Angen Help?

Y Comisiynydd yn ymateb i bapur newydd sy’n tynnu sylw at dlodi cynyddol ymysg pobl hŷn

i mewn Newyddion

Y Comisiynydd yn ymateb i bapur newydd sy’n tynnu sylw at dlodi cynyddol ymysg pobl hŷn

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae’n peri cryn bryder bod tlodi yn dal i godi ymysg pobl hŷn, fel y nodwyd yn y data diweddaraf a rannwyd gan y cyn Weinidog Pensiynau, Steve Webb.

“Mae canfyddiadau ei bapur yn adlewyrchu’r canfyddiadau a rannwyd yn fy adroddiad ar dlodi a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2025, yn enwedig y graddau mae tlodi’n effeithio ar fenywod hŷn ac ar aelwydydd sengl, sy’n rhoi rhagor o dystiolaeth ynghylch pam mae angen llawer mwy o weithredu i fynd i’r afael â’r broblem hon.

“Mae hyn yn rhywbeth rydw i wedi galw amdano’n gyson, o ystyried risgiau hysbys a sylweddol tlodi i iechyd, i lesiant ac i annibyniaeth pobl hŷn.

“Mae’r Ail Gomisiwn Pensiwn, sy’n edrych ar ddyfodol y system bensiynau, yn cynnig cyfleoedd go iawn i sicrhau bod incwm ymddeol yn ddigonol ac yn gynaliadwy, ac yn fy nhystiolaeth i’r Comisiwn rwyf wedi nodi nifer o egwyddorion allweddol a ddylai fod yn sail i unrhyw ddiwygiadau a argymhellir.

“Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau bod disgwyliad oes iach yn ganolog i’r penderfyniadau am oedran Pensiwn y Wladwriaeth, y dylai polisi incwm ymddeol ystyried costau tai a chostau byw ehangach, ac na ddylai polisi pensiwn ddyfnhau’r anghydraddoldebau rydyn ni’n eu gweld ar hyn o bryd.

“Fodd bynnag, gan fod gwaith y Comisiwn yn canolbwyntio ar gyflawni newid yn y tymor hirach, mae hefyd yn bwysig ein bod yn gweld camau gweithredu ar unwaith i roi mwy o gefnogaeth i bobl hŷn sy’n cael trafferthion ariannol.

“Mae hyn yn golygu ei gwneud hi’n haws i bobl hŷn hawlio’r holl gymorth ariannol mae ganddyn nhw hawl iddo a dod ag ‘ymyl dibyn’ y Credyd Pensiwn i ben, sy’n golygu bod pobl yn colli allan ar gymorth a all fod yn werth miloedd o bunnoedd y flwyddyn.

“Mae hefyd yn golygu gweithredu i fynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi tlodi, fel gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl, rhywbeth arbennig o bwysig yma o gofio bod gan Gymru rai o’r stoc dai hynaf yn Ewrop.

“Ar ben hynny, rwyf am i Gymru sefydlu Cronfa Gwydnwch i ddarparu cymorth brys i bobl hŷn, yn enwedig y rhai sy’n cael trafferthion ariannol ond nad ydynt yn gymwys i gael mathau eraill o gymorth.

“Rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hyn fel mater o frys ac rwy’n disgwyl am ymateb, a gobeithio bydd yr ymateb hwnnw’n ystyried y dystiolaeth ddiweddaraf sy’n dangos profiadau pobl hŷn o dlodi a’r realiti sy’n wynebu mwy a mwy o unigolion.

“Ni ddylid ystyried trechu tlodi fel cost, ond fel buddsoddiad, a fyddai’n rhoi hwb i iechyd ac i lesiant cannoedd ar filoedd o bobl hŷn ledled Cymru. Ond yn fwy na hyn, gallai hefyd ddatgloi degau o filiynau o bunnoedd i wella gwasanaethau a chymunedau drwy atal y costau sy’n gysylltiedig â’r argyfyngau sy’n codi oherwydd tlodi, er enghraifft y £40m yr amcangyfrif sy’n gost i’r GIG oherwydd cartrefi oer yn unig.

“Dyna pam byddaf yn parhau i gyflwyno’r achos dros weithredu pendant, cydgysylltiedig yn genedlaethol ac yn lleol i fynd i’r afael â thlodi, i gefnogi pobl hŷn ac i helpu i greu Cymru decach, iachach a mwy cynhwysol.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges