Comisiynydd yn ymateb i gadarnhad y bydd y cap ar brisiau ynni yn cynyddu 26%
Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies:
“Bydd y cadarnhad y bydd prisiau ynni yn codi 26% ym mis Ionawr, gan gynyddu biliau blynyddol cyfartalog o £1,723 i £2,166, yn achosi pryder mawr i filoedd lawer o bobl hŷn ledled Cymru.
“Mae pobl hŷn eisoes yn dweud wrthyf eu bod wedi bod yn torri’n ôl yn sylweddol ar wresogi a hanfodion eraill, a bydd y cynnydd enfawr hwn yn gwthio llawer ohonynt i galedi a thlodi dyfnach. Mae hyn yn peri risgiau i iechyd pobl, sydd yn eu tro yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus ac yn arwain at gostau ychwanegol.
“Mae sicrhau bod pobl yn gallu fforddio cadw eu cartrefi’n gynnes felly yn rhan hanfodol o’r agenda iechyd ataliol ac o wella canlyniadau iechyd i bobl hŷn.
“Er y bydd y cymorth wedi’i dargedu a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Lywodraethau’r DU a Chymru o rywfaint o help, rwy’n pryderu bod maint y cynnydd ym mis Ionawr, yng nghyd-destun prisiau uchel a chwyddiant cynyddol, yn golygu na fydd y cymorth hwn yn cael yr effaith a fwriadwyd o ran rhoi’r ‘cyfle i gael eu gwynt atynt’ a addawyd gan y Prif Weinidog.
“Dylai’r ddwy lywodraeth felly ystyried pob opsiwn sydd ar gael i ddarparu cymorth brys ychwanegol gyda biliau ynni, er mwyn atal pobl hŷn sy’n cael trafferthion ariannol rhag cyrraedd pen eu tennyn. Dylai hyn gynnwys y rheini y gallai eu hincwm fod ychydig yn uwch na’r trothwyon cymhwysedd a ddefnyddiwyd yn y gorffennol.
“Yn ogystal, mae angen dull llawer mwy rhagweithiol o sicrhau nad yw pobl hŷn yn colli allan ar gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Mae hyn yn golygu estyn allan yn fwy effeithiol at y rheini a allai fod yn gymwys, a mynd i’r afael â’r rhwystrau a’r stigma a all atal pobl rhag hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt.
“Byddwn hefyd yn annog unrhyw berson hŷn sy’n cael trafferthion ariannol i wirio a yw’n cael yr holl gymorth y mae ganddo hawl iddo, fel Credyd Pensiwn.
“Ni chafodd tua £200 miliwn ei hawlio yng Nghymru y llynedd, ac mae Credyd Pensiwn werth £4,300 y flwyddyn ar gyfartaledd i’r rheini sy’n ei hawlio, sy’n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ond gall hyd yn oed dyfarniad bach agor y drws i gymorth ehangach, gan gynnwys help gyda’r dreth gyngor, costau tai, triniaeth ddeintyddol a thriniaeth llygaid, a thrwydded deledu am ddim.
“Yn y tymor hwy, rhaid i’r ddwy lywodraeth weithio tuag at atebion parhaol sy’n sicrhau bod pobl hŷn yn gallu fforddio gwresogi eu cartrefi heb ofni caledi ariannol. Mae torri’r cylch hwn o gostau cynyddol, pryder a risgiau i iechyd yn hanfodol.”