Angen Help?

Blog y Comisiynydd: Tyst Tawel, Stereoteipiau Byddarol

i mewn Newyddion

Fel miliynau o bobl eraill ar hyd a lled y wlad, mi eisteddais yn ddiweddar i wylio’r gyfres newydd o raglen boblogaidd y BBC Silent Witness, a oedd yn ôl ar ein sgrin unwaith eto’r mis yma.

Mae pobl hŷn wedi bod yn amlwg mewn dwy stori wahanol ac wrth wylio cefais fy siomi gan y ffordd yr oedd y cymeriadau hŷn yn cael eu portreadu, a sut oedd y rhaglen yn dibynnu’n drwm ar ragfarnau ar sail oedran a stereoteipiau sydd ynghlwm wrth heneiddio wrth adrodd y storïau.

Roedd y ddwy bennod gyntaf yn cynnwys stori am berson hŷn a oedd yn cael eu targedu gan droseddwyr a thrwy gydol y penodau roedd termau difrïol gan gynnwys ‘hurt’, ‘gwirion’, a ‘blin’ yn cael eu defnyddio fel pe baent yn gwbl naturiol i ddisgrifio pobl hŷn yn ogystal â chyffredinoli ysgubol gyda geiriau fel ‘dyna beth mae hen ddynion yn ei wneud’, a hynny’n aml heb gael ei herio.

A’r hyn a oedd yn arbennig o bryderus am y bennod oedd nad y troseddwyr yn unig a oedd yn mynegi safbwyntiau o’r fath, ond gweddill y cymeriadau hefyd.

Er enghraifft, awgrymodd rheolwr cartref gofal nad oedd y bobl sy’n byw yno ‘yn gwybod ble maen nhw’, a dywedodd gweithiwr gofal: ‘os ydyn nhw’n mynd yn ddryslyd, maen nhw’n mynd yn dreisgar’. Dilynwyd hyn yn ddiweddarach gan blismones a ddywedodd yn ddifeddwl ‘nawr mae dementia i’n dechrau taro’, gyda’r cymeriadau o’i chwmpas i gyd yn gwenu ar ei sylw.

Ar un adeg mae un o’r prif gymeriadau hefyd yn rhestru sawl enghraifft o ddiwylliannau eraill lle mae pobl hŷn wedi gwneud ‘aberth fawr’, drwy roi diwedd ar eu bywydau i beidio â bod yn ‘faich’.

Ni all hyd yn oed cynnwys cymeriad hŷn newydd – sydd, fel Athro prifysgol yn cael ei phortreadu fel rhywun deallus a galluog – osgoi’r demtasiwn i’w throi’n ystrydeb o ‘fenyw hŷn ecsentrig’, ar ôl datgelu ei bod wedi symud piano mawr i’w swyddfa ac y bydd yn dysgu ei hun i’w chwarae o fewn clyw ei chydweithwyr.

Yn ogystal â’r enghreifftiau hyn o ragfarn ar sail oedran, mae cyhuddiadau mwy difrifol yn cael eu hanelu at bobl hŷn wrth i droseddwyr ddefnyddio golygfa ar y diwedd i restru llu o gwynion sydd wedi’u symbylu, gan ddweud bod ‘gormod’ o bobl hŷn sy’n costio gormod ‘i’w cadw’n fyw’, nad oes ‘dim tai ar ôl’ a bod pobl hŷn wedi ‘difetha eu dyfodol’.

Mae’r gred mai pobl hŷn sydd ar fai am lawer o’n prif broblemau cymdeithasol, fel prinder tai neu swyddi a bod pobl hŷn yn ‘faich’ yn dal yn gyffredin ac maent yn cael eu rhannu’n agored er eu bod wedi’u seilio ar fythau a stereoteipiau ac sydd wedi’u datbrofi gan bob math o ymchwil.

Er fy mod yn siŵr nad dyna oedd y bwriad, roedd cynnwys y rhesymau hyn i egluro cymhellion troseddwyr yn awgrymu bron bod modd cyfiawnhau eu gweithredoedd ar ryw lefel, yn enwedig o ystyried yr agweddu a fynegwyd gan gymeriadau eraill.

Roedd pennod arall yn cynnwys isblot a oedd yn canolbwyntio ar fenyw hŷn a oedd wedi cael ei cham-drin gan ei gŵr. Er bod tystiolaeth ei hanafiadau’n awgrymu ei bod wedi’i cham-drin, cafodd barn y patholegydd mai dyna oedd achos ei marwolaeth ei herio.

Datgelwyd rhagor o dystiolaeth yn ddiweddarach ac awgrymwyd mewn golygfa fer gydag aelodau’r teulu fod profiad yr ymadawedig o gam-drin domestig yn awr wedi’i gydnabod.

Mae tynnu sylw at brofiadau pobl hŷn o gam-drin domestig a lladdiad domestig yn benodol yn bwysig wrth gwrs. Ond yn fy marn i, collwyd cyfle i edrych yn fwy manwl ar y materion hyn a defnyddio’r stori i amlygu rhai o’r rhwystrau a all atal camdriniaeth rhag cael ei ganfod neu ei ddatgelu, a hynny’n aml am flynyddoedd lawer.

Mi wyddom, er enghraifft, y bydd gan y teulu neu ffrindiau weithiau eu hamheuon fod cam-drin yn digwydd ond efallai nad ydynt yn siŵr sut mae mynd ati i dynnu sylw ato. Yn yr un modd, mae stigma sylweddol o hyd yn gysylltiedig â chamdriniaeth ac nid yw llawer o bobl hŷn yn gwybod lle i fynd am help a chefnogaeth – gan deimlo’n aml fod y gwasanaethau cymorth yno i helpu pobl iau – sy’n gallu gwneud pobl yn amharod i chwilio am help.

Gallai edrych ar y materion hyn mewn ffordd fwy treiddgar helpu gwylwyr i ddeall profiadau pobl hŷn o gamdriniaeth yn well a’r anawsterau penodol y gallant eu hwynebu, ac efallai herio tybiaethau ac, yn bwysicach, atgoffa’r rhai sy’n gwylio bod help ar gael.

Gall drama sy’n ein herio, drwy’r storïau mae’n eu hadrodd neu’r iaith a ddefnyddir, fod yn eithriadol o bwysig. Ond mae’n bwysig hefyd cydnabod y rôl y gall drama ac adloniant ei chwarae drwy normaleiddio iaith neu atgyfnerthu agweddau tuag at grwpiau penodol.

Felly pan fydd llawer o gymeriadau’n defnyddio iaith sy’n rhagfarnu ar sail oedran, hyd yn oed y prif gymeriadau sydd i fod yn ysbrydoliaeth inni, mae’n gwneud inni feddwl bod iaith o’r fath yn dderbyniol.

Pan fydd cymhellion troseddwr yn cyfeirio at brif broblemau cymdeithasol bod pobl hŷn yn aml yn cael eu beio ar gam fel rhan o drafodaethau a dadleuon prif ffrwd, mae’n awgrymu bod modd cyfiawnhau’r gweithredoedd hyn ar ryw lefel.

Neu pan gyfeirir at fater mor ddifrifol â cham-drin domestig mewn ffordd mor arwynebol, mae cyfleoedd yn cael eu colli i rannu negeseuon pwysig a fyddai nid yn unig yn atseinio â rhywun sy’n cael eu cam-drin, ond hefyd yn fwy eang ymhlith teulu a ffrindiau.

Wrth gwrs, nid yw’r materion hyn wedi’u cyfyngu i un rhaglen deledu yn unig, maent yn gyffredin ym mhob cyfrwng, fel y gwelir mewn ystod o weithiau ymchwil.

Dyna pam mae mor bwysig bod lleisiau, profiadau pobl hŷn, a’r problemau maent yn eu hwynebu, yn cael eu hadlewyrchu a’u dathlu’n fwy cywir gan y cyfryngau. Mae hyn yn gyffredin yn achos grwpiau neu faterion sensitif eraill, ond ymddengys yn aml nad yw hyn yn wir yn achos pobl hŷn.

Ni fyddai gwneud hyn yn amharu ar y gallu i greu ac adrodd storïau gafaelgar, ond byddai’n golygu y gellid defnyddio cyfryngau pwerus i herio stereoteipiau a thybiaethau am bobl hŷn a heneiddio.

Wedyn mi fyddai pawb ar eu hennill.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges