Angen Help?
White ribbon against a black background

Diwrnod Rhuban Gwyn 2026: Mae’n Gyfrifoldeb ar Bob Un Ohonom

i mewn Newyddion

Diwrnod Rhuban Gwyn 2026: Mae’n Gyfrifoldeb ar Bob Un Ohonom

Mae Diwrnod Rhuban Gwyn, sy’n digwydd ar 25 Tachwedd bob blwyddyn, yn gyfle pwysig i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod a merched, herio agweddau ac ymddygiad niweidiol ac annog pawb i wneud eu rhan i atal camdriniaeth.

Mae’r thema eleni, ‘Mae’n Gyfrifoldeb ar Bob Un Ohonom’, yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithredu ar y cyd, gan gydnabod bod mynd i’r afael â thrais a cham-drin yn gyfrifoldeb cyffredin, a bod gan bawb ran i’w chwarae wrth greu cymunedau mwy diogel.

Mae’r dull hwn wedi bod yn hanfodol i’m gwaith fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn enwedig i waith sy’n ymwneud â chryfhau trefniadau diogelu a sicrhau bod pobl hŷn y mae cam-drin yn effeithio arnynt yn gallu cael gafael ar y warchodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.

Drwy’r Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin, rydw i wedi dod â sefydliadau o bob cwr o Gymru at ei gilydd i rannu gwybodaeth, nodi bylchau mewn gwasanaethau a chydweithio i wella ymatebion i gam-drin.

Mae’r dull partneriaeth hwn hefyd wedi bod yn ganolog i’m gwaith yn archwilio argaeledd llety a chymorth addas i bobl hŷn sy’n dianc rhag perthnasoedd camdriniol. Drwy ddod â sefydliadau sydd â gwahanol arbenigedd a chyfrifoldebau at ei gilydd, rydyn ni wedi gallu nodi bylchau yn y ddarpariaeth ac ystyried sut y gellir mynd i’r afael â’r rhain.

Yn fwy diweddar, cynhaliais sesiwn bwrdd crwn i ddod â gweithwyr proffesiynol a sefydliadau at ei gilydd i edrych ar y trais a’r cam-drin rhywiol y mae pobl hŷn yn ei brofi, a’r newidiadau sydd eu hangen i wella prosesau atal ac adnabod a chymorth. Mae’r canfyddiadau wedi bod yn sail i bapur briffio newydd a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 1 Rhagfyr.

Mae cydweithio’n arbennig o bwysig oherwydd bod pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin yn aml yn wynebu rhwystrau cymhleth wrth geisio cael gafael ar gymorth, ac efallai y bydd angen cymorth arnynt gan nifer o wahanol wasanaethau. Heb gydweithio’n effeithiol, mae risg y bydd unigolion yn llithro drwy fylchau yn y ddarpariaeth, gan eu gadael heb y warchodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Mae mynd i’r afael â cham-drin yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom, a byddaf yn parhau i weithio â phartneriaid ledled Cymru – heddiw a phob diwrnod – i sicrhau bod ymrwymiad yn arwain at newid gwirioneddol a pharhaol.

 

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges