mae hefyd yn bwysig cofio y gall cael swm bach hyd yn oed arwain at gymorth ehangach, gan gynnwys help gyda’r dreth gyngor, costau tai, triniaeth ddeintyddol a llygaid, a thrwydded deledu am ddim.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges