Ar y bysiau: Archwilio’r rhwystrau sy’n wynebu pobl hŷn wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn aml yn chwarae rhan hollbwysig wrth helpu pobl hŷn i gadw eu hannibyniaeth a’u lles, gan eu galluogi i fynd allan ac o gwmpas a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
Ond mae pobl hŷn ledled Cymru yn aml yn codi materion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus gyda mi a’m tîm, gan ddisgrifio amrywiaeth o heriau a rhwystrau sy’n gallu gwneud teithio o A i B yn anoddach, os nad yn amhosibl.
Er mwyn deall yn well y problemau mae pobl hŷn yn aml yn eu hwynebu, mae fy nhîm a minnau wedi bod yn gwneud cyfres o deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn gwahanol rannau o Gymru. Rydyn ni wedi bod yn ail-greu’r mathau o deithiau y gall fod angen i bobl hŷn eu gwneud, er enghraifft i fynd i apwyntiadau meddygol, defnyddio gwasanaethau awdurdodau lleol, neu ddelio â’u materion ariannol.
Mae’r teithiau hyn hefyd wedi rhoi cyfle inni gael sgyrsiau anffurfiol â theithwyr hŷn, i glywed rhagor am eu profiadau o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac unrhyw heriau maen nhw wedi’u hwynebu.
Roeddwn i eisiau rhannu fy myfyrdodau ar ôl dechrau’r wythnos drwy deithio o Lanidloes ym Mhowys i Aberystwyth yng Ngheredigion, gan ail-greu taith a wnaed yn ddiweddar gan berson hŷn a oedd angen mynd i apwyntiad yn Ysbyty Bronglais.
Roedd y daith ei hun yn gymharol syml, ychydig dros awr ar y bws heb orfod newid, ond dim ond bob dwy awr mae’r gwasanaeth yn rhedeg. Felly, os oes gennych apwyntiad am 12.30pm, byddai angen i chi ddal y bws am 9.45am, sy’n cyrraedd ychydig cyn 11am, er mwyn bod yno mewn pryd. Yn yr un modd, pe bai’ch apwyntiad yn para tua awr, byddai’n rhaid ichi aros tan 3.30pm am fws adref.
Cyn i’r daith ddechrau, roedd rhaid imi ymdopi â phalmentydd cul neu gerdded ar rannau o’r ffordd lle nad oedd palmant o gwbl. Mae pobl hŷn wedi tynnu sylw at hyn fel rhwystr penodol wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Roeddwn i hefyd braidd yn ddryslyd pan gyrhaeddais y man lle’r oedd yr arhosfan bws i fod, gan nad oedd unrhyw arwydd bod arhosfan yno o gwbl. Diolch byth, cadarnhaodd rhai pobl leol garedig fy mod yn y lle iawn, er nad oedd arwydd na thaflen amser yno. Doedd dim sedd na chysgodfan chwaith, felly roeddwn i’n falch fy mod yn gwneud y daith mewn tywydd braf.
Doedd dim cyhoeddiadau ar y bws nac arwyddion gweledol i ddweud pa arhosfan oedd nesaf, felly doedd hi ddim yn glir ymhle yn Aberystwyth roedd angen imi ddod oddi ar y bws ar gyfer yr ysbyty. Roedd rhaid imi ofyn i deithiwr arall am help. Gan ei fod yn yrrwr bws ei hun, roedd yn fwy na pharod i helpu, ond hebddo fe gerllaw, mae’n bosibl y byddwn wedi cael trafferth gwybod ble i ddod oddi ar y bws.
O’r arhosfan, nad oedd arwydd arno y tro hwn chwaith, roedd taith gerdded fer i’r ysbyty. Doedd y daith honno ddim yn broblem i mi, ond roedd hi i fyny allt ac fe allai fod yn fwy heriol i berson hŷn neu rywun sydd â phroblemau symudedd. Daeth hyn i’r amlwg mewn sgwrs ges i â menyw hŷn, a ddywedodd na fyddai hi wedi gallu cerdded y ffordd honno. Yn lle hynny, byddai’n rhaid iddi deithio’r holl ffordd i’r orsaf fysiau er mwyn newid i fws arall a fyddai’n mynd â hi’n nes at yr ysbyty.
Roedd yn haws dod o hyd i’r arhosfan ar gyfer y daith yn ôl. Roedd arwydd ac amserlen yno, er nad oedd y gwasanaeth roeddwn i’n ei ddefnyddio wedi’i restru arni, ond unwaith eto, doedd dim sedd na chysgodfan.
Ar ôl rhyw awr ar y bws, gyda llawer o’r un teithwyr ag oedd wedi bod ar y daith allan, roeddwn i’n ôl yn Llanidloes.
Felly, beth oedd fy argraffiadau cyffredinol o’r teithiau hyn?
Wel, o ran y bysiau eu hunain, roedden nhw’n brydlon ac yn lân ac roedd yn ymddangos eu bod yn hygyrch, gyda theithwyr yn defnyddio cymhorthion cerdded a throlïau. Ond mae llawer o bobl hŷn wedi sôn wrthyf am oedi a gwasanaethau’n cael eu canslo, a gall hynny arwain at ganlyniadau sylweddol, fel colli apwyntiadau neu gysylltiadau, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad yw bysiau’n rhedeg yn aml.
Cefais fy nharo hefyd gan garedigrwydd y gyrwyr bws ar y ddwy daith. Ar y ffordd allan, fe wnaeth y gyrrwr helpu menyw â nam ar ei golwg drwy roi gwybod iddi pan oedd ei harhosfan yn agosáu. Ar y daith yn ôl, aeth y gyrrwr gam ymhellach i sicrhau bod menyw hŷn roeddwn i wedi bod yn siarad â hi yn gallu dod oddi ar y bws yn ddiogel gyda’i bagiau siopa.
Ond drwy gydol y dydd, roeddwn i’n cadw llygad pryderus ar y cloc, gan wybod pe bawn i’n colli’r bws roeddwn i wedi bwriadu ei ddal adref, y byddai’n rhaid imi aros dwy awr am yr un nesaf. Mae’n anodd dychmygu sut y gallai hyn deimlo i berson hŷn sydd, efallai, yn mynd i apwyntiad, a’r straen a’r pryder y gallai hynny eu hachosi. Beth os yw’r apwyntiad yn rhedeg yn hwyr? Fyddwch chi’n cyrraedd yr arhosfan mewn pryd? Os na, pryd mae’r bws nesaf?
Roedd hefyd yn rhwystredig bod pethau mor sylfaenol ag arwyddion clir, amserlenni, seddi a chysgodfannau yn aml ar goll. Roedd hyn yn creu anawsterau ac yn golygu bod angen imi ofyn i bobl eraill am help. Ac er bod y palmentydd ger yr arosfannau a ddefnyddiais mewn cyflwr gweddol dda ar y cyfan, rhannodd dau berson hŷn eu pryderon â mi. Roedd un dyn hŷn yn nerfus wrth gerdded ar balmentydd ar ôl iddo syrthio a thorri ei fraich yn gynharach eleni, ac roedd menyw hŷn â nam ar ei golwg yn arbennig o bryderus ynghylch y perygl o syrthio.
Roedd sgyrsiau fel y rhain â theithwyr hŷn yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar eu profiadau. Dywedodd un fenyw hŷn wrthyf fod y bws yn hynod bwysig iddi gan ei bod yn mynd i Aberystwyth ddwywaith yr wythnos i wneud ei siopa. Mae’n rhaid iddi gynllunio beth sydd angen iddi ei brynu ac i ba siopau y bydd hi’n mynd, gan nad yw’n gallu cario cymaint adref ag yr oedd hi’n arfer ei wneud.
Mae hynny’n golygu nid yn unig rhannu pethau trwm rhwng gwahanol deithiau er mwyn sicrhau nad yw ei throli siopa’n rhy drwm i’w thynnu, ond cynllunio ar gyfer y flwyddyn gyfan hefyd, gan brynu tuniau a jariau trwm drwy gydol yr haf er mwyn gwneud yn siŵr bod ganddi ddigon ar gyfer y gaeaf.
Soniodd hefyd wrthyf am y cyfnod pan oedd hi’n rhedeg y siop yn ei phentref. Roedd y siop wedi dod yn rhyw fath o ganolbwynt, yn enwedig i bobl hŷn y pentref a fyddai’n galw heibio am sgwrs a dal i fyny. Roedd hi’n teimlo bod pobl hŷn wedi colli’r cysylltiad hwnnw pan gaeodd y siop, gan arwain at fwy o unigrwydd ac ynysigrwydd.
Wrth imi deithio drwy’r wlad, roedd hi’n anodd peidio â sylwi pa mor wledig a chymharol ynysig oedd rhai o’r arosfannau ar hyd y ffordd, a meddwl cymaint o achubiaeth mae’r gwasanaethau hyn yn ei chynnig i bobl sy’n byw yn y cymunedau hyn. Mae hyn yn adlewyrchu’r hyn rwy’n ei glywed mewn sgyrsiau â phobl hŷn ledled Cymru, sy’n dangos y rhan hollbwysig mae trafnidiaeth gyhoeddus yn aml yn ei chwarae wrth alluogi pobl i wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, a’u helpu i fyw a heneiddio’n dda.
Dyna pam mae’r teithiau mae fy nhîm a minnau’n eu gwneud mor bwysig. Maen nhw’n ein helpu i ddeall yn gliriach y rhwystrau mae pobl hŷn yn eu hwynebu wrth geisio defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â’r effaith mae’r rhwystrau hyn yn ei chael ar eu hannibyniaeth a’u lles.
Bydd y dystiolaeth hon yn hollbwysig wrth lywio fy ngwaith fy hun, gan gynnwys fy adroddiad sydd i ddod ar brofiadau pobl hŷn o fyw mewn ardaloedd gwledig, yn ogystal â’r newidiadau a’r gwelliannau y byddaf yn galw amdanynt fel Comisiynydd. Ac fel bob amser, bydd lleisiau a phrofiadau pobl hŷn wrth galon y gwaith hwnnw.