Mae portreadau negyddol o bobl hŷn yn y newyddion yn cael effaith o ran atgyfnerthu stereoteipiau a thybiaethau am bobl hŷn a heneiddio sy’n arwain at ragfarn a gwahaniaethu ar sail oedran.
Mae hynny’n ganfyddiad allweddol o adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru – Portread o Bobl Hŷn gan y Cyfryngau Newyddion – sy’n edrych ar y ffyrdd y gall iaith, cynnwys a thôn erthyglau newyddion ddylanwadu ar agweddau tuag at bobl hŷn.
Mae’r adroddiad yn dangos bod dros ddwy ran o dair o’r straeon newyddion a ddadansoddwyd yn portreadu pobl hŷn mewn ffordd negyddol, gan beintio darlun o bobl hŷn fel pobl sy’n sâl, yn ddioddefwyr, neu’n faich ar gymdeithas.
Mae’r adroddiad hefyd yn edrych ar y newid a fyddai’n helpu i sicrhau bod adroddiadau’r cyfryngau am bobl hŷn yn adlewyrchu amrywiaeth eu profiadau’n well ac yn herio safbwyntiau dwfn am heneiddio. Mae hyn yn hanfodol i newid agweddau negyddol sy’n arwain at oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran, sy’n effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol pobl hŷn, adferiad o salwch, y cof, cynhwysiant cymdeithasol a hyd yn oed disgwyliad oes.
Roedd yr ymchwil y seiliwyd yr adroddiad arni wedi dadansoddi dros 200 o erthyglau print ac ar-lein o amrywiaeth o gyhoeddiadau, gan gynnwys nifer o gyhoeddiadau Cymraeg.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae’n destun pryder bod gan lawer o straeon newyddion am bobl hŷn ffocws negyddol, a’u bod yn portreadu pobl hŷn fel pobl sy’n sâl neu fel baich ar gymdeithas, fel y nodwyd yn fy adroddiad.
“Mae cyflwyno pobl hŷn fel hyn yn atgyfnerthu stereoteipiau ac agweddau negyddol tuag at bobl hŷn, sy’n gallu arwain at ragfarn a gwahaniaethu ar sail oedran , sy’n dal yn gyffredin ar draws cymdeithas.
“Gall oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran gael effaith sylweddol ar iechyd a lles pobl hŷn, felly mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i weithredu i fynd i’r afael â’r materion hyn.
“Gyda’u grym i ddylanwadu ar agweddau a barn, mae gan y cyfryngau ran allweddol i’w chwarae yn hyn o beth, ac mae fy adroddiad yn nodi’r newid y gellid ei gyflawni i helpu i sicrhau bod amrywiaeth ymysg pobl hŷn a’u profiadau’n cael eu hadlewyrchu’n well yn y straeon rydyn ni’n eu gweld a’u darllen yn y newyddion bob dydd.”
Lawrlwytho Portread o Bobl Hŷn yn y Cyfryngau Newyddion