Angen Help?
Older man with glasses looking at a laptop / Dyn hŷn gyda sbectol yn edrych ar liniadur

Y Comisiynydd yn croesawu cyllid newydd i helpu pobl i fynd ar-lein

i mewn Newyddion

Y Comisiynydd yn croesawu cyllid newydd i helpu pobl i fynd ar-lein

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad bod cyllid newydd ar gael i gynghorau lleol, elusennau a sefydliadau cymunedol er mwyn darparu gweithgareddau sy’n helpu pobl i fynd ar-lein.

“Roedd cefnogi mentrau cymunedol sy’n galluogi pobl i fynd ar-lein yn rhywbeth y gwnes i alw amdano yn fy ymateb i’r ymgynghoriad diweddar ar Gynllun Gweithredu Cynhwysiant Digidol Llywodraeth y DU, a bydd y cyllid hwn yn rhoi cyfleoedd pwysig i bobl hŷn ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau dros y rhyngrwyd.

“Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yn y tymor byr yn unig y darperir y cyllid hwn. Mae llawer o bobl hŷn wedi dweud pa mor werthfawr yw cael cymorth digidol parhaus a hirdymor. Ar ôl iddyn nhw fagu hyder a sgiliau, mae’n gwneud gwahaniaeth go iawn gwybod bod yna le dibynadwy ar gael yn lleol i droi ato gyda chwestiynau. Mae parhad yn bwysig, ac yn hytrach na dibynnu ar fentrau tymor byr sy’n newid o hyd, mae’n amlwg bod angen cymorth cyson a pharhaus.

“Mae hefyd yn hollbwysig nad yw pobl hŷn a allai wynebu rhwystrau eraill i’w hatal rhag mynd ar-lein yn cael eu heithrio’n gymdeithasol na’u gadael ar ôl wrth i’r ffyrdd rydyn ni’n cyfathrebu ac yn cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau barhau i newid.

“Felly, ochr yn ochr â manteisio ar y cyfleoedd y mae’r newid parhaus tuag at dechnoleg ddigidol yn eu cynnig, rhaid parhau i gynnig opsiynau eraill o ansawdd uchel all-lein – fel llinellau cymorth dros y ffôn neu fersiynau papur o ddogfennau neu ffurflenni – ac mae angen rhoi terfyn ar fwy neu lai gosbi pobl am beidio â bod ar-lein.

“Mae’n bwysig cydnabod bod allgáu digidol yn fater cymhleth y mae llawer o ffactorau’n effeithio arno. Mae cyllid ar gyfer gweithgareddau i helpu pobl i fynd ar-lein yn rhan o’r ateb, ond mae angen i ni hefyd weld amrywiaeth o fentrau eraill, sy’n canolbwyntio ar wahanol feysydd, yn cael eu cynnig – er mwyn sicrhau bod hawliau pawb i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau yn cael eu cynnal.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges